Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y GWR RHYFEDDOL BRYAN.

Y PECHOD GWREIDDIOL.

[No title]

ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON,…

YN SWN Y PLANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YN SWN Y PLANT. Gan Anthropos. Nid oedd gwyliau'r Sulgwyn, eleni, yn meddu ystyr y blwyddi a fu. Nis gallent. Gwnaed ymgais mewn gwlad a thref i efelychu yr hyn oedd wedi dod yn ddefod yn y tir. Aeth y dref i'r wlad; daeth y wlad i'r dref. Dyna'r cwbl. Cydnabyddid fod y tyw- ydd yn ardderchog-haul yn gwenu ar y byd. Ond nid ydyw busnes, na phleser, fel arfer. Y mae'r cywair wedi newid, a rhyw ddysgwyl sydd,' foreu a hwyr, am newyddion o'r Cyf- andir. Dichon mai y gwyliau y rhoed mwy- af o groeso iddynt ydoedd "gwyliaa ysgol," a hyny gan y plant. Y mae mintai o honynt yn chwareu yr ochr arall i'r clawdd, a'u lleisiau yn llanw'r fro. Beth yn fwynach ar nawn o haf? Y mae eu byd hwy yn "wyn," a hwy- thau yn ei fwynhau hyd yr ymylon. Cwpan bywyd yn llawn, ac yn llifo drosodd. Nid ydyw cwestiynau'r dydd yn eu poeni o gwbl. Y mae ganddynt ddigon i feddwl am dano yn eu byd e. hunain. Nid byd tawel mohono. Y mae ei hanes yn gweddnewid bob pum mynyd. Blinir ar ryw un math. chwareu a chlywir llais clir yn cynyg rhywbeth arall. Ond y mae'r cwestiwn —pwy fydd fwyaf ? yn un pwysig, ac anhawdd ei benderfynu yn foddhaol. Pwy gaiff fod yn arweinydd? Ac wedi dewis hwnw, pwy fydd yn y cyfrin- gyngor? Y mae'r cwestiwn yn un dyrus, o herwydd fod cynifer yn tybled eu bod yn gymwys i'r swydd. Dyna'r drafferth yn mhob cylch-dewis aelod seneddol; dewis prifathraw. Y mae cynifer o bobl yn meddu cymwysderau i'r swydd fel y mae yn resyn na fyddai rhyw haner cant o gadeiriau gweigion ar eu cyfer. Nid prinder dynion ydyw yr anhawsder, ond prinder cadeiriau! Ond y mae'r plant, rywfodd, yn gwneyd byr waith ar y ddaear. Dew- isir yr arweinydd yn hollol ddisere- moni. Clywir un neu ddau o'r siomed- igion yn bygwth "peidio chwareu." "Dim gwahaniaeth," ebai'r lleill. Ac y mae'r chwareu yn mynd yn el flaen yn ardderchog. Plant yn chwareu! Dyna'r peth tebycaf i weriniaeth y gellir ei weled yn y fuchedd hon. Nid oes un canol-

I YR ORGRAFF.

A DDYLAI EGLWYS CRIST NODDI…