Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

LLECHI MEWN YSGOLION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLECHI MEWN YSGOLION. DIRPRWYAETH AT ARGLWYDD LONDONDERRY. YMWELODD dirprwyaeth o Ogledd Cymru ag Arglwydd Londondery, yn y Swyddfeydd Addysg, prydnawn dydd Mawrth, i erfyn ar y swyddfeydd hyny i beidio gwahardd defnyddio llechi yr ysgolion, ac i alw yn ol eiargymmhell- iad ar y pwngc. CyflwynoddSyr John Puleston y ddirprwyaeth yr hon oedd yn cynnwys Mr. Bryn Roberts, A.S., Canon Brownrigg, Mr. R. A. Naylor (yr ymgeisydd Ceidwadol yn erbyn Mr. Lloyd George yn mwrdeisdrefi Caernarfon), a dang- osodd y ddirprwyaeth yr effaith ddifrifolgawsai diddymu defnyddio ilechi mewn ysgolion cy- hoeddus yn Ngogledd Cymru. Dadleuent, hefyd, fod yr ymresymiad fod hyny yn afiach wedi cilio ar ymddangosiad y dull newydd o lanhau y llechi, a bod golwg y plant yn cael ei niweidio gan ddisgleirdeb papur gwyn, a bod Ilawysgrifen yn yr ysgolion yn gwaethygu trwy fod papur yn cael ei ddefnyddio yn He llechi, tra yr oedd yn fwy costus. Arglwydd Londonderry, mewn attebiad, a ddywedodd mai camgymmeriad ydoedd tybied fod y Swyddfa Addysg wedi gwahardd defnydd- io llechi. Yr oedd wedi gadael y mater yn nwylaw yr awdurdodau lleol. Yr oedd gan y cyrph hyny law rydd i benderfynu felygwelent hwy yn oreu a pha beth bynag fyddai eu pen- derfyniad ni effeithiai hyny ar y galJu i ennill rhoddion yr ysgolion o dan en rheolaeth. Pe yn aros mewn swydd da fuasai ganddo wneyd ym- chwiliad i'r materion a godwyd gan yddirprwy- aeth, y rhai yr oedd efe mewn cydymdeimlad k hwy. Deallwn fod yn mwriaa y ddirprwyaeth i anfon cylchlythyr at yr holl awdurdodau lleol, gan gynnwys yr oil o sylwadau Arglwydd Londonderry.

PWYS GONESTRWYDD.

CWMNI CYDSODDEDIG RHODESIA,…

[No title]

PARHAU I FYNED YN MLAEN 0…

LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN.

GORUCHWYLIWR ARIANDY.

DINB YC H.

FFAIR Y NADOLIG.

ARDDANGOSIAD AO ARWERTHIANT…

CAERNARFON.

YR YMOSODIAD AR GEIDWAD YR…

Y TWYLL DIWEDDAR YNGLYN A…

YMOSOD AR GEIDWAD YR AFONYDlJf

RHUTHYN.

,1;;-,).. BANGOR.

[No title]

TROSGLWYDDO Y SELIAU.