Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
OYFARFOD LLENYDDOL, (dan nawdd Cymdeithas Pobl Ieuainc Rama,) -LLANDDERFEL, yr hwn a gynlielir NOS IAU. CHWEFROR 26, 1903. Llywydd,- DR. WILLIAMS, BALA. Arweinydd,— T. JONES, Ysw., LL ANDDKRFEL. Beirniad' Cerddorul,— E. WILLIAMS, Ysw., CYNWYD. Cyfeilyddes,= Miss HUGHES, BALA. TESTYNAU. CERDDORIAETH. 1. I'r cor o 20 i 25 a ddatgano oreu,"0'r dyfndery lleaais" (allan o Raglen Cymanfa Ysgolion Annibyn- wyr Edeyrnion). Gwobr, lp 5s. 2. Parti o 8 i 12 mewn nifer a gano oreu" Bryn- aman a Rbad Ras" (allan o Raglen y Gymanfa). Gwobr, 6s. 3. Pedwarawd, "Bwthyn ar y bryn." Gwobr, 4a. 4. Her-urawd o ddewisiad yr ymgeisydd. Gwobr, Cwpan Arian. 5. PenilJion telyn (yn ol y dull arferol o ganu gyda'r delyn). Gwobr, Medal Arian Canol Aur. Beirniad, Roberts, Post Office. 6. Unawd soprano,"Neges y blodeuyn." Gwobr,3s 7. Unawd tenor, "Y penill adroddai fy nhad." Gwobr. 3s. 8. Unawd bass,"Dycbweliad y milwr." Gwobr,3s 9. Unawd i rai heb enill o'r blaen, Y mynydd i mi." Gwobr, 2/6. 10. Unawd i bltnt dan 14 oed," Y fronfraith." Gwobr, 1/6. ADRODDIAD. 11. I rai dan 18 oed, Beth yw gweddi" (Dewi Havesp). Gwobr, 2s. Bhestr cyflawn o'r Testynau, pria ceiniog, i'w gael gan yr Ysgrifenydd,- EVAN ROBERTS, BBYNHXFBYD, LLANDDERFEL. 11 Dyma'r adeg i ddefiayddio Powdrau Ceff#8 ENWOG SALMON- 1. YPOWDWRGoob VSM2SS&*0* trwy'r gauaf. 2.YPowdwrlf|! At wellau Cetfylau cyfiwr isel, ac x'w Par gwerthu. Hefyd, ai rf PIYSK SAlf! I Wartheg, Lloi, ^'gtt gf&t, hefyd i Ieir i'w grf0% bwyd. Profwyd VP ynf(^ yn dra effeithiol ychwaneg o wy^- G.. Gwerthir yr oil mewn tins i hi 216j gan y Perchenog, ■ T- SALMON CHEMIST, COB" A chan y goruchwylwyr a ganly Qto0&s Cerrigydruidion—ft°^ertj jjn BettwB a Llanfihangel-J0" Maerdy—D. E. q0 Tynant—H. Boberts Cynfal- J. Williams Llandrillo- y Stores. Oefnddwysarn Mrs Bhewl—B. -Rvy Tfry Bryneglwys J- J°SeS. Glyndyfrdwy—J paVieS. n^ce. Llanuwchllyn—tj-* g post0D1 Llangwm—J- E. Hu £ 0eodre> Owmmain-John Jones. (("V 9 D.S-Os bjdd dderbyniad blaendal. GENUINE BLACljlSjf Hen Ddarpariaetb NodedJg J 1/ 1/6. » «/- y PEB-OLEW HUDOL ,2I.SW" I ddenu a dofl not**1*' I'w cael gan—
..----Ystoriau y Gauaf.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ystoriau y Gauaf. YR HEN AMSER GYNT. Cyn rhoddi heibio gyda'r asynod, goddefer 1 mi nodi chwedl arall am un ohonynt. Yr oedd gan amaethwr yn mhlwyf Llanfor, pan oeddwn i yn lied ieuanc, fath o asyn a elwir gan bobl y wlad yn fastard mul." Felly math o asyn-farch dwyrywiog ydyw, cymaint os nid mwy ei ddichell a'i gastiau drwg a'r asyn cyffredin. Y mae yr asyn-farch ychydig yn fwy na'r asyn cyffredin ac yn gynt rhedegwr nag ef. Pan yn ieuanc y mae yn greadur hardd, yn Ilawn asbri, ac yn nodedig am ystwythder di- hafal ei symudiadau. Mae yn neidiwr gwych ac yn bencampwr mewn direidi, a gwae i'r sawl a'i tyno yn ei ben. A chymeryd ei neill duolion at eu gilydd, creadur cas, cnafaidd, ac anhydrin ydyw, fel y mae'n hawdd casglu cddiwrth ei edrychiad. Er ei fod o uwch gwaedoliaeth na'r asyn cyffredin y mae ei dro- ion lawer pryd yn is hyd yn nod na'r eiddo yntau. Yr oedd gan yr amaethwr yn Llanfor asyn- fsrch, fel y dywedais, a mawr y drafferth, poen, a cholled a barodd iddo. Trespasai yn y meusydd yn ddibaid, a gwnai hafog chwith ar eu cynyrchion. Un tro torodd i mewn i'r ardd a bwytaodd bobpeth at ei arch waeth yno. Cyn ei ddyfod allan ymosododd y gwenyn arno, a chiciodd eu cychod yn gyr- binion, gan andwyo felly werth punoedd o fel. Colynasai y gwenyn ef mor ddidrugar- fel y chwyddodd bron i'w farwolaeth, Dro arall cymerodd yn ei ben i redeg ar ol y gwyddau, un o ba rai a ehedodd o'i ffordd ac a ddisgynodd yn garp i lawr y corn simdde i gano! y tan, nes y bu agos iddi osod y ty yn wenfflam, Nid oedd o un dyben ceisio cau rhagddo, gan fel y Ilamal dros y cyfan Yn y He y gwelai yn dda ei hun y mynai fed ar hyd yr amser. Methodd ei feistr yn Ian ei ddysgu i wneyd dim fel y mynai, ac yr oedd ar y bwr- iad o wneyd pen am dano trwy ei saethu, end fel y cymerodd amgylchiad le cyn hir yn gwneyd hyny yn afraid. Ryw foreu beth a welai yn yr ydlan ond y bastardyn yn tori ato ei hun o'r ysgubau goreu yn y mwdwl gwen- ith. Safai yr amaethwr gwaedwyllt ar dipyn c godiad tir, a cban na weiai ddim i'w daro ag ef ond oath fechan o'i eiddo yn pwsian yn ymyl, ymafiodd yn ei chynffon a bwriodd hi fel pelen o ffroen magnel nes yr oedd yn dis- gyn ac yn claddu ei gewinedd yn asgwrn ei gefn. Dychrynllyd llamodd y bestardyn yn glir dros y gwrych i'r weirglodd yr ochr arall, a charlamodd o'i hanigylch fel y gwynt, i geisio cael ymwared o'r bwbach ydoedd fcellach yn planu ei gewinedd yn ddyfnacb yn ei groen nag o'r blaen. Yn gweled na thyciai rhedeg a charlamu, safodd yn sydyn gan ed- l'ych mor fluaidd nad oes un creadur ar y ddaear a fedr edrych yn debyg ond asyn yn meddwl am ladd. Cafodd y gath felly gyfle i ddyfod i lawr pe buasai yn dewis, ond gan ei bod mor ieuanc a dibrofiad d chon ei bod yn gweled y gofod o gefn yr asyn i wyneb y weirglodd yn rhyw ddyfnder anfesurol, a bod arni ofn mentro neidio. Felly dechreuodd fewian ac ysgrechian mor gynddeiriog a phe buasai yno leng o gathod. Gallesid meddwl wrth ei olwg na chlywsai y bastardyn swn mor annifyr yn ei fywyd, oblegid bob tro y mewiai y gath, ysgydwai ei glustiau mor dan- fcaid fel yr oedd yn syndod na fuasent yn .bedfan yn rhyddion oddiwrth ei ben. Ar ol inulo felly ychydig, neidiodd yn uchel a dech- reuodd droi ei hun oamgylch fel ridill troell, a chicio i bob cyfeiriad nes oedd ei garnau yn tlecian, Er y cyfan ni ddeuai y gath i lawr, ac ar ol llawer cynyg o'r fath trodd y bastar- dyn ar ei gefn a gwasgodd hi i farwolaeth trwy ymgreinio arni. Er fod yn ddrwg iawn gan yr amaethwr am ddiwedd y gath, oblegid Iloffder ei blant ohonj, eto i gyd yr oedd y benbleth a gawsai y bastardyn gyda hi yn beth wrth fodd ei galon, ac yn rhyw fath o iawn am y golled a gafodd gyda'r mwdwl gwenith. Ni fu'r amaethwr byth ar delerau da gyda'r bastardyn ar ol hyn. Rywbryd tua diwedd y flwyddyn gwnaeth ryw dro cam arall, yr hyn a barodd i'w feistr ei daflu i garchar yn y stabal fach," i fwyta torion wrth bwys ac i yfed<3wfr wrth fesur, gan amcanu drwy hyny ei ddwyn dipyn ato ei hun ac t fod yn fwy ufudd. Yn ei garchar yr oedd rhesel, man- ger, a gwely gwellt. Rhywfodd neu gilydd rhoddwyd cwlwm rhedeg yn Ile cwlwm dolen oedd am ei wddf, ac wedi ei ddyog- elu yn y fodrwy haiarn a grogai ar ochr y manger. Camgymeriad un o'r gweision oedd hyn, ac yr oedd yn beryglus i'r anifail pe dig- wyddai iddo dynu yn wysg ei gefn Annifyr iawn y teimlai y bastardyn yn ei garchar unig ar ol bod fel yr asen wyllt at ei ryddid i fyned a dyfod i'r fan a fynai. Llawer cynyg a roes i ddianc o'i gaethiwed na fuasai yn rhaid i garcharorion dynol gywilyddio oblegid eu cyw reinrwydd, ond i ddim pwrpas, gwnaed a fynai, Cyn ei fod wedi bod lawn pyth fnos yn garcharor, daeth terfyn i'w gaethiwed mewn ffordd nad oedd yn disgwyl. Rhyw noson beth a ddaeth yn llechwraidd ar hyd y rhesel uwch ei ben ond mam y gath a laddasai, heb fod ganddi ddim mwy mewn golwg na chwilio am ambell i lygoden. Clywodd y bastardyn ei swn, a phan ddeallodd mai cath oedd yno, tynodd mor gryf yn y cortyn a'r cwlwm rhed- eg oedd am ei wddf fel y tagodd ei hun i far- wolaeth Cawsai y fath grasbil" gyda'i merch hi fel yr oedd yn well ganddo ymdagu na bod yn agos i'r un gath o hyny allan. Claddwyd ef yn nghanol llawenydd mawr yn Nghraig y Fron.