Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

'Y G WLIEDYDD, BETH AM Y NOS?…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

'Y G WLIEDYDD, BETH AM Y NOS? GAN y PARCH. D. MORGAN DA VIES, Abertawi?. Mae'r gofyniad yn hen, a'r tebygolrwydd ydyw mai rhyw ddioddefydd pryderus am i'r nos basio a'r wawr dorri oedd yr ymholydd. Hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd,' medd yr hanesydd am y rhai oedd yn cyd-deithio a Phanl i Rufain pan aeth yn llongddrylliad arnynt ond yr oedd y rheiny hefyd wedi gofalu bwrw angorau i wneud y llestr yn ddiogel cyn deisyf y dydd a chwilota'r nenfwd am arwyddion o doriad gwawr. Gynifer sydd heddyw yn ymofyn am y nos, A yw hi ar fin pasio ? ac am y wawr, A yw hi ar ddod ? Nos pryder llethol a galar trwm gwawr deg buddugoliaeth i achos cyfiawnder rhyng-genedlaethol. Ond mynych iawn y clywir gwyliedyddion yn ateb yr ymholiad trwy ddar- lunio'r plygion o gymylau sy'n gorchuddio'r nen, a thrwy hynny ychwanegu at faich y pryder a llesteirio gobaith yn ei ymgais am y dydd a'i ymchwil am y nos. Gelwais mewn ty y dydd o'r blaen lie y trigai hen wraig a dwy ferch weddw. Caled ddigon oedd bywyd iddynt yn y man goreu arno, ond heddyw, pan y mae bwyd mor ddrud a'r ardreth yn drwm a'r lletywyr wedi ymrestru yn y fyddin, mae'n galetach fyth. Er nad oedd neb agos iawn iddynt yn y rhyfel i achosi pryder ar wahan i'w 'hamgylchiadau eyfyng, fel gwladgarwyr ymhol- ent Y gwyliedydd, beth am y nos ? Deisyf- ent yn ddwys ei myned hi yn ddydd ar achos ein teyrnas. Dyma'r gwyliedydd yn galw arnynt un dydd ym mhersoh y ciwrad, ac wedi ei ymadawiad y digwyddodd i mi alw. Cefais allan yn fuan ei fod wedi dwbio'r nenfwd a phyg fel y gwnaed a. chawell Moses, ond fod hwnnw yn arbed bywyd, tra hwn yn ychwanegu at faich pryder y gweddwon. Yr oedd wedi gadael nos dduar ei ol mewn mynwesau ar yr aelwyd honno. Yr ydym wedi colli wyth mil eisoes,' meddai, a beth fydd ein hanes cyn y daw'r oil i ben ? Ac yna aethai rhagddo i ddisgrifio nerth y Ger- maniaid, a mawredd y gwaith oedd o'n blaen, ac i ddweyd pa werth fyddai mewn buddugol- iaeth, os ceid hi byth. Ac yr oedd ein byddin ddewr yn Pfrainc wedi cymryd ei deng mil o garcharorion a chwalu'r rhengau yr un adeg. Athraw ar ddosbarth o famau yn yr Ysgol Sul dro yn ol sydd wyliedydd arall medrus i ddis- grifio'r nos, ond nad oes ganddo syniad pa fath un yw gwawr, na'r llonder byw ddwg gyda hi, na'r gan a ddeflry, na'r bywyd a ddadebrir ganddi. 'Roedd bechgyn annwyl i'r mamau hyn naill ai yn paratoi i wynebu'r gelyn neu yn ei wynebu eisoes mewn tir estronol: ac er fod eu hwynebau yn gwisgo gwen, yr oedd pryder a'i aradr yn rhychio eu gruddiau yn rhy gynnar o lawer, ac nid oedd eisiau dust cyfiym iawn i glywed swn ocheneidiau tawel-drafferthus yn codi o'r dyfnderau obry. Y gwyliedydd, beth am y nos ? 'Doedd fawr bias ar y wers ar ol i ing y teyrnasoedd gael ei grybwyll. Oes argoel rywle am y nos"i gilio ? Oes rhyw obaith am. y wawr i ddod bellaeh ? A phwy fel mam bryd- erus all ddeisyf ei myned hi yn ddydd ? Ond nid oedd gan yr athraw, druan, air am wawr. Arliw i dduo'r nen oedd ganddo ef. Cel Cusi gynt, cyflymai ei dafod wrth adrodd daroganau dychmygol am ddifrod ar dir, a thrychineb ar for, a galanas yn yr awyr. Gellid ychwanegu lliaws o enghreifftiau cyffelyb o hanes y pessimist. Eto dyma wraig i fewn ataf y dydd o'r blaen, a phapurau yn ei llaw, ond pryder trwm lond ei mynwes a galar ar ei gwedd, a'i hing yn rhy drwm i air ddod dros ei gwefus. Ijifai ei dagrau yn ffrydiau twym, ac ocheneidiai'.n cl-iwerw. Dechreuais geisio deall ei gofid a darllen ei neges a'i chynorthwyo i ddweyd ei stori, gan y gwyddwn fod dau, os nad tri, o'i bechgyn yin mhoethter y brwydrau mawr yn Gallipoli a Pfrainc. '0,' meddai hi, y mae Dan wedi syrthio a/r gwaethaf gennyf yw eu bod yn dweyd fod y cwbl yn ofer. Ni buaswn yn anfodlon rhoi fy niacligen annwyl dros ei wlad, ond y mae'r syniad ei fod wedi marw'n ofer yn annioddefol.' A dilynodd ocheneidiau ingol ei gilydd o eigion calon friw y fam drist. 'Roedd y dyn a'r nos yn ei lygad wedi bod wrth ei waith yn gosod halen yn ei chlwyfau. Dyma gyfle, meddwn innau, i dywallt olew i friw a dal cwpan gwin cydymdeimlad wrth fin sychedig. Ceisiais ymgodi at y cylle, a gwn i mi lwyddo i'w hargyhoeddi na chadd ei hannwyl Dan farw'n ofer yn y Gallipoli bell, nad faint o blunders a gyflawnwyd yno. Ac aeth allan a'i bron yn ysgafnach, a'i grudd yn sychach, a llonder ar ei gwedd. Cwrddasai a gwyliedydd- ion anghyfarwydd a'r wawr, a bu agos iddynt ei dirwasgu i'r ddaear wrth liwio'r nenfwd mor ddu o'i blaen. Cefais innau nerth i ddangos lliw gloyw gwawrddydd dyner yn arliwio'r dwyr- ain iddi, ac yr wyf wedi ei gweld lawer gwaith wedyn, ac y mae'r wawr yn graddol erlid y nos o'i ffurfafen. Diolch am y gwyliedydd sy'n sefyll ar flaenau ei draed ar uchaf ei dwr gan ysbio heibio'r cymyl duon a'i godreuon llwythog o ddifrod am ar- wyddion o ddynesiad y wawr, ac a chwyth yn ei utgorn oddiar goryn ei dwr air cysurus i dorf bryderus obry ddeisyfant ei myned hi yn ddydd,' fod ambell gwmwl yn cracio dan bwysau y dydd, neu'n cael ei drywanu gan bicellau llym- ion y wawr. Mae cyfrifoldeb y gwyliedydd yn aruthrol fawr, nad pwy fo—ai athraw, ymwelydd a'r aelwyd, ai'r pregethwr, ac yn arbennig yr olaf. Yr hyn sydd well na dibynnu ar y gwyl- iedydd yw gwneud fel -Pq.nl--bwrw pedair angor, ac yna deisyf y dydd mewn gweddi ddwys. Angor yng nghyfiawnder ein hachos fel teyrnas yn yr ymgyrch fawr. Pe byddem yn glir arno ef i gychwyn arbedasem lawer o bryder dwys. Angor arall yw arweinwyr y deyrnas yn yr argyfwng enbyd. Y mae i ni achos diolch i'r nef am ddynion o athrylith fawr ac o gymer- iadau cryfion i'r fath amser a hwn. Angor arall r yw ein byddin o ddewrion a'n llynges o grvfdcr ac o fri, a'r. hadnoddau cyfoethog. Angor uwch- law'r cwbl yw'r Duw sy'n rhwym o ofalu bod yn ffyddlon i ddeddfau moesol Ei greadigaeth Ei Hun-y rhaid i gyfiawnder a daioni drechu ar y ddaear yma yn y pen draw, os y ca ei gyfle mewn cyfryngau teilwng i sylweddoli Ei ewyllys. Gellir wedyn deisyf ei myned hi yn ddydd,* a bod yn barod i groesawu'r wawr pan ddel a'n hegnioil oil er dwyn trefn allan o'r tryblith. Alltudier y gwyliedydd prudd, yng nghil llygad yr hwn y gwna'r nos ei chartref troer ef o'r ffordd er i gludydd newydd da frysio i'r llys a'i air teg a'i genadwri felys-fod y wawr yn dod. Ac y mae'r wawr yn dod. Daw, mae'n wir, a'i chyfnewidiadau a'i chyfrifoldeb gyda hi. Rhyfedd y darogan sydd am gyfrifoldeb yr eglwysi wedi i'r bechgyn ddod yn ol, iel pe baent i ddod yn ol i ddinistrio crefydd a sefydl- iadau eu tadau a'u mamau fel y dinistriant reng- oedd a ffosydd y gelyn. Daw'r wawr a'i chyfrifol- deb a'i hawliau gyda hi. Daw a goleu ar lawer o bethau, a daw a galwadau newyddion i ddy- ledswyddau iiewyddioli; oild ymgodwn yn enw y Duw a'i dug, yn Ernerth a than Ei arweiniad, i ateb y galwadau ac i gyflawni'r dyledswyddau. Croeso, wawrddydd dyner Croeso, heddwch mwyn Tyrd a'th wen a'th londer, Lleddfa'n cur a'n cwyn Gwelwn yn dy lewyrch Feddau draw yn llu Clywn sibrydion cyfrin— Duw sydd gryf o'n tu.'

Llansantffraid, Mai dwyn.…