Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

<> IpAN SIGN. Siw-Myw

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

<> IpAN SIGN. Siw-Myw 4) KlLh,,i. y&i!y ddi"eddar, Mr. Gol„ "WRT ]TUS0EDDWR. *«>fP ERVR! J, °S> flwyddyn nevvydd ni fel «nedl ydyw >'r hen lnwe(^°' a chrefyddol ^1 y dru»n Wjad> y mae troseddau §afl?d "r Y,re1d dra anaml- Y Si!?11' eivyn dyn v?° Sul a'r areithfa yn 1*1 I S(Wvh gwney^ "gbalon y genedl, ac ^r^lad a cliVf ^ormod 0 blaid rhin- KKty§aQ,,yDd^d; Ymae-'Cymru %ddiL^ystraUaa15Ily 61 chymenad> 11 Hi. ^emtasiynau sydd w ^gledd^'rj Barnwr Bruce yn t ytrach nap ^nru' §an fwynhau a,vdlys i vF *stedd am ddyddiau yS 1 b<"ofi a dedfrydu carch- Q Njj V Chaeinarfoo Uih carcha»' 30 oedd yno *»US S edair ^In a™ ei brawf, W**Vot iv, y G°g'edd nid "f„ w br°fi- Hawdd y It,];- Yn Lloegr y mae troseddau mwyaf ech- rydus yn cael eu cyflawni yn barhaus. Llen- wir dynion a merched/gan feddyliau ofnadwy; buan yw eu traed i dywallt gwaed dis- tryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd." Y mae'r troseddau a gyflawnir yn barhaus bron yn rhy ysgeler i'w cyhoeddi; yn sicr nid ydyw gofod yr ERYR, na holl newyddiaduron y Gogledd yn ddigon i wneyd hyny. Felly nid ydyw Ifan Sion am ddechreu. Y mae sefyllfa ddi- frifol, rhan helaeth o gymdeithas yn Lloegr, i'w briodoli, i raddau helaeth, i chwaeth isel y wasg. Y mae'r sothach a gyhoeddir, fel nofeiau, ac a werthir o geiniog i fyny yn gywilyddus, a gresyn na fuasai modd eu rhwystro, oblegid y mae eu dylanwad yn an- dwyol i ieuenctyd, ac yn wir, i bobl wedi tyfu i fyny i oedran a synwyr, Y mae'r chwareu- dai drachefn, y rhai a fynychir gan filoedd a'r filoedd o bobl ieuainc ein trefnydd mawrion, yn gadael eu dylanwad gwenwynig ar eu meddyliau. Engraifft eglur o hyn ydoedd y dadleniadau gwaradwyddus a wnaed yn nglyn a phrawf rheolwr chwareudy yn Manceinion yn ddiweddar. Elfen arall sydd yn cario dylanwad niweid- iol ryfeddol ar gymeriad y bobl ieuainc a hen ydyw pla yr hap-chwareuon, gamblo, a cbyn- gwystlo, betio. Y mae'r pla yma fel cancr yn bwyta pob peth da sydd yn nglyn a naw o bob deg o fechgyn ieuainc y dosbarthiadau gwledig yn Lloegr. Y mae cymaint o fon- eddigion (?) yn cadw rhedeg-feirch a hel- feirch, fel y maent o dan yr angenrheidrwydd o gadw llawer o fechgyn a dynion yn yr ys- tablau i edrych ar ol y ceffylau. Rhoddant eu holl fryd a'u meddyliau ar yr ymdrechfeydd, gan gyngwystlo ar y ceffyl yma neu;r ceffyl arall. Mynychant y tafarn- dai a'r socials yn y nos, fel y mae eu holl fryd a'u meddwl wedi'i lyngcu i fyny gan bla y betio. Y canlyniad ydyw, nad oes modd eu cael i ddyfod i swn efengyl; ac y mae hyd yn nod cloch y llan wedi peidio a bod o unrhyw atdyniad iddynt. Hydera Ifan Sion na fydd i Gymru byth newid yr Eisteddfod am y Race-course, na'r cyfarfod llenyddol am y chwareudy. Na, gwell yw bod yn hen ffasiwn a dal at ein purdeb a'n glendid cenedlaethol, na cheisio dilyn y ffasiwn a bod fel y Saeson, yn feddianol a'r chwareudai a rhedegfeydd. Pan golla Cymru ei nodweddion cenedlaethol, fe ddaw y gelyn i mewn fel afon, ac ni fydd mwy garcharau gweigion, a menyg gwynion i'r barnwyr, mewn tair neu bedair sir yn olynol, fel yn awr. Ond i'r gwrthwyneb fe amlha troseddau a throseddwyr. Y nef a'n cadwo rhagddynt. Wrth son am ddylanwad gwasg Lloegr, cofied y darllenydd mai cyfeirio at ran y diafol o honi yr oeddym, ac-tild at y wasg yn gyffredinol. Saif rhan helaeth o wasg Lloegr dros ryddid, purdeb a chrefydd, ac nid oes yr un wasg arall drwy yr holl fyd a wna fwy dros rinwedd a chrefydd yn whob agwedd arnynt nag a wneir gan wasg Lloegr. Ond y mae'r dylanwad afiach mor gryf, fel mai ych- ydig mewa cymhariaeth ydyw'r dylanwad uchaf ar galonau y werin a'r miloedd. Am ran y Hew a gy met odd Mr Lloyd Goerge, A.S., yn erbyn y Mesur Addysg, yn ystod y senedd-dymor diweddaf, anrhegwyd yr aelod anrhydeddus a Mrs. George a pen- dant aur, ac anerchiad, yn Mhafilion Caer- narfon, ddydd Iau diweddaf. Diolchodd Mr Lloyd George yn gynes am eu caredigrwydd, ond ni wnaeth anerchiad politicaidd ar yr achlysur. Beth bynag a wna y Mesur anghyfiawa hwn i Gymru, y mae'n sicr fod Cymru, drwy ei haelodau pybyr, yn neillduol Mr. Samuel Evans a Mr. Lloyd George, wedi codi yn uchel i sylw y wlad a'r byd. Cydnabyddir Mr Lloyd George fel un o ddadleuwyr blaenaf y Senedd; ac y mae y rhan a gymerodd yn yn erbyn y Mesur Addysg, trwy yr areithiau galluog a draddododd, wedi ei godi i fri a dylanwad mawr yn y byd politicaidd. Yr oedd ei ffraethineb a'i arabedd yn ddiderfyn, ac yr oedd i fyny a'r Pat blaenaf a safodd erioed ar lawr St. Stephan mewn wit ac arab- edd. Parhau i siarad yn gryf yn erbyn y Mesur Addysg y mae blaenoriaid y blaid Ryddfrydol drwy yr holl wlad. Nid oes dadl nad ydyw y Mesur hwn y mwyaf angnyfiawn tuag at Anghydffurfwyr y deyrnas ag a basiwyd er's canrifoedd. Y mae'n wir ei fod wedi dyfod yn ddeddf, ond deddf orthrymus ydyw ac ni wna byth orwedd yn esmwyth ar deimlad y wlad, ac ni fydd i'r iau anghyfiawn hwn gael ei ddwyn yn hir ar war Yuineillduwyr y deyrnas.

Advertising