Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Mr. JIMMY MADDOCKS.

Advertising

-----Yr Adran Gymraeg.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr Adran Gymraeg. Dechreu y Concwest yn Neheubarth Affrica. Yx ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf y mae newyddion llawer mwy calonogol wedi cyrhaecld o faes y rhyfel, a gellir dweyd bellach fod pethau wedi troi yn llwy.r o'n plaid. Wedi iddo gyrhaedd i Cape Town arhosodd y Cadfridog Roberts yno am dair wythnos cyn symud i fynu y wlad, ond o ddydd i ddydd yr oedd mil- wyr a meirch yn glanio wrth y miloedd, ac ni wyddai neb i ba le yr oeddynt yn myned. Fodd bynag cludwyd hwynt yn dclystaw i fynu o orsaf i orsaf, er cryfhau byddinoedd y tri chadfridog yn ngwahan- ol barthau y wlad. Yna, wedi cludo oddeutu 30,000 o wyr er adgyfnertlm Arglwydd Methuen, aethy Cadfridog Roberts i fynu a gosododd ei gynlluniau mewn gweithrediad ar unwaith. Diwedd yr wythnos ddiweddaf anfonodd fyddin gref o feirch-filwyr dan y Cadfridog French mewn cyfeiriad cwmpasog tua Kimberley. Llwyddwvd i dori nerth y gelyn oedd yn gwarchae, a bu llawenydd mawr yn y dref oherwydd ei hachub. Tra yr oedd hyn yn myned yn mlaen gwelodd y fyddin Boeraidd, dan Cronje, ei fod mewn perygl, a diangodd gyda'i fyddin anferth. Ymlidwyd ef gan y Cadfridogion French, Kelly-Kenny, a Macdonald. a llwyddwyd i ddal can-a-haner o wageni yn llwythog a nwyddau ymborth, a chelfi rhyfel. Wedi cael ei ffordd yn rhydd i Kimberley symudodd ein byddinoedd i gyfeiriad dwyreiniol i geisio atal y gelyn rhag cyrhaedd Bloemfontein, prif-dclinas yr Orange Free State. Yn ol y manylion diweddaraf y mae byddin Cronje wedi cael eu hamgylchu, ac y mae brwydro caled yn myned yn mlaen. Mae y Cadfridog Mac- donal wedi ei glwyfo. O'r rhan arall i faes y rhyfel ceir man- ylion fod y Cadfridog Buller yn gwthio yn mlaen, ac wedi enill amryw o safleoedcl pwysig er rhyddhau ei ffordd i Ladysmith. Credir fod y fyddin Boeraidd dan Joubert yn hwylio i symud tua chartref er mwyn gallu cyrhaedd Pretoria o then i'r Cad- fridog Roberts, yr hwn gyda haner can' mil o wyr sydd yn debyg o wneyd ym- drech i feddianu y dref hono.

Gwe y Pryf=coppyn.

Marchnadoedd yr Wythnos.

Anifeiliaid,

Marchnadoedd Eraill.

[No title]

Llanrwst.

Hunting Appointments.i

[No title]

Advertising