Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
TRBWYDDEL A CHIPYN, PENFRO. BYDD Cyfarfodydd Sefydlu y Parch T. E. Jones, Efailisaf, fel gweiuidog i'r cyloh uchod, nos Fawrth a dydd Marcher. Awst 29ain a'r 30ain. Disgwylir i bregethu y Parohn J. R. Davies, Pentyrch H. T. Jacob, Abergwaun; a B, Davies, D.D., CasteU- newydd Emlyn. Pregethir yn y drlau gapel -Bethel a Brynsalem-rios Fawrth am 6.30. Bore dydd Mercher am 10, pregethir dwy bregeth siars-y naill gan Mr Jacob i'r gweinidog, a'r UttU gan Dr Davies i'r eglwysi. Am 2 y prynbawn bydd y Cyfarfod -efydlu Cymerir y gadair gan y Parch .1);. J. Lioyd, Llan- dndoch. Hefyd siaredir ar bynclau gun y Parchn E. A. Jenkins, Moriah, a Rhys Williams, Maenc'ochog', a chymer brodyr eraill ran yn y gwasanneth. Bydd odfa bregethu am 6 yr hwyr. Mae gwaboddiad oynnes i bawb i'r cyfarfodydd, a pharatoadau helaeth. T. THOMAS, « sg.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Cyfaill.—Cafodd arall y blaen arnoch. Diolch, er hynny. Mewn Llaw -Lloyd-street, Llanelli-- -I,l ail- sanfftraid, Maldwyn—Maentwrog—Gorseition-— Maellclochog-Gwlad Mari J ones--Bethesda, Arfon--Pniikey- Cyfarfodydd, &c.
YR YSGOL. SUL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR YSGOL. SUL. GAN Y PARCH. J. MORGAN JONES, M.A., BALA-BANGOR. Gw AITH pennaf a phwysicaf unrhyw genhedlaeth yw codi cenhedlaeth well na hi ei hun—mewn corff, enaid ac ysbi-vd. Dywed ben driawd Cymreig mai tri angen- rhaid pob pentref yw melin a gefail ac ysgol, a'r mwyaf o'r tri i'w ysgol. Bwvd a gwaith ac addysg yw tri angenrhaitl bywyd. Ac o bob ysgol, yr Ysgol Sul a ddylai fod yr ysgol oreu, oblegid addysg pob addysg yw addysg mewn moesoldeb a chrefydd. Ni wedir y ffaith gan neb heddyw. Pa beth bynnag yw achos ac ystyr y rhyfel, nid oes neb am wadu iddo godi o ddiffyg addysg effeithiol, a'i fod yn galw am addysg rymusach, dvfnacli ac eangach nag erioed. Y mae grym ychwa n- egol yn yr apel atom ni fel Cymry vri anad unrhyw genedl yn Ewrop, gan nad oes i ni ddyfodol ond yn nhiriogaeth addysg a'r bywyd ysbrydol. Daw atom ni fei Annibynwyr yn fwy grymus nag at un- rhyw enwad arall, gan nad oes unrhyw obaith am lwyddiant ar ein hegwyddorion neilltuol ond mewn cyllenwad cyfoethog o ddynion diwylliedig mewn meddwl, o farn foesol annibynnol ac o brofiad per- sonol crefyddol. Er cymaint ein hangeu am bregethu mwy effeithiol ac am addol- iad llawnach o ddefosiwn, mwy o lawer yw ein hangen am addysg mwy effeithiol a chysegredig i'n plant. Ni cheir pregethu da nac addoliad teilwng ond ar sail addysg foesol effeithiol. Collir mwy o eneidiau oherwydd diffyg addysg dda cyn y deuddeg oed nag a eniilir byth rhwng y deg ar hugain a'r trigain trwy'r pregethu goren. Mae'r genhedlaeth newvdd o hyd yn glai meddal yn ein dwylaw, ond y mae naw o bob deg o'r bobl mewn oed wedi caledu i'w ffurf hyd nes i'w marw roi cyfle gwell i ddylanwadau cryfach y byd a ddaw arnynt. Wyneb yn wyneb a hyn oil, y peth mwyaf torcalonnus ynglyn a'r Eglwys j yw mai'r Ysgol Sul yw man gwan ei cliyf- undrefn a'i gwaith. Lie dylem fod gryfaf, yno yr ydym wanaf. O ba gyfeiriad bynnag yr edrvcliir artti hi a'i gwaith. ni feiddia neb hawlio y g wneir ei gwaith yn effeithiol gan yr Ysgol Sul. Ni lwydda i drosglwyddo gwybodaeth o'r Beibl nac o ystyr y grefydd Gristionogol ebwaith. Nid yw yn creu argyhoeddiadau cryfion na Christionogion goleuedig. Nid yw ei disgyblion yn dylifo i'r Eglwys fel y clyJent: Nid oes iddi adeiladau teilwng a defnyddiol. Rhag- Ititiiaetli. yn unig a of ala am athrawon iddi, ac yn y moddion a ddefnycldia i gyfrannu addysg y mae eto'n hyw yn y Canol- oesoedd. Gwir yw, gwna waith mawr. Bron heb yn wybod iddi, er hynny, y gwneir y gwaith mawr hwnnw, ac ar waethaf diffygion ei threfniant, ei moddion a'i hadeiladau. Diolch i'r Nefoedd, amhosibl yw i lafur diflino, ytmi moesol, brwdfryd- edd a hunanaberth y miloedd a roddant eu goreu i'r Ysgol bob Sul fynd ar goll yn hollol a bod yn ddidal gan Dduw. Gwybyddus yw fod rhif aelodau'r ysgol- ion yn lleihau bob blwyddyn ond nid yn y lleihad hwn y mae ei gwendid. Nid yw ond effaith ac arwydd o'i gwendid mewnol. Os gedy ei disgyl)lion hi tua phedair ar ddeg oed, y rheswm pennat am hynny yw nad yw eu haddysg hyd y deuddeg ond yn ddigon effeithiol i gynneu tan diddor- deb a brwdfrydedd yn eu henaid. Yr unig ffordd i gadw'r bechgyn a'r merched yw addysgu'r plant yn well. Gwir yw hefyd y gwnawd gwaith mawr gan Undeb yr Annibynwyr yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf i hyrwyddo gwelliantau ac i ddarparu gwell llenydd- iaeth ar gyfer yr Ysgol Sul. Cydnabyddwn yn ddiolchgar iawn fod Pwyllgor yr Ysgol Sul wedi gafael ymhen y llinyn ers llawer dvcld, ond hvd eto y mae ymhell o'i ddirwvn i'r pen. Saif y gwaith yn yr unfan ers amser maith. Credwn hefyd yn gadarn i'r Pwyllgor ddechreu yn y man iawn trwy droi y Wers unffurf American- aidd dros y drws a darparu Meusydd M/lafur ar gyfer y dosbarthiadau gwahanol. Ar yr un pryd, rhaid cvfaddef na chyf- arfyddodd llafur y Pwyllgor a'i lwyddiant dvladwy hyd eto. Tebyg fod llawer achos yn cyfrif am hynny. Ni chafodd hyd eto dderbyniad teilwng gan yr eglwysi a'r ysgolion. Sylfaenwyd mo'r trefniant ar ystyriaethau digon eang a manwl o anghen- ion yr ysgol fel cyfangorff. Bu gormod o fympwy, hap neu arthap, yn newisiad y Meusydd Llafur. Rhoddwyd rhy fach o svhv i anghenion y dosbarthiadau ieuengaf. Er cystal yw'r Pum Llyfr, rhaid cydnabod eu bod ymhell o gyflenwi anghenion addysg grefyddol a Beiblaidd plant hyd at ddeu- ddeg neu dair ar ddeg oed. Rhaid dweyd hefyd y cyll llafur y Pwyllgor ynglyn a'r .Wers lawer o'i werth a'i ddylamvad am i'r gwaith aros gyda'r Meusydd Llafur heb fviid yn ei flaen yn ddewr i hyrwyddo moddion mwy effeithiol i drosglwyddo'r Wers, i ystyried y trefniadau ar gyfer parotoi athrawon, ac i osod pwyslais ar yr angen am adeiladau mwy cyfaddas. Tybed nad yw'n llawn bryd i ni bellach yn yr eglwysi, y Cyfundebau, y Colegan a'r Undeb i ail-gydio yn y gwaith o (idiwygio'r Ysgol Sul yn ei holl agweddau. I ddechreu, mae angen mawr am adrodd- iad llawn a manwl o gyflwr yr ysgolion ar hyn o bryd yn wyneb ymdrechion Pwyllgor yr Ysgol Sul, ac nid yn unig cyn belled y mae a fynno nifer y disgyblion a'r mater. Mae angen am adroddiad manwl hefyd ynglyn a'r defnydd wneir o'r meusydd presennol yn y gwahanol Gvf- undebau, y trefniadau a wneir ar gyfer codi athrawon, natur adeiladau'r ysgolion, y moddion a ddefnyddir i gyfiwyno'r addysg, cysylltiad yr ysgolion a'r eglwysi, ynghyda llu o faterion tebyg. Mae angen mwy am oleuo meddwl ein pobl ynglyn a lie ac amcan yr Ysgol Sul, a dyIai fod gennym drefniant arbennig i wasgar trwy ddarlithiau a llawlyfrau v wybodaeth sydd yn ein meddiant ar nod- weddion a thyfiant y profiad moesol a chrefyddol trwy wahanol gvfnodau bywyd yr ieuanc, ar gysylltiad gwybodaeth o'r Beibl a thyfiant y profiad hwnnw, ar y syniadan a'r gwersi y gellir eu defnyddio ymhob cyfnod i'w hyrwyddo, ac ar y deddfau addysgol y rhaid eu dilyn. Dylid rhoddi llawer mwy o amser ac o ofal, nid yn unig i ddewis y meusydd arbennig ar gyfer pob oed, ond hefyd i sicrhau fod pob llawlyfr wedi ei osod mewn ffurf gyfaddas ar gyfer yr ysgol. Tybed nad gwaith fel hwn fydd ein gwaith pwysicaf a ffrwythlonaf o lawer yn y cyfnod anodd sydd ar ein gwarthaf ? Nis gall yr eglwysi wrthynt eu hunain, yn un ac yn un, wneud y gwaith. O'r ochr arall, rhaid i'r Undeb wrth argyhoeddiad brwdfrydig a help yr eglwysi. Tybed nad oes gan y Colegau hefyd eu gwaith a'u dyledswydd yn y cyfeiriad hwn na chafodd hyd eto'r ystyriaeth dyladwy ganddynt. Ond o bob angen, yr angen pennaf, yn ddiau, yw ein dihuno ni oil i bwysigrwydd canolog yr Ysgol Sul a'i gwaith ym mywyd yr eglwysi—yr angen am i ni oil wrando cri y genehdlaeth newydd am addysg Feiblaidd, foesol a chrefyddol fwy effeithiol ac ymarferol. Gwreiddyn y drwg ac achos y gwendid yw, nad ydym eto'n sylweddoli mai gan yr Ysgol Sul y mae allwedd dir- gelion ein tynged fel eglwysi ac Enwad. Onid yw'n bosibl i ni argjdroeddi crefydd- wyr Cymru o bechod, o gyfiawncler ac o farn yn y peth hwn—eu hargyhoeddi mai dyledswydd canolog a braint bwysicaf pob teulu ac eglwys yw gofalu am y plant a'n maethu yn addysg ac yn athrawiaeth yr Arglwydd ? Hyd yn hyn, trodd ein holl fywyd a'n diddordeb eglwysig o amgylch y dyn canol oed. O'i safbwynt ef, ac er ei fwyn, y cyfundrefnwyd ein heglwysi a'n sefydliadau crefyddol, yr adeiladwyd ein capeli a'n hysgoldai, ac yr addvsgwyd ein gweinidogion. Gwyn fyd na chaem ym- gyrch apostolaidd trwy Gymrn gvfan i bregethu hawliau cysegredig y genhedl- aeth ieuanc, fel y gorfodid pob sefydliad crefyddol yn y wlad i feddwl ynghyntaf oil am bachgenny-n yn eu canol hwvnt. Yr unig obaith am ddiwygiad gwir yng N ghymru yw trwytho meddwl a chalon a chyclwybod y wlad a gwybodaeth oleu- edig ymarfernl o'r Beibl. Yr unig obaith am wasgar gwyboclaeth effeithiol o'r Beibl yw'r Ysgol Sul a sefydliadau tebyg. A fyddai'n ormod o beth gofyn i holl eglwysi Cymru gynnal cyfres o gyfarfodydd cen- hadol a diwygiadol yn ystod y gaeaf nesaf i ystyried yn weddigar a meddylgar gyilwr yr Ysgol Sul ac anghenion ein pobl ieuainc ? A fyddai'n ormod o dreth ar bwyllgorau ein Colegau i ystyried y lie a ddylai'r plant a'r bobl ieuainc gael yng nghwrs y weinidogaeth ? Oni'fyddai'n bosibl, hefyd, i'n Colegau wneud rhywbeth i helpu athrawon yr Ysgol Sul yn ogystal a