Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

T 1 " ft' 8 ® F ^ / A n ,…

------>----.-------.-I CLWB…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-> I CLWB YR EFAIL A'R DDEDDF ADDYSG. CYNLLUN RHYFEL OYMRU. EISTEDDIAD XXXIII. Beth wna Ojmru.-—Gwersi o Loegr.— Ymrxsillduwyr di-asgwrn-cefn.— Dyled dynion cyhoaddus i Ymneinduaetb.— Dyledswydd Ymneilldawyr egwyddor- ol.—Ithybudd prydloD.—A yw yn iawn gwrthod talu'r dreth I— EsiampI yr Eghvys.—EsiampI Mr. Balfour.—D) sg- eidiaeth Mr. Balfour ar wrthwyncbu'r gyfraith.—Mr. Balfour yn annog active resistance. Pregeth Mr. Balfour. Y Pabydd a'r Ymneillduwr.—Pa beth a wn&wD?—Ua.!s o Sir Gaerfyrddin.—B'le mae dechreu.-Penderfyniadau Cynnadl- edd Absrtawe.—SaQe Mr. Humphreys Owen a'r Aelodau Cymraeg. — A all Oynghor Sir wrthod treth i ysgol Eaw- adol 1 — Dailiau eraill o weithredu. — Oynnadledd Caerdydd. Ni chollwyd dim amser cyn dechreu ar y gweitlirediadau yn ughyfarfod y Clwb nos Sadwrn diweddaf. Yr oedd pawb yn eu lie pan gododd y llywydd i ddyweyd fod yr I amser i ddeehreu'r cwrdd wedi d'od. I I BETH WNA CYMRU. I Ca,wsom/ ebe Dr. Flees, yn y cyfarfod diweddaf brofion amlwg a diammheuol fod enwadau Ymneillduol Cymru un ao oil yn barod i ddechreu'r frwydr fawr hou dros ryddid cydwybod a liawliau dinesig.' 1 Dechreu'r frwydr ebe un o'r clerigwyr yn syn. Bath ond brwydro yda chi wedi bod yn wneud er's blwyddyn gron l' Chwarddodd yr hogiau. Na,' ebe'r doctor, gyda gwên, aiao'r gwr parchedig wedi camgymmeryd. Nid yw Cymru wedi dechreu ymladd hyd yn hyn. Y cwbl ydym wedi ei wneuthur hyd yma ydyw osgoi, os oedd yn bossibl, yr angenrheidrwydd am ymladd. Yr ydym wedi ceisio perswadio ein gwrthwynebwyr a'n gormeswyr i beidio'n gorfodi i ymladd dros ein hiawnderau. Gan na wrandawodd yr Eglwrs a'r weinyddiaeth ar ein cais ni i beidio ein gwthio ni i ryfeJ, nid oes genym bellach ddim i'w wneuthur ond cario'r rhyfel yn mlaeo mewn dull ac ysbryd teilwng o'n tadau gynt.' A rhedodd ffrwd o Clywch clywch F o'r naill gwr i'r llal] o'r gwersyll. Heno,' ychwanegai'r Ilywydd, 'yr wyf am i'r cyfarfod hwn gaaolbwyntio ei sylw ar y modd a'r doll mwya-f ymarferol i gario'r j frwydr yn mlaen. Cawsom yr wythnos ddiweddaf sicrwyJd fod pawb yn barod i ymladd. Eiihr ni chawsom hyd yn hyn unrhyw arweiniad pa fodd i drefnu ein byddin, nac unrhyw flan of campaign, neu gynlliiri ihyfelgvrch i Gymru. Ac at y mater yma y dymnnaf i'r cyfarfod hwn gyfeirio ei sylw yn fwyaf arbenig. GWERSI 0 LOEGR. 'Mr. Cadeirydd,1 eber Prifafchraw Rowlands, o Aberhonddu, 4oni allwn, ni yn Nghymru'r dyddiau yma ddysgu rhywbeth oddi wrth Loegr ? Mae yns, amryw ddig wyddiadau pwysig wedi cymmeryd lie yn Lloegr o fewn yr wythnosau diweddaf yma all fod yn help i ni benderffnu beth a sut i weithredu yn Nghymru. Dywedwyd yma yr wythnos ddiweddaf fod y Prifa,thraw Fairbairn. Proffeswr Massie, Mr. R. J. Campbell, o'r City Temple; Mr. Edwyn Holt, cadeirydd y Watch Committee, Man- Chester; ac eraill, wedi ambga eu bwriad i beidio talu'r dreth addysg fydd yn myn'd at gyrmal ysgol ion enwadol. Ai ni allwn ni yn Nghymra ddechreu yn y fan yna V I Cly wch clywch l' llefai amryw yn y gynnulleidfa. 0 YMKEILT.DUWYR DI-ASGWRK CKPN. 5 Maddeuwch i mi, syr,' ebe boneddwr tra urddasol yr olwg arno, yn codi yn nghanol y gynnulleidfa. Ond y mae cwestiwn ymar- ferol yn cvnnyg i'm meddwl i yn y fan hon. Yr wyf :6, fel y g$yr llawer o honoch, yn Ymneillduwr, ac yn flaenor gyda'l' Ym- neilldawyr ac heb law hyny, yn ustus hedd- web-un o'r ychydig Ymneillduwyr gydd yn meddu yr anrhydeda uchel o eistedd ar y faingc ynadol—ac yr wyf ii yn amaiheu a yw yn ddyledswydd, a yw yn iawn, a yw yn gyfreitlilawn, i ni, fel dinasyddion, i I wrthod talu'x* dreth a osodir arnom gan gyfraith v wlad V Syrthiodd distawrwydd ar y gynnulleidfa, i ac ymddangosai fel pe tae awel o wynt deifiol y dwyrain wedi chwythu drosti. Yn mhen ennyd wole'r crydd ar ei draed. Mr. Llywvdd,' ebe fe, ga i ofyn cwest- invil neu ddau i'r boneddwr vma V 1/ DYLED DYSION CYHOEDDUS CYMRU I YMSE1LLDUAETH. | Aralygodd y cadeirydd ei gydsyniad. Mi hoilwn gael gwybod, ynte, yn y He cyntaf, gan y boneddwr yma. ar ba dir y dyrchafwyd ef i'r faingc ynadol f Ar dir cymmhwysder, syt- l' oedd- yr atteb chwyrn. I Nid yw'r Arglwydd Ganghellydd yn dyrchafa neb i'r swydd v J ,l anrhydeddus hon ond ar air cymmhwysder ..1 .J '1 personoi.' O O llefai amrvw, tra v chwarddai y Hein. Cododd y crydd ei law am ddistawrwydd. Nid wyf yn ammheu am foment gym- mhwysderau personol y boneddwr yma i fod yn vnad heddweb,' ebe fe. Cymmerwn ynganiataolei fod yn meddu pob cymmhwys- der angeorheidiol. Ond gwyr efe gysia! ag y gwyddom ninnau nad yw pawb sydd yn gymmhwys yn cael y fraint o eistedd ar y faingc ynadol. Yr hyn yr wyf fi am gael allan ydyw, pa fodd y daeth ere i gael ei ddewis i dderbyn yr anrhydedd hon V 1 0 rwy'n gweled,' attebai'r Hall. 'vVe1¡ yr wyf wedi cael y fraint a'r anrhydedd o fod yn wr cyhoeddus er's blynyddau. Cefais fy ethol gan fy rsghyd-drethdalwyr i amryw swyddi cyhoeddus; yr wyf wedi gwasanaethu ar y School Board, ar y I' Guardians, ar y J'own Council, ao ar y County Council Mae yn nalurioi i i»i gasglu felly mai gwait.ii eich cyd-drethdalwyr yn eich ethol i'r swyddi hyn a'ch dygodd chwi i sylw'r awdurdodau, ac a'i gwnaeth yn bossibl awdurdodau, ac a'i gwnaeth yn bossibl iddynt weled eich cymmhwysderau i fod yn ynad heddwcli. ynte ? gofyna.'r crydd. 1 le. Mae hyny yn ddigon tebyg,' oedd atteb y llall, er dipyn yn ammheus. 1 O'r goreu,' ebe'r crydd. I Y cwestiwn nesaf yw hwn—A fuasech chwi wedi cael eich ethol i'r swyddi gwahanol byn pe taech yn Eglwyswr V 'Or anwyl na fuaswn byth Ymneill- duwyr yw pump o bob chwech o'r etholwyr. Y ffaith fy mod i'n flaenor gyda'r Ymneill- I duwyr barodd iddynt fy ethol i ar y dechreu i'r School Board a'r byrddau eyhoeddus eraill,' DYLEDSVvYDD YMNEILLDUWYIt EGWYDDOROL | O'r goreu,'ebe'r crydd drachefn. c Cym- meraf yn ganiataol felly eich bod yn Y m.. neilldiiwr egwyddorol.' f "Rwyf cystal Ymneillduwr,^syr, a neb sydd yn y cyfarfod hwn 1' ebe'r llall, mor chwyrn ag ar y dechreu. Nid wyf yn ammheu dim,' attebai'r crydd yn daweL 'Rwan, fel Ymneilldiiwr cryf ac egwyddorol, a ydych yn tybied ei bod yn iawn i roi arian y trethi at gynnal sefydliad gwladwriaethol o grefydd T Nac ydyw 'Rwyf yn Ddadgyssylltwr erioed,' oedd yr atteb. 'Ac fel Dadgyssylltwr nid ydych yn credu" ei bod yn iawn defnyddio arian y trethdalwyr at ddysgu crefydd yn yr Egl wys V Nac ydwyf Ac os nad yw yn iawn defnyddio arian y trethdalwyr at ddysgu crefydd yn yr Eglwys, ni fuasai yn iawn ychwaith defnyddio arian y trethi at ddysgu crefydd yn y cap el V I Na fuasai, ar un cyfrif Yr egwyddor wirfoddol mewn crefydd yw asgwrn cefn ein Hymneillduaetb.' O'r goreu ac os nad yw yn iawn defn- yddio arian y trethdalwyr at ddysgu crefydd yn yr Eglwys nac yn y capel, nid yw yn iawn, ychwaith, i'w defnyddio at ddysgu crefydd yn yr ysgol ?' 'Hm Nac ydyw, mae'n debyg,' oedd yr atteb ammheus, canys yr oedd y brawd erbyn hyn yn gweled i ba le yr oedd catecism y crydd wedi ei arwain. 'Mae hwn yn gwestiwn o egwyddor bwysig, Mr. Llywydd,' ebe'r crydd," I a hoff- wn i'r boneddwr roddi attebiad clir a diam mhwys iddo. Felly, yr wyf yn gofyn drachefn a fedr efe, fel Ymneilldiiwr egwyddorol fel Dadgyssylltwr cysson, gefn- ogi gosod unrhyw ran o draul addysg grefyddol v plant yn yr ysgolion ar y trethi eyhoeddus ? Torodd allan ffrwd fawr o 1 Cly wch c!ywch l' drwyr Clwb. s Nid wyf yn cefnogi hyny,' ebe'r bonedd- wr, pan gafwyd distawrwydd drachefn. s O'r gor-eu,' ebe'r crydd. I Yr hwn nid yw yn easglu, gwasgaru y mae; a'r neb nid yw gyda ni, yn ein herbyn ni y mae. Nis gellir yn y mater hwn eistedd ar ben y clawdd. Rhaid yw d'od i lawr oddi ar y fence, a sefyll naill ai ar dir Ymneillduaeth egwyddorol, neu ynte ar dir offeiriadaeth ormesol. Nid oes un tir canol i fod yn y frwydr hon F A thrachefn torodd y gymmeradwyaeth gyffredinol allan. Feliy/ ebe'r crydd, mae yn d'od i hyn. Wele'r boneddwr hwn-™ ac y mae ugeiniau o'i fath yn Nghymru, yn ddyledus am bob anrhydedd cyhoeidrs a ddaeth etto i'w ran i Ymneillduaeth ac i Ymneillduwyr. Ei fmnediduaeth a'i dygodd i'r golwg fei ym- geisydd; pleidleisiau Ymneillduwyr ai hetholodd ar y byrddau eyhoeddus; ei waith ar y byrddau eyhoeddus a'i gwnaeth yn bosibl iddo gael ei ddyrch&fu i faingc yr ynad. Yn awr, yr wyf yn gofyn etto iddo ef —Pa Ie, felly, y gorwedd ei ddyledswydd ef yn y mater hwn ? Ai i gynnorthwyo'r oneiriadaeth i ormesu Ymneillduaeth, ynte i gynncrthwyo Ymneillduwyr i dynu dannedd y gormeswyr mor bell ag y bydd yn ddichonadwy i ni wneuthur f Ac yn y taranau cymmeradwyaeth, dar- lIen odd y petruswr deimlad y cyfarfxl. Nid wyf yn petruso dweyd/ ebe fe, er yn gwrido wrth orfod gwneud, 'mai gyda r Ymneillduwyr y dewisaf barhau i dailu fy nghoelbren.' A chafodd yntau ychydig gymmeradwy- fieth—j'chydig, am mai hwyrfrydig oedd ei gyffesiad eyhoeddus. RHYBDDD PRYDLON. Mr, Llywydd,' ebe clamp o Sa.rmwr yn codi mewn congl arall o'r gynnulleidfa, rw i'n falch o nghalon fod Mr. Jones wedi .1 dweyd ar goedd yma, heno rhyn ddeudodd o/ gan gyfeirio ei fys at y boneddwr oedd o dan groesholi'r crydd, wedi cydnabod mai ei ddyledswydd fel Ymneilldiiwr oedd gwrthwynebu codi treth at gynnal addysg grefyddol ac ysgolion enwadol. Ac mi ddeuda i chi pa'm,' ychwanegai'r ffarmwr, mi rydw i yn un o etholwyr Mr. Jones; ac mi roedd rhai o honom yn pry- deru peth yn ei gylch. Rywsut neu gilydd, mae Mr. Jones, o fawn y blynyddoedd di- weddaf yma, wedi troi cryn lawer mewn cylchoedd Eglwysig; a gwyddoch fod ymddi- ddanion drwg yn tueddu i lygru inoesau da.' Chwarddodd yr hogiau, Tydw i ddim am ddeud fod moesau Mr. Jones wedi cael eu Hygru rhyw lawer,' ychwanegai'r ffarmwr. Ond mi roeddan ni acw'n teimlo'i bod hi'n bryd bellach i ni gael gwybod b'ie roedd o'n sefyil yn y mater yma. Tyda ni ddim yn hoffi troi dyn i ffwrdd ar ol bod yn ein gwasanaethu am yn hir.' £ Cly wch clywch llefai'r dyrfa. 1 Ond ar yr un prydj toedda ni ddim yn mynd i ddiodda gweled neb yn gwaeddi How l' gyda'r ci Ymneillduol., a gwaeddi Hoi ar yr un pryd gyda'r cadeo Eglwys- i (Y '0' Chwarddodd yr hogiau'n fwy nag erioed. s Teimlo roedda ni fod yn rhaid i ni bellach gael dealltwriaeth glir ar y pynciau hyn a dyna pa'm y dois i yma heno. Ac mi fedra i sicrhau aelodau Clwb yr Efail na tyda ni acw ddim am roddi cefuogaeth mwyach mewn unrhyw fodd i fywyd cy- hoeddus, nac mewn bywyd cyhoeddus, i neb sy'n galw ei hun yn Ymneilldiiwr, os nad ydy o'n barod i gyflawni ei ddyledswydd fel Ymneilldiiwr yn y mater yma 1' I Mr Llywydd,' ebe Mr. Jones, gan godi pan dawelodd y gymmeradwyaeth, I ga!lpf sicrhau fy nghyfaill, Mr. Davies, nad oes eisieu iddo ef na'i gyfeillion brydera dim am danaf fi, gan nad sut. Byddaf yn barod bob amser i gyflawni fy nyledswydd fel Ymneilldiiwr yn v mater hwn, a phob mater arall. A chafodd Mr. Jones yn awr gymjnerad- wyaeth fwy calonog lawer na'r tro cynt, A YW YN IAWN GWRTHOD TALU'R DRETH. Mr. Llywydd,' ebe un o'r clerigwyr, gan y 0 godi ar ei draed, 'rwy'n dymuno appelio at y cyfarfod hwn i yrnbwyllo.1 5 Oh oh J' llefai araryw. 1 Dichon fod y mwyafrif o honynt yn Ymneillduwyr; ac fel Ymneillduwyr dichon eich bod yn teimlo gwithwynebiad egwydd- orol i dalu'r dreth addysg ddyfodo].' Clywch clywch gwaeddai'r dorf. Ond, syr, mi a hoffwn i chwi goliu eich bod yn ddinasyddion, yn ogystal ag yn Y mneillduwyr, Ac fel dinasyddlon eich dyledswydd gyotaf chwi yw ufuddhau i gyfraith y tir. Ü3 yw cyfraifch y tir yn hawiio treth oddi ur eich flaw, eich dyJed- swydd amI wg yw ei thalu. A rhaid i mi gydnabod fy syndod fod boneddwr fel Mt-, Jones, ';r hwn, fe! ynad heddweh, Bydd wedi ymrwymo i weinyadu'r gyfraith. ei hun yma. heno wedi ildio i'r dirwasgiad ddygwyd arno, ac weds ymgymrneryd ag yrsuno a'r peuboetbiaid hyny sy'o mynd i anufuddhau i'r gyfraitb, dnvy wrfchoi talu treth gyfreith- lawn.' 'Mae cyfraifch uwch na Chyfraith y Tir/ ebe Mr. Phillips, y gwelnidog. 'Mae cyf- raifch cydwybod yn meddu haw! uwch ar ein bafudd-dod na hyd yn oed Cyfraith y Tir. Dyoa pa. ham y g«rthododd yr apostolion I gynfc ufuddbau i orcbymyn yr awdurdodau gwlidol na pbregethent Grist. Dyna pa ham y gwrthod )dd y tri llaugc ar wasfadedd Dura. ufuddhau i orchymyn y breoia i syrthio i iawr pan glywent sain yr udgyra. Dyna pa ham y merfchyrwyd Protesfcaniald yn nyddiau Mars Waedlyd. Dyna pa ham yr erlidiwyd ac y merthyrwyd John Penri yn nyddiau Elizabeth—y fcrowyd y ddwy iii allfl.o (I'r EglwYH yn nyddiau Siail n., ac y daliodd Ymueiilduwyr i fod yn Ymneillda- wyr ar waethaf Doddf Uuffurfiaeth, Deddf v Corphorilethau, Deddf y Pum Miildir, a'r deddfau gorthrymus eraill a genhedlwyd o'r un ysbryd erlidgar gormesol ag a gesj- hedlodd y Mesur Addysg mslldigaid hwn A chododd rhuad bygytbiol drwy'r holl gynnulleidfa. ESIAMPL YR EGLWYS. Mae'n ymdcJangos i mi/ebe un o'r bob! dd;eithr, 'mai'r olaf o bawb i gymmell ufudd-dod i'r ddeddf am ei bod yn ddeddf ddvlasaiEgl wys .vyr Defodol Cyrrru a Lioegr fod y dyddiau hyu,1 Ciywch! clywcb llefai'r hogiau, gao droi at y siaradwr newydd. 'Eglwys Brotestanaidd y gelwir EgI wys Loegr, ac Eglwys Brotestanaidd yw o dan y ddeddf. Eitbr i bjb dyben ymarferol, nid oes ond rhith o Brotestaniaeth i'w ganfod mewn cannoedd o'r eglwyd ac mae ei hoffeiriaid, mewn cannoedd lawer o blwyfi, wedi gwadu grym Protestaaiaeth, ac yn gwneuthur pob peth fedrant i Rufaineiddiu'r Eglwys drachefn. Ac etto, dyma'r bob! sy'n galw arnom ni Ymneillduwyr fel dinas- yddion i roi ufudd dod di-gwestiwn i ddeddf anghyfiawn sy'n orthrwm ar ein cydwybod- au' A daogosodd yr uchel gymmeradwyaeth fod yr hogiau yn gweled ergyd y gyffelyb iaeth. ESAMPL MR, BALFOUR, 'Rwy'n meddwl,' ebe'r melinydd, 'y gallwn ni gymmeryd cysur cryf oddi wrth esampl Mr. Balfour.' Esampl Mr. Balfour!' llefai amryw mewn syndod. 'Ie,' ebe'r melinydd, yn ddifrifol iawn. Y mae o wedi gosod i ni esampl i anufuddhau i gyfraith y tir.' "Sut hyny ?' gofynai clerigwr yn chwyrn. Wei, mae gyno fo motor car, ac mae o wedi cael ei ddirwyo droion am yru'r cerbyd hwnw yn gyflymach nag a, ganiata'r gyfraith iddo wneyd.' 1 Ond mi dalodd y fine T ebe'r clerigwr. £ Do. 01 do. Mi dalodd y /ine/ attebai'r melinydd, '\Ve1, dyna fo wedi ufuddhau i'r gyfraitb, ynte,' dddleuai'r clerigwr. 'O 1 nage. Dwyn y gosp ddaru o am droseddu'r gyfraith/ attebai Wmffra, yn nghanol chwerthin cyffredinol. 'A dyna yda ninnau, fel Ymneillduwyr, yn bwriadu gwneyd Mi dorwn ni'r gyfraith yn llythyr- enol wrth wrthod talu'r dreth — ac mi ddygwn y gosp am hyny drwy ganiatau i feilir cwrt werthu gwerth hyny o dreth fydd arno ni o ddodrefn os bydd eisio.' A chwarddodd yr hogiau o'r newydd. DYSGEIDIAETH MR. BALrOUR AR WRTIIWYNEBU'R GYFRAITH. 'Ond/ ebe'r siopwr, gan godi yn ei dro, gan fod enw Mr. Balfour wedi cael ei ddwyn i fewn, deallwn nad allan o le fyddai i ni adgoll'a'r ffaith ei fod o, nid yn unig wedi rhoi esampl, nid o dori cyfraith hefo'r motor car, ond ei fod o wedi annog yn gyhoeddus wrthwynebu gweinyddiad deddf.' 'Toes dim possib llefai un o'r clerigwyr. O! ydy, mae'n eithaf possib,' attebai'r siopwr. 'Fel mater o ffaith, bu Mr Balfour yn myn'd o gwmpas y wlad yn annog pobl i wneyd llawer iawn mwy yn y ffordd o wrth- wynebu'r gyfraith nag ydym ni yn Nghymru hyd yma wedi son am wneyd. Gwrthwyneb- iad goddefol (passive resistance) yn unig ydym ni wedi ei annog hyd yn hyn. Ond annogai Mr. Balfour wrthwynebiad gweithredol (active resistance) ie, annogai yn wit y bobl i appelio at rym arfau, os byddai raid, er rnwyn gwrthwynebu gweinyddiad deddf a ystyriai efe yn ddeddf orthrymus.' 1 Dyn anwyl!' llefai'r hogiau. 'Syr r ebe'r clerigwr, a'i lais yn crynu gan iserth ei deimladau, "rwy'n protestio yn erbyn ensyniadau o'r fath yn erbyn bonedd- wr o safle ac urddas Mr. Balfour. Mi ddylasech chwi, syr, fel Ilywydd y cyfarfod hwn, alw'r siaradwr heiddgar yma i gyfrif am athrodi cymrneriad mor Ian a gloew ag ) eiddo Prifweinidog Prydain Fawr.' Maddeuwch i mi, syr,' ebe'r llywydd yn llym. I Ond myfi, ac nid chwi, sy'n rheoli'r cyfarfod hwn.' A dangosodd y gymmeradwyaeth gyffred- inol. fod ymddiriedaeth y cyfarfod yn y llywydd yn ddisigl. s • 'Ac yn awr,' chwanega.rr cadeirydd, yr wyf yn teimlo yn dra sicr y bydd Mr. Williams yn barod, naill ai i brofi yr hyn a ddywedodd, neu ynte i dynu ei eiriau yn ol.' MR. BALFOUR YN ANNOG 'ACTIVE RESISTANCE.' Nid oes genyf ddim i'w dynu yn ol, Mr. Llywydd,' ebe'r siopwr, gan dynu sypyn o bapyrau o'i logel!. Mae genyf yma y bennod a'r adnod am yr hyn a ddywedais; a. chyda'ch caniatad, darllenaf i chwi yr hyn a ddvwedodd Mr. Balfour ei hun ar y mater.' A chymmeradwyodd y cyfarfod yn uchel a chyffredinol, tra'r clerigwyr yn dechreu anesmwytho wrth weled y siopwr yn dal ei dir in or gadarn. PREGETH MR- BALFOUR. Ac aeth y siopwr yn mlaen i ddarllen y dyfyniadau canlynol o areithiau cyhoeddus Mr. Balfour. 'Yn Belfast, Ebrill 4ydd, 1893/ ebe'r siopwr, 'dywedodd Mr. Balfour:'— I Nid wyf wedi dyfod yma i bregethu yr eg- wyddorowrthwynebiad goddefol. Yr ydych chwi, Protestiniaid Ulster, wedi gorfod ym- ladd am eich rhvddid cyn hyn, Rwy'n gwedd'io ar Dduw na ddaw rald aruoch i ymladd etto. Yr wyf yn cydnabod y gall fod gormes mwyaf- rii cyn waethed a gormes brenin, ac y gall ffoliaeb mwyafrif fed yn fwy na ifolineb bren. hinoedd ac ni ddywedaf nas gall yr hyn fyddo yn gyfiawn ei wneuthur yu erbyn gormes bren. in tod yn gyfiawn hefyd yn erbyn gormes mwy- atrir 'Tad anwyl! Mi ddylasa Balfour fod yn aelod o Glwb yr Efail!' ebe Wmffra. Cododd y llywydd ei law, ac aeth y siopwr yn mlaen drachefn. 'Ebrill 9fed, 1893, yn Dublin, dywedodd Mr. Balfour:- « Beth fydd sefyllfa y lieiafrif Protestanaidd os bydd i'r mesnr hwu basio? Gall Ulster, o leiaf, ymladd 1 Nis gellir gwrthod i bobl Ulster y noddfa olaf hwn i bobl ddewr yn ym- drech am eu hiawnderau M-i fasa. wedi talu i ni yn Nghymru gael Balfour yma i areithio adeg Rhyfel y Degwm, choelia i bytb ebe Wmffra, drachefn—a'r hogiau'n chwerthin, Yn Limehouse, Ebrill 19eg, 1893,' chwan- egai'r siopwr, aeth Mr. Balfour yn mlaen a'r bregeth fel hyn:- 'Pe taech chwi, weithwyr Protestanaidd Prydain, yn cael fod mwyafrif etholwyr y wlad hon yn myn'd i'eh troi chwi drosodd i awdurdod corph o bobl yn gwahaniaethu oddi wrtbych yn eu syniadau am foesoldeb cyhoedd- us, yn eu syniadau am foesoldeb cyfrinachol, yn eu eyaiadau crefyddol, i ddynion faasent yn gyhoeddns wedi proffesu egwyddorion a dyb. ieco. chwi oeddynt angbyssou Vcb iawnderau ac f¡,'ch rbyddid chwi, a fuasech chwi yn ymos. twng i ufuddLiaL, ? Nid wvt yn credu yr nfaddhaech byth! Ac o'm rhau fy hun, nid wyf fi am bregethu i'ch cymmhell chwi i roi ymosfcyngiad ac ufadd-dod nas gallaswn ei roddi fy hua pe yu eich lie ChNi.' 'Wei/ ebe'r llywydd, 'rhaid i mi gydnabod fod y siopwr wedi fy synu. Mae wedi profi ei gyhuddiad yn erbyn Mr. Balfour. >d