Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

PWYLLGOR ADDYSG SIR DREFALDWYN.

Adgyweirio Ysgolion y Cynghori

rJ. CYFRAITH Y DOGNAU.

LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLUNDAIN. Pen blwydd.-Y Sabbath, Ebrill 9fed, ydoedd pen blwyddyn gyntaf gweinldogaeth y Parch H. Elfed Lewis yn y Taberneel, King's Cross. Pregethodd foreu a hwyr yn rhagorol oddi ar destynan priodol i'r amgylcbiad, gan fwrw golwg ar hanes y flwyddyn aeth heiblo, a thaflu awgrymiadau ac annogaethau ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Ynglkn a hyn, hefyd, cafwyd cwrdd cyfeillgar y nos Iau dilynol. I At home' y galwai Elfed ef a pha well enw, mewn lie fel hwn yn neillduol. Yn sicr, yn yr eglwys y dylai ein pobl iauaingc deimlo at home. Caed cyfarfod da a phoblogaidd. Da yw deall tod sefyllfa arianol yr eglwys, mor bell ag y mae derbyniadan a threuliau uniongyrchol yr eglwys yn myned, yn foddhaol, ond nid ydyw y drysorfa atianol y peth y dylai fod. Gobeithlwn y deffry y bobl ar unwaith yn hyn o beth, ac na adawent i's: ddyled hon aros yn hir i'w rhwyatro I wneuthur pethau mwy, ac y cadwant i fyny eu henw da yn y gorphenol o daln eu dyled mewn amser cymmharol fyr. Yn y cwrdd hwn, hefyd, cyflwynwyd i Miss Marian Mat thias anrheg o lestri a llaw fwrdd arian, yn nghyd â phwrs o aar, fel cydnabyddiaeth am ei gwasanaeth wrth yr organ am ychydig dros ddwy flynedd o amser. Yr oedd &wm yr holl dderbyniadau at hyn dros 50p. Siaradodd amryw o'r cyfeillion, gan ddadgan eu dlolch' garwch i Miss Matthias, mewn geiriau caredig, am ei gwasanaeth, a'u dymuniadau da am ei dyfodol. Gymmanfa gerddorol.-Prydnawn a nos Wener y Groglith cynnaliwyd cymmanfa gerddorol Annlbynwyr Cymreig Llundain yn y Tabernacl, o dan arweiniad Mr. Harry Evans, Dowlais. Cyfarfod y plant yn y prydnawn, a'r gymmanfa gyffredinol yn yr hwyr. Cafwyd canu da ar y cyfan, ac yr oedd y capel eang wedi ei lanw. Llywyddid gan y Parch. Edward Owen, Barrett Grove. Yr oeddym yn edmygn Mr. Harry Evans yn fawr yn ei benderfyniad i beldio myned yn mlaen heb gael distawrwydd a sylw cyffredlnol. Beth all fod yr ysfai siarad a gwena sydd ar bobl mewn cyfarfodydd fel hya sydd ddirgelwch i ni. Mae yn hen bryd defnyddio rhyw foddion neu gilydd i roddi ter- fyn ar y gwamalwch yms yn nhk Dduw. Yr oedd dull Mr. Evans yn dra effeithiol, heb ddy- weyd ond ychydig. Nid oedd y casgliid at y treuliau cystal ag y disgwylid iddo fod.

D I N B Y C H .

LLANDRINDOD.

Y PARCH. H. M. ROBERTS, RHYDLYDAN.

Y SOL-FFA YN AFFRICA.

[No title]

[No title]

MARWOLAETH Y PARCH. B. D.…

Banerau Presennoldeb.

Y DDEDDF ADDYSG.

Banerau Presennoldeb.