Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 OSHXOSH, WIS. I

I CRONF A LLOYD GEOImE.

Advertising

IADOLYGIAD Y WASG.

I BUDDTJC-CT, EISTEDDFOD PITTSBURGH.…

COLUMBUS. 0.

Advertising

PYTIAU 0 PITTSBURGH. PA.

ODDIAR LANAITR TAWELFOR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ODDIAR LANAITR TAWELFOR. I Gan Dewi.  Gan Dewi. I Los Angeles, Mehefin 14.—Nos lau diweddaf, cawsom wledd gerddorol o'r fath oreu, pryd y rhoddodd yr Orpheus Club, sef cor meibion y ddinas, gvng- erdd uwchraddol. ^orlenwyd yr adeil- ad eang y Trinity Temple, a chawsant hwyl 1tnarferol gyda'r canu. Gwna y cor hwn i fyny o driugain o aelodau dan arweinydd Proffeswr Joseph P. Dupuy (Ffrancwr o genedl, gallem feddwl). Yr oedd ganddynt raglen glasurol, ac yno hefyd, fe ganwyd (larn cystadleuol Eisteddfod fawr y by-d San Francisco, sef "The Assyrian Came Down," o waith Cymro glan gloew Cyril Jenkins, ac yn sicr dernyn o dest campus ydyw hefyd. Hoffem ef yn fawr. Mae ynddo felodedd a bywyd trwyddo, ac mewn rhai manau teimlem fod y 1st tenors dipyn yn wan a'r 1st basswyr yn canu llawer yn rhy ffyrnig ac uchel. Yr oedd y bass isaf o ansawdd dda, ond yn gynyrfus ac ansier; ond o ran hyny, y mae yn syndod fod arweinydd wedi gallu cadw cymaint o rai ieuainc dibrofiad o dan lywodraeth mor dda, a chredwn fel y byddant yn myned o dan ddysgyblaeth fwy manwl a llwyr o hyn i amser y gystadleuaeth. v deuant i ganu yn fwy melodus a Kieddylgar, ac y maent yn addaw yn gryf y deuant a'r bacwn gartref i ddinas yr Angelion. Gwyl- iwch gorau meibion Cymraeg y Tal- aethau yma. Mae ganddynt eu snecial tren yn barod, ai tybed na allem fel Cymry deheuir Califfornia gael Welsh special tren i'r ffair. Gwyddom fod cryn nifer yn bwriadu myned i fyny. Cred- wn fod golwg am Eisteddfod lwydd- ianus ac addawol iawn. Dysgwylir cael miloedd lawer o'n cydgenedl yn yr wyl. Ai tybed na allwn i gael head quarters gwahanol i siroedd o Gymru. Purion peth fyddai hyny, er rhoddi mantais i ni ddod i ymgydnabyddiaeth a'n gilydd. Gan bydd i Arfonydd gvn- rychioli sir Arfon. gan fod Hugh Lloyd mewn gormod gwaith yn barod gyda'r wyl; ac eraill fydd yn barod i'r un gwaith. Meddylier am hyn. Aeth y Parch. Wm. O. Williams, o Granville, drwy y ddinas yma am Oak- land: efallai na fu iddo deimlo yn ddigon o angel i ddisgyn yn ein plith, ac iddo ail ehedeg nes cyraedd pen v daith. Yr oeddem wedi edrych yn mlaen am dano, er cael Sabboth neu ddau yn ei gwmni yma; ond o bosibl y bydd i'n gweinidog, y Parch. R. H. Jones, ei berswadio i aros ar ei ffordd yn ol. Cawsom v fraint o fod yn ei eglwys yn Granville tua deng mlynedd yn ol. Y mae yn barchus ac wedi enill iddo ei hun le dwfn yn serchiadau. nid vn uni^ yn ei eglwvs ond trwy gylch Cvmanfa New York a Vermont, a phawb a'i hadwaena. Mae yn ibrr- gethwr a bugail rhagorol, a deallwn nad yw ei lechld yn hyn ddymunai fod, a chredwn v gwna y ddau fis ar y glanau hyn fod o les mawr iddo. I-Ty- derwn yn fawr ei weled a'i glywed tra yn Ffair yn San Francisco. Y Parch. R. H. Jones, ein gwein- idog. a'r teulu sydd vn dod yn fwy cartrefol yn ein nlith. ac yn pregethu yn felus iawn 1 lonaid canel o wran- dawvr o Sabboth i Sabboth, ac v mae wedi pwrcasu iddo ei hun fodur hardd, yr hwn fydd o ddefnydd mawr iddo ymweled ag aelodau yr eglwys yma, pa rai sydd ar wasgar drwy bob rhan o'r ddinas. Drwg genym nad yw iechyd Mrs. Jones yn gryf; treulia hi ychydig ddyddiau mewn tawelwch yn Long Beach, llecyn bychan tlws ar lan y Tawelfor, a diau bydd i'r newidiad fod o werth iddi er ei dwyn eto i'w chyf- lawn iechyd. Fe alwodd yr aderyn mawr heibio anedd-dy Fred Hughes gan adael mab bychan; y fam yn gwella yn gampus.