Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851.. v Issued Every Thursday Morning THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is sailed to Y DRYCH as a superior adver- medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication, It has a large circulation, with .»ub*cribar» in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the Britimh Dependencies. It is the recognized National Orran of the Welsh People.
Y GWR RHYFEDDOL BRYAN.
Y GWR RHYFEDDOL BRYAN. Gan Ieuan Fardd. Nifer fechan iawn sydd yn y wlad, os oes o gwbl, yn meddu barn gliriach a meddwl mwy galluog, na'r henafgwr Lyman Abbott, golygydd yr "Outlook." Ei eideio ef ar Bryan, yn y cyfwng pre#enol. yw y goreu o bob peth wyf wedi weled ar y pwnc. Ymddangos- odd yn y "Outlook" am yr 16 eg cyfis- ol. Ac er mwyn miloedd darllenwyr y I>r y nad ydynt yn gweled y cy- hoedd T, lwnw, yr wyf am roddi rhydd- ? uthiad o'r sylwadau yma: "Tr- ymddiswyddiad Mr. Bryan y mae y wlad wedi osgoi un perygl mawr. Nid rhwygiad a Germani oedd y perygl a'n bygythiai. Yr oedd perygl mwy na hwnw. Nid perygl o faglu y wlad mewn rhyfel oedd. Yr oedd yna berygl mwy- hyd yn nod, na hwnw. Y perygl sydd wedi ei osgoi yw y perygl i'n gwlad fod yn anffyddlawn i'w chymeriad, i'w thraddodiadau, ac i'w delfrydau. Y perygl oedd i America osod hedd- wch uwchlaw cyfraith, rhyddid, a chyfiawnder. Yr oedd dynion yn y trefedigaethau oeddynt am ymgydamodi (compromise) a George III., y rhai a ofalent fwy am heddwch nag a wnaent am ryddid y bobl. Dynion da oedd llawer o hon- ynt; nid y cyfryw, fodd bynag, ond Washington a'r dynion a safent o'i blaid ydym yn anrhydeddu pan yn dathlu Independence Day. Yr oedd dynion yn yr Unol Dalaethau yn 1861, yn adeg y cyfwng anorfod hwnw, a fynent ymgydamodi a'r gallu caeth- wasol, a'r rhai a feddylieirt fwy am heddwch nag am undeb s,ylfaenedig ar ryddid dynol. Yr oedd amryw o'r rhai hyn yn ddynion da; ond nid y cyfryw, eithr Lincoln a'i bleidwyr, ydym yn anrhydeddu pan yn dathlu Memorial Day. Y mae heddyw annghydfod Ilawn mor fawr ac mor annghymod- lawn ag eiddo 1776 a 1861. Amnghyd- fod ydyw sydd rhwng ysbryd deddf yn mhlith y galluoedd a'r angenrhaid na wyr yr un ddeddf. Yr un hen ym- gyrch am ryddid ydyw mewn ffurf newydd. Ar yr adeg arswydus hon, saif Mr. Bryan nid am ryddid yn nghyntaf, ond am heddwch; nid am fuddugollaeth deddf a chyfraith yn nghyntaf, ond am heddwch; nid am gyfiawnder yn nghyntaf, ond am hedd- wch. Yn ei lythyr ymddiswyddiad dy- wed yn rhydd mai yr achos agosaf at ei salon ydyw "ataliad rhyfel." Fel Hawer o'r rhai hyny a wrthwynebas- ant Washington, a'r rhai a wnaethant felly a Lincoln, y mae Mr. Bryan yn ddyn da; ond saif yn yr un man a saf- ent bwy- Yn yr amser hwn o an- nghydfod anorfod saif ef am gytundeb anmhosibl. Trwy dderbyn ymddiswyddiad Mr. Bryan y mae yr Arlywydd Wilson wedi gwneyd y peth dewraf yn ei yrfa. Nid oes petrusder am ddiffuantrwydd ei fynegiant o serch cyfeillgarol at Mr. Bryan a'i ddatganiad eu bod, hyd yn bresenol, wedi cytuno yn effeithiol. Mae y ffaith ei fod wedi tori'r cyswllt a'r fath gynorthwywr ar yr adeg bre- senol yn brawf fod yr Arlywydd Wil- son wedi cymeryd safle ddi-droi-yn-ol yn erbyn heddwch am unrhyw bris a'i fod dros roddi achosion dynollaeth, cyflawnder, a rhyddid, uwchlaw y fath heddwch. Ni ddylai fod unrhyw ym- raniad yn y meddwl a'r teimlad Am- ericanaidd yn nglyn a'r achos hwn. Bydd llawer o Americanwyr yn gwa- haniaethu oddiwrth yr Arlywydd mewn cysylltiad a'r dull a'r modd; mae hyny yn anocheladwy. Ond yn y mater hwn o egwyddor dylai pobl America fod yn un a'r Arlywydd Wil- son, a chredwn y byddant. Y mae y ffaith i'r Arlywydd dder- byn ymddiswyddiad Mr. Bryan yn weithred o'r pwys mwyaf. Golyga nad oes yr un ameuaeth mwyach am fwr- iad y wlad i sefyll dros e1 hiawnderau ei hun ac eiddo dynoliaeth. Y mae presenoldeb Mr. Bryan yn y Cabinet wedi bod yn rhwystr gerwin ar y pwynt hwn. Bydd ei ymadawiad i fywyd annghyhoedd yn galluogi y Wenyddiaeth i fod yn rhydd i gyn- rychioli cymeriad gwirioneddol Am- erica.
Y PECHOD GWREIDDIOL.
Y PECHOD GWREIDDIOL. Gan Plas Gwyn. Ni chawn y gair "chwyn" yn y Beibl, a gresyn hefyd. Dyma y peth tebycaf yn y byd llysieuol i bechod yn y byd dynol. Ceir cyfeiriad yn Efen- gyl Matthew at chwyn a elwir yn "efryn," yr hwn a saif yn y ddameg ddyddorol am bechod, yn ddiau. Y mae y ddameg hon yn awgrymiadol iawn i'r meddwl craffus.. Sonia am ddyn yn hau had da yn ei faes, a thra yr oedd y dynion yn cysgu (y gweis- ion, yn debyg), daeth y gelyn ac a hauodd efrau yn mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith, ac wedi i'r eginyn dyfu a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd." Chwyn yw pechod yn y byd; a chyfarfyddir a ni gan, un anhawsder ar y cychwyn, set nas gall- wn goelio mai y gelyn hauodd chwyn yn mhlith llysiau y maes. Hwn yw y peth mwyaf amlwg ac arglwyddiaethus o holl gynyrchion y maes a'r mwyaf niweidiol i fywyd llys- iau a choed budcfiol. Nis gallwn an- turio ychwaith gynal fod y Creawdwr yn cysgu pan yr hauwyd y chwynyn cyntaf, os y bu cyntaf yn ei hanes. Fodd bynag, y mae chwyn yn ffaith nas gellir ei wadu, ac y mae ei anfudd- ioldeb mor amlwg a'i fodolaeth. Felly nid pechod yn y cylch dynol yw yr unig flin bwnc anesboniadwy, eithr gellir gosod ochr yn ochr ag ef "chwyn" yn y byd llysieuol. Ai tebyg y gellid ei ystyried yn rhyw fath o gysgod o bechod; rhyw fath o rag- awgrym o ddyfodiad ei debyg yn y byd moesol ac ysbrydol, yr hyn ag yw y chwyn yn y byd llysieuol? Ai ni ellid dweyd fel Paul mat "chwyn gan hyny oedd ein hathraw ni at bechod;" er na wnaeth y byd meddylgar fwy o sylw o chwyn fel athraw nag a wnaeth y genedl o'r ddeddf. Yn y byd llysieuol, ceir cryn lawer o ddrygau, neu o ymddygiadau yn dra chyffelyb i ddrwg a phechod yn mhlith dynion. Ceir chwyn a llysiau a choed- ydd yn troseddu ar hawliau eu gilydd; yn trawsfeddianu lie a heulwen eu gilydd; porfa yn trengu wrth draed coed cysgodfawr o herwydd diffyg goleu a gwres; coed a dyryslwyni yn tagu a mygu llysiau a choed Ilal gorth- rymus a haerllug, fel a geir yn mhlith dynion; coed yn eu hymdrech gyndyn a pharhaus i ffynu yn nychu a dyfetha eu cydgoed gwanach, a'r naill bren yn gwenwyno pren arall! Ceir ami 1 chwynyn llydan fel padell yn mygu y man lysiau neu y borfa o dani, ac nid yn unig yn mygu bywyd o dani, eithr yn hadu yn enbydus i gludo el fywyd gorthrymus 1 feusydd eraill. Ceidw ddyn yn effro i'w cadw allan o blith llysiau buddiol. Y mae chwyn y-n anocheladwy ac anorchfygol (fel pechod). Yn myned heibio i lecyn gwyrdd cymydog newydd ei drin, ebe fi, "Y mae genych chwithau chwyn eisoes." "Oes," ebe efe; "yr oedd yr had yn llawn chwyn." Nis gellir beio yr hadwr na'r hauwr ychwaith. Y mae cant a mil o chwedlau dy- ddorol am berthynas coed a llysiau a'r moesol, y meddyliol a'r ysbrydol; ac i ba beth y dylid priodoli hyn? Rhaid fod rhyw gysylltiad cyfrin rhwng bywyd a bywyd ar hyd ei yrfa a'i ym- ddadblygiad drwy y byd llysieuol a'r anifeilaidd i fyny at ddyn. Nid oes ac ni fu y fath beth a phren y bywyd a sarff neu ddraig yn ei wylio, fel ag a geir yn yr hen chwedlau. Dywedir am "y pren yn nghanol yr ardd" ei fod "yn bren dymunol i beri deall," a dyna paham y dywedir i Efa gymeryd o'i ffrwyth; nid am ei bod am bechu, ond am ei bod am wybod mwy nag a wydd- ai. Gellid tybio wrth yr hanes yn Genesis fod rhyw elfen beryglus yn y pren; fod adnodd neu achlygur pechod ynddo; a lledawgrymir fod rhyw raf- fias o bechod, fod rhyw wreiddyn o ys- bryd camwedd yn y byd llysieuol! Pa ham y cysylltir y syniad o wybodaeth a phren o gwbl? Dyna ofyniad yn llawn ac yn feichiog o athrawiaeth a duwinyddiaeth. Y mae hen chwedl Siberiaidd yn dadgan i Dduw greu pren mawr digainc, ac iddo beri i naw cangen dyfu allan o hono, ac o'r naw cangen hyn y deilliodd naw cyn-dad naw prif genedl y byd. Gwelir wrth y ddameg hon y cysylltai y cynfeddwl y bywyd dynol a'r bywyd llysieuol, ac ni ymddangosai fod dim annaturiol ac annghydweddus o gwbl yn hyny. Credai y cynfeddwl fod Bywyd yn un drwy y, cyfan. Yn ddiweddarach yr aeth athronwyr a duwinyddion i dori bywyd yn gyfranau, o herwydd colli yr amgyffrediad o gyfriniaeth bywyd. Gan fod fy narllenwyr yn Gymry, nid allan o le fydd adrodd tipyn o chwedl y geninen, ar yr hon yr ym- borthodd y Cymry am lawer o oesau, a byddai gwell graen ar eu plant hedd- yw, pe y rhoddent fwy o honi a llai o gandi iddynt. Ond y peth cyntaf a awgrymir gan y geninen yw ei bod yn wers mewn ymddadblygiad (evolu- tion). "Each successive layer stands for evolution." Er fod ein cenedl ni o herwydd ei hanwybodaeth yn elynol i athrawiaeth ymddadblygiad, saif y geninen i fyny yn gadarn dros Darwin. Y mae yn ymresymiad cryf dros yr athrawiaeth. G-ellid dweyd llawer am berthynas y geninen a bywyd. Yn yr hen chwedlau, saif am ostyngeidd- rwydd a diffuantrwydd, ac yr oedd Charles Darwin, tad a thadmaeth yr athrawiaeth, yn hynod am rinweddau y geninen. Yn y ddadl fawr haner canrif yn ol, efe o bawb gadwodd ei ysbryd mewn tangnefedd gostyngeidd- rwydd pan oedd y byd duwinyddol yn ei fflangellu, ei gernodio, a thynu blew ei gernau! Ni edrychwn fyth ar gen- inen, ac ni chlywn ei henwi nag y cyfyd yr addfwyn C. D. i fyny ger bron y meddwl; ac ni chlywn son am C. D. na chofiwn ei hen athrawiaeth fawr genihaidd! Dywed hen chwedl hefyd mai y geninen roed yn deyrnwialen gyda'r goron o ddrain i'r Iesu o wawd, ac yn eu hanwybodaeth. Mor gyfaddas— teyrnwialen o ostyngeiddrwydd! Dy- wed hen chwedl hefyd fofl bwyta cenin yn gwneyd y bwytawr yn ostyngedig. Awgryma hyn eto y berthynas gyfrin sydd rhwng llysiau fel ymborth i'r cylla rhag nwydau drwg, set achlysur- on ac achosion pechod a chamwedd. Y mae gostyngeiddrwydd fel paris green i bob math o nwydau, chwantau a blysiau. Brigau ar bren gostyngeidd- rwydd yw yr holl wynfydau a roddir yn nechreu y Bregeth ar y Mynydd. Tebyg erbyn hyn, yr ystyria y dar- llenydd arwynebol fy mod yn mhell oddiwrth y testyn, sef y Pechod Gwreiddiol, ond nodwn un ffaith i goffa iddo mai yr amcan yw dangos cysylltiad a pherthynas pethau o bob math a'i gilydd. Nid rhywbeth awyr- ol, dychymygol, uwch-anianol yw pechod, eithr rhyybeth a'i wreiddyn yn natur, ac y mae llawer o fan a bras bechodau yn codi hyd yn nod o afiech- yd corfforol, o walldreuliad, o waed- wenwyniad, ac o anmhariad y gyfun- drefn ieuol, ac yn arbenig, o ysigiad neu lygriad yr ymenydd. Y mae pech- od yn anmhariad ac anhwylder am- rywiol, ac y mae yn etifeddiaeth a ddaw i lawr, nid yn unig o flaenafiaid dynol, ond olrheinir ef yn ei wreiddiau cyfrin i natur yn gyffredinol. Yn ein ysgrif nesaf, symudwn yn mlaen yn uwch eto yn ein holrheiniad o haniad y drwg.
[No title]
Y mae seiri coed ac asiedyddion Lanrwst ar streic am geiniog yr awr o chwanegiad yn eu cyflog. Derbyniant 7c. yr awr ar hyn o bryd. Y mae prinder badwyr yn yr Aber- maw, am fod nifer luosog wedi ymuno a'r fyddin. Rhoddir trwyddedau i weithredu fel badwyr i ffoadurlaid Belgaidd sydd yn y dref. Dywedodd y MHwriad French mai mwngloddwyr ydyw y milwyr dewraf a goreu ar faes y frwydr. Gofyna am ragor o honynt ar unwaith. Yn ddiweddar, bu farw y Parch. William Lloyd Protheroe. ficer Llan- asa, sir Fflint, efe oddeutu 65ain mIwydd oed.
ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON,…
ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON, G. C. Gan Humphrey Griffith, Utica, N. Y. in. Cyn symud i son am yr hen gymer- iadau, trown am ychydig at anedd-dai yr ardal. Yr oedd yr hen bobl gyda golwg ar adeiladu eu tai, fel gyda phob peth arall, yn amcanu at y buddiol a'r clyd, tra mae yr oes hon yn ymestyn mwy at y difyr a'r prydferth, canys anaml y ceir hen dai ar le amlwg, ond bob amser bron wrth odrau bryn, neu yn nghysgod craig. Ni fyddai eu tai byth yn uchel nac yn fawrion iawn, ac ar y cyfan, byddai eu drysau, neu yn hytrach, eu drws a'i ffenestr, canys un drws ac un ffenestr fyddai ganddynt, cyn Ileied bron ag a fyddai modd eu gwneyd, er cadw yr oerni draw. Un corn fyddai ar y rhan fwyaf o honynt, oblegid ni fyddai ganddynt ond un tan, ac un simnai ac nid ai yr hen bobl byth i'r drafferth i wneyd corn heb ei eisieu, er ymgyraedd at hardd- wch, fel y gwneir yn ami yn ein hoes ni. • Gwnaent eu tai bob amser bron a'u talceni i'r allt, ac ychydig yn y ddaear; anaml y gwelir hen dy' a'i wyneb i ddrycin y de, ond fynychaf i'r gorllewin, ac felly aberthent des a sir- ioldeb yr haf, er mwyn enill cludwch y gauaf. Simneuau mawrion a wneid i'r hen dai y rhai a gynwysent ddau bentan mawr, fel y gallasai dau neu dri eistedd ar bob un o honynt. Uwch ben y tan y crogai cadwyn ddu aflun- aidd i ddal taclau coginiaeth, ac yr oedd gwir angen am dani, canys tan mawn a choed oedd y pryd hwnw, yr hwn a fyddai, nid mewn tan alch (grate) fel yn awr, ond y rhan fyn- ychaf yn un pentwr tanllyd ar gareg yr aelwyd, a phawb ar ddechreunos gauaf yn gwneyd y goreu o hono. Yn nechreu y ganrif ddiweddaf, nid oedd ond golwg anhygyrch, llwydaidd a gwyllt 'i'w gael ar wyneb Gwaen Gynfl, yr oedd ei ffyrdd a'i chaeau gleision, eto megys heb ei geni, a dim ond gwylltineb natur i'w weled o amgylch ogylch. Ond fodd bynag, yr oedd yn- ddi mor foreu a hyn, yn ol tystiolaeth unfrydol yr hen bobl, bedwar o dai, ar y rhai y cawn sylwi ychydig yn awr bob yn un. Dechreuwn gyda'r hen dy, sef Clwt- ybont. Ni wyddys yn sicr pa bryd yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, na chan bwy yr adeiladwyd yr hen dy hwn, ond bernir, fodd bynag, iddo gael ei adeil- adu gan dad y diweddar Mr. Williams, canwyllwr o Gaernarfon, ond gan bwy bynag a pha bryd bynag ei hadeilad- wyd, ymddengys ei fod yn rhy hen i'r boneddigion ei feddianu fel y gwnaeth- ant gydag amryw fan ffermydd mwy diweddar yn y gymydogaeth. Sylwn yn nesaf ar Cae Rhedyn. Ni wyddys chwaith pa bryd na chan bwy yr adeiladwyd y ty hwn. Cofir am un o'r enw Owen Pyrs yn byw yno, ond bernir gan amryw fod Cae Rhedyn yn llawer rhy hen i fod wedi ei adeiladu ganddo ef, ac heblaw hyny sonir am ryw hen ogrwr a fu byw ynddo o flaen Owain Pyrs, yr hwn, meddir, oedd wedi ei feddianu. ond bu i rai o'r Ibon- eddigion chwareu y ffon ddwy big ag ef, a hyny yn y modd hwn. Yr oedd rhai o'r ffermwvr o Waen Wineu yn lladd ei gwn; nid oedd wiw iddo gael ci na byddai rhywun yn sicr o'i ladd yn fuan. Yn ngwyneb hyn, aeth yr hen ogrwr i lawr i'r Vaynol i ddweyd ei gwyn wrth y boneddigion, y rhai a ddywedasant wrtho, os talai efe ych- ydig o ardreth iddynt hwy, yr hyn nid oedd ond rhyw naw ceiniog neu swllt yn y flwyddyn, yr edrychent hwy na chai neb aflonyddu arno ef na'i gwn. Ac felly fu, boddlonodd yr hen wr yn ei ddiniweidrwydd i'w talu, ac fel hyn' y trawsfeddianwyd Cae Rhedyn fel llawer o leoedd, eraill. Ty Newydd a adeiladwyd yn 1765 gan William Roberts, gwehydd o Fan gor, yr hwn a ddaeth i fyny o Fangor I chwilio am le i godi ty chaib a rhaw a'i ordd ar ei ysgwydd. Rhodd- odd ei arfau i lawr unwaith ar ryw glwt glas yn agos i'r Bwlch uchaf, ar feddwl codi ty arno, ond gwelodd y fan hono yn lie rhy uchel, a chododd ei arfau a daeth i lawr ac adeiladodd y Ty Newydd. Cae Uchaf. Ni wyddys pa bryd, na chan bwy, yr adeiladwyd y ty hwn. Yr oedd yn perthyn gynt i aeriaeth Pentir. Gallaf ddweyd hefyd fod y lie hwn yn bur anwyl genyf o herwydd fod Griffith Williams a brynodd y lie, yn daid i fy nhad, a'r diweddar Wm. Griffith, Caeau Uchaf, yn daid iddo o du ei fam, sef tad i'r diweddar Han- nah Griffith, y Gerlan, a Mrs. Jones, Post Office, Ebenezer, sef mam Mrs. Wm. ApMadoc, Chicago. Minffordd, hen dy Dafydd Ellis, a, adeiladwyd yr un flwyddyn, 1802, gan Dafydd Ellis, tad y diweddar Ellis Daf- ydd, Ebenezer. Mae yr hen dy hwnw wedi ei chwalu cyn cof neb sydd yn fyw yn awr a'i enw wedi myned i ebargofiant er's llawer dydd. Hafod Oleu a adeiladawyd yn 1806 gan Morgan, Cae Coch, taid i'r di- weddar Elias John Morgan. Tanyfoel a adeiladwyd yn 1806 gan Pyrs Sion Emwnt, gwr Margaret Abram, yr hon oedd yn chwaer i Rowland Abram, Brynteg. Dywedir i ymrafael ddy- gwydd rhwng R. Abram a'i chwaer a'i frawd yn nghyfraith, ac i R. Abram yn y ffrwgwd droi y ddau allan o Bryn- teg, ac o'r adeg hono hyd oni adeilad- wyd Tanyfoel, bu Pyrs a'i wralg yn byw yn ogof Cae Rhedyn. Y mae amryw o dai eraill pwysig yn yr ardal, on,d gadawn ar hyn yn awr. (I'w Barhau).
YN SWN Y PLANT.
YN SWN Y PLANT. Gan Anthropos. Nid oedd gwyliau'r Sulgwyn, eleni, yn meddu ystyr y blwyddi a fu. Nis gallent. Gwnaed ymgais mewn gwlad a thref i efelychu yr hyn oedd wedi dod yn ddefod yn y tir. Aeth y dref i'r wlad; daeth y wlad i'r dref. Dyna'r cwbl. Cydnabyddid fod y tyw- ydd yn ardderchog-haul yn gwenu ar y byd. Ond nid ydyw busnes, na phleser, fel arfer. Y mae'r cywair wedi newid, a rhyw ddysgwyl sydd,' foreu a hwyr, am newyddion o'r Cyf- andir. Dichon mai y gwyliau y rhoed mwy- af o groeso iddynt ydoedd "gwyliaa ysgol," a hyny gan y plant. Y mae mintai o honynt yn chwareu yr ochr arall i'r clawdd, a'u lleisiau yn llanw'r fro. Beth yn fwynach ar nawn o haf? Y mae eu byd hwy yn "wyn," a hwy- thau yn ei fwynhau hyd yr ymylon. Cwpan bywyd yn llawn, ac yn llifo drosodd. Nid ydyw cwestiynau'r dydd yn eu poeni o gwbl. Y mae ganddynt ddigon i feddwl am dano yn eu byd e. hunain. Nid byd tawel mohono. Y mae ei hanes yn gweddnewid bob pum mynyd. Blinir ar ryw un math. chwareu a chlywir llais clir yn cynyg rhywbeth arall. Ond y mae'r cwestiwn —pwy fydd fwyaf ? yn un pwysig, ac anhawdd ei benderfynu yn foddhaol. Pwy gaiff fod yn arweinydd? Ac wedi dewis hwnw, pwy fydd yn y cyfrin- gyngor? Y mae'r cwestiwn yn un dyrus, o herwydd fod cynifer yn tybled eu bod yn gymwys i'r swydd. Dyna'r drafferth yn mhob cylch-dewis aelod seneddol; dewis prifathraw. Y mae cynifer o bobl yn meddu cymwysderau i'r swydd fel y mae yn resyn na fyddai rhyw haner cant o gadeiriau gweigion ar eu cyfer. Nid prinder dynion ydyw yr anhawsder, ond prinder cadeiriau! Ond y mae'r plant, rywfodd, yn gwneyd byr waith ar y ddaear. Dew- isir yr arweinydd yn hollol ddisere- moni. Clywir un neu ddau o'r siomed- igion yn bygwth "peidio chwareu." "Dim gwahaniaeth," ebai'r lleill. Ac y mae'r chwareu yn mynd yn el flaen yn ardderchog. Plant yn chwareu! Dyna'r peth tebycaf i weriniaeth y gellir ei weled yn y fuchedd hon. Nid oes un canol-
I YR ORGRAFF.
I YR ORGRAFF. I Gan Gwyliwr. Mae I dda.d1 yr orgraff yn y "Drych" ddwy agwedd, sef y ddadl rhwng yr hen a'r newydd, a'r agwedd arall, y ddadl rhwng aelodau o deulu yr or- graff newydd. Llwydda teulu yr Hen i fyw yn gytun dan yr un to, ond ceir teulu yr O. N. mewn cyflwr gwir resynus, o herwydd y maent nid yn unig mewn rhyfel a'r Hen, ond y maent hefyd mewn rhyfel a'u gilydd. Ac o bob rhyfel, rhyfel cartrefol yw yr hagraf. Ty wedi ymranu ni saif. A'r syndod yw fod teulu yr O. N. yn ym- ladd yn ffyrnicach a'u gilydd nag a neb arall. Ond tra y maent hwy wrth gyrn yr iaith yn ymladd am dani, ceir y Gol. wrthi yn ddiwyd a dystaw yn el godro, ac yn hulio bwrdd y "Drych" o wythnos i wythnos a llaeth a hufen fel na fu ar y darllenwyr eisieu dim. Dau o feibion yr O. N. yw Cadle a Gwallter. Ac er mal plant i'r un fam, a brodyr o un bru ydynt, buont yn ym- ladd fel dau geiliog ar faes y "Drych" er ys talm. Ac yn hytrach na dangos rhagoriaeth yr O. N. ar yr hen, prif amcan y naill oedd profl na wyddai y llall ddim am yr O. N. Profodd Cadle (i'w foddlonrwydd ei hun) na wyr Gwallter ddim am yr O. N., ac na wyr y gwahaniaeth rhwng orgraff a chys- trawen. A'r un modd yn union y "prof- odd Gwallter trwy resymau anwrth- wynebadwy nad yw Cadle wedi dysgu elfenau cyntaf yr O. N. Etc nid yw y naill na'r llall mor hollol anwybodus ag y mynant i ni gredu, o herwydd mae pob un o'r ddau yn abl i fesur hyd, lied, ac uchder a dyfnder anwy- bodaeth ei frawd. Yr oedd yn amlwg er's tro fod y ddadl wedi syrthio i dir tra isel, sef i" gors ymgecraeth. Felly yn y "Drych" am' Mehefin 10, o tfan y penawd "F'olaf air at Cadle," d;'t .ed G. ei fod wedi blino lladd Hew /"arw o Penn- sylvania, a sicr yw f: Cadle wedi blino yn lladd llew mai v o Ohio, a'r hen "Ddrych," er cryfed yw, yn ddi- ameu wedi blino yn carlo y ddau ar ei gefn. Yn "F'olaf air," rhydd G. "Good by" i'w frawd C. fel hyn, "Felly er lies i grefydd, iaith a chened" Good bye i Cadle hyd foreu'r adgyfodiad." Gwel- ir fod ganddo dri rheswm dros dewi. Yn gyntaf, lies crefydd. Rhaid addef mai anfantais i grefydd fu yr ym- rafael ar aelwyd yr O. N. N4d iaith crefydd ddefnyddid, ac nid ysbryd, crefydd amlygid yn y ddadl, ac nid' rhyfedd hyny, o herwydd nid yw eg- wyddorion yr 0. -N. yn gyson ag ysbryd crefydd. Lladrones yw yr 0. N. yn dringo "ffordd arall" dros gloddiau yr iaith i ysbeilio yr hyn sydd eiddo cyf- iawn iddi. Dygodd Dduw o dduwin- yddiaeth, gan rol ryw "ddJw" bychan Lladinaidd yn ei le. Aeth a darn o Gristionogaeth oddi arnom, a lladrata- odd Gwallter haner y gair cyntaf yn "F'olaf air at Cadle" gan roi ryw sill- goll bychan yn ei le. Onid gweddus- ach a mwy cyson' a theithi yr iaith fu- asal dweyd "Fy ngair olaf at Cadle." Nid yw yr 0. N. yn gyflawn ychwaith, ethola ral cydseiniaid i barch trwy eu dyblu gan adael y lleill mewn an- mharch. Felly, os yw yr 0. N. yn an- onest ac annghyfiawn nid rhyfedd fod G. am dewi, "er lies crefydd." Y rheswm nesaf dros dewi yw "lies yr iaith." Nid oedd raid i neb dewi er lies yr laith, o herwydd nl wnaeth dadl yr orgraff fyinryn o ddrwg i'r iaith, ond yn hytrach fel arall, bu yn foddion i ddwyn allan hgrwch ac an- nghysondeb yr 0. N. a'r hen iaith Gymraeg wedi dod allan fel aur wedi ei buro trwy dan, ac orgraff y "Drych" yn mynd yn loewach. gloewach hyd ganol dydd. Deil y Beibl gymeriadau gwaethaf yr oesau ar groesffyrdd bywyd, i rybuddio pawb rhag y ffordd lydan, a chyfeirio. eu camrau 1r llwybr cul. Codwyd sarff o bres yn yr anial- wch fel'yr iacheld y rhai a edrychent arni. Felly y bu dadl yr O. N. yn y "Drych" yn foddion i rybuddio pawb I ochel eu ffyrdd, a dylyn llwybr cul synwyr cyffredin orgraff y "Drych." Os dwysbigwyd rhywun rywdro gan yr 0. N., dim ond iddynt ddarllen dadl yr Orgraff rhwng y ddau frawd, lacheid yr oil yn y fan. Ni wnaeth sylwadau yr orgraffwyr newydd fwy o ddrwg i'r iaith nag a wnaeth hanes Judas yn y Beibl o ddrwg i grefydd. Nid yw G. yn ffarwelio am byth a Cadle, dim ond yn unig "hyd foreu'r j adgyfodiad." Felly gellir yn naturiol i gasglu nad yw dadl yr orgraff ar ben eto, ond yn hytrach wedi ei gohirio "hyd doriad boreu wawr." Hawdd yw gweled a llygad ffydd,G. ar yr adeg hono yn ymdaraw ar C. ac yn dechreu fel hyn, "A mi yn cymeryd dyddordeb nid hychan yn ein hen ialth firain a. hyglod," &c. Dywed yr hen benill y "bydd myrdd o ryfeddodau, ar doriad boreu wawr." Pwnc yr O. N. rhwng y ddau frawd fydd un o honynt yn ddiameu. Ond y peth goreu "er lies crefydd iaith a chenedl" fyddai peidio codi y ddau yr un diwrnod onide bydd ffrwgwd ofnadwy wrth borth y nef. Ond y mae un cysur cryf os ant i mewn trwy y pyrth, bydd raid gadael yr O. N. y tuallan, o herwydd nid a i mewn yno ddim allan. Y mae i G. yr anrhydedd o fod yn flaenffrwyth y rhai a dawant "er lies crefydd, iaith a chenedl," a chlywir swn yn mrig y morwydd, a miloedd yn dod ar ddarfod am danynt i gofleidio iaith synwyr cyffredin i bobl gyffred- in, gan adael gwlad bell y moch a'r cibau, gwlad dyblu cydseiniaid, ac ys- beilio geiriau, nid hyd foreu'r adgyf- odiad, ond hyd byth bythoedd. I
A DDYLAI EGLWYS CRIST NODDI…
A DDYLAI EGLWYS CRIST NODDI CHWAREUON YR OES? I Gan Thos. J. Roberts, Yorkville, N. Y. 1 Nis gellir edrych heibio i'r ffaith fod yr oes hon wedi ei meddianu gan rhyw chwant anniwall i chwareu. Dy- head am fwyniant pechod dros amser yn gryfach na'r awyddfryd i osod ei serch a'i bryd ar y petbau sydd uchod. Ymddengys fel pe bae amcanion goreu a penaf yr oes wedi eu hamgylchu gan chwareuon, y rhai sydd fel tir yn llawn drain, a mieri yn barod i fygu neu dagu yr hyn sydd dda a dyrchaf- edig. Mae chwareuon wedi cael sylwi mawr gan yr oesau aethant heibio, ac fe dybia yr oes hon y byddai yn sarhad ar yr ymdrechion ddangoswyd gan y rhai gynt, iddi hi beidio a rhoddi sylw iddynt. Bron nas gellir dweyd fod yr oes hon nid yn unig yn talu sylw i'r chwareuon, ond y mae wedi eu gosod yn nod i gyrchu atynt, gan adael y pethau sydd o'r tu allan, ac edrych ar bethau o'r tu ol. t Chwareuon a'u Canlyniadau. I Gallesid yn hawdd nodi cyfres o chwareuon, ac ysgrifenu llawer ar bob rhai o honynt, ond gan nad yw penatvd ein testyn yn galw am hyny, mwy pri- odol efallai fyddai enwi pedwar, gan eu bod yn cael eu hystyried yn chwar- euon mwyaf poblogaidd yr oes: Y Bel 'Droed, Base Ball, Pool, a chwareu cardiau. Yn argraffedig ar ddalenau bywyd y rhai sydd yn ymwneyd a'r chwareuon uchod, gwelir y geiriau hyny, "Bwytawn, yfwn, a chwareuwn, canys yfory marw ydym." Byd o bles- er, byd o fwyniant yw hwn; meddent, a beth yw bywyd os nad yn werth ei fyw i ymbleseru, ac i ymhyfrydu yn- ddo. "Gwna yn llawen, wr ieuanc; medd y Pregethwr, "Myn gymaint ag sydd fodd i ti allan o fywyd, a chei weled, os na bydd iti glywed, mai diwedd y cwbl ydyw cosb a barn." Mae yn wir fod rhai o ddysgedigion ein gwlad heddyw yn edrych ar y geir- iau uchod fel anogaeth i lawenydd, ac yn un o ddyledswyddau mwyaf arben- ig bywyd, ond yr hyn sydd yn tynu oddiwrth y gosodiad ydyw eu bod yn dweyd fod anufuddhau i'r anogaeth yn sicr o gael ei ddylyn gan gosb a barn y Duw a blanodd yr awydd am fwyn- iant yn nghalon dyn. Mae yn perthyn i fywyd ei lawenydd a'i hyfrydwch, yn arbenig i dymor ieuenctyd, ac fe all ymroddi yn galonog i'r llawenydd hwnw, os bydd iddo gadw mown cof ei fod yn nghanol ei fwyniant, 'fel yn mhob peth arall perthynol i'w fywyd, yn gyfrifol i Dduw. Mae yn yr oes hon gyfnewidiad wedi cymeryd lie yn ein syniad crefyddol am berthynas bywyd a chwareuon. Ystyrir y chwar- euon yn bethau cwbl ddiniwed a hollol gyfrelthlawn i bawb o bob oed a rhyw gyfranogi o honynt, heb gofio fod yma berygl i ni fyned i eithafion yn y cyf- eirlad hwn, a myned i sefyllfa Is na bu gwlad ein tadau ynddi yn nglyn a chwareuon cyn cyfodiad Pwritaniaeth. Baich mawr cenadaeth yr hen Biwrl- taniaid oedd dysgu pwysigrwydd a di- frifoldeb bywyd; a chodi eu lief yn uchel yn erbyn arferion Ilygredig yr oes. Bu eu hymdrechion o wasanaeth mawr i foesoldeb a chrefydd, ond daeth rhywrai yn mlaen i draethu eu barn, ac i'w condemnio am edrych ar fywyd crefyddol fel un rhy ddlfrifol i allu bod yn ddlfyr ac yn llawen mewn unrhyw fodd. a Ychwanegir at y cyfeiriadau a nod- wyd gan luaws o amryw farnau yn yr oes hon, y dylai yr eglwysi ddarparu i'r bobl bob math o adloniant a dlfyr- wch. Perthyn i'r oes hon chwareuon sydd ynddynt eu hunain yn ddrwg, yn annuwlol a (phechadurus, ac y mae canoedd os nad miloedd o bobl ieuainc ysywaath yn myned yn ebyrth bob blwyddyn Iddynt, am nad ydynt yn ystyrled nac yn deall fod dydd i ddod pan y bydd rhaid rhoddi cyfrif i Dduw. Mae y chwareuon bron yn ddieithriad yn tynu yr hyn sydd waethaf yn y na- tur ddynol, mae'r tueddiadau hyny yn cael ymborth, y dyheadau yn cryfhau, nes o'r diwedd y maent yn troi yn el- fenau, ag sydd yn cyfansoddi cymer- iadau duaf, ac iselaf pob cymdeithas. Nid oes eisieu croesi moroedd, na theithio cyfandiroedd er cael prawfion digonol o hyn, am fod yn ein plith beddyw ddynion ieuainc o vmddangos- iad hardd, wrth ymwneyd a'r chwar- euon, yn dadblygu yr elfenau hyn i raddau arswydus, ac echryslon, ac fe ddylai y chwareuon hyny ag sydd yn ymborth i falchder, cenfigen, malais, nwydau cnawdol, a chreulondeb fod yn bethau i'w hosgoi gyda phob gofal a diwydrwydd. Dywedodd un gwr en- wog unwaith, "Y mae yn mhob plen- tyn a enir bosiblrwydd cythraul a phosiblrwydd sant." Mae chwareuon yr oes nid yn unig yn feithrinol i'r drwg mewn dyn, ond hefyd yn farwol i'r da posibl sydd yn- ddo. Nis gall neb ymroi i'r chwareu- on, heb dderbyn dylanwad marwol i'r tynerwch, gwroldeb, hunanbarch, a'r lledneisrwydd sydd yn perthyn iddynt. Mae dyn wedi ei fwriadu i ddefnydd- ioldeb a gwasanaeth mewn bywyd, a rhyfedd fel y mae llu wedi camarfer y talentau, a'r galluoedd sydd yn eu cyfaddasu i fod yn ddefnyddiol, a gwasanaethgar mewn byd ac eglwys, ac nid oes ond chwareuon yn parlysu y cyfaddasder hwn. Pwy yw segur- wyr penffordd ein gwlad heddyw? Pwy yw y rhai sydd yn denu ac yn hudo eraill i drueni a gwarth? Neb amgen na rhai wedi eu llwyr lyncu gan afiaeth chwareugar yr oes. Maent yn ddiwasanaeth a diddefnydd i Dduw a'u cyd-ddynion, dirmygedig yr ed- rychir arnynt mewn cymdeithas. Mae dyn yn rhy fawr i gylch y chwareuon; mae ynddo rhywbeth dyfnach na dy- head i ymbleseru, y mae syched yn ei enaid am Dduw, am y Duw byw, nis gall chwareu y bel droed eu disychedu, na chwaith y base ball, mae yn rhaid iddo eu gadael a throi at Dduw, at ei eglwys, o herwydd dyma'r man y mae Duw wedi addaw disychedu a thywallt yn helaeth o'i fendithion penaf, sef i'r rhai sydd yn ymhyfrydu ac yn credu ynddo Ef. (I'w Barhau).