Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

AT EIN GOHEBWYR,I

------Y BALA.

. CORWEN.:

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. Tan.-Yn hwyr ncs Wener torodd tan allan yn ffermdy Highgate, ger Corwen. Llosgwyd tair tas o wellt, trol, ac amryw ogelfi amaeth- yddol. Digwyddai y teulu a'r gwasanaeth- yddion fod yn eu gwelyau yn. gynar y noson hono, a chawsant fraw pan glywsant waeddi fod y gadles ar dan. Trwy gynorthwy can- moladwy dynion o'r ffermydd cylchynol a chyflawnder o ddwfr yn ymyl, llwyddwyd i atal yr elfen ddinystriol rhag ymledaenu a pheri difrod allasai fod yn llawer mwy. Ni wyddis beth achosodd y tan, os nad mellten. Da genym ddeall fod yr eiddo wedi ei yswirio. Er nad yw y lie yn mhell ymddengys nad oedd neb yn nhref Corwen yn gwybod am y tan hyd nes y daeth y newydd dranoeth. Llwyddiant Eisteddfodol. — Da genym ddeall mai y cyfaill Mr. O. Caerwyn Roberts, Lerpwl (gynt o Gorwen) oedd yr ymgeisydd buddugol ar destyn y gadair yn eisteddfod flynyddol Caernarfon gynhaliwyd ddydd Nadolig. Y beirniad ydoedd Mr. R. A. Williams (Berw), Waunfawr. Mae Caerwyn yn awr yn berchenog naw o gadeiriau,—tair o ba rai enillwyd ganddo yn ystod y chwe' mis diweddaf- Eiddunwn i'n cyfaill athryl- ithgar lawer o flynyddoedd i gyfoethogi llen- yddiaeth ei wlad gyda'i awen barod.

. CYMDEITHASAU LLENTDDOL,…

CYNGHOR DOSPARTHI UWCHALED.

. LLANDRILLO.

ANERCHIAD ^

Cyfarfod Llandrillo* ®adolig…

Advertising

. CYNWYD.