Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

. Cydnabyddiaeth Nurse Jones.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cydnabyddiaeth Nurse Jones. Ivy House, Bala, Chwef. 7, 1903. Anwyl Mrs Burton,— Derbyniais eich llythyr caredig a'r cheque amgauedig, ac yr wyf yn methu dangos yn briodol i chwi a'ch pwyllgor ac i'm Iliaws cyfeillion sydd yn garedig wedi tanysgrifio at y dysteb hon fy nheimlad dwfn o ddiolchgar- wch am eich meddwl caredig o honof ar fy ymadawiad o'r Bala. Os ydyw yr ychydig a wnaethum yn ystod y saith mlynedd diweddaf yn Nosbarth Pen- llyn wedi ei werthfawrogi mor fawr, fel y tyst- iolaetha yr anrheg garedig hon, nis gallaf ond dyweyd nad wyf yn haeddu y fath garedig- rwydd. Y mae yn ddyledus, gan mwyaf, i gydym- deimlad y cleifion a'r tlodion, y rhai a rodd- asant i mi bob amser y croesaw cynhesaf i'w tai, ac i'ch cynhorthwy gwerthfawr chwithau, fy mod yn galler gwneyd yr ychydig a wnaeth- um. A gaf fi ofyn i chwi ddiolch iddynt oil am eu teimladau hynod gynes, a fy ngofid mawr ydyw nas gallaf yn bersonol wneyd hyny. Yr eiddoch yn ffyddlon, At Ysg. Anrhyd. KATE JONES. Cymdeithas Nurse Penllyn.

Concert yr Organ.

. ESGOB LLANELWY.

Cofadail T. E. Ellis. j

. CYNGHOR DINESIG Y BALA.

. BWRDD UNDEB Y BALA.

CYNGHOR DOSPARTH PENLLYN,

CERRIG-Y-DRU.1^0^ 0

Advertising