Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

1662-1916. I - I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1662-1916. I ANNWYI, SYR,—-Un bore safwn ar gydiad rhai o heolydd Caerdydd. Ar fy nghyfer yr oedd Castell Caerdydd. I lawr i gyfeiriad deheuol y ddinas y rhedai Heol Sant Fair. Adgofid fi o'r modd y carcharwyd Rawlins White yn un o hen gelloedd afiach y Castell, ac am Erbery a Cradoc, y rhai a drowyd allan o Eglwys Sant Fair. Gyda hyn gwelwn osgordd o filwyr, a chydrhyngddynt yr oedd nifer o ddinasyddion a adweinir wrth yr enw gwrthwynebwyr cydwybodol.' Ar- weinid hwy i'r swyddfa filwrol gerllaw, yn erbyn eu hewyllys, i'w tyngu i'r fycldin. Rhawg y dychwelasant, ar ol gwrthod ufuddhau, ac ar- weinid hwynt yn ol i'w celloedd yn yr orsaf filwrol. Meysydd gwyrddlas oedd o gwmpas y fan hon pan arweiniwyd Rawlins White o'i gell afiach at y ffagod, a phan ddaeth Erbery a Cradoc allan o Eglwys Sant Fair. Deddf eu gwlad orfododd y rhai hyn i fynd allan, ac a'u caeodd allan ar ol hynny. Onid oeddynt hwy yn wrthwynebwyr cydwybodol ? Ac yn dra thebyg, dros yr un fangre ag y cerddodd Rawlins White, Erbery a Cradoc y cerddai gwrthwyneb- wyr cydwybodol 1916. Mae'n debyg nad yw cydwybod y dynion clibriod hyn ddim yn berffaith. Eithaf tebyg nad oedd cydwybod Erbery a Cradoc yn ber- ffaith. 'Does yr un gydwybod bersonol eto wedi bod yn berffaith, ond cydwybod Un. 0 ran hynny, nid yw cydwybod cymdeithas, neu gyd- wybod y mwyafrif, yn berffaith eto. Pa fodd bynnag am hynny yn awr, mae'r gwrthwyneb- ydd cydwybodol yn dioddef er mwyn cydwybod. Fe all Dr. Hastings rhyw led-awgrymu mai cyd- wybod wan ydyw. Boed felly am y tro. Ond onid yw'r Apostol Paul yn dweyd y dylid parchu cydwybod y brawd gwan ? 'Ac a ddifethir y brawd gwan dros yr hwn y bu Crist farw.' Heb fynd i fewn i'r ddadl pa un ai cyd- wybod wan neu gydwybod gref yw cydwybod y gwrthwynebwyr hyn, sicr ddigon fod cyd- wybod yn hawlio parch. Dyna ddadl dynion mor bell oddiwrth eu gilydd ar gwestiwn y rhyfel presennol a Mr. Holt, A.S. Mr. Lewis Haslam, A.S. Syr Walter Essex, A.S. Mr. Ramsay Macdonald, A.S.; Mr. Philip Snowden, A.S. a Mr. E. Harvey, A.S. Y noson olaf o'r Senedd-dymor sydd newydd orffen, dadleuai'r dynion hyn dros ymdriniaeth well i'r gwrth- wynebydd cydwybodol. Ac oni ddylai plant Ymneilltuaeth Cymru ategu hyn ? Beth fedd- ylier am fod heb fwyd o nos Fawrth hyd fore lau, ond darn o fara ? Ac o ran yr awdurdodau, caent fod heb ddim bwyd o fore Mawrth hyd fore lau. Cael eich rhoi mewn ystafell heb ddim bydiynddi i dreulio noswaith gyfan. Dyna ran o helynt y gwrthwynebydd cydwybodol. Dywedai Mr. Philip Snowden yn ei araith y noson olaf o'r Senedd-dymor diweddaf, tra yr oedd nifer o'r gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu harwain drwy Abergele at y tren ar y fforcld i Ffrainc, chwareuai'r seindorf pres y Dead March in Saul.' Ymha le y saif pregeth- wyr a gweinidogion ? Soniai P.W.W. yn y Daily News and Leader am gyfreithlondeb pregethau.' Pe mentrai pregethwr gymryd yn destyn y geiriau, Cerwch eich gelynion,' gan eu cymhwyso fel sail dyledswydd i garu'r Ger- nianiaid, ymha le y safai'r pregethwr yn wyneb The Defence of the Realm Act ? Ni wyr Syr Herbert Samuel, A.S., pa fodd i ateb yn iawn. W11 i ddim a wyr cyfreithwyr y Llywodraeth. I ba le yr ydym yn mynd ? GOR-WYR GWRONIAID CWMYGI,O.

Ponkey. I

Mount Stuart, Caerdydd.

I Severn-road, Caerdydd. I

CYFARFODYDD.

IBethesda, Arfon.

Advertising