Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

1662-1916. I - I

Ponkey. I

Mount Stuart, Caerdydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mount Stuart, Caerdydd. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Jenkyn Jones.—-Gyda theimladau dwys y dymunem gofnodi marwolaeth y chwaer anllwyl uchod, yr hyn gymerodd le gyda sydynrwydd mawr dydd Mercher, Gorffennaf 26ain, ar ol cystudd byr. Tarawyd hi gan complete seizure of apoplexy bore dydd Mawrth. Mor drwm oeddyr ergyd fel y collodd bob ymwybyddiaeth ar unwaith, ac erbyn yr adeg a nodwyd ehedodd ei hysbryd at y Duw yr hwn a'i rhoes. Un o ffyddloniaid yr eglwys oedd Mrs Jones; byddai yn y cyfarfod- ydd bob amser, ac yn arbennig yng nghyfarfod- ydd yr wythnos, a chymerai ran amlwg yng nghaniadaeth y cysegr. Yr oedd yn feddiannol ar bersonoliaeth gref a dynoliaeth lydan; natur- iol oedd iddi fod yn garedig, ac nid ychydig yw nifer y rhai tu allan i gylch y teulu a fwynhaodd ei charedigrwydd. Bu yn wraig ofalus a dar- bodus, yn fam dyner iawn i'w hunig fab, ac yn chwaer ragorol. Mawr oedd ei sel dros achos yr Iesu, a'r capel oedd y fan gysegredicaf yn ei golwg. Cymerai ran amlwg gyda. gwahanol fudiadau yr eglwys, a gwnaeth bob peth yn ei gallu i'w hyrwyddo ymlaen. Yr oedd ganddi barch dwfn a gwirioneddol i weision yr Ar- glwydd. Treuliodd nifer o flynyddoedd pan yn ieuanc yng nghartref y diweddar Barch W. Emlyn Jones, Treforris, ac yr oedd dylanwad sancteiddiol y cartref hwnnw wedi gadael argraff ddofn ar ei bywyd, yr hon ni ddilewyd hyd y diwedd. Nodwedd amlwg iawn ynddi oedd sirioldeb, ac yr oedd ei serchowgrwydd yn hysbys i bawb. Gellir gyda phob priodoldeb ddweyd—' A Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni.' Yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.' Cladd- wyd y rhan farwol ohoni canol dydd Sadwrn, Gorffennaf 2gain, yng nghanol arwyddion o hiraeth dwfn. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y ty, 3, Clarence Embankment, gan ei gwein- idog, y Parch Joseph Evans, yna awd i'r capel gerllaw. Dechreuwyd gan y Parch John Davies, Grangetown, a siaradwyd yn effeithiol iawn gan y Parch E. Price Evans, B.A., Caerffili, cyn- weinidog yr eglwys, a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch T. Hughes, A.T.S., Cathays. Huna mewn llecyn prydferth o'r Gladdfa Gyhoeddus yma yn ymlyn beddrodau llu o hen gyfeillion. Da gennym wybod fod ei phriod, Mr Jenkin Jones, yn swyddog gweithgar yn yr eglwys acyn drysorydd gofalus. Efe hefyd yw arolygydd yr Ysgol Sul, a. chymer ran flaenllaw ynglyn a holl symudiadau yr eglwys. Dymunwn nawdd y nef iddo hyd derfyn y daith. Boed diddanwch yr Ysbryd Glan yn eiddo i'r teulu, a chysured y Ceidwad annwyi hwy yn awr eu profedigaeth.

I Severn-road, Caerdydd. I

CYFARFODYDD.

IBethesda, Arfon.

Advertising