Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

"Y GWIR YN ERBYN Y BYD." .I

CAMBRIAN RAILWAYS.

Advertising

RHEITHOR FFLINT ETO.

Dlgwyddlad hynod yn y Rhyl.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dlgwyddlad hynod yn y Rhyl. YSPEILIO DYN GAN WRAGEDD PRIOD. Yn Llys Ynadol Rhyl, ddydd Mawrth, gwrandawyd achos rhvfedd o ladrad. Yr erlynydci ydoedd Mr Thomas Jones, 74 mlwydd oed, teiliwr, yn byw yn Hen Gol- wyn, a'r diffynyddion oeddynt Mr a Mrs Evans a Mrs Sophia Hughes, Victoria road, Rhyl.—Tystiolaeth yr erlynydd ydoedd iddo gyfarfod y ddau flaenaf y tuallan i dafarndy, ac ar ol talu am ddiod iddynt aeth gyda hwy adref, He y daethant i gyfarfyddiad a'r di- ffynydd arall. Yfwyd gwerth swllt o whisci rhyngddynt, ac yn ddilynol ymadawodd y dyn Evans. Ni chanfyddodd yr erlynydd golli ei god yn cynwys 13p hyd nes iddo adael y ty. Gwelodd yr heddgeidwaid yr oil o'r diffynyddion gyda'u gilydd yn yr heol, ac wedi myned a hwy i'r orsaf heddgeidwadol Ciifwyd 5p mewn aur yn esgid Mrs Hughes, a 2p 10s yn eiddo Mrs Evans. Nid oedd gan y dyn Evans otd 2c yn ei feddiant. Pan y cyhuddwyd hwy rhoddodd y merched y bai y naill ar y llall. Prynasant ddwy o fod- rwyau aur, a honid fod Mrs Hughes wedi lladrata modrwy arall ar yr un pryd. Caf-. odd yr achos yn erbyn y dyn ei daflu allan, a. newidiwyd y cyhuddiad yn erbyn: y merched o ladrad i dderbyn eiddo lladratedig, gan eu bod yn gwadu cymeryd yr arian.—Anfonwyd Mrs Hughes i garchar am bedwar mis gyda lla.fur caled, a'r Hall i ga^ihar am dri mis. Cyfarwyddwyd fod yr arian yn nghyda dwy o'r modrwyau i gael eu dychwelyd i'r erlyn- ydd, a'r drydedd fodrwy i gael ei thros- glwyddo i'r ma.snach.wr oddiar yr hwn yr honid y lladratawyd hi.

Mr Asqnith ar hwnc y degwm.i

-_-----_.. 1 B'le mae'r Byd…

" Cloddio hyd ddwrn y Cleddyf:

Cyngaws dyddorol o Sir Caernarfon.

Yr irgyfwng yn Transvaal.

BABANOD AR DAN, AC YN YMLOSGI

Advertising

Marwolaeth Ryfpdd yn Wrecsam

DISGLEIRDEB YR HArL.

Advertising