Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

EH YFEL YN EWBflP

YM0FYNIA3

Advertising

Fair Haven.-1

NEW YORK A VERMONT

I Y PARCH. J. PARRY JONES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PARCH. J. PARRY JONES. Dyma ddarlun o'r Parch. John Parry Jones, o Benrhyndeudraeth, Gogledd Cvmru, yr hwn ar hyn o bryd sydd yn gofalu am eglwys y M. C. yn Salem, Long Creek, Iowa. Mab ydyw i J. Parry Jones, yr ar- werthwr dawnus a dyddan.o'r Pen- rhyn. Dechreuodd bregethu yn I Parch. J. Parrv Jones. I Nhowyn tra yn ysgolor yn yr hen ys- gol Ragbarotoawl y -Bala, ac oddi yno aeth i'r Athrofa Dduwinyddol. Gor- plienodd pi yrfa golegawl yn 1914, a daeth allan ychydig cyn marwolaeth y diweddar Brifathraw Dr. Ellis Ed- wards. Cafodd yrfa wych a chipiodd rai o'r nrif wobrau. Gwr ieuanc yn berc-hen doniau pen a chalon ydy\v Mr. Jones. Ganwyd ef yn freiniol, rhoddwyd iddo ymddang- osiad enillgar, llais soniarus a dawn yr Hen Gorff yn helaeth. Pregethu ydyw ei nwyd a gall ddefnyddio y ddwy iaith fel v myn. Ei gredo ei hunan sydd ganddo, ac o herwydd hyny y mae bvwyd ac ysbrydiaeth yn ei bregethau. Y mae iddo lu o gyfeill- ion yn yr Hen Wlad sydd yn hiraethus iawn am dano. Cysurant eu hunain wrth gofio mai rhoddi benthyg Mr. Jones y maent. Dysgwyliant yn aidd- gar am ei ddychweliad, oblegid gwydd- ant fod yn rhaid i'r Hen Wlad wrth ei debyg i gyfarfod a phroblemau dyrys y dyfodol. Hyd hyny. chwi Gymry yr America, gwn ewch yn fawr o hono a bydded yn fenditb i chwi.—T. H. W. ♦ » »

Advertising