Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y LLYWODRAETH NEWYDD

ETHOLIAD MALDWYN.

TRO I'R AIPHT.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

YR ETHOLIAD AGOSHAOL.

A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. ..

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. [Y GENINEN.] Mae rhifyn Gorphenaf allan yn brydlon, ac fel arfer, mor llawn a phlisgyn wy o fater a hwnw yn amrywiol a dyddorol. Tlws a thyner yw Colled Elfed, fel pob- peth ddaw dan ei law. Dyddorol iawn yw trydedd ysgrif y Parch. D. Griffith ar Ber- thynas yr enwad Annibynol a Llenyddiaeth Gymreig. Degys fod yr enwad wedi ac yn bod yn hynod fyw i lenyddiaeth Gymreig yn mhob agwedd arni, yn enwedig barddonol a chylchgronol. Cynwysa ysgrif yr hynafgwr o'r Cadnant gyhuddiadau difrifol yn erbyn pob enwad cre- fyddol yn Nghymru, gan gymeryd yr Eglwys Sefydledig i'r bwndel. Y mae Piser Alis," D. Samuel, M.A., fel llenllian Pedr, yn cynwys amrywiol goginfwyd; ond yn anhebyg i hono, anhawdd iawn deall y cysylltiadau, ac yn enwedig amcan y "weledig- aeth" hon. Trwy dryblith y duwiau yn eu cartrefi yn myd Anian, yn myd y meddwl, ac yn y byd moesol, yr arweinia ein hen gyfaill Baldwyn ni, ac ymddengys yn eu plith fel yn ei hen gynefin. Tueddfryd y bardd i bersonoli gwrthddrychau ar bob llaw yw ei fater. Esiampl deilwng o efelychiad bechgyn llafur a geir yn ysgrif dra darllenadwy Gwynedd ar y diweddar Elis Wyn 0 Wyrfai." Ysgrif ddyddorol iawn geir gan yr hybarch Dewi Ogwen ar Beryglon ieuenctyd oddiwrth bleserdeithiau," yn cynwys rhybuddion amser- ol a phftodol. Da y gwnelai ieuenctyd Cymru ddal arnynt. Nid yw yr uchod ond sampl" o'r grawn geir ar werth yn y rhifyn. Argymhellwn y Gejiinen yn galonog ar ieuenctyd ac eraill. 1). IFOR JONES.

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

MACHYNLLETH.

PIGION.

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…