Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD.

ARGLWYDD ROSEBERY AR Y LLYWODRAETH…

MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN, A S. DRWG genym gofnodi marwolaeth Mr. ■ Arthur Charles Humphreys-Owen, yr AS. dros sir Drefaldwyn, yr hyn a gymmerodd le prydnawn dydd Sadwrn, yn Glansevern-ei balas yn sir Drefaldwyn. Yr oedd Mr. Humphreys-Owen yn un o'r aelodau Rhyddfrydig mwyaf adna- byddus yn Nghymru, ac yr oedd wedi cymmer- yd rhan flaenllaw ynglyn ag addysg yn Nghymru er'a llawer o flynyddoedd. Cyfar- fyddodd yi aelod anrhydeddus a damwain yn Llundain yn ystod y rhan gyntaf o'r senedd- dymmor diweddaf; ac ni cbymmerodd ond ych ydig ran mewu gwaith cyhooddua o'r arn&er hwnw. Ganwyd Arthur Charles Humphreys ar y 9fed o Dacbwedd, 1836. Yr oedd yn fab i Mr. Erskioe Humphreys, bargyfreithiwr, ac Eliza, merch Dr. Edward Johnes, Qarthmyi. Derbyn- iodd ei addysg yn Harrow ac vn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lie y graddiodd ar ol hyny yn M A. Galwyd ef yr fargyfreithiwr yn Lincolns Inn yn 1864, a bu yn dilyn yr alwed- igaeth hwnw am ryw gyrnmaint o amser yn y Canghell lys. Yn y flwyddyn 1875 priododd Maria, merch y diweddar Mr. James Russell, Q a., yr hon sydd yn awr yn fyw. 0 dan waddol gan y ddiweddar Mrs. Ann Warburion Owen, percheno^es yst&d Glausevarn, yn cynnwys agos i 8,000 o erwau yn mhlwyfi Berriew, Castel] Caereinion, a Llavgurig, daeth yn bsrchecog yr eiddo; ac yn 1876, cymmerodd yr enw Owen, yn unol A. darpariaethau y gwaddol. Yn 1894 safodd yn ymgeisydd Rhyddfrydig dros sir Dref aldwyn, ar ddyrchafiad yr aelod y pryd hwnw (Mr. Stuart Rendel) i Dy yr Arglwyddi, pan y dychwelwyd 6f; ac y mae wedi cynnrychioli y air byth er hyny. Ar sefydliad y cynghorau sirol yn 1888, etholwyd ef yn gadeirydd cyotaf y corph hwnw ac y mae wedi cael ei ail ben- nodi bob blwyddyn byth er hyny; tra yr oedd wedi bod yn Ilenwi y swydd o ddirprwy gadeir- ydd brawdlys chwsrterol y sir am nifer o flynyddoedd, fel olynydd i Mr. C. W. W. Wynn. Rai blynyddoedd yn ol etholwyd ef yn gyfar- wyddwr Cwmni Ffordd Haiarn y Cambrian,' a daeth yn gadeirydd y cwmoi hwnw wedi hyny, yn gyatal a Chwmni Ffordd Haiarn Canolbarth Cymrn. Rhoddodd y swydd o gadeirydd y cwmni i fyny yn ystod yr hfif diweddaf, ond parhaodd i fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmDi. Cymmerodd Mr. Humphreys Owen ran mewn bywyd cyhoeddus am lawer o flynyddoedd. Gwnaeth wasanaeth rha-gorol ynglyn ag addysg yn Nghymru. Yr oedd yn wrthwynebydd pybyr i Gyfraith 1902. Yr oedd yu llywodr- aethwr Coiog Aberystwytb, ac yn aelod o Lys Prifysgol Cymru. Nid ydyw yn debyg y cymmer etholiad ach- lyaurol Ie am y s6id wag a achoswyd trwy farw- olaeth Mr. Humphreys Uwen.

[No title]

[No title]

Y WEINYDDIAETH NEWYDD.

[No title]

Y PRIFWEINIDOG A'R BRENIN.

Y GWEINIDOGION NEWYDD.

TROSGLWYDDO Y SELIAU.