Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

"Y FRENINES A CHYMRU."

ADDYSG GREFYDDOL.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

nYSTRAD MEURIG. Cyfranwyd y gwobrwyon arferol yn ysgol y lie uchod ar ddiwedd tymmhor yr haf ddydd Mercher, Gorph. 31fed. Dywedodd y Prif Athraw—y Parch. John Jones, M.A.—fod gwaith y flwyddyn wedi rhoddi pob boddlon- rwydd iddo. Yr oedd y clasurolion wedi cyrhaedd eu safon arferol, a'r Seisneg yn dangos gofal a diwydrywdd. O'r hen ysgol- heigion y rhai a gawsent y sylw mwyaf yn ystod y flwyddyn, y rhai hyn oeddynt:— Vernon Stanley Jones, yr hwn a ennillodd yqgoloriaeth yng Ngholeg Eton Mr William Williams, yr ysgolor blaenaf am y flwyddyn yng Ngholeg Llanbedr; Mr John Edward Williams, yr hwn a gyrhaeddasai y graddau o MJ.R.C.S., L.R.C.P.; a Mr David Williams, yrjjwn a wnaed yn M.R.O.S. Dosparthwyd •gwobrwyon i'r ysgolheigion canlynol:-V. S. Jones, Daniel Jones, Joseph Morgan, W. Foster Jones, a Richard Jones. Y ddau a gawsant wobrwyon mewn rhifyddeg oeddynt Joseph Morgan a W. S. Williams; mewn hanesiaeth a'r iaith Seisnig, Abram Jones. Dywedai Mr Charles Harris, B.A., yr athraw cyiinolthwyol, yr hwn sydd ar fin ymadael, ei bod wedi rboddi pleser mawr iddo i gyfranu addysg yn hen ysgol Ystrad Menrig, clod yr hon oedd ym mhell ac agos. Teimlai y bech- gyn yn ofidus wrth golli Mr Harris. Yn ystod ei arosiad byr yn y lie yr oedd wedi helpu i ffurfio canghen o Gymdeichas Ddir- westol yr Eglwys, yr hon sydd a golwg lewyrchus ami. Yr oedd yn llaw fedrus hefyd gyda chwareu cricet, a gwnaeth lawer i hyrwyddo lies yr ysgol yn foesol a meddyliol.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.