Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
C CAROHARORION 0 FLAEN YR…
C CAROHARORION 0 FLAEN YR YNADON DYDD IAU. Bu y llys yn eistedd trwy y dydd dydd lau, i wrandaw tystiolaettaau tyation dros yr erlyn. iad. Yr oedd y llys yn orlawn. Moses Roberts, ffermwr, Talycafn, a ddywed- odd iddo brynu ei fferm. ac iddo ei thir-wystlo am yr arian pwrcas i'r Uchgadben Ashley. Nid oedd yn wir i Mr. David Jones roddi ben- thyg 2,700p. iddo ef allan o yst&d Ty'ngwern. Nid oedd y tyst yn nyled Mr. Jones am arian benthyg, nac am ej wasanaeth fel cyfreithiwr. William Jones, Glan y Gors, Llangwyllog, Moa, a dystiodd iddo gael benthyg 320p. oddi with ymddiriedolwyr yr ystad, ac yr oedd arno 70s. yn awr o'r arian hyny. Pedair blynedd yrt ol talodd 250p., ac yr oedd ganddo dderbyn- eb oddi wrth ffirm y diffynydd. Nid oedd wedi tala 11 og am y gweddill o 70p. W. J. Williams, dilledydd, Regent House, Llanrwst, a ddywedodd iddo brynu yn 1898 gan ymddiriedolwyr yr ystid y ty a'r siop yn LJan- rwst a. adnabyddid yr adeg hono wrth yr enw Stanley Housa. Pan arwyddwyd y cyttundeb talodd 10 y cant ar y pris pwrcas o I,C85p. Cwblhawyd y pwrcas ar yr 2ii o Dachwedd, 1898, a chafodd y ewrn o SOOp. ti adael ar dir- wysil o 4.11. y cant. Talwyd hyn ymaith yn Hydref, 1902. Y ffirm oedd wedi gweithredu hob amser fel cyfreifihwyr iddo ef Nid oedd y tyst wedi talu unrhyw log ar y rhan o arian pwrcas oedd wedi ei dalu ond m thalwyd peth o'r Hog am yr SOOp, Yr oedd hyny yn cael ei adael, er cyfarfod a'r hyn oedd Mr. Jones yn ei ddyied ef. Yr oedd efe yn nyled y fiirm am eu gwasanaeth fel cyfreithwyr, ond yr oedd Mr. Jones yn ei ddyled yntau am nwyddau a gvflenwydi &c. Nid oedd mynegiad wedi cael eiddarparui ddangos pa fodd yr oeddynt yn eefyil Maurice Griffith, Llys Ifor, Penmachno, a roddodd dystiolaeth i'r perwyl iddo brynu yr eiddo oedd yn ei ddal, ond fod ganddo dir-wyetl am 500p, arno. Talorid 50p. ar gyfrif y tir-wyeti yn Mawrth 13eg, 1900, i'r ffirm. Nid oedd yn cael ei wasgu o gwbl i dalu, ond cyttunodd Mr. Jones, ar ei gais ef, i dderbyn yr arianyn ol yn gyfrandd&.iiadau. David Jones, Cae Ceiliog, Llanrwst, a ddy- wedodd mai efe oedd perchenog ei fferm, ond fod ganddo dir-wystl o 500p. i ystad Ty'ngwern. Yr oedd wedi talu llog yr hanner blwyddyn diweddar ar ddwywaith. Yr oedd Mr. David Jones wedi bod yn garedig iawn wrtho. Robert Williams, ffenmvr, Pentre mawr, Capel Garmon, a ddywedodd iddo ef brynu ei fferm, a thalu am dani gydag echwyn o 800p. at dir-wystl o ystad Ty'ngwern. Yr oeid yr oil o'r arian, modd bynasf, wedi cael eu talu yn 01. TalwJd yr oil yn Medi, 1902, trwy iddo gael arian o le arall. Yr oedd Mr. Jones am icido dalu yr arian, am fod Mrs. Hughes yn sàl, a bod ganddo eisieu trefnu ei hamgylcbiadau. Cafwyd yr arian i dalu y tir-wysti o Goleg Annibynol Bala-Bangor, y rhai oedd yn cadw y gweithredoedd. Jane Jones, Goelas Fawr, a ddywedodd ei bod hi yn weddw i ddiweddar berchenog y fferm. Herbert Hughes, Ty'nyeoed, oedd per- chenog y fferm yn awr, yr hon a gafodd ei gwerthu iddo flwyddyn yn ol, ar ol marvvolaeth ei gwr. Yr oedd gan ei gwr dir wystl o 650p. ar yr eiddo i ymddiriedolwyr Coleg Annibynol Bala Bangor, ac nid oedd gan ymddiriedolwyr y diweddar David Hughes un tir-wystl ar y fferm. Ni chlywodd am ddtm o'r fath nes y cafodd lythyr oddi wrth Mr. Thornton Jones. John R. Williams, Llwyndy, Llangernyw, a ddywedodd ei fod yn berchenog eiddo yn Llin- gernyw, ar yr hwn yr oedd ganddo 300p. o dir- wystl i ymddiriedolwyr ystad Ty'ngwern, ac nid 400,3. fel y g. sodid allan gan y diffynydd yn ei attodlen. William Williams, asiedydd, Llythyrdy, Llanddoget, a ddywedodd i'w fam bryna eiddo a elwid Tyddyn Mali, rhyw 12 neu 14 o flyn- yddoedd yn ol, ac iddi ei werthu wedi hyny, oddi eithr ihyw ddarn bychan, ar yr hwn y safai y Llythyrdy. Pedair blynedd i Hydref di- weddaf bu ei fam farw. Yr oedd jn deall i'w fam gael arian gan Mr. David Jones; ac ar ol ei marwolaeth hi yr oedd efe wedi bod mewn meddiarit o'r Llythyrdy, ac wedi talu 116g i Mr. Dav!d Jones arno. Yr echwyn oedd 150p., a godwyd ya wahanol symiau, ond nid oedd yn gwybod arian pwy oeddynt. Wrth gael ei groesholi dywedodd nad oedd yn sicr beth oedd yn ddyledus i Mr. Jones. Nid oedd yn gwybod i'r diffynydd roddi benthyg 150p i'w fam tuag at addysg ei frawd, Lewis Williams. Yr oedd mam y tyst yn fodryb i Mr. Jones, ac yr oedd y drafodaeth o natur deuluaidd. Margaret Lloyd, gwraig John W. Lloyd, o'r Marine Hotel, Hen Golwyn, a ddywedodd iddi, yn Rhagfyr, 1899, brynu tyyn Marine Terrace, Hen Golwyn, am 360p., a chafodd 300p. gan y Mri. David Jones a Roberts, y rhai a ddarpar- asant weithred y tir wystl. Yr oedd y tir wedi ei wystlo yn awr i John T. Davies, Moch dre. Wedi hyny rhodefodd John Thomas Davies a Hugh Thoma?, Beiuaaris, ac eraill, eu tyst- iolaetbau. William Griffith Owen, cashier yn Mange y Metiopolitan, a ddywedodd iddo wneyd ym- .chwiliad ar passbooks a gafodd yn pertbyn i'r ffirm, gyda llyftau y bangc, ac iddo eu cael yn gywir. Yr oedd wedi galw yn awyddfa y diffynyddion amryw weithlau yn ystod y pump neu chwe blynedd diweddaf, o berthynas i'w gwaith yn galw am dynu mwy o arian o'r bange nag oeddynb ganddynt i'w credyd. Rhoddodd Mr. B. Lloyd, llywodraethwr Barge y Metropolitan dystiolaeth i'r un per- wyl a chafodd y gwaith o groesholi y tyst hwn ei ohirlo, ar gais Mr. Davies, hyd dydd Gwener.
DYDD GWENER.
DYDD GWENER. Dechreuwyd ar weithrediadau y llys heddyw boreu trwy i Mr. E. B. Lloyd, llywodraethwr •cangen Llanrwst o Fange y Metropolitan, gael ei groesholi gan Mr. Humphreys o berthynas i -drafodaeth y Mti. David Jones a Roberts a'r bangc hwnw. Wedi hyny rhoddodd Mr. E. Jones Owen, llywodraethwr cangen Llanrwst o Fangc Gogledd a Deheudir Cymru, ei dyetiolaeth. Talwyd un swm o 3,OOOp. i Mrs. Hughes, gweddw y testanientwr, a llogau hanner blyn- yddol. Pan ofynwyd a oedd efe yn gwybod fod 14,0000. wedi cael ei dalu iddi o gwbl, dywedodd y tyst nad oedd efe yn gwybod a oedd i'w gyfiawnbau wrth ddadguddio cyfrifon clients eraill, ond yr oedd yn barod I ddyweyd fod swm mawr wedi cael ei daln i'w chredyd. Mcr bell ag yr oedd a wnelo ei fange ef, yr oedd wedi cael David Jones bob amser yn un y gellid ym ddiried ynddo. Nid oedd Roberts erioed wedi bod ynly bange mewn cyssylltiad a chyfrifon Jones a Williams. MR. THORNTON JONES YN Y Boes. Dywedodd Mr. Thornton Jones, cyfreithiwr, Bangor, i Mrs. Hughes ynogynghori ag ef yn Hydref diweddaf ynghylch ei hamgylchiadau. Ysgrifenodd lythyr at bob un o'r ymddiriedol. wyr, ac yr oedd nn o bonynt at Mr. David Jones. Ni dderbyniodd un atteb i'r llythyr hwnw. Ar y lOted o Hydref rhoddodd writ allan yn erbyn ymddiriedolwyr ewyllys David Hughes, yn hawlio cyfrif o'r rhenti ac ennillion ystad y testamentwr, i symaaud David Jones o fod yn ymddiriedolwr, a bod y gwaith o gario allan y mddiriedolaeth yr ewyllys yn c^el ei gario allan gan y llys, a bod derbynydd yn cael ei noii. Cafodd copi o'r tent ei gwasanaethu ar y diffynydd David Jones gan glere y tyst ar y 12fed o Hydref; ac ar yr un diwrnod ysgritenodd lythyr at yr ymddiriedolwyr, i ofyn iddynt am holl gyfrifon yr ystad Hydref 17eg yn Mange Gogledd a Deheudir Jymru, Llanrwst. Boren yr 17eg derbyniodd wefreb oddi wrth Mr. David Jones yn gohtrio y dydd iad. Anfonodd yntau wefreb fod y peonodiid yn bwysig, ac nas gellid gohirio. Aeth ef a Mr. Cadwaladr Davies i Lanrwst y diwrnod hwnw. CyfarfyddJdd cydymddiriedolwr Mr. David Jones, Thomas Williams, yr hwn a aeth gyda'r tyst i Fangc Gogledd a Deheudir Cymru. Ni ddaeth David Jones yno. Wedi hyny aeth y tyst i swyddfa David Jones, ond ni wel.. odd David Jones yno. Yn ddilynol aeth y tyst i Westty y Victoria i gael byrbryd; a thra yno clywodd lais David Jones yn y bar. Gan ei fod yn gwybod felly fod David Jones yn y dref, aeth y tyst drachefn i'r swyddfa, ond yr oedd wedi cael ei chau, gan ei bod yn banner diwrnod gftyl wythnosol. Methodd a gweled David Jones o gwbl y diwrnod hwnw, a bu raid iddo fyned oddi yno heb wneyd archwiliad ar y gwyat iadan. Ar y 23ain o Hydref derbyniodd wefreb oddi wrth y diffynydd Roberts, yn gofyn am gael ymgom âg ef yn Nghonwy; a daeth i'w weled ar ol hyny yn Mangor, agofyn- odd beth oedd an wneyd mewn perthynas i ymddiriedolaeth ystad Ty'ngwern, gan ei fod ef (Roberts) mewn anwybodaeth hollol o'r hyn oedd yn cael ei gario yn mlaeo, ond yr oedd wedi gweled un o lythyrau y tyst at y diffyn- ydd Jones. Dywedodd y tyst wrth Roberts sut yr oedd pethau yn sefyll, pan y dywedodd Roberts fod ei bartner yn edrych i mewn i'r mater, a chwanegodd, y gwnai ef i fyny pa ddiffyg bynag a allii fod. er mwyn ei gymmer iad ei hun, ac yr oedd ganddo eisieu tori y bartneriaeth i fyny yn ddioed. Dywedodd y tyst nas gallai ddyweyd, pa un a oedd yno ddiffyg ai peidio. Y diwrnod canlynol der- byniodd wefreboddi wrth Mr. David Jones, yr hon oedd i'r perwyl a ganlyn :-I Attaliwcii y gweithrediadau bydd i mi gydsynio i bennod- iad ymddiriedolwyr newyddion, a throsglwyddo y gwystliadau un ai yn Llanrwst neu Fangor.' Attebodd y tyst nas gallai wneyd dim gyda golwg ar attal y gweithrediadau hyd nes y byddai ei gtient' wedi cael allan y ffelthiau, a'i gyfarwyddo o berthynas i hyny, ond y talai ymweliad a Llanrwst ar y 26ain o Hydref. Aeth ef a Mr. Cadwaladr Davies, ac un arall oedd yn derbyn budd oddi wrth yr ewyllys, yno, a chyfarfyddodd David Jones ar yr heol, pan y dywedodd David Jones, Y mae hwn yn tater difrifol, gwaeth nag ydych yn ei feddwl.' Wedi hyny aethant i swyddfl1 y diffynydd. pan y dywedodd y diffynydd Jones ei fod am ddyweyd wrth y tyst yr holl wir, a bod llawer iawn o arian yr yiuddiriedolaeth wedi cael eu colli. Dywedodd y tyst wrtho, os mai felly yr oedd hi, ei fod yn tater difrifol iawn Yna cymmerodd y tyst nodiadau o'r ymctdiddan a gymmerodd le wedi hyny. Dangosodd hefyd restr o'r gwystliadau oedd yn meddiant ei glient,' ac aeth trwyddi gyda'r diffynydd David Jones, yr hwn, mewn attebiad i gwest. iynau y tyst, o berthynas i pa bryd yr oedd y diffygion wedi dechreu, a ddywedodd, i fyny i'r amser pan y talodd Dr. Evans ei dir-wystl i fyoy ni chyffyrddwyd & dim. Yr oedd Dr. Evans wedi talu cyn Awst, 1900. Mewn atteb- iad i ofyniad, pa fodd y gallai hyny fod yn ngwyneb yr archwiliad a wnaed ar y gwystl iadau yn 1900, dywedodd Jones, yn mhresennol- deb Mr. Cadwalndr Davies, • Dmgosais hen weithredoedd yn 1900 ac feUy, darfa i mi eich twyllo.' Dywedodd Mr Thornton Jones i'r ditfynydd ddyweyd :—'Fe! rheol, yr oedd pob arian a dderbyuid pan delid y tir-wyetliadau allan yn myned i gyfrify ffirm, gyda rhai eithr- iadau. Telais logau i Mrs. Hughes am symiau oedd heb eu cf ffwrdd, ond yr oedd heb dderbyn y cyfryw logau ondyr oedd, ar y llaw arall, wedi parhau i dalu llogau ar symiau oedd ci edi cael eu talu i ffwrdd, ac nid oedd gwystliadau iddynt mwyach. Y cam cyntaf a gymmerais a arweiniodd i'r anhawsderau presennol ydoedd i'm ffirm brynu un ran o bump o gyfran gweddill yr ystM wrth iddi gael ei throi i Robert Hughes. Cafodd y weithred ei rhoddi yn wystl i fuDgcwyr y ffirm, er sierhau y swm dros y cyfrif, Y mae gryn lawer o wystliadau o'a ffirm ni heb law hon, Yr oedhvn yn meddwl wrth brynu felly y gallem droi yr arian ar dir, a thrwy dalu y llog i'r tenant gadw yr Yl'tâd i tyned yn mlaeti. Yr ydym yn Kwneyd busnes yn dangos ennill o 2,500p. yn fiynyddol. Ni bydd i'r psrsonnu sydd yn dyfod i mewn am y rhan gweddill ddioddef; o'r hyn lleiaf, dyna fy syniad, os telir y swm a dynwyd dros ben o'r bangc. Yr oeddwn yn disgwyl i Mrs. Hughes farw tua phedair blynedd yn ol. Yr wyf yn dyfod i mewn am 3,000^?. o dan ei hewyllys. Dywedodd y tyst i Jones egluro pa fodd, yn ol ei farn ef, y gallesid gwneyd hyny. Wedi hyny aeth Mr. Thornton Jones yn mlaen gyda'i adroddiad o gyfaddefiad Jones:- Coll wyd yr arian sydd yn eisieu o-r y Gyfnewidfa {Stock Exchange). Gwnaed y drafodaeth gyntaf fel ffirm &'n harian ein hnnain. Nid ydym wedi gwneyd dim anturiaethau fel ffirm ar y Gyf newidfa er's chve blynedd, oddi eithr cario drosodd rai Randfonteins, ar ba rai y collab 120p. Collasom lawer mwy na 7,000p.' Dy. wedodd y diffynydd fod yr oil o'r gwystliadau eraill yn rhai da. Dangosodd ewyllys o dan bi un yr oedd ar ei fantnia, Fel mater o ragochel. iad, yr oedd yr ewyllys hono wedi cael ei dirymu heb yn wybod iddo. PERTHYNAS Y PARTNERIAID. Ar ol i Jones wneyd y mynegiad hwn, a dy- weyd mai ei bartner oedd yn cadw y llytrau, a'i fod yn gwybod am y drafodaeth a'r trysor- feyddyraddiriedol, darfu iddo ef (Mr. Thornton Jones) siarad a'r diffynydd Roberts, a dyweyd wrtho yn mhresennoldeb fJoaes fod hwn yn fater or pwys mwyaf, Tra yr oedd y tyst yn siarad a Roberts, cyfryngodd Jones, a dy- wedodd 'Nid oes genyf eisieu, mewn gwirionedd, dafln y bai ar Mr. Roberts i arbe i fy hun, ond gwirionedd ydyw gwirionedd.' Yna aeth y tyst dros yr holl ffeitluau a wnaed yn hysbys gan Jones wrth Roberts. Dywedodd wrth Roberts fod Jones wedi dyweyd iddynt golli yr arian yma ar y Gyfnewidfa, ac mai Roberts oedd yn cadw y llyfrau, a'i fod yn gwybod y cwbl am hyny. Ymddangosai Roberts wedi cael ei gyflroi yn fawr, ac ni wadodd fynegiad ei bartner, ond aylwoddnad oedd wedi bo 1 yn c ldw y llyfrau yn ddiweddar, gan et fod yn rhy brysur. Yr oedd David Jones wedi dyweyd eu bod hwy fel ffirm yn gwneyd busnes da, a bod yna tua 6,000p o ddyledion ar lyfr iu yn ddyledus iddynt. Dywedent hwy mal y swm o 2.500,0 oedd yn d iyiedas oddi wrfhynt'i r bangc. Wedi iddo gyfeirio at amryw dra'odaetnau eraill, dy- wedodd y tyst iddo osod y ffeithiau ger bron ei ddadleuydd, ac iddo wedi hyny, gan weith, redu ar gyfarwyddyd, osod y ffeithiau o flaen yr erlynydd cyhoeddus. iVedi hyny eroesholwyd y tyst gan gyfreith- iwr y ddau ddiffynydd, yr hwn a ddywedodd iddo geisio cael allan yn ystod ei ymddiddaa a Jones pa. nn a oedd ei bartner yn gwybod pa fodd yr oeld yr ymddiriedolaeth yn cael ei chario yn mlaen. Yr oedd yn gwybod hyny am tod Roberts, mewn ymddiddan a gatodd ag ef yn Mangor, wedi gwadu pob gwybodieth ynglyn a'r drafodaeth ac yr oedd yn awyddus, os yn bossibl, clirio Roberts ya y mat,er. Yr oedd y tyst wedi cael ei flino yn f t r ya ystod y tri mis diweddaf am fod enw da dau frawd yn yr un alwedigaeth i fewn yn y cwestiwn. Mr. Cadwaladr Davies oedd y ^tyst olaf, yr hon oedd, i raddau pell, yn myned i gadarnhau yr|hyn a draethwyd gan Mr. Thornton Jones. Gohiriwyd y llys hyd ddydd Sadwrn.
DYDD SADWRN. !
DYDD SADWRN. TYSTIOLAETII MR. CADWALADR DAvIES Dechreuwyd gweithrediadau y llys heddyw trwy groesholi Mr. Cadwaladr Davies, Porth- aethwy. Mewn attebiad i Mr. Humphreys dywedodd y tyst fod ei ewythr. Mr. David Hughes, wedi marw yn Awst, 1890. Y r oedd yn cael ei fodd- loni fod y mynegiad cyntaf a wnaed am yr Y8- tid, a barotowyd gan yr ymddiried)lwyr, yn mha un yr oedd cyfauswm gwerth yr ystad yn cael ei roddi yn 15,299p., yn fynegiad cywir o werth yr ystad ar yr adeg hono. Daeth y tyst i adnabyddiaeth II Mr. David Jones yn nghiadd igaeth y testamentwr) daethant yn gyfeiilion, a gwnaeth Mr. Jones lawer o fusnes drosto ef, ac yr oedd ganddo bob rheswm dros deinilo yn focidhaol yn ngwyneb y modd yr oedd yn cae! ei gario allan. Y r oedd yn hoff iawn o Mr. Joces, ac nid oadd ganddo un rheswm dros gwyno yn ei erbyn, gyda'r eithrild o'r helynt anffodas hwn. Oai bae am yr anhawsderau cyfreithiol a gweithrediad yr Erlynydd. Cy- hoeddns, ni fuasai wedi cymmeryd gweithred- iadau cyfreithiol. Yn union #edi i Mrs. Mary Hughes wneyd el hewyllys gyntaf, gwyddai y tyst ei chynnwys, o blegld gwefrebodi Mr. Jonesato i ddyfod i Lanrwst Yn mhen rhai wythnosau ar ol hyny rhoddodd Mr. Jones gopi iddo o'r ewyllys, a dywedodd iddi gael bi darparu gan Mr. Humphreys, y cyfreithiwr dros yr amddiflyniad. Yr oedd Mr. Jones i dderbyn budd o dan yr ewyllys, Ar yr adeg hono dywedai Dr. Parry fod Mrs. Hughes yn anobeithiol wael; ac yn natariol yr oeddynt eill dau yr adeg yma yn debyg o fod ar eu mantlis yn union yn mron. Yn yr ynig)tu oeddynt wedi ei gael dywedodd Mr. Jones m ii dyna yr adeg y cymmarodd yr arian, gan ddis- gwyl y gallai dalu yn ol i'r ystld ymddiriedol trwy yr hyn a iuasai yn dyfod iddo ef. Mewn gwirionedd, yr oedd Mr. Jones yn meddu hawi i swm mawr, attebiid i Mr. R. O. Davies dywedodd y tyst nad oedd efe erioed wedi boi mswn gohebiaeth a Mr. Roberts neu a'r ffirm fsl y oyfryw ar fater yr ystíd. Yn mhedach, dy wedodd wrth ei fodryb nad oedd yn iawn i'r cheques gael ea harwyddo I Davi(I Jones a Roberts,'ac na ddylasai ei chyfrif hi gael ei gymmyagu i fyny &g eiddo y ffirra. Credai fod Mrs. Hughes wedi galw sylw Mr. Jones at y pwynt hwnw. Ail holwyd-Cafodd dau o'r nodau i Mrs. Hughes am !6g eu harwyddo yn enw y ffirm gan Mr. Roberts Mewn attebiad i Mr. Davies dywedodd y tyst y gallasai y nodau hyn fod am log am echwyuion gan yr ystad. Richard Robert Stythe, cyfrifydd, Caernar fon, a alwyd yn nesaf. Dywedodd iddo fod, yn ystod yr wythnosau diweddaf, yn gwneyd ym- chwiliad i lyfran y ffirm, gyda. chyfeiriad arbenig at Ty'ngwern. Holwyd ef am gryn amser o berthynas i ganlyniad ei ymchwiliad; ac nid oedd ei dyftiolaeth wedi cael ei dwyn i derfyniad pan gododd y llys am y dydd. Gohiriwyd yr achos hyd dydd LIun.
DYDD LLUN.
DYDD LLUN. TERFYNU YR AOITOS DROS YR ERT.YNIAD, Yn y Ilys boreu heddyw aeth Mr. J. T. Robert; yn mlaen i holi Mr. R. R Stythe, cyfrifydd, C¡)61" narfon, yr hwn oedd wedi bod yn archwilio llyfrau y ffirm, gvda golwg ar y drafodaeth a gymmerodd le ycg!yn ag yetad Ty'ngwern. Dygodd ei dyst iolaeth i derfyniad gan ymwneyd a'r oil, oddi eithr dau achoo-sef, eiddo Williams, Bron Gadair; a Williams. Llanddoget; ac yna dywedodd iddo waled miloedd o cheques yn y swyddfa ar gyfrif y ffirai yn yr ariandy aa iddo sylwi mai y clerc oedd yn tynu cheques o dan lOp a bod y gweddill yn cael eu tynu gan y ddau bartner, a bod y naill. a'r Hall yn lied gyfartal gyda golwg ar hyny. Yo ol y llyfrau. tynodd Mr. W. P. Roberts cheques yn 1893, gwerth 440p a thynodd Mr. David JoRea, yr un flwyddyn, y swm o 412p Yn 1894, yr oedd yr hyn a dynwyd gan Mr. Roberta yn oyrhaedd 410p a Mr. Jones, 439p. yn 1895, Mr. W. P. Roberts, 450p., a Mr. Dwid Jones, 456p. yn 1896, Mr. W. P. Roberts, 476p a Mr. Jones, 262p yn 1897, Mr. Roberts, 708p a Mr. Jones, 1,403p.; yn 1898, Mr, Robarta, 3Ilp. a Mr. Jones, 603p. yn 1899, Mr. Roberts, 533p. ya 1900, Mr. Roberts, 807p., a Mr. Jones, 520p yn 1901, Mr. Roberts, 3H6p a Mr. Jones, 158p. ya 1902, Mc. Roberts, 659/?,, a Mr. Jones, 2l0p, Yn 1903, i fyny hyd yr 8fed o Fawrth, tynodd Mr. Roberts, 8p. 18s. Yr oedd yna amryw gofnodion o dalladau o lOOp. i gyfrif y ffirm gan Mr. Ro- berts, yr oedd-v gyntaf'yn mlwyddyn gyntaf y bart- neriaeth, yn 1892. Nid oedd yn ymddangos fed y llyfrau wedi cael eu gwneyd i fyny er 1894. Dy- wedodd y tyst iddo wneyd mantolen arianol o'r yatad ymddiriedol, ac iddo gael fod eyfanswm y trysorfeydd yn nwylaw yr ymddiriedolwyr yn dytod i 16,228p., yn erbyn yr amcangyfrif a wnO-ed gan y diffynydd David Jones. Y diiffyg ydoedd 10,075p., yr bwn oedd y swm a honid oedd wedi cael ei gamddefayddio. O'r swm hwn yr oedd 7,085p. wedi myned, yn ddios, i gredyd y ffirm yn yr ariandy, Wrth gael ei groesholl gan Mr. Humphreys, dy- wedodd y tyat, beth bynag oedd y gwerth yn yr attodlen a barotowyd gan Mr. Jones, pan brofwyd yr ewyllys, fod liawa werth yr ystad wedi cael ei roddi i gredyd yetid yr vmddiriedaeth. Mown geirian eraill, yr oedd Mr. Jones wedi talu Hawn werth yr ystid. Nid oedd yn ymddangos fod Mr. Jones wedi codi tal oddi ar Mrs, Haghes, am yr hyn yr oedd yn medda hawl iddo o dan y cyttun- deb a wnaed a'r rhai oedd yn derbyn budd o dan yr ewyllys (sef, 20p yn fiynyddol) am edrych ar ol yr ystâd. Mewn attebiad i Mr. Davies, ar ran Mr. W. P. Roberts, dywedodd y tyst nad oedd wedi canfod cheques i dalu llogau i Mrs. Hughes, nea i gyfrif yr ymddiriedolaeth, oddi eithr dau, un am 18p., a'r llall am 40p pa rai oedd wedi cael eu har- wyddo ganMr Roberts. Nid ymldengys fod JUg, unrhyw afreolaidd-dra yn nghyfrif yr ymddiried- fteth hyd 1897. Mewn perthynas i ad-dala y swm o 445p gan Thomas Williams, TanybsrllaT), yr hwn a wnaed ar pi yr arwerthiant yn Nghonwy, dywedodd iddo weled yn Ilyfr copi-vu o iythyrau yn llawysgrifen Divid Jones lythyrau yn trafnu ar gyfer y pannodiad Yn ystod yr ua mlynedd ar ddeg yr cedd wedi bod yn bartner yr oedd wedi tynu allan o'r fBrm, ar gyfartaledd, 468p yn flynyddol. Yr oedd Roberts wedi rhoddi pob cyfleusdra iddo i ehwilio y llyfrau. Yr oedd yn rhaid fod ennillion y ffirm yn fawr ond nis gallai ddvweyd beth oeddynt. Hysbysodd Mr. J. T. Roberts fod byn yn dwyn yr achos dros yr erlyniad i derfyniad. Ymneillduodd yr ynadon am ycbydig fnnydan ao ar eu dychweliad dywedodd y cadeirydd eu bod yn cael fod yna achos wedi cael ei wneyd allan yn erbyn David Jones. MYNEGIAD GAN MR. DAVID JONES. Mewn attebiad i'r cyhuddiad ffarfiol o ddefn- yddio yr arian at ei wasanaeth er bun, codedd Jones oddi ar ei sedd, o'r tu ol i'w gyfreithiwr, ao mewn llais uohel darllenodd adroddiad maitb. Decbreaodd trwy ddyweyd ei iod yn gofidio yn fawr o berwydd y sofyllfa yr oedd ynddi yn awr, ao yn neillduol fe'ly wrth ystyriel y drafferth oedd byny wedi ei aobosi i eraill. Dygwyd ef oddi amgylch trwy anturiaeth ar y Gyfnewidfa. Dechreuodd trwy brynu, &'i arian ei hun, gyfran- ddaliadau mewn ffordd haiarn, gyda pha un y bu ar ei enoill; as mewnfc mlyniad i hyny aeth i mewn am anturiaethau eraill. Yna prynodd gyf- randdaliadau mewn mwngloddiau yn Awstralia, pa rai, hefyd, a droisant yn elw Prynodd, wedi hyny. gyfranidaliadau yn Neheudir Affrica, pan yroedd y oyfranddaliadau hyny yn derbyn cym- meradwyaeth y papyrau cyllidol goreu ond mewn canlyniad i'r helynt yn Nebeudir Affrica gostyrg odd y oyfranddaliadau yn ea gwerth, a chafodd yntau gryn golled. Achosodd hyn gryn bryder iddo; a gwnaeth ei feddwl i fyny i roddi i fyny gwneyd anturiaethau. Modd bynag, daeth sefyll. fa pethau yn well yn Neheudir Affrica, a rhag- fynegid amser gwell a chyda'r amcan o wneyd i fyny ei golledion blaenorol, prynodd dir, a ebyf. randdatiadau mewn mwngloddiau, y rhai, yn an- ffodus, a droisant allan yn ddrwg. Aeth yn mlaen i wneyd anturiaethau, weithiau yn llwyddiannus, ao weith au yn aflwyddianous. Yr oedd ei sefyll- fa, tua chwe blynedd yn ol, wedi dyfod yn fraw yohrs, yn mron yn fwy na3 gellid ei dal. Rhodd- odd i fyny wneyd antoriaethau, ao ymroddodd i'w alwedigaeth. Yr oedd ganddo ragolwg i wastad hau pethau yn y dyfodcl buan. Yr oedd wedi prynu cyfranddaliadau Robert Hughes a J. Richards, dau oedd yn dyfod i mewn am ran o'r drysorfa gweddill o dan yr ewyllys, ae wedi rhoddi arian allan i ddau o'r lleill, wedi prynu cymmnn- roddion neillduol, ao wedi rhoddi arian allan i eraill oedd yn dyfod i mewn am eiddo o dan ewyllys. Bnasai hyn oil, pan y gelwid arno i ddirwyn i fyny yr yst&d ddywededig, yn gyn- aorthwy mawr iddo i wneyd i fyny yr hyn oedd yn ddyledus oddi wrtho. Fel y dywedwyd gan y Mfi. Thornton Jones a Cadwaladr Davies yn eu tystiolaeth, yr oedd i ddyfod i mewn am fudd i'r graddau o un ran o dair ystM Mrs. Mary Hughes > dan ei hewylly3. Yr oedd ei hyst&d bersonol yn cyrhaedd 25,000p. ac ar ol gwneyd darpir iaeth ar gyfer oymmunroddion arbenig, gadawodd y swm gweddill i dri o bersonau sef, 21,400p., fel y buasai ei gyfran ef yn 7,866p Gyda'r gyf ran hoao yr oedd yn meddwl, nid yn unig gosod mater yr ymddiriedolaeth yn iawn, ond buasai y gweddill yn et adael gyda awm da i'w gredyd. Dymunai ddyweyd iddo fod yn ofalus yn ei gostau personol, er fod yna deulu o saith o blant (pan •^rybwyllodd y diffynydd am ei blant safodd, a itheimlai yn ddwys wrth geisio myned yn mlaen) Dywedodd fod en costau teuluaidd. a'r modd yr oeddynt yn byw, yn hynod o gvnnil, Arddangos odd y diffynydd dracbefn ei fod o dan deimlad, chynnygiodd ei gyfreithiwr orpben y mycegiad hwn iddo; ond daeth ato e hun yn bur fuan. 'Am y cynnildeb hwn,' meddai, 'yr wyf o dan ddyled mawr i'm gwraig. Nis gall dau o'r rhai lydd yn dyfod i mewn am symiau gweddill, R Hughes a J. Richards, golli ceiniog. A byddai i ua arall oedd yn dyfod i mewn am y swm gwedd- ill, Mr, Cadwaladr Davies, ynlle bod ar ei golled trwy fy nghamgymmeriad, ar ei fantais yn fawr, o blegid bydd iddo ef a'i deulu gymmeryd dwy ran o dair o weddill yr yatad, yn lie un ran o dair. Y mae fy nghyfran o un ran o dair, fel yr oedd yn cael ei rhoddi yn yr ewyllys gyntaf am 1898, w@di myned i Mr. Davies a'i deulu o dan ewyllys ae- wydd Mrs. Mary Hughes.' Nid oedd bai ar un person yn yr amgylchiad anffodus hwn heb law ef ei hun. Nid oedd ei ddiweddar bartner, Mr. W. Roberts, i'w feio o gwbl, gan nad oedd efe wedi bod yn siarad ag ef mewn perthynas i'r ystâd ym- ddiriedol ddywededig; a phan yr anfonai ef un. rhyw cheques mewn cyssylltiad a'r ymddiriedol- aeth I gyfrifon y ffirm yn yr ariandai, gwnai hyny ynglyn â. hyn, fel mewn pob materion eraill, yn nghwrs arferol busnea, ao wedi hyny yr oedd yn ddyledewydd arno ef (Jones) i'w osod yn nghyfrif ?r ymddiriedolaeth, ac yroeddyn meddwl gwneyd hvny, ar adeg dirwyn i fyny yethi Mrs. Mary Hughes, ar et marwolaeth, ac mai dyna yr adeg briodol i wneyd hyny. Chwanegodd, mewn perth- ynas i r vmddiddan a gymmerodd le rhyngddo ef a Mr. Thornton Jones a Mr. Cadwaladr Davies, i I fod Mr. W. P. Roberts wedi dyfod i'r ystafell a phan yr hysbyswvd ef am y swm oedd yn ddiffyg- iol, gwadodd fod a wnelo et â,'r mater. Yr oedd y ffaith iddo dalu i'r personau oedd yn dyfod i mewn am y swm gweddill, ae eraill, gan ddisgwyl y d6r bynid 7,000p. o dan ewyllys Mrs. Hughes, efe a ddadleuai, yn brawf, er iddo weithreda yn feius YDglyn &'r atngylohiadau yma, fod ganddo gyd- wybod glir, ond nid oedd ganddo unrhyw fwriad i dwyllo, nae unrhyw amcan anonest. Am unrhyw beth oedd efe wedi ei wneyd allan o le yr oedd efe, yn ystod y chwe blynedd diweddaf, wedi dioddef poen dychrynllyd. Gyda'r mynegiad hwn o Seithiau yn bresennol, yr oadd yn gohirio ei am. ddiffyniad. Rhoddwyd y mynegiad hwn i mewa, a chafodd ei osod gyda'r tystiolaethau. Mr. Humphreys a ofynpdd i'r faingc, yn ngwyneb y ffaith fod yst!\d ei' glient' yn nwylaw y Swyddog Darbyniol, ac iddo ddychwelyd i'r wlad hon o America, heb geiniog ynei boeed, o dan gyfraith oedd newydd ddyfod i rym, a wnaent hwy roddi eu cydsyniad i ganiataaswrn taag at gdat yr amddiffyniad. Ar ol ychydig ymgynghoriad caniataodd yr ynadon y cais hwn. Cyn i'r llys ymwasgar gofynodd Mr. Humphreys unwaith etto am i Mr. Jones gael bod all an dan feiohiafaeth. Wedi i'r ynadon ystyried y mater dywedodd y cadeirydd fod y mwyafrif o hoaynt yn erbyn cat- iatau hyny. Ceisiodd Mr. Humphreys gaelanan pwy oedd y peraonau a gyfansoddent y mwyafrif ond gwrth- odwyd rhoddi hysbysrwydd iddo ar hyn, Wedi hyny gohiriodd y llys hyd forea ddydd Mawrth.
DYDD MAWRTH. --
DYDD MAWRTH. SYMMUD MR. DAVID JONES I RUTHYN. RHYDDHAU MR. W. P. ROBERTS. BOREU ddydd Mawrth cafodd Mr. David Jones, I cyfreithiwr, Llanrwsb, yr hwna. draddodwyd i sefyll ei brawf yn mrawdlys nesaf sir Ddln. byeh, yr hon fydd yn dechreu ar yr 22ain o'r mis hwn, ei gludo mewn cerbyd amgauedig ar hyl. y ffordd i Ruthyn, pellder o tua 26aia o fil!diro?dd. Aeth dau beddgeidwad gyda'r carchiror i Ruthyn. Agorwyd y llys am banner awr wedi deg. Llywyddid gan Dr. Jones, ac yr oedd y pedwar ynad arrzll oedd wedi bod yn eistedd yn ystod gwrandawial yr achos yn bresennol. Cyhuddwyd Mr. W. P. Roberts yn ffurfiol o gynnorthwyo a chefnogi David Jones i gyflawni y camymddygiad y cyhuddid y diweddaf o'i gyflawni. TYSTIOLAETH MR. W. P. ROBERTS. Mr. Roberts a amlygodd ei ddymuni-d am gael rboddi ei dyttiolaetb. Dywedodd ei fod wedi bod yn cymmeryd gofal o lyfrau y ffirm am ddwy flynedd a hanner, pan, trwy ei fod mor brysur, y trosghvyddodd y gwaith i'r clere Williams. Gyda golwg ar achos Williams, Tanyberlian, dywedodd nad oedd wedi bod yn cymmeryd gofal gweithredoedd trcs^lwydrii id o gwbl. Yn nghwrs ei dystiolaeth dywedodd mai y peth cyntdf a glywodd ef am archwiliad ar gyfrif yoiddiriedolaelh ydoedd yn 1900, gan Mr. Jones ei hun, yr hwn a ddywedodd fod Mr. Cadwaladr Davies ae eraill, wedi gwneyd ar- chwiliad ar weithredoedd yr ymddiriedolaeth a'r cyfrif on, a'u bod wedi cael pobpeth yn iawn. Ni wyddai y diffynydd ddim fod ffug weithredoedd wedi cael eu dwyn yn mlien, ac ni fuasai yn meddwl y gwnaethai Mr. Jones y lath beth. Yr awgrym cyntaf oedd y diffynydd wedi ei glyw^d am y diffyp ydoedd pan y daeth cyd-ymddiriedolwr Mr. Jones, Mr. Thomis Williams, i'r swyddfa, i of yo am gael gweled Mr. Jones. Nid oedd Mr. Jones i mewn, a gofynodd y diffynydd beth oedd y matar, pan y rhoddodd yr hen foneddwr lythyr iddo oedd wedi ei dderbyn oddi wrth Mr. ThorntÎn Jones. Yr oedd hyny rywbryd yn yr Hydref. Gallai y tyst weled yn union fod rhywbeth allan o le, a dartu iddo un ai ysgrifenu nen anfon gwefreb at Mr. Thornton Jones, a gwnaeth ymdrech i weled David Jones ei hun, ond yn aflwyddi'sn- nus Yna aeth yn mlien i ddyweyd iddo fyned i Fangor, ac adroddodd hanes yr ymdrafodseth a gymmerodd le rhyngddo a Mr. Thornton Jones. Nid oedd y diffynydd byth yn edrych i mewn i nnibyw faterion o ymddiriedolaeth, mor bell ag y gallai gofio. Er fod Mrs. Hughes, pan yr oedd yn byw yn Llanrwst, yn arfer dy- fod i'r swjddfa yn mron bob wythnos. ni fu yn siarad ond ychydig eiriau a hi erioed. O* na byddai Mr. Jones i mewn pan y galwai. arferai fyned allan yn hytracb na gweled y d ffyny dd. Nid oedd yn debyg y butsii yn talu cymmaint a 1,700p. y flwyddyn ddiweddaf o'i boced ei hun, pe yn gwybod neu yn drwgdybio fod yr arian ymddiriedol wedi cael en camddefnyddio. Yr oedd wedi talu 450p. ddeuddydd cyn i'r warant gael ei rhoddi allan. Croesholwyd y tyst gan Mr. J. T. Roberts, pan y dywedodd fod yr arian ymddiri«r?o: a dalwyd i gyfrif y ffirm yn y bangc wedi csel eu cimddefnyddio, a bod hyny wedi galkn gi y ffirm i gario yn mlaen. Pan ofynwyd iddo pa todd yr oedd y ffirm, o bryd i bryd, wedi cael ei rhyddhau o'u trafferthion a'r binge, dywedodd y diffynydd ei fod yn ymddiried yn ei hll.rtner. ac yn meddwl f01 pobpeth yn iawn. Yr oedd agos pob client a ddenai i'r swyddfa yn awydd- 11 ns am weled Mr Jones, os gall i. Ond y diffynydd oedd wedi gwneyd y rhan fwyaf o'r gwaith cyfreithiol yn ystod y flwyddyn ddi- wed!iaf. CyrJnabyddodd fod y ffirm wedi bod mewn gryn drafferth i gyfarfod a'u dyled. Yr oedd efe wedi colli mwy na neb arall trwy y bartneriaeth. Yna cododd Mr. Davies i anerch y llys ar ran ei glient Dadleuai fol pobpeth a wna-d gan y diffynydd yn berffaith reolaidd. Nis gallai yr erlyniad ddangos fod y diffynydd yn medda unrhyw wybodaeth am y diffygion. Yr oedd wedi ymddiried yn ei bartner, ac yr oedd yo ddyledswydd ar ei bartner i weled fod y trysor- feydd yn cael eu defnyddio yn briodol.
DYFARNIAD Y FAINGC.
DYFARNIAD Y FAINGC. Ymneillduodd yr ynadon ac ar eu dychwel- iad dywedodd y cadeirydd, ar 01 ystyriaeth. ofalus iawn, fod mwyafrif yr ynadon o'r farn nad oedd yna un achos i fyned i brawf term yn y llys, a'r faingc yn galw am drefn) Dywedodd Mr. J, T. Roberts y carai i dyst- iolaeth Mr. Roberts fyned gyda'r lieilt yn yr achos i'r frawdlys, fel y galhi y tarawr ei gweled. Dywedodd y clerc y byddai iddi gael ei ban- fon. Wedi hyny cafodd Mr. Roberts ei ryddhau a rhwymwyd y tystion yn achos Mr. David Jones i wneyd eu hymddangosiad yn y frawd- lys.
[No title]
Yr oedd y flwyddyn ddiweddaf yn un hynod o ystormus, ac ni achubwyd im llai na 707 o fywydau ar hyd ein glaaau gan y bywydfadau, a moddion eraill, am yr hyn y caniataodd Sef- ydliad y Bywydfad wobrwyon.
ADEILADA U GWAEL A'R GYMMALWST.
ADEILADA U GWAEL A'R GYMMALWST. YN yr haf yr oeddych yn myned helbio i gae o ýd. Heddyw y mae yr un cae wedi rhoddi lie i rês o dpi. Y mae pobi yn byw ynddynt. Y mae yn rhaid iddynt fyw yn rbywle Beth am y lleithdel oddi wrth y tir a'r cymmylau ? A ydyw adeiladau gwael yn cynuydda y g m- malwst yn ystod y blynyddoedd diweddaf? Y mae y gymmalwst yn awr yn cymmeryd gafael mewn miloedd o weithwyr. A ydych chwi yn dioddef o dano? Os felly, pa un a ydy h wedi ei gael trwy d! llaith, gwely Haith, neu trwy y tywydd gwlyb diwedda?, nid ydyw hyny o gymmaint pwys a'r pa todd i chwi gael ym- wired o hono. Bydd i Bite Beans Charles Forde roddi ymwared cynt i chwi oddi wrtho na dim arall, Teimlodd Mr. H. Poole, 1, Vicarage Poad, Watford (Herts) boenau y gymmalwsc i dde- chreu yn ei yspwydd. Aeth wedi hyny i'w gliniau, a rhanau isaf ei gefn. Methai a cherdded ond ychydig latheni hyd yn oed gyda ffynbaglau. Nis gallai eistedd i gymmeryd ei brydan bwyd; ao yr oedd yn rhaid iddo blygu ar y llawr, ac i'w blbt gael ei ceod ar gadair neu eemwythfaingc. Ymgynghorodd â pbedwar o feddygon, ac aeth i wahanol ysbyttai, ond nid oedd yn cael un feddyginiaeth. Aeth wedi hyny i Buxton i gael tritmeth arbenig; a ehyfarfyddodd hen wr yno, yr hwn a ddywedodd wrtho am roddi prawf ar y Bile Beans, yn lie y driniaeth arbeniaf. Nid ydvw yn swnlo ya addawol. Er hyny rhoddodd brawf ai Bile Beans; a gwnaeth byny drachefn a thrachetn, hyd nea y sylwodd ar welliaat. C Yn mhen ychydig wjthnosiu,' meddai, • yr oeddwo ya well nag y bum am amser maith, a medrwn fyned o gwmpas heb boen. Ac felly, cymmerais y Bile Beans nes i mi gael fy ngwella yn berffaith. Yr wyf wedi rhoddi fy ffyn baglan o'r neilldu yn awr, ac yr wyf yn cerdded o gwmpas cyn gystal ag y daifu i mi erlced wneyd yn fy mywyd.' Gellir cael Btle Beans Charles Forde gan holl werthwyr meddyginiaeth, ond peidiweh eym meryd unrhyw ddarpariaeth arall a gynnygir I chwi, 'yn mron cystal.' Ni ddargacfyddwyd y cyfryw ddarpariaeth etto.