Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

1662-1916. I - I

Ponkey. I

Mount Stuart, Caerdydd.

I Severn-road, Caerdydd. I

CYFARFODYDD.

IBethesda, Arfon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Bethesda, Arfon. Pi-,todas.Ar yr 2il o Awst, yng nghapel Bethesda, unwyd y Parch W. Jones, Amana, mewn priodas a Miss Hannah Eliza Jones, 3, Ogwen-terrace, Bethesda. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch Rhys J. Huws, Glanaman; W. J. Rees, Alltwen; Owen Jones, NantSrancon ac a'r dorf ar ei thraed, chwareuwyd ymdeithgau briodasol Mendelssohn ar yr organ gan Mr R. 0. Hughes, organydd yr eglwys. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei hewythr, Mr John Jones, Y.H.. llyfrwerthwr, a gwasanaethwyd ami gan Miss Nel Roberts, ysgolfeistres, Ysgoly Cyngor, Cefnfaes, a Miss M. A. Davies, B.A. Gwasanaethwyd ar y priodfab gan ei frawd, y Parch D. Jones, Hebron, Cymer, Port Talbot. Danghosodd y dorf barchus yn y capel fod y briodferch a'i hewythr mewn anrhydedd mawr yn y lie, a gwahoddwydnifer luosog i gyfranogi o'r wledd briodas. Wrth y bwrdd mynegwyd syn- iadau uchel am Mr a Mrs Jones gan y Mri Rhys J. Huws; Owen Jones; D. J. Williams, M.A., Ysgol y Sir W. J. Parry, Coetmor Hall; a D. Jones, Cymer. Ca Mr Jones aelwyd mewn perffaith gydymdeimlad a'i waith. Bu'r ty hwn yn llety fforddolion ar hyd y blynyddoedd, a gwyr llawer o weinidogion y Gair am groeso cynnes Mrs Jones a'i hewythr. Cydnabyddwyd geiriaucaredig y gwahoddedigion ynghyda'r anrhegion lluosog a chostus o bell ac agos gan Mr Jones a Mr John Jones, Y.H. Ymadawodd y par ieuanc am Aberystwyth gyda'r haul ar y fodrwy aur, ac ynghanol dymuniadau yr ardal am hir ddyddiau i weled daioni.

Advertising