Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU YR WYTHNOS.1

[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893.

G E I F R.

DYFFRYN CLETTWR.

LLANDEILO. I'

LLANYMDDYFRI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANYMDDYFRI. ÐYNION CAREDIG.-Y mae llawer yn barod i ddweyd fod caredigrwydd bron ymadael o'r byd ond camsynied mawr yw dweyd hyny. Ionawr 7fed, bu farw yr hen batriarch duwiolfrydig, David Price, Rhandirmwyn, yn lletty yr undeb a mawr erfyniai, tra yn fyw, am yw gorff gael ei gymmeryd i fynwent Ystradffin i gael ei gladdu, lie hefyd yr oedd ei ddwy wraig wedi cael eu claddu yn flaenorol. Gwnaeth meistr yr undeb hyny yn hysbys i'w gyfeillion yn Rhandirmwyn, ac yn enwedig i Mr. Williams, White Lion, Llán- ymddyfri, yr hwn sydd bob amser yn barod i wneyd cymmwynas a'r tlawd fel y cyfoethog a sicrhaodd Mr. Williams iddo y cawsai ei ddymun- iad a phan yr bysbyswyd ef a'r cyfeillion yn Rhandirmwyn ei fod (Price) wedi huno y boreu uchod, cytunwyd am elorgerbyd, a chasglwyd digon o arian i dalu yr holl dreuliau i'w gladdu yn anrhydeddus. Gwnaeth meistr y ty hyny yn hysbys yn y bwrdd diweddaf, a phasiwvd pleid- lais o ddiolchgarwch i Mr. Williams a'r cyfeillion ereill am eu caredigrwydd yn cario allan ddymun- iad olaf yr hen gyfaill ymadawedig. A chyda Jlaw, derbynied y cyfeillion caredig hyny fu a l'aw yn cynnorthwyo er cario dyrnuniad olaf yr hen Gristion dysglaer, ein diolchgarwch gwres- ocaf; a chawsom ein hargyhoeddi fod caredig- rwydd yn uchel ei ben, ac hefyd fod y tlawd duw- iol yn gyfoethog yn ei farwolaeth mewn mwy nag un ystyr.—AB BRUTUS.

| CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

IN MEMORIAM.

A WELWCH CHWI "FI 1"

MOELFRE.

ANERCHIAD