Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Si^5ASAU LLENYDPOL. --

Advertising

LLANDRILLO. 1

LLANDDERFEL.

CA.RROG AG ADDYSG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CA.RROG AG ADDYSG. Teimlir gryn betrusder yn yr ardal hon, fel llawer tref ac ardal arall, parthed llwyddiant a dyfodol ein hieuenctyd, a chya y gellir edrych yn mlaen am ddyfodol disglaer i'r! cyfryw, y mae yn anhebgorol angenrheidiol ein bod yn gofalu am addysg dda a chyflawn iddynt. Y mae yr ardalwyr wedi ymfoddloni ar Ysgol Eglwysig ar hyd y blynyddoedd, ac yn teimlo parch mawr i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio gyda hi, ond er hyny, ddim yn cydfyned a'r Mesur Addysg, ac ychydig fis- oedd yn ol anfonwyd deiseb i Dy y Cyffredin i brotestio yn erbyn y Mesur, ond fel y mae yn hysbys i bawb, er yr holl ddeisebu fu yn Nghymru a Lloegr, y mae wedi dadblygu yn ddeddf, ac y mae ein hardalwyr yn teimlo angen am eglurhad arni, ac i'r diben hwn apeliasant at Mr. A. Osmond Williams, ein Haelod Seneddol parchus i ddyfod yma i'n hanerch, ac y mae yn bleser dweyd ei fod wedi cydsynio a'u cais, a bwriedir cynal cyf- arfod yn yr Ysgol Genedlaethol am 7 o'r gloch nos Wener, Chwefror 6ed, 1903, pryd y bydd y boneddwr crybwylliedig ac amryw foneddigion eraill yn anerch y cyfarfod. Edrychir yn mlaen at yr amgylchiad gyda dyddordeb neillduol, pan y disgwylir cael eglurhad ar hvn sydd wedi peri cymaint o bryder i boll Ryddfrydwyr ein teyrnas. Cof- ier y dyddiad, Chwefror 6ed.

Advertising