Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 OSHXOSH, WIS. I

I CRONF A LLOYD GEOImE.

Advertising

IADOLYGIAD Y WASG.

I BUDDTJC-CT, EISTEDDFOD PITTSBURGH.…

COLUMBUS. 0.

Advertising

PYTIAU 0 PITTSBURGH. PA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PYTIAU 0 PITTSBURGH. PA. Priodas Ffasivnol vn Puiixsutawney. —Triawd Cerddsrar. Manion Cvmreie. Gan Cymro. Pittsburgh, Pa., Mehefin 21.-Nos Fawrth, Mehsfin 8, unwyd mewn glan briodas Miss Florence Fisher, Punx- sutawney, Pa., a David William Parry, Pittsburgh, gynt o New York, yr hyn gymerodd le yn anedd glyd rhieni y briodasferch, yn ngwydd ped- war cant o wahoddedigion. Yr oedd yr anedd-dy wedi ei addurno yn bryd- ferth a blodau persawrus a deniadol, a'r gwisgoedd priodasol wedi eu llunio yn arddull cyfnod 1830, yr hyn oedd yn ychwanegu llawer o bertrwydd hynafiaethol i'r gweithrediadau. Y forwyn briodasol ydoedd Miss Eliza- beth Shope, o Williamsport, a'r gwas priodasol ydoedd Richard Parry, New York, brawd y priodfab. Gwasanaeth- wyd ar yr achlysur gan y Parch. Henry V. Madtes, gweinidog eglwys y Bedyddwyr Seisnig. Mwynhawyd ar- west briodasol yn y ball room, ac yna gwynebodd y ddeuddyn dedwydd ar, daith briodasol yn y dwvrain, gan ar- faethu treulio y mis mel yn Havana. Cuba. Ar eu dychweliad cartrefant yn Baywood Street, yn y ddinas hon. Mae y briodasferch wedi cyraedd cryn enwogrwydd fel. dramayddes, ac y mae yn chwareuyddes o nod ac yn areith- yddes athrylithgar. Bu am gyfnod yn cymeryd rhan flaenllaw yn y ddrama, "The Typhoon," ac yn ddiweddarach bu yn chwareu y rhan flaenaf yn "The Silent Hour." Mab ieuengaf William Parry, New York, ydyw y priodfab, a chynrychiolydd y National City Bank of New York yn v ddinas hon. Mae tad y priodfab- yn hen "Ddrychwr" selog, ac yn bur adnabyddus i chwar- elwyr Vermont. lie v treuliodd lawer o tlynyddau. Dichon mai wrth yr enw "'Rhen Bar," yr a-dnabyddir ef oreu gan ei hen gyfeillion yn y broydd chwarelvddol, un o dvl-wyth dewr y Pariaid o Penybrvn, Bethesda, Arfon, sef Die Shon, Robin a Will Parry, rhai o honynt wedi gwasanapthu yn myddin Prydain, a "Die Will Parrv," sef William Parry, yn un o honvnt. Er fod Dafyfld Parry, y priodfab, wedi cyraedd safle bwysig yn ei broffes fel arianwr, nid ydyw yn llai Cymro. serch hyny, canys ymffrostia yn ei waed Cvmreig, fel y cafwyd prawf noswaith y briodas. pan ddadgano-dd gan i'r gwyddfodolion mewn Cvmraeg dilediaith. Yr oedd Mrs. T,ii-elle Millar Werner, un o gantoresau gwych Pittsburgh, a chyfeilles fynwe-sol i'r briodasferch, yn bresenol yn y briodas, a mawr ydyw ei chlod o'r trefniadau a'r gweithrediadau priodasol. Yn eis- tedd wrth y bwrdd priodasol yr oedd y oymrawd dyddan o'r brifddinas. Wm. Parry, tad y priodfab, yn ogystal a'r mab Richard. Dymunwn i'r ddeuddyn dedwydd bob llwyddiant a hapus- rwydd, a bydded eu gyrfa yn gan; felodaidd a swynol ar ei hyd. Nos Sadwrn diweddaf, yr oedd tri- awd o gantoresau, sef Miss Esta. Wilkins, soprano: Miss Peggi Herbert, contralto, a Miss Dorothie Smith, violiniste, yn cyngerdda yn nghapel Oakland, yn cael eu cynorthwyo gan Anthony M. Jones, tenor, a Gwilym Samlet Thomas, basswr. Cyn-aelodau o gor Merched Caerclydd ydyw y tair cantces a nodwyd, ac y maent yn ddadgeinyddesau gwych. Ar eu ffordd yn ol i Gymru y maent, wedi taith. gyngerddol a allasai fod yn llawer. mwy llwyddianus. Mae Miss Smith yn feistres ar y crwth, ac wedi enill bathodyn yn yr Academy of Music yn Llundain, yn ogystal ag yn yr Eistedd- fod Genedlaethol. Mae'r ddwy arall yn feddianol ai-, leisiau diwylliedig ac yn gantoresau cain. Er mai byr am- eer gafwyd i drefnu y cyngerdd, daeth cynulliad lied dda yn nghyd, a gwnawd elw cymeradwy. Bydd Cymdeithas Dewi Sant yn cynal yr aduniad blynyddol eleni yn yr Homestead Park, y Sadwrn olaf yn Gorphenaf. Mae y pwyllgor trefniad- 01 yn dyfal barotoi ar gyfer yr adun- iad, ac os ceir tywydd dymunol, diau y bydd yno gynulliad da. Mae gair wedi cyraedd dros y weilgi fod Dewi Michael, trefnydd y Gwent Glee Singers, yr hwn gafodd ddiangfa wyrthiol o ddyfrllyd fedd pan sudd- wyd y "Lusitania," ar fedr troi ei wyneb gyda chor arall am America, a bydd yn hwylio o Lerpwl ddechreu y mis nesaf, gan fod y cor wedi ei gyf- logi am dymor ar daith Chautauqua- yddol, gan ddechreu tua chanol Gor- phenaf.—Cymro.

ODDIAR LANAITR TAWELFOR. I