Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU YR WYTHNOS.1

[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893.

G E I F R.

DYFFRYN CLETTWR.

LLANDEILO. I'

LLANYMDDYFRI.

| CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

IN MEMORIAM.

A WELWCH CHWI "FI 1"

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A WELWCH CHWI "FI 1" Fi ydyw syndod mwya'r oes, j Fi ydyw'r dyn am ddysg a moes, 1 Fi sydd yn llawn o ddawn | Fi sydd yn deilwng o bob swydd, Fi lanwai gant neu fil yn rhwydd, Fi sydd o all u'n llawn. i Fi yn yr Ysgol Sul sydd goeth, Fi ddywed pawb yw'r mwyaf doeth, Fi'n athraw heb fy ail Fi wna esbonio pob rhyw ran, Fi sydd yn gallu dysgu'r gwan, Fi fawr fy hun yw'r. sail. Fi yn y seiat sydd yn gawr, Fi sydd yn ben yn y set fawr, I Fi drefna waith pob un f ydyw'r blaenaf yn y gan, i Fi sydd yn arwain yn y blaen, Fi fyn y clod fy hun. Fi sydd yn dotio am gael clod, Fi sydd ag enw iddo'n bod, Fi raid gael enw mawr Fi sydd athronydd, fi sydd fardd, Fi sydd yn lienor, pwy na chwardd? Fi fydd yn ben ryw awr. Fi sydd yn Radical i'r pen, Fi wyr pa fodd i draethu'm lien, Fi bia'r clod yn glir Fi yn y Senedd ddylai fod, Fi yw'r cymhwysaf dan y rhod, j Fi ddylai fod yn wir. | Fi ddadgyssylltai'r Eglwys Lan, Fi fynai ran o'r degwm man, Fi ddadwaddolai hon Fi fynai Gymrll wen yn rhydd, t Fi lonai lawer calon brudd, 5 Fi wellai'r byd o'r bron. Cynghori 'rwyf ei wraig ar g'odd I 'mofyn rhaff ar werth neu'n rhodd, A'i rhwymo am y gwr, Rhag iddo yn ei ymffrost balch 1 I chwyddo fel y gareg galch Ar ol ei thaflu i'r dw'r. GLAN PERIS.

MOELFRE.

ANERCHIAD