Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

õgofion am (fcorrio.I

YR ETHOLIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ETHOLIAD. Y mae yr Etholiad Cyffredinol wrth y drws. Bu gai-i broffwydi lawer yn rhagfynegi el ddyfodiad ond yn yr awr ni thybiasant y daeth. Dygwyd hyn oddiamgylch yn benaf gan yr Undebwyr, a hyny mewn dull isel a chowardaidd. ac yr oedd llaw Joe yn amhvg yn hyn. Bleiddiaid yn nghrwyn defaid yw y blaid hon. Proffesant fod yn Rhyddfryd- wyr ar bob pwne, ag eithrio Ymreolaeth i'r Iwerddon. Y gwirionedd yw, y maent yn gymaint Toriaid a neb, os nad mwy. 'Does dim yn rhy isel, maleisus, a dialgar, ganddynt i'w wneyd er cyrhaedd eu hamcan Y mae eu hymffrost chwyddedig mai hwy sydd yn cadw y deyrnas mewn cyfanrwydd yn ffiaidd yn ein golwg. Ceir gweled y di- gwydda iddynt yn yr etholiad presenol yn debyg i'r genfaint foch yn Gadara. Profed- igaeth yw dweyd mwy, ond ymataliwn. Y mae amgylchiadau gorchfygiad y Llyw- odraeth yn debyg i hyn :-Cynygiodd Ban- nerman, sef Swyddog Rhyfel, fod costau rhyfel i fod yn llai, a golygai hyny ostyngiad yn y dreth. Cynygiodd y Toriaid i'r costau fod yn fwy, a golygai hyny godiad yn y dreth. Ac er svndod i bawb cafodd y Tori- aid fwvafrif o saith yn erbyn y Rhyddfryd- wyr, ac felly o blaid codi y dreth. Beth wnaeth y Rhvddfrvdwvr ? Dim ond ceisio cwtogi'r draul a gostwng y dreth, a mynodd y Toriaid, yn arbenig yr Undebyvyr, eu troi* o'u swydd am gynyg ysgafnhau baich y trethdalwr. Hyderwn y cofia'r trethdalwyr hyn yn yr Etholiad yn arbenig yr am- aethwyr. Dylid cadw mewn cof fod-yr etholiad hwn y pwysicaf a fu erioed yn hanes Oymru ar gyfrif Dadgysylltiad a Dadwaddoliad, a dylai pob Yi-anoillduwr. yii arbenig wneyd ei ran yn ffyddlawn a chyson a'i egwyddorion. Er's mwy na haner can' mlynedd, yr ydym yn gwaeddi am gydraddoldeb crefyddol, ond yn gymharol ddifudd dan yn cldiweddar. Derbyniwyd Dadgysylltiad a Dadwaddoliad i fod yn rhan o'r hyn a elwiryn Rhaglen Newcastle, sef rhaglen y Blaid Ryddfrydig. Rhoddodd Rosebery ei air flwyddyn yn ol mai Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad fyddai y cyntaf yn y Senedd-dymor presenol, a chwareu teg iddo cadwodd ei air. Dygodd ei Weinyddiaeth fesur i mewn o dan oial Mr. Asquith, a gwnaeth ymdrech ganmol- iaethus i'w basio, ac oni bai am diiciau isel- wael yr Wrthblaid, yn arbenig yr Undeb- wyr a Thy'r Arglwyddi, byddai Dadgysyllt- iad a Dadwaddoliad yn ffaith heddyw, trwy fod yn ddeddf ar lyfrau Prydain. Pwy wna'r Ymneillduwyr gefnogi? Ai y rhaifu yn ymladd am eu rhyddid a'u cydraddoldeb crefyddol, ynte y rhai fu yn gwawdio eu cwynion a mathru eu hawliau dan draed ? Cofier pwy rwystrodd Ddadgysylltiad. Y cwestiwn heddyw yw, a fyn Cymru Ddadgysylltiad ? Na fyn, medd Esgob Llanelwy, a hyny medd ei arglwyddiaeth am fod mwyafrif Cymru yn Eglwyswyr pro- 9 ffesedig (?). Pa hyd Gymru Ymneillduol y goddefi y fath anfri cableddus ar dy gym- eriad ? Dyro atebiad pendant, croew a di- floesgni i grawfiadau Esgob Llanelwy, a phob Toriaidd Esgob o'i fath, drwy anfon Rhyddfrydwyr pybyr—pleidwyr selog Dad- gysylltiad—dros bob etholaeth yn Nghymru I In i St. Stephan 3rn yr etholiad agoshaol, a'r fford(I i wneyd hyn yw, drwy i bob Yiiincill- duwr drwy Gymru benbaladr i wneyd ei ran. Apeliwii, at yr Yinneillduwyr, yn ar- benig eiddo Meirion a Maldwyn-dlsgyn- yddion Yavassor Powell a Walter Caradog, ar i chwi sefyll fel dewrion o blaid y Rhydd- fiydwvr, a thros y rhyddid crefyddol a brynodd ein tadau a gwerthfawr. waed eu calon. Deuparth o ysbryd ein tadau a llanciau gwastadedd Durah a ddisgyno ar Ymneillduwyr ein gwlad yn yr etholiad hwn. GWLEIDYDDWB.

O'R FFAU,

DOLGELLAU.

ABERDYFI.

ABEEGYNOLWYN.I

NODION 0 TOWYN.

CYNGHOR PLWYF CEMMES.