Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y LLYWODRAETH NEWYDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLYWODRAETH NEWYDD Y mae y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfod i swydd, a Dadgorfforiad y Senedd yn cymeryd Ile dydd Mawrth nesaf. Nid oes dim neillduolion yn perthyn i'r Weinyddiaeth. Mae 8 neu 9 o honi yn aelodau o Dy'r Arglwyddi. Yr hen gang sydd oruchaf eto, ac nid oes gwaed newydd ynddi cyffelyb i'r diweddar Argl. Randolph Churchill. Mae'n wir fod Mr. Chamberlain yn aelod o honi, ond cymer fwy nag sydd ynddo ef i lefeinio y clamp toes Tori- aidd. Mae y penodiadau wedi eu gwneyd y fath nas disgwyliwn iddynt dori dim tir newydd na myned allan o'r hen rigolau. Ar y cyfan, lie yr oedd aelod wedi cymeryd rhyw fater yn destyn astudiaeth, mae hwnw wedi cael sw dd sydd yn hollol ddieithr iddo. Mae Mr. Chamberlain wedi cymeryd llawer o ddyddordeb yn Mesur Cyfrifoldeb Meistriaid, ac yn y cynyg- ion o blaid yswiriant i'r hen a'r meth- edig, a chyflafareddiad, a gallesid dis- gwyl felly y buasai ynysgrifenydd Car- trefol er mwyn eu cario allan, ond yn lie hyny gwnaed ef yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. c- 1- Ymddengys fod Arglwydd Salisbury wedi rhoddi cymaint a allai o ddognau marweiddiol i bob aelod o'r Weinydd- iaeth yn eu penodiad, fel y mae yn hawdd gweled y siomiant a gaiff y wlad os estynir ei bywyd. Yn mhellach, gwelwn ddiystyrwch bwriadol yn cael ei ddangos tuag at yr Iwerddon, gan fod yr Ysgrifenydd Gwyddelig yn cael ei gau allan o'r Weinyddiaeth. .I Y mae delw Arglwydd Salisburyyn amlwg ar y Llywodraeth, yr hwn sydd yn un o'r gwleidyddwyr culaf a mwyaf rhagfarnllyd y ganrif. Ni rydd ef unrhyw ryddid na breintiau i'r boblog- aeth o'i wirfodd, a phan y rhydd hyny dan ddirwasgiad, teifl ddirmyg a gwawd amben y rhai a'u derbyniant. Gall wneuthur addewidion amwys a lledrithiol am fesurau bychain, ond ni ddug byth yr un mesur arwrol i iachau y cancr sydd yn ysu rhan fawr o ddos- barthiadau y wlad.

ETHOLIAD MALDWYN.

TRO I'R AIPHT.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

YR ETHOLIAD AGOSHAOL.

A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. ..

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

MACHYNLLETH.

PIGION.

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…