Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-- - - - -CYFUNDEB GORULEWIN…

CVFUNDBB ARFON.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CVFUNDBB ARFON. I Cynhaliwyd y Cyfarfod Chwarterol diweddaf yn Horeb, Dwygyfylchi, Gorffennaf 11 eg a'r 12fed. Cyfarfu'r Gynhadledd, dan lywyddiaeth y cadeirydd, Mr. Isaac Edwards, Caernarfon, am 10.30 bore'r ail ddydd. Wedi declireu dnvy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. R. Jones, A.T.S., Henryd, a chadarnhau cofnodion y cyfar- fod blaenorol— I. Derbyniwyd eyfraniadau'r 'eglwysi. 2. Penderfynwyd cynnal y cyfarfod nesaf ym Mhendref, Caernarfon. 3. Rhoddodd y tri cynrychiolydd adroddiad byr o weithrediadau'r Undeb. Pasiwyd Bin bod yn gwneud cais at y Cyngor i ystyried y cwestiwn o ddwyn yr Adroddiad i gyffvrddiad lies a'r eglwysi a'r cyfundebau.' 4. Pasiwyd i suspendio y .Standing Orders ynglyn a dewis cynrychiolwyr ar Gyngor yr Undeb. Yna pasiwyd Ein bod, ar gyfrif y gwaith wueir1 gan Mr. Isaac Edwards ynglyn a'r I/lyfrfa, yn ei ethol am flwyddyn arall yn aeloc1 ar Gyngor yr Undeb.' 5. Cynygiwyd ar ran Is-bwyllgor Dirwest gan y Parch. O. Jones, ac eiliwyd gan y Parch. J. Ellis Williams, a phasiwyd Ein bod fel CYll- hadledd, yn wyneb y daioni amlwg sydd wedi deilliaw o gwtogi oriau yfed, yn erfyn ar ein Dlywodraeth i gymryd mesurau i wahardd gwneuthur na gwerthu diodydd meddwol tra y parhao'r rhyfel ac am chwe mis ar ol ei ther- fyniad, a'n bod yn annog ein cynulleidfaoedd i arwyddo'r ddeiseb genedlaethol yn ffafr hyn.' 6. Rhoddwyd adroddiad o weithrediadau Pwyllgor y Caniedydd gan y Parch. W. Pen- llyn Jones. Anogai'r eglwysi i anion eu harch- ebion yn ddiymdroi am y detholiad o emynau a thonau a fwriedir ei ddwyn allan. 7. Cyflwynwyd adroddiad Is-bwyllgor yr Ysgol Sul gan Mr. W. J. Roberts. Pasiwyd (a) I alw ynghyd Bwyllgorau y gwahanol Gymanfaoedd Ysgolion i ystyried yr adroddiad. (b) Fod y Cyfarfod Chwarter nesaf i'w neilltuo i ystyried sefyllfa'r Ysgol Sul yn y Cyfundeb. (c) Ein bod yn erfyu ar i'r Cymanfaoedd Ysgolion syrthio i mewn a Maes Llafur yr Undeb. 8. Cyflwynwyd adroddiad Pwyllgor y Drys- orfa Gynorthwyol gan y Prifathro T. Rees, M.A. Hysbysodd y gadewir cyfrif 011 y flwyddyn ddiw- eddaf yn agored hyd'ddiwedd Awst. 9. Cafwyd trafodaeth ddicldorol ar Genedl- aetholi'r Fasnach Feddwol.' Agorwyd o blaid gan Mr. W. G. Thomas, Y.H., Caernarfon. ac yn erbyn gan y Parch. Ellis Jones, Bangor. Cyflwynwyd diolchgarwch y Gynhadledd iddynt am en hanerchiadau. 10. Amlygwyd cydymdeimlad a Mr. J. R. Owen, Llanberis, yn ei brofedigaeth, ac a'r Mri. Griffith Thomas, Horeb, a T. Edwards, Bangor, yn eu gwaeledd. 11. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. W. Williams, Colwyn Bay. Am 2 (J'r glocxi cynnaiiw)rci oeiat cian lyw- yddiaeth Mr. R. J. Williams, Llandudno, pryd y traddodwyd anerchiad ar Grist a Chyfadd- awd gan y Parch. H. Jones, Trefriw. Pregethwyd. nos Fawrth a nos Fercher gan y Parchn. W. Cynwyd Williams, Iylanrwst D. Stanley Jones, Caernarfon J'. Ellis Williams ac Ellis Jones, Bangor. Rhoddwyd derbyniad croesawus iawti i'r Cwrdd Chwarter gan y Parch. Caleb Williams a'r eglwys yn Horeb, a chyflwynwyd di .lch- garwch y cynrychiolwyr iddynt am eu sirioldeb. a u caredigrwydd. HENRY J ONES, Ysg.

GAIR ODDiWRTH DYFNALLT.

Advertising