Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YR ETHOLIADATT.

---._.----SIR FEIRIONYDD.

[No title]

PIGION.

TALYBONT.

.DINAS MAWDDWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DINAS MAWDDWY. MARWOLAETH.—Cafodd yr ardal hon ei tharaw a syndod gan y newydd pruddaidd dydd Mercher, y 3ydd cyliso], fod Mrs. Elizabeth Brown, Caergof, wedi marw yn 42 mlwydd oed. Ni chafodd ond cystudd byr, yn iach gyda'i goruchwylion ddydd Mercher, a'r Mercher canlynol wedi huno. Gadawodd ar ei hoi briod a'i mham galarus, a phedwar 0 blant yn amddifaid. Ymunodd a clirefydd yn ieuanc, a gellir dwyn tystioiaeth ei bod o'r dosbarth na chafodd yr eglwys dramgwydd nag achos i ofidio o'i derbyn. Rhodiodd ei llwybr yn ddifwlch i'r pen, ag 'roedd y dyrfa fawrddaeth i-w hebrwng y dydd Sadwrn canlynol i dy ei hir gartref, yn dangos y parch oedd genym iddi fel ardal. DAM.WAIN.-Cyfarfyddodd Mr. D. Davies, mab Mr. Evan Davies (diweddar o Blaentaf- olog), a damwain, a brofodd yn angeuol iddo yn un o chwareli Ffestiniog, yn 22 oed. Yr oedd yn fachgen ieuanc gobeithiol, yn aelod cyflawn a rheolaidd er's blynyddau. Digon trwm ar ei chwaer wrth ei wylied oedd ei glywed yn gofyn cawn i glywed llais mam (yr oedd ef wedi ei amddifadu o'i olwg yn y ddamwain) rwyf wedi cyfarfod a diwedd difrifol, gweddiwch droswyf." Credwn na ddywedodd erioed air chwerw wrth ei fam, a hyderwn fod marw yn elw iddo." Cafodd ei gladdu yn mynwent y Dinas, dydd Llun, yr 8fed cyfisol. Er nad oedd ond ychydig er pan aeth i Ffestiniog i weithio, yr oedd wedi enill parch fel y daeth amryw o'i gydnabod a'i gyfeillion i'w hebrwng yr holl ffordd oddiyno yma. CYNGOR DOSBARTH MALLWYD.—Cyfarfu aelodau y cyng-or uchod yn ysgoldy y bwrdd, Dinas Mawddwy, nos Wener, Gorphenaf 12. Mr. John Jones yn y gadair. Y materion i'w penderfynu oedd, pwy oedd i gael y swyddi oeddys wedi bod yn advertiso am danynt, sef surveyor a threth-gasglydd. Yr oedd pump yn ceisio am y gyntaf, sef H H. Jones, Humphrey Jones, Morris Roberts, Owen Owens, a Richard Jones; allan o'r 5, Morris Roberts gafodd ei ddewis. Am y swydd o dreth- gasglydd, yr oedd pedwar yn disgwyl, sef H. H. Jones, Owen Owens, Rowland Evans ac Humphrey Jones. Yr olaf ddewiswyd.

MACHYNLLETH.

ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD…

URDDATT CERDDOROX,:—

■— :o:-TEULU'R FARIL YN DIAL.

-"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."

: o:——■ Y GLORIAN.

! Y SER.

Y DIWRNOD CNEIFIO.