Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

SCHENECTADY. NEW YORK. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SCHENECTADY. NEW YORK. Gan Llenores Meirion. Dichon fod darllenwyr y "Drych" yn meddwl nad oes fawr o ddim new- ydd yn dygwydd, neu ein bod fel Cymry wedi ymfudo o'r dref uchod. Nid ydynt yn gwneyd rhyw lawer o gamgymeriad. Bu yr ysgrifenydd yn gorwedd am ysbaid o dan grafangau y 'la grippe,' a'r bronchitis, ac yr wyf yn awr o'r un brofiad a'r emynydd, pan gyfansoddodd y penill "Bod yn fyw sydd fawr ryfeddod Mewn ffwrneisiau sydd mor boeth." Dywedai un chwaer wrth geisio ein cysuro fod gwely cystudd yn lie da i orphwyso, a chaniatau fod y gosodiad yn ffaith, yr oeddwn i yn bersonol, yn falch neillduol o allu dod o hono. Cymry eraill fu ar restr y cleifion yn ystod y gwanwyn, ydyw Mrs. Wm. H. Hughes; Dilys, geneth fach Mr. a Mrs. Percy Jones; Wm. Williams, priod Gwladys Williams, a'r hen frawd Ed- ward Mates, bu yr olaf yn lied wael, ond y mae yn gwella, ac yn eistedd ar y porch pan fydd yr hin yn caniatau. Feallai fod chwaneg wedi bod yn gys- tuddiol, ond ein bod ni yn anhysfoys o honynt. Mae ein dinas yn fawr a'r Cymry yn wasgaredig. Dydd Sul, Ebrill y 30ain, bu angeu ar ymweliad a chartref Mr. a Mrs. W. H. Hughes, ac yn ol ei arfer, heb gen- ad y rhieni, aeth a blodeuyn prydferth ar haner agor oddi ar yr aelwyd, sef Edward Glenn. Ni fu y bychan yma ond pum wythnos, ond yr oedd yn an- hawdd ei hebgor er hyny. Claddwyd ef yn Middle Granville, a daeth chwaer Mrs. Hughes, set Mrs. Archi- bald yma o Middle Granville yn gwm- ni i'r teulu yn ystod eu trallod. Y Sabboth diweddaf, y 13eg, gal- wodd Mr. a Mrs. Williams (Tanygris- iau) yma, ond yr oeddym ni wedi myned i alw am y cleifion (Mr. Ed- ward Mates yn fwyaf arbenig). Mrs. Prudence Williams sydd wedi dychwel- yd o Buffalo; galwodd hi a theulu ei merch yma, sef Hugh R. Jones a'r wraig a'r plant, pan oeddym yn cwyno. Bydd genyf lawer o waith galw i wneyd i fyny am yr holl alwad- au. Bu y Cymro John Owen, Salem, yn toi ty i ni yn ddiweddar, a chawsom ambell ymgom ag ef yr adeg hono. Efe yw yr unig Gymro sydd yn dylyn yr alwedigaeth o doi yn ein dinas, ac y mae yn 'expert.' Mae ei waith yn glod i'r wlad a'i magodd. John Griffiths, nai yr uchod, sydd wedi llwvr wella ar ol bod dan drin- ineth i'w wddf yn yr Albany Hosnital, ac y mae yn canu mor beraidd ag erioed. Credaf fod ei gydmar Mr. Williams (Wisconsin) wedi myned adref i 'Milwaukee am seibiant. Cym- ro-Americanaidd ydyw Mr. Williams, emd "Cymro i'r earn" er hyny. Y mae ef a Mr. Griffiths yn gryn bart- ners. Hyderwn nad vw wedi myned i ebwiJioarn un cvmwvsach. tua'r West. Byddwn ni yn harod i'w roesawu yn ol-T)artner neu beidio. Y mae ein Cambrian Male Chorus wedi cadw amryw gyngerddau yn ys- tod y gwanwyn, a chawsom ni fel Cymry eu cynorthwy i gadw Gwyl Dewi, yr elw yn myned i drysorfa y cor. Gwnaeth pawb eu gwaith yn hynod o ddeheuig, yn enwedig y llyw- ydd, sef y Parchedig H. E. Jones, gweinidog eglwys Bresbyteraidd gyn- taf Schaghticoke, N. Y., yr hwn a fu yn garedig iawn i ddod yma o bwrpas at yr amgylchiad. Dichon mai efe yd- yw y gweinidog Cymreig nesaf atom. Nid ydym yn sicr ar y pwnc, ond bu- asai rhai o honom yn lied falch pe rhai o frodyr Cymreig y weinidogaeth yn nes atom, mewn trefn i ni gael eu gweled a'u clywed ambell dro. Neithiwr, Mehefin 14eg, buom ni fel teulu, mewn "Penny Reading" dan nawdd y Cambrian Male Chorus. Dyma y cwrdd cyntaf o'r natur uchod i mi fod yn bresenol ynddo yn yr America, a chan fod y rhan fwyaf o'r "Cambrians" yn Americaniaid, rhaid mai gwaith rhyw haner dwsin o'r hog- iau Cymreig oedd y cwrdd. Yr oedd- ynt fel cor wedi cael y fath flas ar Eisteddfod y Calan, fel y penderfyn- asant gael un arall ar "small scale" yn Schenectady. Mynediad i mewn, 10c. Yr oil o'r cystadleuaeth-au yn gyfyng- edig i aetodau y cor. Yr oedd yr ar- eithwyr yn lluosog, areithio byr-fyfyr fyddem ni yn ei alw yn yr Hen Wlad. "Votes for women" oedd y testyn, ac yr oedd yn hawdd gweled fod yr hog- iau yn deall canu yn llawer gwell na gwleidyeldiaeth; chlvwais i yr un rhe- swm digonol dros i'r ferch gael y bleidlais. Mae hyny yn profi un o ddau beth, nad oes yr un rheswm dros roddi y bleidlais i'r ferch, neu fod yr areithwyr wedi methu cael gafael yn- ddo. Cawsom ddadl fyrfyfyr hefyd (amryw yn cystadlu), a chystadleu- aeth ysgrifenu Ilythyr caru, a'r cyn- faer Lunn yn beirniadu, cystadleuaeth frwd iawn oedd yr olaf, a llawer o ol meddwl ar y llythyrau, yn profi gAvirionedd y ddiarab "Use makes mas- ter." Cawsom gystadleuaeth tenor solo, baritone a bass solo, duett, un brawd yn canu bass a'r llall yn canu soprano, nes tynu dwfr o lygaid y gwrandawyr. Yr oedd dau amcan i'r cwrdd uchod, y cyntaf oedd dyddori y gynulleidfa, a'r -ail oedd ceisio cael allan pa fath ddefnyddiau a thalentau oedd y cor yn feddianol arnynt, a di- ameu i'r ddau gael eu cyraedd. Ca-f- odd pawb eu dyddori, os oedd gwyneb- au llawen yn profi hynys a chawsom brawf digonol na all pob un sydd yn canu mewn cor wneyd hyny ar ben ei, hun. Fe ofalodd yr awdurdodau am gyfyngu cylch y gystadleuaeth. Pwy wyr na eangir y terfvnau, ac y bydd yn agored i'r byd y flwyddyn nesaf.

rPORTLAND A SEATTLE. j

I "Rhydd I Bob Meddwt el Fam…

WTLKES-BARRE, PA.I

Holiad. am G-vmrn

CASGLIAD Y CAN MIL. ! 1i