Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

. Nurse Penllyn.

CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. Pregethu.-Nos Fercher a nos Iau yr wyth- nos ddiweddaf, ac hefyd y Sul, bu y Parch. Hugh Jones. D.D., Bangor yn pregethu i gynulleidfaoedd lluosog yn nghapel y Wes- leyaid. Nid oes angen dweyd fod ymweliad Mr Jones wedi bod yn adfywiad i'r dref, a'i bregethau yn wledd o'r fath oreu i'r rhai gaw- sant y fraint o'i wrandaw. VFfair.—Cynhaliwyd y ffair fisol ddoe (Mawrth). Cwynid fod yn anhawdd iawn gwerthu perchyll, ac o ganlyniad yr oedd llawer yn mynd adref yn ol heb eu gwerthu. Yr oedd yn y ffair hon lawer o anifeiliaid tewion, ac yr oedd y prisiau am y biff yn rhedeai yn uchel. Rhoddid hefyd brisiau da am ddefaid, a gwerthid moch tewion yn 01 4c y pwys. Pris ymenyn ffres 1/2 y pwys, ac wyau yn ol J 4 am swllt. Cyfatfody Pasg.-Mae y rtiagolygon eleni yn fwy addawol nac erioed — swn paratoi glywir o bob cyfeiriad, a disgwylir cystadleu- aeth odidog ar y prif ddarn cerddorol. Mawr yw v dyfalu y dyddiau hyn pwy gaiff yr an- rhydedd o eistedd yn y gadair ysblenydd sydd bron yn barod, ac i'w gweld yn ngweithdy Mr Robert Edwards, Cynwyd.

LLANDRILLO. I

<-. GLAN'BAFON.

Advertising