Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I Tabernacl Newydd, Port Talbot.I

"',. - r-..............- "-'-""-""…

LLANOEILO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANOEILO. Marwolaeth Mrs Eleanor Tho,inas.-Nid anfynych y gelwir trigolion yr ardal hon i lan bedd rhai annwyl iddynt. Nid ydym yn coflo gweled yr eglwysi yn cael eu bylchu gymaint ag a welir y flwyddyn hon, a hynny bron ymhob ardal. Cofnodwn yma hanes ymadawiad y ddiweddar Mrs Eleanor Jones, Cefnrhiwlas. Dynes iach, weithgar, oedd y chwaer ymadawedig wedi bod drwy ei hoes, ond ers misoedd bellach yr oedd yn gyfyngedig i'w gwely, ac er pob gofal a thynerwch hi a ffarweliodd a r fuchedd hon dydd Gwener, yr 28ain cynfisol, yn 72 mlwydd oed. Un o wragedd ffyddlon, biloh, Penybanc, oedd Mrs Thomas, a pharod bob amser i helpu'r achos. Gwnai ei rhan bob amser gyda pharodrwydd a sirioldeb, ac y mae bwlch mawr yn yr eglwys a'r ardal ar ei hol. Rhagflaenodd ei phriod hi ychydig flynyddoedd yn ol, ond erys eto nifer lluosog o blant yn eu galar, y rhai a adlewyrchant glod i un o aelwydydd crefyddol ein gwlad trwy eu ffyddlondeb i achos Crist yn eu gwahanol gylcboedd. Y dydd Llun canlynol daeth nifer Iluosog o berthynasau ac eraill i r angladd, a dilynid yr elor-gerbyd yn eu galar gan y plant-Mri Benjamin Thomas a James Thomas, a Misses Mary Thomas a Rachel Thomas, Cefn, l rhiwlas; Mr a Mrs Parry, Pontypridd; Mr W. Thomas, Porth; Mr a Mrs T. Thomas, Wauncae- gurwen; Mr a Mrs H. Thomas, Cydweli; Mr a, Mrs W. Davies, Whitchurch; Mr a Mrs Tom James, Tredegar; a Mr John Thomas, Caerdydd. Blin gan y teufli ydoodd i Nurse Thomas fethu bod yn bres- ennol, yr hon sydd yn y Brifddinas yn gweini ar y cleifion. Nis gallai y Parch Daniel Thomas, Paraquay, Deheudir America, hefyd fod yn bresenool oherwydd pellter ffordd, ac ni wyddai ar ypryd am ymadawiad ei annwyl fam. Cafodd aelwyd Cefnrhiwlas y fraint o fagu y cenhadwr llwyddiannus hwn. Capel Isaac ydyw Machpelah y teulu, ac yno y claddwyd gwedd- illion marwdl ein chwaer Gorffennaf 31ain. Darllen- odd y Parch W- H. Harries, Penrheol, rannan o Air Diiw yn y ty, a gweddïodd y Parch Stephen Thomas. Yn y capel pregethodd Mr Thomas oddiar Phil. i. 6, a gorffennodd Mr Harries trwy weddi. Gwasanaethodd y Parchn W. Davies, Llandeilo Proff. W. Oliver, M.A., Llanfynydd a J. Davies, Capel Isaac, ar lan y bedd, a chafwyd gwasanaeth tyner a chysurlawn. Gadawodd yr ymadawedig y fuchedd hon mewn parch mawr, yr hyn oedd amlwg ar ddydd ei hangladd, a'r hyn dystiolaethwyd am dani yo ystod y gwasanaeth. Yr Arglwydd fyddo yn arweinydd ac yn ddiddanydd i'r teulu oil.

Family Notices

i iGLYN-NEDD.

A D D Y8 G RAGBARATOAWL .…