Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Tybaco. Rhyw bla un sut a'r blin Satan-baw Yw'r tybaco aflan; (ceg Chwyda holl iechyd allan-gwna safn wleb I boeri i wyneb lor ei hunan. Chicago, 111. GLAN RHOSYDD. -0-- Shon Bwl a'r Svltan. I Fy nghaerau, meddai'r Syltan, 'Rwy'n awr yn herio'r Ibyd; Ac yn fy mhalas gorwych, Dyogel wyf o hyd; Ac er fod Ffrainc a Phrydain Yn gwneyd gwrhydri mawr, Cellweirus iddynt danio Ar Gaercystenyn fawr. Cydgan: Well done i'r ddwy, yn wir, Daw amser gwell cyn hir Am ymladd dros fawnderau Yn awr ar for a thir. Nid aeth i gopa'r Syltan Erioed y meddwl hyn Mae braidd yn gorfod credu Fod du yn troi yn wyn; Fod lion gar enw dynes; Yn 'nelu at ei dwr; Fe ddwed fel Abimelech, "Mae gwraig am lladd yn siwr!" Mae wyth o ynau mawrion Gan Liza ar ei chefn Yn tanbelenu'r Syltan, Er dwyn y byd i drefn; Mesurant draws eu genau Bron gyfudd Noah gynt, A'r Sultan sydd mewn trafferth Am fyned ar ei hynt. Trwy'r unol fawr Dalaethau Bu'r "Drych" yn broffwyd in' Am edrych i'r dyfodol, I'r dyddiau dedwydd hyn, Pan fyddo Caercystenyn A'i chaerau'n chwilfriw man, Hwre o eigion calon Ar ddiwedd hyn o gan! Wel done i'r ddwy, yn wir, Daw amser gwell cyn hir; Am ymladd am iawnderau Yn awr ar for a thir. Ovando, Mont. R. C. EVANS. o Er Cof am Sioncvn. I 'Roedd ci gan Mari Siencyn, Ci bychan gwy.n a du; A'i enw ydoedd Sioncyn, A Sioncyn ydoedd gu; Nid oedd gan Mari druan Un ferch na mab ychwaith, Ond Sioncyn oedd ei mudan Gydymaith ar y daith. Y ci oedd gi boneddig, Er nad oedd heb ei fai, A Mari oedd siomedig Am na b'ai'i gwt yn llai; Am hyny aeth i ofyn I Twm y cigydd tew, I dori cynffon Sioncyn, Ond peidio tori'r blew. Aeth Twm i hel ei getyn, A daeth yn ddiymdroi; Rhoes Mari i ddala Sioncyn A'i ddal yn dyn rhag cnoi; "'Nawr Twm, cei dori modfedd, Un fodfedd y tro hwn; All Sioncyn byth a gofedd I dori mwy, mi wn." Fe dorwyd cynffon Sioncyn, Un fodfedd ar v tro, Rhag wrth ei golli'n delpyn, Yr ai y ci o'i go; 'Roedd Mari yn tosturio Rhag rhoddi iddo boen, Ond Sioncyn aeth yn wallgo' Gan redeg ffwrdd o'i groen. Caed noswyl a threngholiad, A llunio gwyneb sur, A phasio cydymdeimlad, A'r ci a'r gvnffon hir: A thranoeth claddwyd Sioncyn, Mewn coffin bychan, cul: Ni fynai Mari Siencyn Ei gladdu ar ddydd Sul. Myn rhai fod ysbryd Sioncyn Yn chwilio am ei gwt, I'r ardal heddyw'n ddychryn, Yn erlid ambell grwt; A Mari Siencyn druan Yn rhodio yn ei du; Yn galw ac yn chwiban, A cheisio dal y ci. Mae llawer un fel Sioncyn, Pe byddai'n colli'i gwt, Ca'i golled annghyffredin, A byddai farw'n glwt! Gwell bod yn "gwta bwrw," Pwy wada hyn o wir, Na dyoddef poen a marw Am fod ei gwt yn hir! GLAN CLEDDY. -0-- Priodas I Mr. Owen M. Parry a Miss Mamie Hughes, Granville, N. Y. 0 daa wenau hyfryd Hefin A'a ffyddlondeb fel y dur, Wele vnwyd mewn modd cyfrin Dd&u sydd llawn o gariad pur, Sef ein Owen Parry hoffus A Mamie Hughes y fwynaf fun, Wrth allor Hymen mewn modd hQJpus Heddyw'r ddau a wnaed yn un. Dyma'r drefn er dyddiau'r cynfyd I gael cartref dedwydd clyd: Horn yw'r drefn ordeiniwyd hefyd I iawn fyw yn hyn o fyd, Dyma'r drefn i ni ei dylyn Wrth fwynhau ein hoes ddinam, Yn ei dy daw'r tad yn frenin, Ac yn frenines daw y fam. Ar hyd llwybrau'u bywyd newydd Gwenau gaffont yn mhob man, A ehysuron bywyd beunydd Fel yr afon red i'w rhan; Glan fo'u buchedd hwy a buddiol Heb un 'storm i chwerwi'u byd, A'u gwelthredoedd yn ddyngarol A'u hoes yn dangnef ar ei hyd. Gylch eu llwybrau tyfed melllion, Meillion rhinwedd teg eu gwawr, A'u rhodfa fo yn rhodfa'r Cristion, A'u hanes hwy fo'n ber ei sawr; Gwneuthur da fo'n ibleser ganddynt A ffawd fo'n gwenu ar eu gwaith, Ac oes o lwyddiant fyddo iddynt, A'r Nefoedd wen ar ben y daith. Granville, N. Y. BEN THOMAS. o Cenadwri'r Bardd Ar ol gwrando pregeth ntillduol gan y gweinidog, y Parch. D. Wynne Rees, Scranton, Pa. 0 tyr'cl bechadur truan 0 tyr'd at Iesu Grist, A. nhaid, 0, paid a gwneuthur Ei enaid mawr yn drist; A wyt ti yn ei glywed Yn curo wrth dy ddrws? o naid a gwrthod agor I berson sydd mor dlws! 0 rho dy hunan heno Yn eglwys hoff Bellevue, Fe gai swperu ganddo "0 ffrwythau'r Ganaan wiw;" Bydd gweled hen bechadur Ar swper gyda Christ, Yn gwneyd i wenau'r diafol I droi yn welw drist. A thithau, hen wrthgiliwr, Er pan y gwnest ti ffoi, Mae'th Dad mewn dirfawr boenau D'yw'r drws byth wedi'i gloi; Mae'r fodrwy yn dy aros, Mae'r gwisgoedd lond ei gol; Mae'n dysgwyl yn bryderus- 0 dychwel eto'n ol! 0 paid a siomi'r Iesu Bu farw ar dy ran; Fe wna dy gynorthwyo Lle'r wyt yn teimlo'n wan; 0 tyr'd yn ol i'r winllan I weithio dros dy Dduw; Mae i ti groesaw calon Yn eglwys hoff Bellevue. Mae'r eglwys yn croesawu Y pechaduriaid mawr, Ac yn gweddio drostynt Am daflu'u harfau i lawr; Hen arfau erchyll pechod A wna eneidiau'n drist, Ac arfau sy'n eu cadw Rhag gweled gwyneb Crist. Wynne Rees, gwas anwyl Iesu, Fugeilia'r eglwys hon; Gwel'd deigryn edifeirwch Sy'n rhoddi balm i'w fron; Mae gweled y "trail hitters" Yn rhocyo llwybrau'r nef. Yn gwneyd i'w enaid waeddi "Gogoniant Iddo Ef." ¡. HENRY D. JONES, o Y Caisar. Mae'n adgas i son am y Caisar; Mae'n ffiaidd yn ffroenau'r holl fyd; Yn soegaidd ei fywyd a gwaedgar, Gan waed y mae'n feddw o hyd; Nid digon ei wane am y gwaedlif, Gwna ddifa gnawd dynol heb ball: Mae'n rheibus ei anian erch lythig-I Ynfytyn yw'n ddiau o'r fall. Ai "cywir v bernir Caerwyni- Herr Offa'n berth'nasau o ach; Y llofrudd maent hwy yn ei foil, Gan gyfrif y Libegriaid fel crach; Beth ibynag fydd tynged y Caisar, Cyfrifir y ddau yn ei reng, A'u henwau barheir tra bo daear Yn mhlith y llu anfad. yn lleng. Galanas yr hardd Lusitania Sydd weithred fradusaf pob oes; Ni allai cythrymiaid Gehena Gyflawni gresynwaith mwy croes; Yn gerfiol arwyddair bythgofus Ar uchaf binaclau y byd Bydd cofnod o'r Caisar mileinus A'i ellyll llofruddiol yn nghyd. Do, suddwyd y gem Lusitania Heb rybudd i ddyfrllyd fedd, Yn llwythog o fodau hil Adda Diniwed, mewn llonder a hedd; Gwir anhawdd amlygu'r amgylohiad Gan dreiddiad fath drallod mor syn; Mewn geiriau eyflwynaf fynegiad Y suddir v Kaiser am hyn! Fe gofir am lawer fu'n gwawdio A chwerthin ha! ha! mewn hyll wledd Wrth weled ymdeithwyr'n egnio Ymachub o'r dwfr-eigion fedd; Can wired fod nefoedd a daear, Mae dydd o ad-daliad i ddod, Pan delir yn ddyiblyg i'r gwaedgar Gaiseriaid annynol eu nod! D. F. LEWIS.

SCHENECTADY. NEW YORK. I

rPORTLAND A SEATTLE. j

I "Rhydd I Bob Meddwt el Fam…

WTLKES-BARRE, PA.I

Holiad. am G-vmrn

CASGLIAD Y CAN MIL. ! 1i