Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

"Y FRENINES A CHYMRU."

ADDYSG GREFYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADDYSG GREFYDDOL. Wrth feirniadu ysgrif "Perison" yn y Celt- o'r hon y dyfynasom yn helaeth yn ddiweddar- sylwa gohebydd yn y newyddiadur hwnw am Awst 2, fel y canlyo Tybia eraill y dylai gweinidogion gyflawni y gwaith hwn (cyfranu Addysg Grefyddol). Wel, dylent os gallant; ond os na allant, gwell fyddai i'r eglw^a gyflogi dynion medrus, fel ysgolfeistri y wlad, i wneyd y gwaith gorbwysig hwn, yn gysson ag egwyddorion Ymneillduaeth." Yr ydym orun farn yn union a'r "eraill T cvfeirir attrnt vn v drfvniad nehnd-v dvlai fill .1 W -1 -.1 J "p "gweimdegion gyflawni y gwaith." I babeth y maent da 1 Paham y telir cyflogau iddynt* os na wna.nt 1 Paham y gorweddant fel y ci yn y preseb—yn rhwystr i eraill, ac heb ei wneyd eu hunain ? Beth sydd yn eu lluddias i gyflawni y gwaith ? Ai anallu meddyliol I Dyn catwo ni 1 nage-oherwydd oni ddywedir wrthyui mai hwynthwy ydyw hufen talent Cymru. Ai diffyg amser ? Wel fe all fod rhywbeth yn hyny. Oherwydd y mae gan rai o honynt gymmaint a phregeth neu ddwy yr wythnos i barotoi erbyn y Sul. Heblaw hyny y maent, gorph ac enaid, mor ddiwyd gyda gwleidyddiaeth fel nad oes ganddynt yn amI, amser i wneyd y bregeth, heb ond ei chrybwyll ? ar gyfer y Sul. Nis gallwn gymmeradwyo y sylw arall ei bod yn ddymunol cyflogi yr ysgolfeistri i wneyd y gwaith." Gwir eu bod hwy yn anfeidrol gymmhwysach i'w wneyd na 95 y. cant o'r gweinidogion, ond oni thybir fod ganddynt hwy ddigon o waith yn barod 1 Oni welir fod ysgolfeistriaid y wlad yn gweithio yn galetach ddeg o weithiau na'r gweinidog ar gyfartaledd ? Yn sicr y maent. Nid gorchwyl hawdd yw i ddyn o feddwl llawn a bywiog gadwyno ei hun ddydd ar ol dydd at yr un cylch undonog o waith, a phlygu at safon isel y dysgybl mewn elfenau gwybodaeth drwy yr wytbnos. Ac fe welir hyny yn amlwg yn y darpariadau a geir yn y Ddeddf Addysg yng nglyn a'r amser y rhaid i'r ysgol fod yn agored. Awgrym ffol, ac annynol yn wir, ydyw i'r ysgolfeistriaid ddefnyddio eu horiau hamddenol yn y rhai y Ilaesant eu bwau i wneuthur y gwaith a syrthia mor naturiol i ran y gweini- dogion. Fel y mae yn dygwydd bod y mae y gyfraith yn erbyn i'r ysgolfeistr gymmeryd arno unrhyw waith am yr bwn y derbynia dal tra byddo yn ysgolfeistr. Trown i'r ochr arall-y-- ma,6 rhai 11 gweini- dogion yn gwneyd y gwaith o gyfranu addysg grefyddol. Mewn cannoedd o ysgoliou yr Eglwys-ysgolion Cenedlaethol-fe welir gweinidogion yr Eglwys bob dydd y bo'r ysgol yn agored wrthi yn ddyfal yn gwreiddio a chadarnhau meddyliau y plant mewn pethau crefyddol drwy ystod yr amser a ganiata'r gyfraith mor rwgnachlyd iddynt. A'r unig dal, Duw a'i gwyr, a dderbyniant yn ami (yng Nghymru yn neillduol), yw eu llosgnodi fel ymyrwyr a phroselytwyr. Pa hyd yr erys pethau fel hyn 1 Pa hyd y caiff rhagfarn ddall ein harwain, a rheswm ei droi o'r neilldu. Yr ydym fel pe yn gweled arwyddion weithiau bod y rhod yn troi ac amser gwell i wawrio ar Gymru, ac y mae yn llawn bryd iddi.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.