Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
+DOCOðOð+1 i Y WERS SABOTHOL.…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
i Y WERS SABOTHOL. I ? Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. 2 y I i I Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, ? | N.A., B.D., Abertawe. t v Goeitekxaf 29am.—Gwahoddiad Grasol Dnw. -Esaiah Iv. Y TESTYN Euraidd.—' Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler Ei gael Bf gelwch arno, tra fydrto yn agos.—Esaiah lv. 6. YN y Testyn Euraidd y cawn neges ein Gwers heddyw, ond yr allwedd i amgylchiadau'r Wers ydyw ad nod 12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn liedd y'ch arweinir y mynyddoedd a'r bryniau a floeddiant ganu o'ch blaen, a hell goccl y maes a gurant ddwylaw.' Pobl yn myned allan o gaethiwed anerchir. Y mae gennym drigain a chwech o benodau wedi eu crynhoi ynghyd dan enw Esaiah, ond y mae gwahaniaeth mawr rhwng y saith bennod ar hugain olaf a'r deugain namyn un cyntaf— gwahaniaeth yn yr amgylchiadau a gwahaniaeth arddiill 1 gymaint o wahaniaeth fel y n gorfodii i osod gofod rhyngddynt a rhannu'r llyfr yn ddau. Yn fyr, y mae'r rhan gyntaf o'r llyfr yn perthyn i'r cyfnod cyn y gaethglud i Fabilon, a'r rhan olaf yn perthyn i gyfnod y gaethglud. Gair cyntaf y ddeugeinfed benuod ydyw cysur, a gobaith am ddyddiau gwell ydyw cyweirnod ail ran y llyfr. Y mae'r than hon yn darllen fel Efengyl, a phriodol y gelwir hi yr Efengyl yn vr Hen Destament.' Y mae gwawr gwared- igaeth ar dorri. Nid dychymyg y proffwyd sydd yn ceisio creu gobaith am ryddhad, eithr sicr- wydcl yr addewid ddwyfol sydd yn dechreu datgloi'r pyrth. Swm y cwbl ddywedir ydyw deffro'r bobl i feddiannu eu hetifeddiaeth: Ewch allan o Babilon, ffowch oddiwrth y Cal- deaid, a. lief gorfoledd mynegweh ac adroddweh hyti, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd Ei was- Jacob.' Y mae'r cynllun o waredu Israel i gael ei gario allan drwy gyfryngau dynol—Cyrus o Persia ydyw etholedig Duw i ddwyn y genedl yn ol o Babilon i Jerusalem. Ond er bod y proffwyd felly yn gosod ei fryd ar ffeithiau ac nid ar ddychtnygion, y mae'r waredigaeth yn beth mor annisgwyliadwy ac mor amhosibl yng ngolwg y bobl fel y mae amheuon yn codi ym meddyliau'r genedl ac yn taro ar draws geiriau cysurlawn' y proffwyd. Y mae ymherodraeth Babilon mor gadarn, ac Israel mewn cyflwr mor isel, fel yr edrych y waredigaeth fel breuddwyd. Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddym fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau a chwerthin, a'n tafod a chanu yna y dywedasant ymysg y cenhedl- oedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai lxyn (Salm exxvi. i, 2). Svlwer ein bod yn son yma am Babilon, ac nid Assyria fel yn y Gwersi blaenorol. Yn y Wers ddiweddaf cawsom Senacherib a Hezeciah wyneb yn wyneb. Dilynwyd Senacherib gan ddau frenin, ac yn eu hoes hwy cyrhaeddodd Assyria ei man uchaf mewn llenyddiaeth a chelf. Ond tua 625 c.c. dechreuodd Assyria ddirywio, a gorchfygwyd hi gan Babilon, ei chymydog, trwy gydweithrediad y Mediaid. Yn oes Nebu- chodonosor aeth ymherodraeth Babilon yn gadarn iawn cafodd efe fuddugoliaeth fawr ar yr Aifft yn 604 c.c. Proffwydai Jeremiah y pryd hwnnw (Jer. xlvi. 2). Erbyn tua 588 C.C. yr oedd Jerusalem wedi ei chymryd a'i dinistrio gan y Babiloniaid, a phobl Judah wedi eu caeth- gludo. Ond ynghwrs amser gwywodd Babilon, ac yn 538 c.t. syrthiodd o flaen- Cyrus o Persia. A thrwy goncwest Cyrus y cafodd yr Iddewon eu gwaredu. Y mae ein Gwers heddyw, felly, yn torri ar gwrs yr hanes ddechreuwyd gennym. Nid oes gennym ofod i ddilyn cwestiwn awduraeth yr ail ran o bronwydoliaethau Esaiah,' ac nid oes angen am hynny wrth egluro'r Wers. Y mae gwahoddiad grasol Duw yr un mor werth- fawr, serch na wyddom enw'r gwr a'i cyhoedd- odd. Y mae yma dri anerchiad gyda'i gilydd- penodau liv., lv. a lvi. 1-8—ac y mae agosrwydd y waredigaeth i'w deimlo ymhob un ohonynt. Priodol y gelwir y bennod hon gan un esboniwr yn Alwad i'r rhai prysur—pobl wedi troi at fasnach, ac yn brysur gydag aur a carian. Pobl oeddyftt mewn perygl o ymgolli ym mywyd Babilon, a'u crefydd ar goll a'u gobcithion yn I'&ugof. Gelwir hwynt yn 01 at bethau nas gall arian nac aur eu ;iad oes rhaid j wrth aur ac arian i'w meddiannu. Gwahoddiad grasol ydyw gwahoddiad rhad, heb arian ac heb werth. Yr un ydyw gwahoddiad Duw o hyd, a'r un yw aniodau meddiannu Bi roddiou. Adii. 1-2- u?wi!l a ??/<. Gallant olygu bywyd yng ngwlad Canaan o'i gyftdybn a bywyd I)yNN,yd, yng i).gnviad Caliaan o'i gyffelyl)ii a I)-, -wyd yili. Mabilor,. -,7 bobl ar hvn o bryd, a rheidian bywyd yn brin ac yn wael. Ond nid ydym i gadw'r geiriau at eu hystyron materol- rhoddion l1chÚ Duw sydd yma. Mewn cyferbyniad i'r bywyd beunvddiol y mae'r bywyd-uweh yn cael ei gynnyg. pwysir arian yn gyfnewid am nwyddau, ond iiis digonir mo'r enaid ganddvnt. Gwerrir enillion am yr hyn nad yw yn torri'r syched 11 ac yn porthi'r angen. Os gwrandewch arnafFi, chwi a gewch ,L, eiiqid a gaiff-? fwyta yr hyn sydd dda, a ch enaid a gaiff ymhyfrydu mewn braster. Adll. 3-5. Addawyd pethau mawrion i Dafydd (2 Sam. xxiii. 5), ac nid yw'r Arglwydd vn troi Ei gefn ar Ei air. Bellach, o gylch El bobl y try yr addewidion hyn, ac ynddynt hwy y cyflawnir hwynt. Ni olynnir ond gwrando a derbyn ar law'r bobl. Megis yr oedd Dafydd yn dyst i'r bobloedd, yn dywysog ac yn orch- mynnwr i'r bobloedd,' felly y bydd y genedl ymysg y cenhedloedd. Daw iddi Iywodraeth ac awdurdod ar y cenhedloedd. Adn. 6-7.-0bIegid hyn, geilw yr Arglwydd am agosrwydd rhwng Ei bobl ag yntau. Adn. 8-g.-Anobeithiai'r genedl am waredig- aeth, acfamheuent fwriadau Duw gyda golwg arnynt. Mesurent Dduw yn ol eu mesur eu huiiair- Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddiwrth yr Ar- glwydd, a'm barn a aeth heibio i'm Duw ? (xl. 27). Adn. 10-11.—Disgynna'r gwiaw a'r eira o'r nefoedd, nid yn ddiamcan a di-effaith. Dyfr- ha'r ddaear, ac a wna iddi ymddwyu ac Felly Gair yr Arglwydd—ni thry yn ofer. Nid geiriau segur ydyw geiriau'r Arglwydd. Dis- gynnant o'r nefoedd ar y ddaear, a'u heflaith fel eiddo'r gwlaw a'r eira. Ffrwytli Gair y1 Arglwydd ydyw pob cynnyrch a welir ar y ddaear. Adn. 12-13.-Gair yr Arglwydd ydyw yr addewid am waredigaeth o Babilon. Nirl gwar- edigaeth brin fydd hon, eithr a llawenydd ac mewn hedd. Ni raid brysio fel ffoaduriaid, ac ni raid ymlaud am ryddid. Gwaredigaeth yr Arglwydd fydd—' y'ch arweinir.' A phan dde chreua'r orymdaith, bydd y bryniau a'r myn- yddoedd yn bloeddio canu, yn atseinio can y gwaredigion. Ar hyn o bryd, drain a mieri geir yn J erusalem newidir golwg y ddinas cyn hir. Yng ngwaredigaeth Ei bobl, gwisga'r greadigaeth olwg newydd.
I Mab Ossian.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mab Ossian. Gwelais hysbysiad yn y TY8T cyn y diweddaf fod Dr. Trevor Da vies, mab y diweddar Barch. Ossian Davies, wedi ei glwyfo yn y fyddin ddwy waith 'dro mawr yn ol, ac hefyd yn Iled ddiweddar. Da gennyf ddweyd ar yr awdurdod ucbaf-awdnrdod mam y meddyg a'i denlu-nad oes un math o sail i'r hysbysiad nchod. Ni chafodd Dr. Trevor ei glwyfo o gwbl, ac y mae ar hyn o bryd, mor bell ag y gellir gwybod, yn hollol ddiogel a dianaf gyda'r fyddin yn Ffrainc. Dylid bod yn ofalus iawn am y ffeithiau cyn anfon hysbysiadan o'r fath hyn i'n papurau cyhoeddus. Mae cyfrif- oldeb mawr ar y sawl sydd yn eu hanfon. Mae y report uchod yn barod wedi peri poen a gofid, ac y mae'n fwy na thebyg o beri mwy, oblegid dyfynnir ef i bapurau eraill o hyd ar y gred fod y sawl a'i hanfonodd yn gwybod. Fodd bynnag, y peth mawr yw na chafodd y meddyg ieuanc ei glwyfo unwaith, ac nid yw yr hysbysiad felly ond chwedl hollol ddisail. Llundain, Gorff. 14eg. H. ELWYN THOMAS [Drwg iawn gennym fod yr hyn a ymddangos- odd yn ein colofnaa wedi peri'r fath boen i'r teulu parchus hwn. Anfonwyd y paragraff i ni gan ohebydd sydd yn byw mewn cylch lie mae teulu'r annwyl Ossian Davies yn dra .« pharchus ac adnabyddus. Fodd bynnag, llawenhawn fod Dr. Trevor Davies hyd yn hyn yn ddianaf, a dymunwn i aden yr Hollalluog ei gysgodi yn yr heldrin fawr.- GOL.]
iLlanuwchllyn.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llanuwchllyn. I (WEINIDOG. Ar y dyddiau I.I1111 a. Mawrth, Mehefin 25ain a'r 26ain, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanuwchllyn ynglyn ag urddiad Mr. R. G. Owen, B.A., o Goleg Bala-Bangor, yn weinidog ar yr eglwys Annibynnol yn y lie. Efallai mai'r cyntaf o weinidogion yr Aunibyn- wyr a urddwyd yma ydoedcl un o'r enw T. Evans, a hynny yn y flwvddyii 1744, pan oedd yr eglwys yn ymgynnull yn Weirgloddgilfach. Yn 1769 urddwyd Mr. B. Evans yn weinidog ar yr eglwys. Yn 1777 urddwyd yma un o'r enw Thomas Davies. Tua 1785 urddwyd Abraham Tibbott yma. Yn 1794, yr enwog Dr. George L,ewis. Yn 1814, Michael Jones, tad y Prifathro M. D. Jones. Urddwyd T. Roberts (Scorpion) yma yn 1847. Yn 1856, Rhys Mynwy Thomas. Yn 1875 urddwyd Mr. James Charles yma. Yn y fLwyddyii 1883 daeth y Parch. D. Roberts (yu awr o Landrillo) yma. Yr oedd efe cyn hynny wedi ei urddo yn Rhyl. Dichon nad ydyw y rhestr uchod yn gyflawm. ond rhydd i chwi ryw syniad am urddiadau i'r weinidogaeth yn Llan- uwchllyn. Nid ydynt wedi bod yn ami, ond rhoddant hanes gwyr amlwg yn cychwyn ar eu gyrfa yn y weinidogaeth Annibynnol. Hawdd oedd gweled yn gynuar dclydd Llun fod'rhywbeth mawr ar gymryd lie yn yr ardal enwog hon. Nos Lun pregethwyd yng nghapel Glanaber gan y Parch. D. Stanley Jones, Caer- narfon, ac ym Mheniel gan y Prifathro T. Rees, M.A., Bangor. Yn Cyullwyd gan y Parchn. G. Jones, B.A., Benllech, a Rhys Davies, Corris. Yng Ngharmel gan y Parchn. T. T. Phillips, B.D., Bala, ac R. J. Jones, B.A., Bangor. Bore ddydd Mawrth, yn yr Hen Gapel, de- chreuwyd yr oedfa gan y Parch. John Evans, Beulah, Bangor (gynt o Southport), un o blant yr eglwys. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan y Prifathro Rees, ac fe gafwyd siars i'r eglwys gan yr hen weinidog, y Parch. D. Roberts, Iylan- drillo. Pregeth lawn o ysbryd yr Efengyl oedd hon ac eiddo'r Prifathro. Yr oedd llywyddiaeth y cyfarfodycld yn llaw fedrus y Parch. Ivan T. Davies, Llalldrillo- yntau yn un o blant yr eglwys. Yn yr oedfa. brynhawnol y cymerodd yr urdd- iad le, ac yr oedd eneiniad amlwg ar yr holl wasanaeth o'r dechreu i'r diwedd. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. E. J- Roberts, B.A., Rhyl. Wedi hynny galwyd ar y Parch. T. Talwyu Phillips, B.D., Bala, i holi'r gofyniadau arferol i'r gwr ieuanc. Atebwyd hwy yn eglur ac mewn ysbryd rhagorol. Teimlai pawb fod gwr Duw wedi dod atom i dorri bara'r bywyd, ac lill teilwng o'r cewri sydd wedi bod yma yn llanw y pulpud Annibynnol. Rhoddodd dan o ddiaconiaid yr eglwys, Mri. L- J. Davies a T. Lloyd, hanes yr alwad yn fyr ac yn ddeheig. Dywedent fod unoliaeth hollol yn yr eglwys o berthynas iddi. Gofynnwyd yr arwydd arferol o ddewisiad yr eglwys o Mr. Owen yn weinidog, a dewisiad Mr. Owen o'r eglwys, gan Mr. Davies, y llywydd. Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau. Cafwyd pregeth ragorol gan y Parch. T. J. Teynon, Cwmyglo, gweinidog yr eglwys ymha un y codwyd Mr. Owen i bregethu, mewn ffiirf o gyngor iddo ar ddydd ei urddiad. Yng nghwrs ei bregeth dywedodd fod llawer o eiriau caredig wedi cael eu dweyd am Mr. Owen yn ystod y cyfarfodydd, ond gallai ef, oddiar ei adnabydd- iaeth ohono er yn fachgen, ddweyd na fyneg- wyd mo'r hanner.' Cafwyd anerchiadau byrion gan y Parchn. H. Cernyw Williams, D.D., Corwen O. Ellis, Llan- uwchllyn Rhys Davies, Corris; Mri. J. P. Griffiths, Conwy, ac R. J. Jones, B.A., Coleg Bala-Bangor. Cyflwynodd Mr. Teynon, dros eglwys Cwm- yglo, bymtheg o gyfrolau gwerthfawr i Mr. Owen fel arwydd o'u dymuniadau da iddo. Cyduabyddodd yntau y rhodd mewn ychydig eiriau pwrpasol. Yn yr hwyr dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. D. M. Harries, Brithdir, a phregethwyd gan y Prifathro Rees a Mr.Stanley Jon.es i gynull- eidfa fawr iawn. Anfonwyd llythyrau yn datgan cu gofid am eu hanallu i fod yn bresennol gan amryw. Mae Mr. Owen yn dechreu ei weinidogaeth mewn hen eglwys barchus, ynghanol pobl gar- edig, a than amgylchiadau sy'n arwyddo dyfodol cysurus a defnyddiol iddo ef a'r eglwys.