Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

^STHASAU LLENYDDOL.

LLA Nos LLLANDDEREEL.

LLANTTWCHLLYN.

GLASFRYN, CERRIGYDRUIDION.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLASFRYN, CERRIGYDRUIDION. -x- Nos Wener, yr 16egcyfisol, cynaliwyd Cyfarfod Amry wiaethol, yn Ysgoldy y Bwrdd y lleuchod. Amcan y cyfarfod ydoedd cael ychydig elw tuag at dalu am Berdoneg newydd at wasanaeth yr ysgol ddyddiol a'r ardal. Llywydd y cyfarfod ydoedd Dr. Davies, a'r arweinydd y Parch. J. Morgan Jones. Daeth cynulliad da yn nghyd, a chaed cyfarfod gwir dda. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai can- lynol-Uoawd i rai dan 12 oed, goreu Gwladys Jones, Bryndu, ail John Alun Roberts. Deuawd i rai dan 16 oed, goren Arthur a Gwladys Jones, Bryndu, ail Anthony a Mary Thomas, Factory. Adroddiad i rai dan 16 oed, goreu Idris Her- bert Jones, Glasfryn Board School, ail Arthur Jones, Bryndu. U nawd i rai dan 16 oed, goreu Mary Lizzie Jones, Tyddyn, ail Arthur Jones, Bryndu. Canu,ar y Modulator, goreu Robert Thomas, Glanllyn. Pedwarawd, Bedd y dyn tlawd," goreu Mr. J. W. Ellis, Llaethwryd. a'i barti. Unawd i rai heb enill gwobr o'r blaen, goreu allau o 8 o ymgeiswyr, Mr. Evan Evans, Ty'n- rhyd, Cerrig. Deuawd Byrfyfyr, goreu Mri. Thomas Jones, Bryndu, a W. C. Edwards, Pentredraw. Adroddiad i rai dros 16 oed, goreu Miss Dora Davies, Llechweddllyfn. Prif atdyniad y cyfarfod ydoedd yr Her Un- awd i rai dros 16 oed, am ba un y rhoddid gwobr o TIMEPIECE. Ar ol cystadleuaeth galed, Mr. Robert Parry, Topllan, Cerrigydruidion, fu yn fuddugol. Ar ol hyn talwyd diolch i bawb gymerasmt ran yn y cyfarfod. Beirniad y Gerddoriaeth ydoedd Mr. Dan Thomas, Superintendent y Prudential Assurance Co., Corwen, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd cyffredinol. Mr. Thomas Jones, Blaenycwm, a glorianodd yr adroddwyr yn ddoniol a doeth. Yn ystod y cyfarfod cafwyd anerchiadau barddonol gan Myfyr Alwen.GOIIEB.

. Y TAN YN RHYDLECHOG.

Advertising