Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw —Penybanc, lylandeilo—Thomas Morgan—Tabernacl, Barry Dock—Capel Cwm- bwrla-Peniel, ger Caerfyrddin—St. Clears— Glynarthen-Fachendref, Petifro-C-wnierfyli- Anerchiad gan y Parch Ben Evans, Barry-Cyf- arfod Chwarterol Cyfundeb Ceredigion- Y Parch E. S. je.,ikin,Priodasau-Cyfarfody,-Id, &c.
A D D Y8 G RAGBARATOAWL .…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
A D D Y8 G RAGBARATOAWL YMGEISWYR AM Y WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH. JOSEPH HARRY, Elanym- DDYFRI. YNG nghyfarfod blyilyddol Pwyllgor Anni- bynnol Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin eleni, galwyd sylw at addysg ragbaratoawl ymgeiswyr am y weinidogaeth Gynulleid- faol yng Nghymru. Gwnawd hyn, fe ymddengys, ar gais neu ar awgrym y Bwrdd Rhyng-Golegol (The Inter-College Board). Deallwji fod: yr un mater wedi cael sylw Pwyllg6rau Colegau Aberhonddu a Bangor yn eu cyfarfodydd blynyddol: hwythau. Gellir casglu, felly, yr ystyrrir y pwnc fel cwestiwn sydd yn meddu ar gryn bwysigrwydd ar hyn o bryd. Nid ydym yn gwybod beth oedd llin- ellau yr ymdriniaeth a ddilynwyd yn Aber- honddu a Bangor, ond yng Nghaerfyrddin swm a sylwedd yr ymddiddan oedd y dylid cymryd rhyw fesurau ar unwaith i osod manteision addysg ysgolion sirol o fewn cyrraedd ymgeiswyr am y weinidogaeth, a phwysleisiodd rhai o'r siaradwyr y dymun- oldeb o gael mwy o ymgeiswyr yn union- gyrchol o'r ysgolion sirol i'r colegau diwin- yddol. Yn ystod y drafodaeth honnwyd fod y cyfryw ymgeiswyr yn troi allan yn fyfyrwyr uwchraddol' ni soniwyd pa fath bregethwyr a gweinidogion a wnant. Oddiwrth sylwadau rhai o'r brodyr a gymerodd ran yn y rhyddymddiddan, gellid meddwl mai cwrs delfrydol ymgeis- ydd am y weinidogaeth Annibynnol fyddai rywbeth tebyg i hyn:- ml. 1. Yn y cawell a'r Kindergarten oddeutu 5 2. Yn Ysgol y Cyngor 7 3. Yn yr Ysgol Sirol ,,4 4. Yn y Brifysgol 5 5. Yn y Coleg Diwinyddol 4 6. Yn Oxford neu Cambridge 2 7. Yn Ysgolion Germani 2 8. Yu chwilio am Iechyd-ac Fglivys I Cyfanswm blynyddoedd datblygiad y myfyriwr uwchraddol 30 Cyfeiriodd amryw o'r siaradwyr ym Mhwyllgor Caerfyrddin at y ffaith dra- adnabyddus mai ychydig iawn yw nifer yr ymgeiswyr am y weinidogaeth yn ein Henwad ni sydd wedi dilyn y llinell hon o ddatblygiad addysgol, am y rheswm syml nad yw'r ymwybyddiaeth o'r wel- edigaeth nefol' a'r awydd am ymddar- paru ar gyfer y weinidogaeth yn amlygu eu hunain, fel rheol, hyd nes bod y brodyr ieuainc oddeutu 18 oed ac uchod. Pan adawant ysgol y cyngor oddeutu 14 oed, ymgymer y brodyr hyn a rhyw ffurf ar lafur caled—yn y gwaith glo, yn y gwaith alcan, yn y swyddfa, ar y fferm, neu mewn rhyw alwedigaeth arall. Yn fynych treulir 4 neu 5 mlynedd (weithiau mwy) yn y cylchoedd llafurol hyn, ac ar derfyn y cyf- nod hwn dargenfydd ymgeiswyr am y weinidogaeth fod drws yr ysgol sirol yn gaeedig iddynt hwy ar gyfrif eu hoedran. Yn ein barn ni, ofer ydyw ceisio agor drws yr Ysgol Sirol i'r dosbarth hwn o fyfyrwyr am y rhesymau a ganlyn (1) Oedran yr ymgeiswyr hyn (rhwng 18 a 30 mlynedd) (2) Cyflwr eu haddysg elfennol; (3) Teithi eu meddwl; (4) Awyr- gylch eu bywyd (5) Amcan arbennig eu hefrydiaeth. Yn fyr, ffurfia ymgeiswyr am y weinidogaeth rywogaeth ar ei phen ei hun: y maent yn sui generis. Pe llwryddid i agor drws yr Ysgol Sirol iddynt, byddai'n ofynnol, am y rhesymau hyn ac eraill, ffurfio dosbarth iddynt hwy ar ben eu hunain canys, fel y dywedodd Proff. D. M. Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Caerfyrddin, disgwylir iddynt ddysgu cymaint mewn 2 flynedd ag ysgolheigion eraill yr Ysgol Sirol mewn 4 blynedd. Byddai ffurfio dos- barth arbennig felly ar gyfer ymgeiswyr am v weinidogaeth yn sicr o osod treth drom ychwanegol ar yr athrawon. Bid scr, hawliai yr athrawon hyn yn bur fuan godiad yn eu cyflog-a dyna'r gwTer yn y tan yn y fan, oblegid dehonglid hynny gan rywrai fel ymgais i godi pregethwyr Ym- neilltuol ar draul arian y cyhoedd Ac ymhellach, pe darperid cyfleusterau arben- nig o'r natur hyn ar gyfer ymgeiswyr am y weinidogaeth o'r oedran y soniwn am danynt (rhwng 18 a 30 mlynedd), mewn byr amser gofynnai ymgeiswyr cyfoed am safleoedd yn y galwedigaethau eraill am fanteision cyfartal; ac felly, cyn hir, ceid yn yr Ysgol Sirol ddosbarthiadau arbennig i ymgeiswyr oedrannus mewn gwahanol bynciau anghydnaws—er enghraifft, mewn Peirianyddiaeth, mewn Amaethyddiaeth, mewn Saeryddiaeth, mewn Meddygiaeth, &c. Parai hyn oil chwyldroad yng nghyf- ansoddiad ac amcan bodolaeth yr Ysgol- ion Sirol. 0 bosibl y byddai'r cyfryw chwyldroad yn fudd i'r ysgolheigion yn neilltuol, ac yn fendith i gymdeithas yn gyffredinol ond ni ddaeth yr awr i hynny eto. Hyd y gwelwn ni, ofer am gyfnod maith ydyw disgwyl am ymwared i ymgeiswyr am y weinidogaeth o gyfeiriad yr Ysgolion Sirol. Yn y cyfamser, beth ellir ei wneud er cyfarfod ag angheixion nodweddiadol y dosbarth gwir deilwng hwn o fyfyrwyr ? Gyda gwylder a pharchedig ofn,' dy- munwn awgrymu i'r awdurdodau priodol, ac yn arbennig i'r Bwrdd Rhyng-Golegol, y cynlluniau posibl a ganlyn, mewn bras amlinelliad yn unig :— (i.) Trawsfiurfier un o'r tri choleg diwin- yddol (Aberhonddu, Bangor neu Gaer- fyrddin) i wneud gwaith' ysgol ragbara- toawl. Cytuna cynrychiolwyr y tri choleg sydd yn aelodau o'r Bwrdd Rhyng-Golegol mai doeth a dymunol fyddai i'r colegau uchod gyfyngu y myfyrwyr a anfonir allan ganddynt h w y i'r weinidogaeth bob blwyddyn i ddeunaw—hynny yw, chwech myfyriwr 0 bob coleg. Amlwg ydyw y gallai dau goleg yn hawdd wneud cymaint a hynyna o waith—troi allan ddeunaw o weinidogion yn flynyddol, ac y gellid defnyddio'r coleg arall i gyfrannn addysg ragbaratoawl i ymgeiswyr am y weinidog- aeth. (ii.) Neu, ychwaneger dwy flynedd at gwrs myfyrwyr yn y tri choleg, gan gyf- yngu'r ddwy flynedd gyntaf yn gyfangwbl i waith elfennol,. rhagbaratoawl ar gyfer Matriculation Prifysgol Cymru. Gan y ceisir cyfyngu nifer y niyfyrwx r ymhob un o'r tri' choleg i nifer fechan, a bod y mwyafrif o'r rhai hynny yn derbyn eu haddysg mewn Arts yng ngholegau y Brif- ysgol, ni wnai'r ychwanegiad hwn at waith athrawon y tri choleg drethu eu hamser na Ilethti eu nerth ryw lawer iawn. Gyda llaw, diddorol iawn fyddai i'r eglwysi a'r tanysgrifwyr gael gwybod beth yw nifer yr oriau yn yr wythnos a nifer yr wyth- nosau yn y flwyddyn a r o d d i r gan athrawon yn y colegau hyn i'r dosbarth- iadau bychain y dymunir eu cael. Pe ceid hynny, credwn y cytunai'r mwyafrif mawr o gefnogwyr y colegau y gallai ac y dylai athrawon y tri choleg ymgymeryd a rhag- baratoi ymgeiswyr gweinidogaethol ar gyfer Matriculation Prifysgol Cymru. A hyd yn oed pe teimlid, gydag amser, fod y gwaith ychwanegol hwn yn gwasgu gor- mod ar eu hamser, oni ellid penodi athraw arall i'w cynorthwyo yn y gwaith rhag- baratoawl ? (iii.) Neu, mabwysiaded yr Enwad un o'r Ysgolion Rhagbaratoawl sydd eisoes yn gwneud y gwaith, ac wedi ei wneud ar hyd y blynyddoedd gyda gradd amIwg o effeithiolrwydd. Dan nawdd ariannol a rheolaeth weinyddol yr Enwad, gellid yn rhwydd berffeithio un neu ychwaneg o'r ysgolion hyn i ateb holl ofynion ymgeis- wyr, am y weinidogaeth. Wrth fyned heibio, pan gofiom am wychter gyrfa gol- egol y myfyrwyr, am nifer y graddedigion, ac am ragoriaeth y pregethwyr a gafodd gychwyniad addysgol yn yr ysgolion hyn, teimlwn mat ein dyledswydd ydyw gwrth- dystio'n gryf yn erbyn yr honiad hanner- Phariseaidd a wnawd gan rai ym Mhwyll- gor Coleg Caerfyrddin fod yr ymgeiswyr a ddeuant i'r colegau diwinyddol o'r Ysgol- ion Sirol yn ffurfio 'type uwchraddol' o fyfyrwyr o'u cymharu a'u cyd-fyfyrwyr o'r ysgolion rhagbaratoawl. Dichon eu bod yn type newydd, ond yn sicr nid yw yn uwchraddol.' (iv.) Neu, unwaith eto, ymffurfied y Bwrdd Rhyng-Golegol yn fath o Fwrdd Addysg Ragbaratoawl i ymgymeryd, ymhlith pethau eraill, a'r dyledswyddau canlynol (a) Gwrando ar ymgeiswyr am y weinid- ogaeth yn pregethu nifer o droion er ffurfio barn am eu galluoedd a'u cymwysterau ar gyfer y cyfryw waith. (b) Arholi'r ymgeiswyr hyn mewn gwyb- odaeth Feiblaidd gyffredinol ynghyda rhannau neilltuol rhagbenodedig o'r Ysgrythyrau—er enghraifft, llyfr yn y Beibl Cymraeg a llyfr yn y Beibl Saesneg. (c) Annog yr ymgeiswyr a ystyrrir yn addawol i fyned rhagddynt yn eu hym- baratoad am y weinidogaeth, a chynghori y lleill i droi eu hwynebau i gyfeiriadau eraill. Yn y ffordd hon gwneid caredig- rwydd a rhai o'r ymgeiswyr a thrugaredd a llawer o'r eglwysi. (d) Sefydlu nifer o ysgoloriaethau ar ryw gynllun tebyg i hwn Cael gan bob Cwrdd Chwarter i fod yn gyfrifol am gyfraniadau ariannol oddiwrth bob eglwys o fewn y Cyfundeb tuagat ysgolia a chynnal, yn gyfangwbl neu'n rhannol, yr ymgeiswyr a gymeradwyir ganddo o bryd i bryd-yr ymgeiswyr i dderbyn eu haddysg mewn ysgolion a gymeradwyir gan y Bwrdd.