Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BEIRDD. CYNORTHWYO'R GWAN. Wrth gynorthwyo'r gwan mae'r byd, Yn dysgu sylweddolt; Beth ydyw cariad yn ei gryd Yn dechreu cydraddoli. I bawb, gwers bwysig ydyw hon, Gwers haedda gael ei chofio Mae'n lleddfu poenau llawer bron, Ei neges yw cysuro. Wrth gynorthwyo'r gwan mae dyn Yn dangos beth yw weithian,— A'i fod yn caru ambell un Heblaw efe ei hunan. Mae dyn fel hyn i'w wlad yn glod, Yn addurn mewn eym'dogaeth,- A buan iawn mae hwn yn dod Yn beri i Gristionogaeth. Wrth gynorthwyo'r gwan daw lies— I'r rhoddwr a'r derbynydd Peth ynfyd iawn yw oasglu pres, A'u cadw fel y eyteydd. Waeth iddo gasglu cerrig man, Na chasglu twr o arian Fel gwyddoch, mae'n gwirioni'n lan Wrth geisio byw ei hunan. Wrth gynorthwyo'r gwan mae ffawd Yn do'd a'r gwr bonheddig, I wybod rhywbeth am y tlawd, A'i fywyd blin aniddig. Yehydig sydd o'r cyfryw rai Yn britho cymoedd Cymru Ond dyna'r aflwydd, canfod bai Maent hwy, a'r tlawd yn llwgu. Wrth gynorthwyo'r gwan mae hedd Yn llanw ein mynwesau Haelioni ar ei rasol sedd Siriola ein calonau. Beth ydyw pres ein dynion mawr Ond arian benthyg salw, Eu talu raid pan ddaw yr awr- Yn ol, cyn iddynt farw. Wrth gynorthwyo'r gwan mae'r nef Yn gwenu'n siriol arnom Dwy hatling "—a'i boddlonodd Ef, Yr hwn sy'n eiriol trosom. Os bechan, bechan fydd y rhodd, Na hidiwn ddim yn hyny, Pan fydd y galon wrth ei bodd Yn rhoi mae'r nef yn gwenu. GLAN Cymeeig,

ANERCHIADAU BARDDONOL CYFARFOD…

Advertising

CORWEN.

Poteli Sampl yn Rhad

Advertising