Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Bethania ac Ebenezer, SirI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bethania ac Ebenezer, Sir I Frycheiniog. CYFARFODYDD SEFYDLIT. I Cynhaliwyd cyfarfodydd sefydiu y Parch. L. Price, gynt o ISxmouth, yn weinidog ar yr eglwysi uchod, Gorffennaf y 4ydd a'r 5ed, 1917. Pregethwyd y iioson gyntaf ym Methania gan y Parch. Idris Davies, Hay (yn Saesneg), a W. M. Saer, Pennorth (yn Gymraeg). Trannoeth cynhaliwyd y cj^farfodj^dd yn Ebenezer. Cafwyd oedfa Gymraeg y bore, pryd y pregethwyd gan y Parchn. yr Athro Joseph Jones, M.A., B.D., Aberhonddu, a D. A. Griffith, Troedrhiwdalar—yr olaf yn absenoldeb y Parch. W. H. Price, Talgarth. Llywyddwyd y cyfarfod croesawu yn y pryn- hawn gan yr Hybarch. D. A. Griffith, esgob Ymneilltuol y sir. Darllenwyd o'r Ysgrythyr ac arweiniwyd me-wn gweddi gan y Parch. W. Roderick, Aberedw. Darllenwyd llythyr oddi- wrth y Parch. A. Thompson, B.A., Exmouth, yn datgan ei ofid nas gallai fod yn bresennol, ac yn tystio i'w gyfeillgarwch dwfn tuagat, a'i edmygedd o'r Parch. L. Price. Dymunai i fen- dith Duw fod ar yr undeb. Coiiai'r Cadeirydd un ar ddeg o weinidogion yn y cylch-cylch dymunol, prydferth, caredig a diddwndwr. Gobeithiai y byddai i Mr. Price aros yn hir yma i osod ei ddelw ar fywvd y gymdogaeth. Croesawyd y gweinidog newydd i blith pobl ei ofal gan Mr. Havard dros eglwys Xibenezer, a chan Mr. Stephens dros eglwys Bethania. Coflai'r Parch. W. M. Saer Mr. Price yn wein- idog yn Lacharn, o ba eglwys y bu yn aelod am dymor, a chyfeiriodd at ei wasanaeth i'r Ysgol Frytanaidd pan yn weinidog yn Ffynnon- bedr. Siaradwyd ar ran Cyfundeb Seisnig Brych- eiuiog a Maesyfed gan Mr. D. C. Davies, Clerc tref lylandrindod (Cadeirydd y Cyfundeb), a'r Parch. Idris Davies, Hay" (Ysgrifeuuydd y Cyf- undeb). Gobeithient. y byddai Mr. Price yn ddedwydd a llwyddiannus yn ei gylch, ac yn ffyddlon yug Nghyfarfodydd Chwarterol y Cyf- undeb. Sylwai'r Prifathro Lewis, M.A., B.D., Aber- honddu, fod un o weinidogion Blaenycoed, y Parch. Henry Lewis, wedi ymadael oddiyno i'r eglwysi hyn. Yr oedd efe a Mr. Price yn gyd- efrydwyr yn Manchester. Yr oedd wedi cael profiad helaeth—wedi bod yn weinidog ar eglwysi Cymraeg a Saesneg, ac eglwysi yn i- hlart- nol felly. Deuai yn awr i gylch tawel, ond pwysig —pwj'sig am mai mewn eglwysi bychain gwledig y megir aelodau mwyaf blaenllaw ein heglwysi yn y trefi a'r dinasoedd. Adnabu y Parch. R. J. Williams, Plough, Mr. Price ers llawer blwyddyn. Anogai rhieni yr eglwys i feithrin parch at y weinidogaeth yn y plant drwy siarad yn barchus am y gwein- idog ar yr aelwyd. Dywedai yr Athro Joseph Jones fod achly- suron o'r math hwn yn gyfle i'r eglwys a'r gweinidog i ddechreu byd o'r newydd—yn gyfle i wneud pendertViiiadau newydd i wasanaethu Duw a'u hoes yn well. Pob gweinidog newydd ddeuai yn \chwanegu at gyfrifoldeb yr eglwysi. Dylent dyfu mewn gras ac ychwanegu yn eu gwybodaeth am Grist drwy weinidogaeth pob un. Y Parch. R T. Parry, Cerrygcadarn, a ddy- wedai fod eiisau adfer awdi.rdod yng ngweinid- ogaeth y Gair. Cyfeiriai yr Athro D. Miall Edwards, M.A., at y cyfie geid yn nhawelwch y bryniau i feithrin myfyrdod a defosiwn. Dylanwad y weinidog- aeth i raddau pell yn cael ei benderfynu gan ansawdd c&lon y gwrandawyr. Rhaid i'r Gair gael ei gyd-dymheru a ffydd yn y rhai sydd yn ei wrando er iddo fod yn gyfrwng y fendith uchaf. Ilongyfarchai y Parch. W. Roderick yr eg- lwysi ar eu dewrder yn cynnal y gyfres cyfar- fodydd pan oedd tuedd mor gyffredinol i roddi i fYllY gyfarfodydd a chynadleddau crefyddol. Gobeithai y Parch. D. Price, Libanus, y byddai prydferthwch yr ardal yn el caei adlewyrchu vm mywyd y trigolion. Cofiai yr Athro John Evans, B.A., Mr. Price yn fyfyriwr yn Ysgol Watcyn Wyn. Y tymor preseimol yn un ffrwythlawn, a hyderai y bydd gweiiJdogaeth ei frawd felly. Apeliai am ffydd- londeb i od.fa bore y Sul. Gond mwyaf gweinidog oedd gweld ei analln i ddylanwadu ar fywyd dyddiol ei bobl. Siaredwyd yn olaf gan y Parch. L. Price. Teimlai'n ddiolchgar i'w frodyr yn y weinidog- aeth am eu presenoldeb a'u geiriau caredig a'u dymuniadau da. Diolchai yn arbennig i'r Athro J. Evans am ei ofal dros eglwysi y tviilor y buont heb weinidog. Yr oedd hanes vr "eglwys yn ysbrydiaeth i weithio heddyw. Hyderai y caent fod yn gvfrytigau fel eglwysi a gweinidog i ennill yr ardal i Grist. Diweddwyd drwy weddi gan y parch. R. J. Williams. Pregethwyd yn oedfa'r hwyr gan y Parchn. R. J. William. a'r Prifathro T. Lewis, Aber- hoiiddi-i Cafwyd croeso helaeth gan yr eglwysi, a dar- parwyd lluniaeth i'r dieithriaid. Cychwynna Mr. Price ei weinidogaeth yughauol sirioldeb a ffafr ei bobl a'i frodyr. Boed iddo ef a. hwytliau wenau tirionaf nef a daear. VIATOR. VIATOR. I

I Porthmadog a'r Cylch. I

I Peniel, Llanharri.I

Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.