Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y SAFLE WLEIDYDDOL.

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETHOL…

C Y N N A D LED D F F E R…

HEN DEULUOEDD CYMUU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEN DEULUOEDD CYMUU. JOHNES 0 DOLAU COTHI, SIR (JAER- FYRDDIN. Nid oes nemawr i deulu yn y sir mor enwog a'r teulu uchod. Yr wyf yn rhoddi gwehelytli y teulu i lawr o Syr Thomas Johues, o Aber- marlais, a Treharold, sir Benfro, fel ag y mae yn ysgrifenedig yn yr Herald's College. 1. Syr Thomas Johnes, o Abermarlais, sir Gaerfyrddin, a Haroldstonc, sir Benfro, marchog. Ewyllys dyddiedig Ionawr 2 Tain, 1557. Ei wraig ef oedd Mary, merch a chyd- n etifeddes i Syr James Berkley, marchog, a chawsant I. Syr Henry Johnes, o Abermarlais, marchog. Ei wraig ef oedd Elizabeth, merch i Matthew Herbert, o Abertawe, sir Forganwg. II. Richard Johnes, o Gwmgwili, Caer- fyrddin. Efe a briododd Elizabeth, merch ac etifeddes Griffith Lewis ab Thomas John, o Gwmgwili, a chawsant blant. III. James Johnes, Llanbadarn-fawr, sir Aberteifi, uchel-sirydd y sir uchod yn 1585. Efe a briododd Anne, merch ac etifeddes Richard John Thomas Parry, o Gaio a Dolau Cothi, a gweddw James Lewis, Llan- badarn-fawr. Catherine a briododd John Vaugan, o Benbre ac yn ail, William Basset, Eleanor a briododd Griffith Rice, o'r Drefnewydd. Mary, gwraig Roderick Gwynne, o Glan- bran. Thomas Johnes, o Lanbadarn-fawr, ac wedi liyliy o Glasgrige (Glasgrug 1), aiuaetluly cyfrifol svdd ar lan v Rheidiol, Llanbadarn- fawr. Yr oedd ef yn fyw yn 1604. (Indenture ei daid, Richard John Thomas Parry), Sirydd sir Aberteifi 1618. Claddwyd ef yn Llanbadarn-fawr. Priododd yn gyntaf Elizabeth, merch Watcyn Thomas, o Lwyn- iorwerth. Bu hi farw yn ddiblant; priododd yr ail waitli Mary, merch James Le.vis, Aber- nant-bychan. Mary (Johnes), hi briododd David Lloyd, Glansevin (Llangadog). Cafodd Thomas Johnes amryw blant, ac olynwyd ef gan y dywededig James Johnes, o Dolau Cothi, Uchel Sirydd Caerfyrddin 1667 a sir Aberteifi 1670. Ewyllys dyddiedig Medi 18fed, 1678 (codicil i'w ewyllys Gorphenaf 9fed, 1681). Cafodd ei phrofi yn Llys yr Ewyllysion, Caerfyrddin. Chwefror, 1682. Ei wraig gyntaf oedd Mary, merch Rowland Pugh, o Mathafarn a'i ail wraig oedd Mary, C, merch i Syr John Pryse, o Gogerddan. Gwenfrewid, neu Winifred, yr hall a briododd David Lloyd. Gadawodd James Johnes amryw blant (ac olynwyd ef gan Thomas Johnes, o Dolau Cotlu, Uchel Sirydd Ceredigion 1673. Bu ef farw cyn 1678. Prjadodd Elizabeth, merch ac etifeddes Thomas Lloyd, Llanfair-elydogau, yn 1676, a chafodd Thomas Johnes, o Lanfair- clydogau. Bu ef farw cyn y 22am o Ebrill, 1692 ei wraig ef oedd merch David Lloyd, o'r Crynfryn. Ewyllys dvddiedig Mai 16eg, 1700 yr ychwanegiad Medi 30ain, 1702. 2. James Johnes, Dolau Cothi, a briododd Cornelia, mercit William Lloyd, o Lanllur, a chafodd John Johnes, Dolau Cothi, am yr hwn rhagor eto. Cafodd Thomas Johnes, o Lan- fair-clydogau, ac ereill. Ewyllys dyddiedig Mai yr 28ain, 1733. Gadawodd ei ystad i'w gefnder, Thomas Johnes, Dolau Cothi a Peuybont, yr hwn a'i profodd yng Nghaerfyr- ddin Medi 19eg, 1734. Ei wraig gyntaf oedd Jane, merch ac etifeddes William Herbert, o Hafod Ychtryd yr ail oedd Blanche, merch David Van, o Lanwern. Priododd Grace, ei cliwaer, Lewis Vaughan o Jordaston. Mae ei gwyddfaen i'w weled yn yr Eglwys bono. Elizabeth Johnes, Dolau Cothi, briododd yn gyntaf Gwyn Williams, Penpont, Aberhonddu. Gweithred briodasol dyddiedig Hydref 22ain, 1703. Priododd yr ail waith, Ch weft or Gfed, 1706, a John Williams, lihyd-Edwin. Cafodd ei chladdu yn Caio (yn ol yr hen ddull 1734). Ewyllys dyddiedig Chwefror, 1834. Pro fwy d yng Nghaerfyrddin, Mai 14fed, 1735. nu hi 0 1 farw yn ddiblant. James Johnes. Thomas Johnes, Dolau Cothi a Penybont, olynodd ei gefndcr yn etifedd Llanfair- elydogau. Claddwyd ef y 9fed o Ragfyr, 1751, yn Llanfair. Ewyllysdyddiedic, Afelietin 3ydd, 1749. Ei wraig ef oedd Mary Anne, merch a chydetifeddes i Jeremiah Powell, Cwmele, Maesyfed. Priododd Hydref yr Sfed, 1719, a bu farw Hydref laf, 1744, yn .54 oed (gweler y Cascob MS). Bn Elizabeth ei cliwaer farw yn weddw. Gadawodd Thomas Johnes blant 1. Thomas Johnes. 2. John Johnes, Dolau Cothi, a anwyd Chwefror 6ed, 1724, Is-Raglaw sir Pacsyfed; bu farw Tachwedd 3ydd, 1781 a cldaddwyd ef yn Llanfair-elydogau. Ei wraig ef oedd Jane, merch Hector Rees, or Cwrt, Penbrc. Cafodd hi ei geni Chwefror lleg, 1731; priododd Ionawr, 1758 a bu farw Mai 18fcd, 1784; a chafodd ei chladdu yn Llanfair- elydogau. Ewyllys dyddiedig Chwefror 15fed, 1784. 1. Elizabeth (ei ferch) a briododd Mawrth 31ain, yn Eglwys Caio, a John Lewis, Llan- erchaeron, sir Aberteiti. 2. Mary Anne a briododd John Hughes, o'r Tymawr. Bu hi farw yn ddiblant Hydref, 1773. 3. Grace a fu farw yn weddw Chwefror, 1780. Ewyllys dyddiedig Chwefror 28a4n. | 4. Catherine a briododd George Lewis, o Barnsfield. John Johnes, Dolau Cothi, a anwyd Chwefror yr 2il, 1768 cafodd ei fedyddio yn Eglwys Caio, 1768; Uchel Sirydd dros sit- Gaerfyrddin, 1803 efe a fu faiw Medi y 12fed; catodd ei gladdu yn Caio ar y 19eg, 181;), Ewyllys dyddiedig Mai laf, 181;), Ei wraig ef oedd Elizabeth, merch ac etifeddes i John Bowen, Maesllanwrthwl. Priododd yn Eglwys Caio Gorphenaf 26ain, 1797 bu farw Rhagfyr 3ydd, 1852; a'i chladdu at- y lOfed yn Caio. Jane Johnes, Dolau Cothi, gafodd ei bedydd- io yn Caio 26ain Mawrth, 1759. Priododd Mai, 1785, yn Eglwys Caio, Thomas Johnes, ei chefnder, o'r Hafod Ychtryd. Hi oedd cymmun-weinyddes ei mam. Bu hi farw yn yr Hafod, lie y claddwyd hi a'i merch, Mariamne. Priododd Mary Anne Johnes y Parch. John IJoyd Brilliant, Caio, ac yn ail a John Phillips, o Landeilo, yn 1821. Hi a fu farw lonawr y 5iiied, 1853, yn ddiblant, a cldaddwyd hi yn Abergwili. EllAtl)et)i Margaret afedyddiwyd yn Caio, Ebrill y 5med, 1770, a lawnododd fel tyst ar wyddfaen yr hanes uchod, ar yr lion y dysgrifir hi yn drydcdd merch i John Johnes, Dolau Cothi, a Jane ei wraig, y rhai oeddynt wedi marw er ys hir amser. Bu hi farw Mehefin 23ain, 1842, yn 72 oed, a chladdwyd hi yn Abergwili. Charlotte Johnes: cafodd ei bedyddio yn Caio, lonawr 23ain, 1772, a bu farw yn weddw. Claddwyd hi yn Caio Medi 58ain, 1821. John Johnes, mab y dywededig John I Johnes, Dolau Cothi, J.P. a D.L., bar- gyfreithiwr, cofiadur Caerfyrddin, ca(leirydd Chwarter Sessiwn y sir, a anwyd Chwefror 6ed, 1800, bedyddiwyd yn Caio ar yr 8fed, a bu farw Awst 19eg, ISïG. Cafodd ei gladdu ym myn went Caio, Awst 26ain, 1876. Priododd Elizabeth, unig ferch y Parch. John Edwards, Gilestone Manor, Morgan wg. Ganed hi Mawrth 23ain, 1800. Priododd Hydref yr 8fed, 1822, a bu farw Mehefin 25ain, 1848. Claddwyd hi yn Caio. Chwiorydd y boneddwr uchod oedd— Elizabeth. Ganwyd hi Chwefror 8fed, 1803, ei bedyddio yn Caio. Priododd Mehefin y lOfed, 1828, William Bonville, Bryntowy, Caerfyrddin. Bu ef farw Ionawr laf, 1873, a bu hi farw 8fed o Fawrth, 1874, yn Llandeilo. Priododd Jane, yr ail ferch, y Cadben James lleek, o'r 9fed Gatrawd, yr Hon. E,1.C, Bombay, yr hwn a fu farw yn Carcassone, Ffrainc. Jane, me,rc-h y dywededig John v Johnes, a fedyddiwyd Ionawr I Sfed, 1837, yn Eglwys Caio, a bu farw Chwefror (ifed, 1880, yn Pan. Mary Anne a anwyd Chwefror 2oaiu, 1807 hi briododd Walter Jeremiah Lloyd, Pentre- athro bu farw Ebrill 2il, 1861. Charlotte Anna Maria a fedyddiwyd yn Caio, Tachwedd 18fed, 1808 bu hi farw yn ddiblant Ebrill, 1835, yn 27 oed, a chJaddwyd hi yn Kensal Green. Cafodd John Johnes diweddaf o Dolau Cothi, John Fredrick, yr hwn a fu farw yn faban yn Ffrainc. Priododd ei ddwy ferch oroesol-Charlotte Anne Maria, yn Eglwys Caio, Charles Caisar Cookman, mab Edward Rogers Cookman, o Monart House. (Ar ol marwolaeth ei thad cymmerodd Mrs. Cookman yr enw Johnes). Priododd Elizabeth, ail ferch Mr. Johnes, ym Monachlog Westminster, Syr James Hills- Johnes (cyn hyny Syr James Hills), K.C.B., V.C., Major-General in the Royal late Bengal Regiment of Artillery." I hereby certify the above pedigree to be faithfully extracted from the Records of the Herald's Office. Llawnodwyd gan H. FAHXJIAM BUHKE, Somerset." Mae teulu Johnes Dolau Cothi wedi bod yn ddiarebol am eu gwladgarwch a'u cenedl- garweh, fel pleidwyr gwresog i'r Eisteddfodau Cenedhtethol a llenyddiaeth Gymreig, fel y gwyr llawer o'r hen eisteddfodwyr. Gall Mrs. Cookman a Lady llills-Johnes siarad a darllen Cymraeg yn hollol rbwydd. Mae hyn 0 yn beth pur anghyffredin mewn teuluoedd I urddasol yn y Deheubarth.—GIRALDUS.

BRECHFA.

ST. ANNES, CWMFFRWD.

Y PEIRIANT GWAU.

AT EIN GOHEBWYR.