Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YR ETHOLIADATT.

---._.----SIR FEIRIONYDD.

[No title]

PIGION.

TALYBONT.

.DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD…

URDDATT CERDDOROX,:—

■— :o:-TEULU'R FARIL YN DIAL.

-"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Y GWIR YN ERBYN Y BYD." Clywais llawer o floeddio ar y frawddeg hon, ond pa faint o'r gwir a dracthir yn erbyn y byd wedi'r cyfan ? Bwriadaf yn hyn o ysgrif ddweyd gair yn erbyn y byd amaethyddoL Credaf (ac yna llcfaraf), fod y dosbarth hwn yn ddosbarth hynod y dyddiau hyn. Gyda phriodoldeb y gellir ei alw "dosbarth y mawr gam." Mae y dosbarth hwn yn cwyno o foreu dydd Llun hyd nos Sadwrn,-—cwyno fod yr ardreth yn rhy drom, fod prisiau yr anifeiliaid yn rhy fychan. Ond gadewch i ni Aveled pa focld y saif pethau gyda golwg ar y rhent. Dyma dirfeddianwr yn gosod ei ffarm am 2op. y flwyddyn o rent, ac ymhen y flwyddyn neu ¡ ddwy, mae y tenant yn bwriadu rhoddi rhybudd J i'w feistr am ostyngiad, am ei fodyn methu cael deupen y llinyn ynghyd ac NN-rth fnned i dalu y rhent, mae yn hysbysu ei fwriad i'w gymydog- ion a'i gyd-denantiaid, ond cyn nos y dj'dd hwnw, bydd tri neu bedwar o'r cyfryw yn gofyn am y fferm, gan roddi awgrymiad eu bod hAvy yn well amaethwyr, ac yn fwy darbodus na'r hen denant, ac felly y gallent dalu am dani yn y pris y mae ac os na bydd hyny yn llwyddo, cynygir 25p. am dani onid oes genym eng-reifftiau 0 bethau fel hyn yn ein hymyl. Wel yn awr, mae y Meistr Tir yn gweled Avrth reswm fod amaethwyr profiadol fel hyn, yn gwybod faint yw gwerth y ffarm yn well nag ef, ac yna y mae y cynygydd uwchaf yn ei chael, a phwy a wel fai ar y tirfeddianydd ? Ond arhoswch eto am ychydig, a chewch glywed cwyno, fod y rhent yn uchel, y bvd vn galed, a mil o bethau. Mae yr awydcl m'or faAvr am gael ffarm, nea y gellir dweyd fod dynton wedi meddwi, a myned yn ddall, a di- deimlad. Mae Ilawer un wedi cael meddiant o Dyddyn yn meddwi ei fod yn rhywun a ddylai ,gael pawb a phobpeth at ei Avasanaeth. Ni raid ond anfon y drol at siop y blawdwr, anfon yr hogyn i efail y gof, a rhoddi gorchymyn am drol, neu aradr, neu og i'r ?ae>!J, a thybia fod yn fraint i bawb gael aros wrtho ef am fiNA-yddyn, am yr arian, Ond, pan y bydd ef yn gwerthu ceffyl, neu fuwçh, yn y ffair, yn mynecl a dafad, neu 16, i'r cigydd, yn anfon basgedaid o ymenyn i'r siop—terms cash os gwelwch yn dda ac odid fawr na bydd y rhai a ymddir- iedodd eu heiddo iddo ef yn gorfod byw ar gwyno fod y byd yn galed, yn lie cael tal, gan fod y Meistr Tir yn sicr o'r rhent yn gyntaf aed y byd lle'r elo. Ac eto, dyma y dosbarth sydd yn cadw y byd" medda' nhw; ond pe dywedant mae hwy sydd yn cadw y byd yn i dlawd, buasai yn haws genyf eu credu. Clywais un yn tor-sythu mewn ffair yn ddiweddar, wedi cael gormod o drwyth haidd,—" Y ni sydd yn cadw y byd i fyn'd." Yn ei gadw i fyned i ba le tybed ? Onid i fyned ar i lawr ? Onid oes genym hanes am ddosbarth cyffelyb yn cael eu cyflogi i'r winllan ? Y dosbarth cyntaf: '• Ac wedi cytuno am geiniog y dydd," Nid oes sdn am neb ond y dosbarth cyntaf yn cytuno; ac nid oes genym hanes am neb yn grwgnach ond hwo. Ac o bob grwgBach, d'yma y mwyaf di-reswm,—grwgnach yn erbyn eu cytundeb eu hunain. Wel, dyna ddarlun da 0 amaethwyr y dyddiau hyn, yn cytun'o am rent, a grwgnach yn ei erbyn. Nid wyf yn anwybyddu amaethwyr sydd yn eithriaid i'r rheol hon O na, mae genym lawer 0 ddynion egwyddorol, ymdrechgar, ag sydd yn gwneyd eu rhan i gadw y byd." Ond nid at y rhai hyn yr wyf yn cyfeirio, ond at y dynion "bach", yma, sydd yn rhy "fawr" i weithio wrth y dydd, ac yn rhy fach i wneyd amaethwyr. Oni welsoch chwi rai o honynt yn sefyll gan sythed a'r aethnen, gan lledu eu traed mor bell oddi- wrth eu gilydd. Pe buasent yn sefyll fel gartref—ar eu ffarm-buasai eu traed wedi myned dros y cloddiau terfyn. Yr wyf yn cyd- nabod fy mod yn dweyd pethau llymion, ond ar yr un pryd, yr wyf yn dweyd y Gwir yn erbyn y byd.Yr eiddach, &c., GWAS FFARM.

: o:——■ Y GLORIAN.

! Y SER.

Y DIWRNOD CNEIFIO.