Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIN PERTHYNASAU TRAMOR. Rhoddesyr Arddangosfa Lyngesawlagafwyd ddydd Sadwrn yr wythnos ddiweddaf gyfleus- tra i ni ddeall cryn lawer am danom ein hunain. Yr oedd yn olygfa ardderchog. Yr oedd o ddyddordeb i'w gweled gan ei bod yn dwyn ger ein bron engreifftiau o'r pwerau amddiffynol sydd genym. Y mae amddiffyn- iad y wlad yn bwnc y dylid siarad am dano o bryd i bryd. Dangosai yr olygfa a gafwyd yn Spithead pa beth ydym wedi wneuthur ttmg at amddittyn ein hunain, ac ym mha bethau yr ydyqi yn rhy esgeulus. Ond os yw yn dda i ni yn y modi hwn weled cyd-gasgliad o'n galluoedd llyngesawl, fe fyddai yn dda hefyd i wledydd eraill ddeall yn iawn am danynt, a dealt ein bod yn amcanu dal gafael yn y dyfodol yn ymherodraeth y mor fel ag yr ydym wedi gwaeyd yn y gorphenol. Peth arall, fe fyddai yn but-ion i'n cyfeillion mewn gwahanol wledydd ddeall pa'ryw gynnorthwy a allem roddi iddynt mewn achos o gyfyngder. Fe welodd Ymherawdwr Germani ai lygaid ei hun beth oedd ein galluoedd, a pha mor barod ydym i gyflawni ammodau y cytundebau a wnaethom a gwahanol wledydd, cyflawni y rhai, fel y cyfeiriai Arglwydd Salisbury yn ei araith yn Nby Arglwydd Faer Llundain, yr wythnos ddiweddaf, ydyw un o amcanion blaenaf y Weinyddiaeth bresennol. Fe ddichon y tybia rhai nad yw ymweliad Ymherawdwr Germani a'n glanau o unrhyw bwys neillduol. Ond nis gellir iawn ddeall pwysigrwydd ym. weliadau o'r fath hyn heb edrych i mewn i hanes ein cyssylltiadau ni a gwledydd eraill. Mae y syniad ar gerdded ein bod am gym- meryd meddiant o Ynys Creta, a gwnaeth y Prifweinidog yn dda i ddangos nad ydym o gwbl yn chwennych hyny. Nid oedd yn llai eglur ychwaith ar gwestiwn yr Aipht, ac am y rhwymau sydd arnom i'w hamddiffyn rhag pob gelyn, tramor neu gartrefol. Yr atebiad goreu i'r rhai a ddywedant eu bod yn bryd i ni ymadael a'r Aipht yw pwyntio at waith y Dervisiaid yn myned yn eu blaen. Nid yw y gwleidyddwr Flourens yn ei erthygl yn y New Review yn cyffwrdd o gwbl a phwnc yr Aipht. Y mae syniadau y gwleidyddwr hwnw yn cynnrychioli Ilawer o'r rhai a goleddir mewn amryw wledydd ar y Cyfandir, ond syniadau cyfeiliornus ydynt. Nid ydym ni yn amcanu at ddim ond heddwch, a thuag at gyrhaedd hyny rhaid i Germani, Awstria, Itali a ninnau ddeall ein gilydd. Yr ydym yn awyddus i fod ar delerau da hefyd a Ffrainc, ac ni bydd i ddim fyned rhyngom ond gwaith Ffrainc ei hun. Fe ddylai y wlad hono wybod ein bod yn gweled i ba gyfeiriad y mae ei pholisi yng nglyn a'r Alfft yn myned. Nid oes dim mwy hunan-garol na'i gwaith yno, ac nid oes modd ei chyfiawnhan. Yr ydym wedi rboddi cryn help i Ffrainc cyn yn awr. Yn wir nid oes eisieu myned yn nes yn ol na phedair blynedd ar ddeg cyn cael engraifft o'n caredigrwydd, a bychan o beth ynddi ydyw ein beichio yn bresennol yn y gwaith a wnawn yn yr Aipht. Y gwir yw y mae Ffrainc yn weddol gryf yn awr, ac yn anghofio ei bunan. Nid oes un wlad yn Ewrop ar feddwl yr hon y mae llai o at-graff yn aros ac wedi cael gwersi mor galed. Ond nid yw heddwch j Ewrop, fodd yn y byd mewn perygl. Y peth goreu a all Ffrainc wneuthur yw cyflawni yr ammodau sydd yn ei rhwymo hi fel ninnau yn y wlad hono. Y mae Lloegr nid yn unig yn dysgwyl i bob un o'u dynion eu bun i wneutbur ei ddyledswydd, ond hefyd yn dysgwyl i bob gwlad fod yn ffyddlon i'w gair a'i haddewid.

"Y FRENINES A CHYMRU."

ADDYSG GREFYDDOL.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.