Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

EH YFEL YN EWBflP

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EH YFEL YN EWBflP Y KAISER YN CAU AR Y W ASG.- CWYMP LEMBERG. Y FFRANCOD YN CYMERYD CYF- UNDREFN 0 WARCHFFOSYDD GERMANAIDD. SAETHU YS- BIWR GERMANAIDD YN NHWR LLUNDAIN.—D. LL. GEORGE YN GWTHIO YN MLAEN Y PEIJUANT NEWYDD. — DICHELL Y GER- MANIAID. Cymdeithasolwyr yn awr yn dechreu Chwyrnu.—Prydain yn myned yn fwy uenderfynol o hyd. Yn y wasg, ddydd Mercher, ym- ddangosai Germani fel pe yn dechreu gweled goleu rheswm, oblegid hysbys- id fod y Kaisser wedi atal cyhoeddiad y Tageszeitung, drwy geg yr hwn y llef- arai Count Reventlow rai o'i bethau mwyaf ynfyd. Nid oedd dim yn rhy greulon i'r gwr hwnw gefnogi a chy- meradwyo drwy ei bapyr. Magai gas at America, ac at yr holl fyd, a theim- lai Germani o'r diwedd y gwnai fwy o ddrwg pag o les, a rhoddwyd y cauad arno. Bob dydd y gwelir yn y papyrau dyddiol anwireddau o bob math, a di- au fod dyben arbenig i lawer o hon- ynt. Pala Germani ac Awstria lawer o gelwyddau gyda'r amcan o ddych- rynu y gwledydd anmhleidiol rhag ym- uno a'r Cyngreirwyr. Yn y wasg foreu dydd Iau hysbysid enciliad y Rwsiaid o Lemberg, prif- ddinas Galicia yn Awstria, a gymer- wyd naw mis yn ol. Ni wnaeth y Rwsiaid ymgais i'w dal, ond encilias- ant gyda'u holl adnoddau, a gadael y lie yn wag. Felly saif Rwsia yn ei pherthynas ag Awstria fel ag oedd ar gychwyniad y rhyfel. Symudiad nes- af Germani ac Awstria fydd gwneyd ymosodiad arall ar Warsaw, yr hon y methodd o'r blaen a'i chyraedd. Can- olbwyntia Rwsia ei holl allu yn awr i amddiffyn ei ffiniau ei hun, y rhai sydd yn gryf iawn. Hysbysir mai bwriad y Kaiser ac Ymerawdwr Aws- tria yw cyfarfod ar fyr yn Lemberg i ddathlu y fuddugoliaeth. Yn ol yr adroddiadau o Paris, colli tir y mae y Germaniaid o amgylch Ar- ras ac yn Alsace, y Ffrancod wedi cy- meryd yr oil a elwir yn "Labyrinth," sef cyfundrefn fawr o ffosydd y treul- iodd y Germaniaid lawer o amser er's naw mis i'w cryfhau, a'u gwneyd yn annghyraeddadwy. Ymwthiodd y Ffrancod yn mlaen hefyd gryn dipyn yn Alsace, yn ngolwg yr afon Rhein. Enill tir y ¡y"e y fyddin Brydeinig- Ffrengig yn y Dardanelles, a dysgwyl- ir y newydd bob dydd o hyn allan am gwblhad y gwaith yno o gael medd- iant o'r orynys. Rhyw filldir neu ddwy sydd yn aros rhwng y fyddin a chymeryd Gallipoli ar lan Mor Mar- mora. Gwna hyny yr orynys yn eiddo y fyddin, a dyogelir tramwyaeth y llongau i fewn drwy y culfor. Ddydd Mawrth gwnaed ymosodiad buddugol- iaethus ar rai o ffosydd y Tyrciaid. Ddydd Mercher, saethwyd ysbiwr Germanaidd yn Nhwr Llundain. Yn Tachwedd diweddaf, cyfarfu y Ger- man Carl Hans Lody a'r un dynged yn yr un lie fel ysbiwr. Atafaeliwyd y Muller hwn yn nghyd ag Anton Kuepferle, yr hwn a gaed wedi ym- grogi yn ei gell yn y carchar ychydig amser yn ol. Y mae German arall yn y ddalfa eto o'r enw Robert Rosen- thal. Nos lau, Meh. 24, yn y Madison Square Garden, New York, yr oedd Bili Bryan mewn meillion, yn nghanol y Germaniaid, yn siarad am heddwch yn nghanol pleidwyr rhyfel o'r dech- reu, a rhai oedd a'u bryd ar orchfygu y hyd er's Dum mlynedd ar hugain, ac wedi parotoi yn helaeth iawn ar gyfer yr ymdrech. Yn y cyfarfod yr oedd llysweision Germani, Awstria a Thwr- ci yn llenwi seddau o anrhydedd a pharch. Yn y wasg ddydd Gwener hysbysid fod Prydain yn myned ati o ddifrif o hyn allan dan symbyliad a chyfar- wyddyd D. Lloyd George i droi allan gyflawnder o foddion rhyfel, a theim- lir yn ymddiriedol na fydd prinder mwy ar ol hyn. Dadleua rhai mai diffyg trefn a ffynai hyd yma, a bod digon o ddwylaw yn barod i ymgy- meryd a'r gwaith. Cydnabyddir mwyach fod y dyn iawn (sef D. LI.) wrth y gorchwyl grymus. Agorwyd 200 o swyddfeydd y dydd o'r iblaen i gyflogi gweithwyr a'u trefnu i fyned am y gwaith pwysfawr o amddiffyn y deyrnas. Gelwir pawb i'r llinell weithio i gyflawni angenrheidiau y llinell danio. Ar ei ffordd i Germani drwy Nor- way, ataliwyd y Hong a ddygai Dr. Dernburg, ac wedi ei chadw yn Kirk- wall, Ysgotland. un noson gadawyd hi i fyned ar ei thaith. Dywedir mai'r amcan oedd chwiJio pac y Dr. er cael gweled a oedd rhyw ddrwg i fyny ei lawes. Bu y Dr. yn o ddiwyd a thaf- odrydd yn America, a'r diwedd fu iddo gael rhybudd dystaw i fyned adi-ef. Er nad oes llawer o adroddiadau o symudiadau y fyddin Ffrengig yn ngogledd Ffrainc ac Alsace, amlwg yw fod y Germaniaid yn colli tir yno yn raddol ac mai anobeithiol yw eu hachos oddigerth iddynt gael adgyf- nerthion cryfion ar fyr. Symuda y Ffrancod hefyd yn mlaen yn Alsace, a bygythir cwymp Colmar. Daeth y newydd o Basel, Yswitzdir, ddydd Gwener, fod y Germaniaid ar encil yn Alsace. Wedi cyhoeddiad y rhyfel rhwng yr Eidal a'r ddwy ymerodraeth, cauwyd pob-porthladd yn Mor v Canol- dir yn erbyn Germani ac Awstria. Atelir gwybodaeth allan o Awstria yn o lwyddianus, ond y ffaith yw y rhaid fod cryn newyn ymborth yno. Nid yn unig y mae ymborth yn brin, ond y pr'siau yn uchel iawn. Un ddichell gyfrwys o eiddo y Ger- maniaid yw taenu celwyddau drwy y wasg i gadw gwledydd bychain Ewrop mewn ofn, fel na wnant ddim i gy- northwyo Prydain, Ffrainc a Rwsia. Ymddengys v celwyddau hyn yn awr ac eto, a digon hawdd yw gwybod mai celwyddau ydvnt. Dvddiant y cel- wyddau hyn o Paris, Llundain a Petrograd, Rwsia, er v gwneir hwy yn Germani neu America. Y mae Ger- maniaid America am eu bywyd yn llunio anwireddau i ddylanwadu ar v meddwl Americanaidd ond yn ofer. Y celwydd wasgerid ddydd Sadwrn yn y wasg Americanaidd oedd fod IS corff milwrol yn Germani yn troi allan i faes y gwaed i ddau gyfeiriad. Gan fod y nwy yn diffygio. trv Germani ei Haw eto at gelwvdd fel offervn evfleus. Ddiwedd yr wythnos, hysbysid Tod y fyddin Germanaidd-Awstriaidd wedi treulio ei hun allan erbyn cvraedd cyffiniau Awstria, a'i bod wedi ei hatal gan y Rwsiaid. Fel v dywed awdur- dodau ar y rhyfel, nid vw cymeryd meddiant o Lemberg yn fawr o gy- morth i'r Germaniaid a'r Awstriaid. Aent hwy yn mhell oddiwrth eu cyf- lenwadau, tra yr agoshaai y Rwsiaid at eu llinell gyffiniol hwy a'u cronfa o nwyddau rhyfel. Un newydd dyddorol a gyhoeddid d diwedd yr wythnos oedd fod y Cym- deithasolwyr d"wy Germani yn de- chreu ynhyfhau, yr hyn a brofa yn ddiau fod awdurdod y Kaiser yn myn- ed dan gwmwl. Pan dorodd y rhyfel allan, ni feiddiai neb agor ei enau yn erbyn y Kaiser a'i gethern filwrol, ond v dyddiau diweddaf hyn y mae y blaid Gymdeithasolaidd yn dechreu teimlo fod eu gwlad yn carlamu i gyf- eiriad dinystr, a'i fod yn ddyledswydd i wneyd rhywbeth i'w hatal. Ebe Dr. Liebknecht yn v Reichstag (Senedd) y dydd o'r blaen. "Y mae y boibl gyda ni, ac y mae y bobl am heddwch." Siaradai amryw i'r un cyfeiriad. ac hi lefarai gweision y llywodraeth mor bend,ant a haerllug a'u harfer. Brydnawn Sadwrn, gwelid y ddau newydd gyda'u gilydd, sef ataliad y Germaniaid a'r Awstriaid gan y fydd- in Rwsiaidd, ac a1)e1 y Cymdeithasol- wy Germanpidd am heddwch. Gwnaed yr anel hwn yn y cyhoeddiad Cymdeithasolaidd yn swyddogol gan gynrvchiolwyr penaf y blaid, yr hyn a. arwydda yn ddifeth fod y bob! Grr- r>^anaidd wedi alaru ar y rhyfel. Yr oil a all Gei'irani ddvsgwyl bellach vw ei ei hun. Y mae ei go- baith am fyd-reolaeth wedi esgyn i fyny yn fwg a disgyn yn llwch. Yn y wasg foreu Sul, adroddid am wrthdafliad y fyddin Germanaidd- Awstriaidd gan y Rwsiaid ar lanau yr afon Dniester, ond pery y wasg i son rnai bwriad y Germaniaid yw symud yn mlaen am Warsaw, prifddinas Poland yn Rwsia. Gwnaed y symud- iad hwn o'r blaen pan oedd Germani yn gryfach nag yw heddyw, a meth- wyd. Cynyddu y mae y penderfyniad yn Mhrydain a Ffrainc i ymladd a gorch- fygu Germani yn llwyr, unwaith am byth. Rhyw haner cysgu y bu Shon Darw hyd hyn, ond y mae arwyddion heddyw ei fod yn dechreu ymysgwyd a rhwbio ei lygaid. Y mae Shon a'i iblant yn dda am lawer o ymdrech eto. Bwriada ychwanegu 50,000 at y llynges. Y mae yn y llynges yn barod 250,000. Y mae clawdd uchel ac en- bydus rhwng y Kaiser a byd-reoiaeth. Y mae D. Lloyd George o'r diwedd wedi llawer o ymdrech yn dechreu gwneyd i olwynion trymion neiriant cyflenwi defnyddiau rhyfel-defnydd- iau tan a brwmstan-droi, ac addewir d'.gon ar fyr. Y mae wedi cael pen- aethiaid undebau llafur drwy y wlad hefyd i gymeryd dyddordeb yn amddi- ffyniad y deyrnas. Y mae rhai blaen- oriaid Ilafur hyd yn ddiweddar. wedi bod yn gwirioni ac vn g()od rhwystr- au ar ffordd y llywodraeth. Prin oedd y newyddion foreu dydd Llun. Hysbysid fod cyngorwyr Ger- mani mewn cyfyngdra beth i'w wneyd i ateb Nodyn olaf yr Arlywydd Wil- son; y naill iblaid am ymgymodi a'r llywodraeth yn Washington, a'r llall am barhau i stiddo llongau teithwyr. Hysbysid hefyd fod yr Eidal yn bwr- iadu anfon rhan o'i llynges i'r Dar- danelles i. gynorthwyo yn narostynsr- iad Twrci. Cymysglyd oedd yr adrodd- iadau o Ogledd Ffrainc. ond delid yn mlaen i adrodd fod y Rwsiaid yn en- cilio yn ol dros ei chyfflniau o Galicia. Bygythir ymraniad difrifol vn Ger- mani rhwng y blaid filwrol a'r Cym- deithasolwyr. Cymer y wasg yn Ber- lin yr ochr gyferbyniol i anel y Cym- deithasolwyr ymddangosodd yn y "Vorwaerts," ac ystvriant y mudiad yn ddisynwyr. Hysbysir eto fod Bili Bryan yn cychwyn ar el daith i hedd- ychu y byd, a choffa i ni ymgyrch Don Quixot gynt. Dysgwylir cryn lawer y dyddiau hyn wrth y fyddin unol ar y Dardanelles, a darogenir y bydd cwymp y caerfeydd hyny yn ddechreu y diwedd. Yn y wasg ddydd Mawrth, hysbysid fod yr Eidal yn anfon rhan o'i llynges i'r Dardanelles, ac ymddangosodd bryseb o Copenhagen yn adrodd am y Kaiser ar faes y gwaed yn Ngogledd Ffrainc yn wylo uwch ei filwyr 11a dd- edig, gan dystio nad ei waith yw y rhyfel. Hysbysid héfyd fod y German- iaid yn bwriadu i'r Belgiaid gael medi eu meusydd, ar y rhai y dysgwylir cnydau go dda. Y mae amryw ar- wyddion y dyddiau hyn fod Germani yn ymbwyllo, ac yn dod i'w synwyr. O'R PAPYRAU CYMREIGr. "Lord High Explosive," dyma'r teitl rydd "Punch" i Mr. Lloyd George ar ei benodiad i'w swydd newydd. Mae nifer o filwyr o Abertawe wedi colli eu bywydau ar faes y gad y diwrnodau diweddaf. Cyfrifir fod dros 12,OCO o wyr y dref yn y fyddin. Coleg Aberystwyth ddanfonodd fwyaf o'i fyfyrwyr i'r rhyfel, Coleg Bangor yn ail, a Choleg Caerdydd yn drydydd. Dau bregethwr oedd mewn gwisg filwrol yn Nghymanfa Gyffredinol v M. C. yn Llundain-y Parchn. John Williams, Brynsiencyn, a Ceitho Davies. Crogwyd pedwar o filwyr India yn Meerut, ychydig amser yn ol, am wrth- od hysbysu'r awdurdodau o deyrn- fradwriaeth yn erbyn y Wladwriaeth, a hwythau'n feddianol ar y wybod- aeth. "Dim ond i unrhyw ddyfl waeddi nerth ei ben y gair 'German' mae'n sicr o greu aflonyddwch dychrynllyd ar unwaith." Dyna dystiolaeth Ynad Heddwch Marylebone. "Mae'r bwledi yn disgyn fel reis mewn priodas," felly y desgrifia un milwr ergydion y gelyn, ond dywed fod ei gyd-filwyr yn fechgyn ardderch- og, ac yn ddeiliaid o'r wlad oreu dan haul.. Mae dros 1,500 o Wesleyald Cym- t reig yn perthyn i'r fyddin a'r llynges. Dywedai y Parch. P Jones-Roberts, caplan yr enwad, fod ymddygiad y rhai sydd dan ei ofal ef yn bob peth ellir ddysgwyl. # Cyn diwedd mis Mehefin bydd holl adranau y Fyddin Gymreig wedi eu symud i wahanol wersylloedd. Bydd- ant oil yn mron yn trigo mewn pebyll neu fwthynod rhagllaw. Yn awr y mae y galw am wasanaeth caplaniaid yn dechreu. Tra yn trafaelio gyda'i gariad yn un o'r omnibuses yn Putney y nos o'r blaen, disgynodd milwr o'r enw Cliff- ord Jones, 32ain oed, i lawr yn farw. Perthynai y trancedig i'r Queen's Westminsters, ac yr oedd newydd ddy- chwelyd o'r ffrynt wedi ei glwyfo yn ei ben. Ychydig amser yn ol yr oedd milwr Cymreig yn gorwedd yn wael mewn ysbyty, ac ar brydiau yn ddyryslyd. Aeth y caplan yno i edrych am dano, a siaradodd yn dyner wrth y claf. Pan ar ymadael gofynodd y caplan: "Oes yna rywbeth allaf fi wneyd i chwi?" Edrychodd y claf ar lawes y caplan, ac atebodd: "Gofynwch i'r gweinidog ddyfod yma i edrych am danaf." Yr ydym wedi clywed am ami i weinidog wedi ymuno a'r fyddin fel Caplan, ac am fwy na hyny yn ym- geiswyr am y swydd yma ac acw, ond y Parch. George Thomas, (B. A., Gwdig, Abergwaen, yw un o'r rhai cyntaf i ymuno fel milwr cyffredin. Mae wedi cael caniatad gan ei eglwys i absenoli ei hun, ac y mae wedi ymuno fel mil- wr a'r Royal Garrison Artillery. Mab vw Mr. Thomas i Mr. Thomas Thomas, gynt "official receiver," Caerfyrddin. Yn un o drefydd y Gogledd, daeth y rhingyll milwrol i gvfarfyddiad a mab a merch yn nghwmni eu gilydd. Yn gweled fod y mab yn ddyn ieuanc tebygol. gydag ysgwyddau ysgwar, ataliodd hwynt, a gofynodd i'r ferch ieuanc a fuasai yn rhoi ei bachgen i'r fyddin. Edrychai v dyn ieuanc yn an- nghvfforddus, ond atebodd yr eneth ar unwaith ei bod eisoes wedi rhoi dau i'n fyddin, ac yn pier y gallai v swyddog milwrol adael iddi v trydydd. Mae canoedd lawer o Gvmrv yn y rhyfel sydd yn myned yn mlaen ar y Cyfandir, ac nid oes dim yn rhoddi rriwv o bleser iddynt na chae] vnrgom neu bregeth gan weinidosr o Gymru. Gofynai un y dydd o'r blaen yn Ffrainc i rai o'r Cymry oedd yn v trenches a fuasent yn hoffi iddo gario rhyw genadwri i Gymru, pryd yr ateb- asant mai y peth goreu ar y ddaear a fuasai cael "Brynsiencyn" i'w plith, a chael pregeth ganddo. Diameu y calff eu dymuniad ei sylweddoli yn bur fuan, gan y dywedir y bydd Mr. Wil- liams yn myned i Ffrainc. Mae yn awr tua 24 o filwyr clwyf- edig yn yr "Edward Malam Home" yn Deganwy, yr hwn a ddefnyddir fel ys- byty, a dysgwylir rhagor eto. Rhodd- ant hanes dyddorol, er ei fod hefyd yn ddifrifol, am y brwydrau poethion y buont ynddynt yn St. Julien, Neuve Chanelle, Ypres, a manau eraill, Dangosir llawer o edmygedd o honynt; a gwelir hwy un dydd yn myned i'r wlad mewn motor car a'r diwrnod arall mewn motor boat ar yr afon ar gost personau hael a charedig. Salf yr Home ar dir uchel uwchlaw afon Conwy, ac y mae y golygfeydd oddi yno yn ardderchog. Ca'r milwyr dewr fwynhad wrth wella, ac y maent yn awyddus i erael adferiad er mwyn myned eto i'r ffrynt. ♦»»

YM0FYNIA3

Advertising

Fair Haven.-1

NEW YORK A VERMONT

I Y PARCH. J. PARRY JONES.

Advertising