Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

MORIAH, BEDLINOG.

ITELERAU RHESYMOL HE DOW CH.

I Bryn Seion, Pencoed.

I CASTELLNEDD A'R CYLCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CASTELLNEDD A'R CYLCH. Maesyrhaf.—Mae y Parch W. E. Daniels, B.A,, gweinidog yr eglwys hon, wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys Siesaeg Emmanuel, Cas- newydd, Mynwy, a bwriada ddechreu ar ei weinidogaeth yn ei faes newydd ar fyrder Dymunwn iddo lwyddiant raawr yn y cylch pwysig a chynyddol y mae ei wyneb arno Syr Thomas Price. K.C M.G.—Bu y gwr enwog ac adnabyddus hwn ar ymweliad yn ddiweddar a'i dref enedigol, ac, yn ol ei arfer, bu yn y gwasanaeth yn Soar a Siloh, Melin- crythan, gyda pha rai y mae yn dal pertbynas oddiar dyddiau ei febyd. Ar achlysur ei ym- weliad k Soar. rhannodd y llyfrau i'r plant, fuorrfc yn casglu at y Genhadaeth. Edrycba yn dda, a phery ei galon i guro yn gynnes tuag at yr achos goreu. Sardis, Efailfacli.—Bu y Parchn T Ogwen Griffith, Port Talbot, ac O. Lloyd Owen, Pont- ypridd, yn gwasanaethn gyda hwyl ac arddeliad yng nghyfarfodydd yr eglwys hon yn ddiweddar. Siloh, Cwmgwrach —Sul a Llun, Gorffennaf 16eg a'r 17eg, pregethwyd yn dra effeithiol yng nghyrddau blynyddol yr eglwys hon gan y Parchn Joseph James, B.A., Llandysilio, a W. J. Rees, Alltwen. GOHBBYDD.

[No title]

Family Notices

Advertising

ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.