Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BEIRDD. Y FYNWENT. Unigrwydd difrifol yw nodwedd y fynwent, Dystawrwydd deyrnasa yn brudd ar bob llaw Ymgryma yr ywen ei pben yn alarus, Rhyw arswyd a dreiddia trwy fro brenin braw Pawb yno sy'n gaeth dan seliau marwolaeth, Yn huno yn dawel yn ister y bedd Tra angau yn eistedd fel teyrn ar ei orsedd, A'i ddeiliaid yn gorwedd yn welw eu gwedd. Ni chlywir am raddau rhwng caerau y fynwent, Tlawd a chyfoethog sydd yno yn nghyd Prydferthwch y gruddiau ni phrisir gan angau. Distyr yw hefyd i gwynion y byd Wrth gludo a'i gleddyf blant dynion i'r gweryd, A dymchwel cenhedloedd y ddaear i'r llawr, Uwchben y galanas fe chwardd yn ei afiaeth, Ar drothwy y fynwent y saif megys cawr. Cysegrwyd y fynwent gan lwcb y duwiolion, Priddellau y dyffryn sy'n felus i'r saint; Cant yno lonyddwch i orphwys yn dawel, 0 gyihaedd cynllwynion pob gelyn a haint Ca yntau'r annuwiol, oer fedd yn y fynwent, A man yno i lechu o olwg y byd; Fe wrida y glaswellt uwchben ei orweddfan, A gwga y nefoedd a'r ddaear yn nghyd. Y boreu sy'n dyfod. bydd cyffro rhyfeddol, Mynwentydd y ddaear ysgydwir i'w sail; Ymwylltia'r ofer-ddyn mewn gwasgfa arteithiol, A'r boll annuwiolion a siglant fel d-dl; Ond codir y perlau o gelloedd marwolaeth I fythol addurno orielau y nef; Ar angau a'r bedd y cant lwyr fuddugoliaeth, A'i mhawl yn dragwyddol a fydd iddo Ef. Carrog. A. ROBERTS (Elwy).

----------CORWEN.

DYRCHAFIAD I GYMRO.

Advertising