Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 OSHXOSH, WIS. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 OSHXOSH, WIS. I Gan Edno. I Gan fod cyfnod maith wedi myned hebio er pan anfonwyd y nodion diw- eddaf oddiyma, nid hawdd gwybod ya mha fan i gychwyn yn bresenol. Bu Cyfarfod Blynyddol y Feibl Gymdeith- as, yr hwn gynaliwyd yn y capel Cym- reig, Mai 16eg, yn un lied lwyddian- us. Cymerwyd rhan ynddo gan amryw dalentau Ileol mewn canu ac adrodd, ac yr oedd y Parch. Edward Roberts yn cael ei gyfle cyntaf i'n cyfarch ar ran y gymdeithas werthfawr hon. Hefyd, yr oedd Dr. S. H. Kirkibride o Chicago gyda ni yn y prydnawn, a chafwyd ganddo anerchiad rhagorol. Rhwng yr hollbethau da glywsom, yr oedd y brwdfrydedd wedi codi yn ddymunol. Y mae Dr. Kirkbride yn Ysgrifenydd y rhanbarth hwn o'r wlad, a da oedd ganddo gael bod gyda ni yn ein cwrdd blynyddol. Cafodd y casglyddion o noson y ewrdd hyd nos Lun cyntaf yn Mehefin i ymweled a'r aelodau, a chael yn nghyd gynyrch y llafur, a chafwyd fod y swm ddaeth i law yn $98. Mae yn ddrwg genym fod casgliad Cymry dinas Oshkosh yn lleihau yn lie cynyddu. Effaith colli hen ffyddloniaid yr achos ydyw hyn yma fel mewn lleoedd eraill. Ethol- wyd y personau canlynol yn swyddog- ion am y flwyddyn ddyfodol: Llyw- ydd, Luther Davies; is-lywydd, C. A. Jones: ysgrifenydd, Hugh E. Jones; trysorydd, David Jacobs; llyfrgellydd, John Owens. Cafwyd Cymanfa yn Peniel yr wyth- nos o'r blaen, a throes allan yn llwyddiant, gallwn feddwl, wrth glywed pawb yn ei chanmol.. Yr oedd gweinidogion y dosbarth yno yn Hed gryno, a dau weinidog o Gymru, sef y Parchn. Gray Davie.s a Pryth- 9 lerch, a phregethodd y ddau yn rhag- orol; Mr. Prytherch ddwywaith, a Mr. Davies unwaith yn Saesneg. Anffafr- iol oedd y tywydd-niwliog, oer, a gwlyb. Ychydig iawn o wenau haul gafwyd ar y Gymanfa o gwbl. Aros- odd y dyrfa o gylch y capel drwy y dyddiau braidd, gan fod ymborth ddi- gon wedi ei ddarparu gan y trigolion haelionus mewn pabell eang ar du de- hau y capel, a dyeithriaid a brodorion yn cael cydfwynhau y bwyd a'r ym- ddyddanion fel un teulu. Er y cyfnewidiadau mawrion yn mhregethwyr ac aelodau Cymanfa Welsh Prairie, yr oedd yn dda genym weled a theimlo fod dylynwyr yr hen gewri yn gallu defnyddio arfau y fil- wriaeth efengylaidd gyda llawer iawn o fedrusrwydd a grym. Credwyf mai pregethau y brodyr Edward Roberts nos Fercher, un William Matthews koreu lau, ac un Mr. Prytherch bryd- nawn lau sydd yn cael mwyaf o son am danynt gan y rhai a'u clywsant. Cafodd trigolion y ddinas yma y ples- er o gwmni amryw dros y Sul o ddy- eithriaid wedi bod yn y. Gymanfa; rregys Mr. Wm. Hughes. Cambria: Mrs. John, Randolph; Mr. a Mrs. John H. Williams, Milwaukee: a Mrs. W. R. Edwards, Columbus. Y Parch. Ellis R. Roberts a'i briod hefyd fuont yma dros ran o'r wythnos bresenol gyda ei frawd. Neithiwr, nos lau. yr oedd y blaen- or OweR Morsran o Picketts a'r Parch. F. Tegfryn Roberts. Randolph, yma yn cymeryd llais yr eglwys am neill- duad Mr. John R. Roberts, sef mab ein gweinidog. i waith y weinido- gaeth. Wedi cael atebion i'r holiad- au yn bur foddhaol, cymerwyd pleid- lais aelodau yr eglwys. Canwyd un penill tra. bu y swyddogion yn cyfrif y pleidleisiau. Pleidlais yn ffafr v brawd ydoedd, heb un wrthwyneboi. Aeth Tegfryn drwy ei waith yn rhwydd a deheuig, a chaed ganddo ef a Mr. Morgan lawer o gyngorion def- nyddiol. Cwyn pawb yma bron ydyw y tyw- ydd cymvlog ydyrn wedi gael er dech- reu mis Mai hyd heddyw. ac y mae yn gwlawio yn drwm yn bresenol. Er fod yr awel wedi tvneru, y mae ei lleithder yn parhau o herwydd trwch y cvmylau. ac y mae gweled gwlaw- len dan eesail bron bawb yn fv adgof- io am Ffestiniog. Wrth fyned ar y eerbydres tua'r Gymanfa, ceirl golwg addawol iawn ar y gerddi a'r meu- svdd oil. oddigerth v corn, yr hwn sydd yn cael ei ddal yn ol can oerder vr hin. a diffyg gwenau adfvwiol yr haul clir yn y wybren.

I CRONF A LLOYD GEOImE.

Advertising

IADOLYGIAD Y WASG.

I BUDDTJC-CT, EISTEDDFOD PITTSBURGH.…

COLUMBUS. 0.

Advertising

PYTIAU 0 PITTSBURGH. PA.

ODDIAR LANAITR TAWELFOR. I