Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
18 erthygl ar y dudalen hon
LLECHI MEWN YSGOLION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLECHI MEWN YSGOLION. DIRPRWYAETH AT ARGLWYDD LONDONDERRY. YMWELODD dirprwyaeth o Ogledd Cymru ag Arglwydd Londondery, yn y Swyddfeydd Addysg, prydnawn dydd Mawrth, i erfyn ar y swyddfeydd hyny i beidio gwahardd defnyddio llechi yr ysgolion, ac i alw yn ol eiargymmhell- iad ar y pwngc. CyflwynoddSyr John Puleston y ddirprwyaeth yr hon oedd yn cynnwys Mr. Bryn Roberts, A.S., Canon Brownrigg, Mr. R. A. Naylor (yr ymgeisydd Ceidwadol yn erbyn Mr. Lloyd George yn mwrdeisdrefi Caernarfon), a dang- osodd y ddirprwyaeth yr effaith ddifrifolgawsai diddymu defnyddio ilechi mewn ysgolion cy- hoeddus yn Ngogledd Cymru. Dadleuent, hefyd, fod yr ymresymiad fod hyny yn afiach wedi cilio ar ymddangosiad y dull newydd o lanhau y llechi, a bod golwg y plant yn cael ei niweidio gan ddisgleirdeb papur gwyn, a bod Ilawysgrifen yn yr ysgolion yn gwaethygu trwy fod papur yn cael ei ddefnyddio yn He llechi, tra yr oedd yn fwy costus. Arglwydd Londonderry, mewn attebiad, a ddywedodd mai camgymmeriad ydoedd tybied fod y Swyddfa Addysg wedi gwahardd defnydd- io llechi. Yr oedd wedi gadael y mater yn nwylaw yr awdurdodau lleol. Yr oedd gan y cyrph hyny law rydd i benderfynu felygwelent hwy yn oreu a pha beth bynag fyddai eu pen- derfyniad ni effeithiai hyny ar y galJu i ennill rhoddion yr ysgolion o dan en rheolaeth. Pe yn aros mewn swydd da fuasai ganddo wneyd ym- chwiliad i'r materion a godwyd gan yddirprwy- aeth, y rhai yr oedd efe mewn cydymdeimlad k hwy. Deallwn fod yn mwriaa y ddirprwyaeth i anfon cylchlythyr at yr holl awdurdodau lleol, gan gynnwys yr oil o sylwadau Arglwydd Londonderry.
PWYS GONESTRWYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PWYS GONESTRWYDD. Wedi yr elo y gau dduwiau y daw y duwiau — y gwir dduwiau. Dyna wir sydd wrth wraidd ein diffyg gwareiddiad. Mae cymdeithas y dyddiau hyn, fel yn yr oesau a aethant heibio, yn llawn o gredoau, o athraw- iaethau, o ddadleuon anorphen ynglyn a phethau anfuddiol, ond ychydig o onestrwydd sydd. Dyna yw gwreiddyn gwareiddiad, sef gonest- Twydd. Nid yw cred nac athrawiaeth, nac athroniaeth nac addysg, na chelf na dim, o werth oddi gerth fod yn y bobl onestrwydd.' Dyma ddylai fod amcan ein hysgrifenu, ein pregethu, ein hareithio, &c., sef cael pobl i fod yn onest. Ni ellir ymddiried mewn dim ond'gonestrwydd.' Dyma sydd yn rhoi safle i ddyn o flaen Duw a dyn, sef gonestrwydd. 0 Waeth faint oysgolhaig fo dyn, na pheth fo ei grefydd, na faint fo ei hyawdledd, na faint fo ei harddwch gweledig, oddi gerth ei fod yn onest, nid yw yn werth dim ger bron cyfiawnder, nac o flaen trugaredd, oddi gerth iddo edifarhau ac addaw bod yn onest. Mae cymdeithas mor llawn o broffes ac yw wy o fwyd, ond y mae proffes yn mhell o fod yn fwyd. Amcan mawr crefydd y dyddiau hyn ddylai fod gwneyd dynion yn onest. Trist yw meddwl ei bod yn mhell o wneyd hyny.
CWMNI CYDSODDEDIG RHODESIA,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWMNI CYDSODDEDIG RHODESIA, CYFYNGfiDIG. CYNNWYSA Cwmni Cydsoddedig Rhodesia, Cyfyngedig, mewn gwirionedd, amrywgwmniau pwysig wedi cael eu cyfuno; megys, Cwmni Cydsoddedig Mashonaland; Cwmni Cyllidol a Mwnau Rhodesia, Cyf.; Mwngloddiau Unol Excelsior Cyf,; Cwmni Williamson's Pioneer a Dadblygiad, Cyf. Gellir gweled trwy hyn fod gryn lawer yn bossibl trwy y cwmni hwn. Y mae tiroedd y cwmni yn sefyll yn Neheu Rhodesia, trefedigaeth Brydeinig yn gorwedd rhwng y Zambesi a'r afon Limpopo, ac felly i'r gogledd o'r Transvaal. Y mae Rhodesia agos dair gwaith gymmaint a Lloegr. Medda ar afonydd mwy, ac y mae y gwlaw yn disgyn yn fwy rheolaidd, IKosocach ffynnonellau,fforestydd eangach,a gwastadeddau adyffrynoeddeangach, a mwy cynnyrchiol na'r Transvaal, neu drefed- igaethau eraill yn Neheudir Affrica. Cyfar- wyddwr Amaethyddol y cwmni ydyw ein cyd- wladwr, y Milwriad Owen Thomas, at waith yr hwn y gwnaed cyfeiriad genym ryw ychydig wythnosau yn ol. Gweler yr hysbysiad mewn colofn a rail.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Darfu i Alexander James Montrose, 23ain mlwydd oed, yr hwn a ddedfrydwyd yn mrawdlys Morganwg i dymmor o garchariad am dy doriad yn Merthyr, grogi ei hun yn ei gell yn nghaichar Abartawe. Boreu ddydd Sabbath aeth yr Henadar Enoch Morell (maer Merthyr), ac aelodau y gorphoraeth, i'r gwa&anaeth yn nghapel yr Annibyawyr Saesnig yn Troedyrhiw. Dyrna y waith gyataf i faer y dief orymdeithio i wasanaefch crefyddoJ. Yn y dyddiau hyn pan y mae rhesfcr y gea- edigaethan yn lleihau, boddhaol ydyw sylwi mat yn Bir Fynwy y mae y rhestr uchaf o enedigaethau yn Lioegr a Ohymru (35 7); Mor- gaawg a Durham ddaw yn nesaf, gyda 34.1, a chymmer sir Gaerfyrddin y trydydd lie.
PARHAU I FYNED YN MLAEN 0…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PARHAU I FYNED YN MLAEN 0 DAN WEINYDDIAETH RYDDFRYDIG. YN awr, gan fod y dynion a gariodd y Gyf- raith Addysg i weithrediad wedi myned allan o swydd, a ddygir symmudiad y gwrthwyneb' iad goddefol I derfyniad ? Atteb pendant Dr. Clifford ydyw, I Na nid oes dim cadoediad i fod. Yn hollol i'r gwrth- wyneb,' meddat ef, dydd Mereber dlwoddaf. Y mae'n rhaid i ni chwanegu ein rhif bedair gwaith, fel ag i wasga ar y Llywodraeth Rydd. frydig i symmud anghyfiawnder y gyfraith. O! na: nid oes yna y tebygolrwydd lleiaf i'r mudiad ddarfod. Y mae dynion yn myned i'r carchar y foment bresennol.' I Yr hyn wyf yn awyddus am el wneyd yw, cynnyddn ein hymdrejhion, fel ag i attal un- rhyw gyttondeb hanner y ffordd niweidiol gael el wneyd a wnal barhau y camwri yn erbyn yr hwn yr ydym yn gwrthdystio.' Y mae Dr. Clifford yn edrych ar y Llywodr- aeth newydd fel wedi ymrwymo I (1) I ddiddymu prawflwon duwinyddol ac Eglwyslg; (2) Sefydlu yr egwyddor o reolaeth boblog. aidd.
LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN. Y WEINYDDIAETH DRANCEDIG. Y MAE gan Pope, y bardd Saesnig, ddwy iinell hynod gymmhwys i amgylcbiadau Mr. Balfour y dyddiau hyn, yn diosg ei arfau 'And you, brave Cobham, to the latest breath, Shall feel your ruling passion strong in death.' Felly yn gymmhwyg ybugyda Mr. Balfour. Y mae wedi bod yn hynod gyfrwys i gelu ei amcanion, ac i gadw y wlad yn y tywyllwch er's amser. Ond yr oedd rhoddi yr awenau 1 fyny rhvw fis cyn y flwyddyn newydd yn profi ei fod am daflu ei olynydd i gymmaint penbleth ag yr oedd modd iddo ei wneuthur, trwy ei orfodi i ffarfio Llywodraeth, ac ym- aflyd yn yr awenau fia cyn dadgorphoriad y senedd. Ond, er hyn oil, da genyf fod Syr Henry Campbell-Bannerman wedi ymgym- meryd a'r gwaith fel y peth doethaf a mwyaf manteisiol i'r wlad yn gyffredinol o dan yr amgylchiadau; a chyn y bydd y F ANER allan, cawn weled pwy fydd ei gadfridogioo. Ond y mae byn yn eglur, tod ganddo lu o ddynion cymmhwya i lanw y gwahanol swyddau dynion ydynt wedi profi eu hunain yn gewri fel gwlad arweinwyr- dynion ydynt, hefyd, yn hyder y wlad a dynion gant gydymdeimlad cyffredinol o dan yr amgylchiadau, ac yn eu plith nifer nid anenwog o Gymru, a nifer o honynt; wedi enwogi eu hunain mewn gweinydd- iaethau blaenorH, dan lywyddiad Mr. Glad- stone, ac eraill. Awgrytair yo y wlad y bydd Syr Henry Campbell- Bannerman yn cael ei ddyrchafu i'r Ty uchaf; ond yr wyf yn mawr obeithio y bydd iddo aroH yn Nby y CyfiPrftdin am ddwy flynedd, o'r byn lleiaf, er iddo roddi ei wasanaeth fel Prifweinidog yn y iaaf; o blegid nid oes dadl Dad yn y Ty isaf y bydd mwyaf o alw am ei wasanaeth, nes yatyried a phasio amryw fesurau fyddant yn aicr o gael eu gwrthwynebu byd at waed. Dyna gwestiwn Masnach Rydd, a chweatiwn Addysg, a llu o gweatiynau eraili fydd yn galw am holl arfogaeth y Weinyddiaeth i'w penderfynu yn Nhy y Cyftredin. Y mae y wlad yn mawr obeithio y bydd Isrll Spencer yn cael ei adferyd, hefyd, fel ag i'w alluogi i flaenori y blaid Ryddfrydig yn y ucbaf. Dyna, hefyd, Iarll Roaebery, ac eraill. Yr wyf yn deall fod Iarll Spencer yn llawer gwell mawn iechyd nag y bu ar ol y ddam- wain iddo. Y mae y Prifweinidog wedi gallu arwa'n y blaid Ryddfrydig yn Nb £ y Oyffredin o dan amgylchiadau hynod an- fFafriol yn ystod y blynyddoedd diweddaf, yn hynod lwyddiannua ac mae yr areitbiau a draddodwyd ganddo gyda gallu, nertb, Be argyhoeddiad, yn ystod y flwyddyn bon vedi profi fod ei gorph a'i feddwl yn hoyw ac iach ac y mae wedi ennill poblogr;vydd cyffredino! yn y wlad. Ac os ydym am gael senedd ddigon cryf, ac yn meddu arfwyafrif digonol i'w galluogi i basio y mesurau fyddant yn cael yr ystyriaeth flaenat yn y eenedd, mae bron yn anhebgorol cael y Prif- weinidog yn Nb £ y Cyffredin i arwain y blaid. iT mae Mr. Chamberlain newydd draddodi araeth fawr, danllyd, yn Rhydycbain, nos Wener-aneth y mae yn disgwyl iddi ennill llu o ddysgyblion i bleidleisio dros Ddifiyn- dolliaeth; ac yn ngbanol ei frwdfrydedd wrth anerch y gynnulleidfa gwaeddodd allan nerth ei bon, I G;ill pobl eraill (meddai) logellu eu hargyhoeddiad, ond nid ydych chwi yn meddwl fy mod i yn un o'r cyfryw yn amcanu llogellu fy argyboeddiadau Ar hyny dyna un o'r gwrandawyr yn gwaeddi nerth ei ben, I Y mae eich Ilo-ellau chwi oil yn ilawn eisoes o argyhoeddiadau wedi eu llogellu.' Ac yn un o'r newyddiaduron am heddyw mae digrif-ddarlun ^ur awgrymiadol mewn atte^ ad i sylw yr areithiwr, yn rhoddi darlun o'r mesurau y mae y g*r wedi eu cefnogi yn ei yrfa wleid- yddol. Dyma nhw :-Maspach Rydd, Gwell- iantau yn y Deddfau Tirol er lies y lliaws, Hunanlywodraeth i'r lwerddou, sef senedd yn yr Iwerddon, Tair Acer a Buwch i'r Gweithiwr, a Gwerin-lywodraeth i'r wlad hon a dyma y g*r sydd yn ddigon haerllug, beiddgar, a gwyneb- galed i gyhoeddi ger bron y wlad 'yn ngwyneb haul, llygad goleuni,' nad ydyw ef, Joseph Cham- berlain, erioed wedi bod yn euog o werthu dim un o'r egwyddorion y bu yn credu ynddynt; ac y mae, yn yr araeth fawr hon, wedi bod yn ddi- gon gwyneb galed wrth gyfeirio at y blaid sydd yn lied debyg o gael mwyafrif yn y senedd nesaf i ddyweyd y byddai pob pleidlais a roddir gan yr etholwyr ir Rhyddfrydwyr yn bleidlais dros hunan-reolaeth i'r Iwerddon ac nid annhebyg na byddai yr un g*r, pe cawsai gyfle i fod yn aelod o Weinyddiaeth o'r Undebwyr a'r blaid Doriaidd, na byddai ar y blaen etto i roddi hunan-reolaeth i'r Iwerddon, os byddai hyny yn rhyw fantais iddo i ddriBgo i fyny i ben yr ysgol.
GORUCHWYLIWR ARIANDY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GORUCHWYLIWR ARIANDY. Y mae digwyddiad newydd gymmeryd 1 yn Llangollen sydd wadi crau cyfiro eyffredino. n yr ardal a'r cylch. Cafwyd prif oruchwyliwr Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru yn y dref yn euog o gamddefnyddio swm o dros ddwy fil o bunnau perthynol i'r ariandy i dalu hen ddyled yr oedd ef yn gyfrifol am danyut fel ymddiriad- olwr i wraig weddw yn yr ardal. Y mae yn ymddangos ei fod wedi camddefnyddio yr arian hyn mewn peth a elwir speculatzons adeg yn ol, ac, yn anffodus, wedi eu colli; a phan y daeth galwad sydyn am yr arian gan ymddiriedolwyr y wraig ar ol ei marwolaeth, yn ei fraw bu mor anffodus a'u talu i fyny o arian perthynol i'r ariandy. Pan y daeth y peth i'r golwg yn yr ariandy cymmerwyd y goruchwyliwr i fyny, a dedfrydwyd ef i dri mis o garchar am y trosedd. Yr oedd Mr. Williams yn un o'r dynion mwyaf parchus, hynaws, a charedig yn y dref, ac iddo air da gan bawb. Yr oedd wedi treulio tua phum mlynedd ar hugain fel prif oruchwyliwr yr ariandy heb un ysmotyn ar ei gymmeriad, ac y mae cydymdeimlad eyflredinol yn cael ei deimlo tuag ato ef a'i deulu yn yr ardal. Y tebygolrwydd ydyw, pe buasai wedi esbonio ei sefyllfa mewn pryd wrth nifer o gyfeillion yn y dref y buasent wedi rhoddi benthyg yr arian iddo, ar yr ammod iddo ea talu i fyny yn flyn- yddol-dyweder yn 01 tua 100p. neu 150p. o'i ennillion. Y mae yr hanes yn awgrymu mai gwaith annoeth ydyw gwneuthur anturiaethau o'r fath pan yr ydych yn peryglu eu colli, a dwyn eich cymmeriad i warth. Yn ail, y mae yn gofyn am i ddyn mewn sefyllfa o'r fath i fod yn wyliadwrus rhag cymmeryd eu temtio, o blegid mae llu o ddynion ar y farchnad yn chwilio am y cyfryw ddynion, er eu llusgo i lyn tro, a'u dinystrio. Clywais fod nifer o foneddigion newydd gyfar- fod i ystyried beth ellid ei wneuthur i ddangos cydymdeimlad a. Mr. Williams, a'r teulu, yn y cyfwng presennol, a'u bod yn y fan wedi casglu dros gan punt tuag at eu cynnorthwyo, o blegid credir nad oes ganddo ddim ceiniog o'r arian wedi eu cadw at ei wasauaeth personol a chan y buasai yn gallu ymddiswyddo o ofalon yr ariandy yn mheu tua blwyddyn i fyw ar ei flwydd-dâl, maa ei golled bersonol arianol yn aruthrol iddo ef a'i deulu i wynebu diwedd eu hoes. Ni bydd yr ariandy fawr ar ei golled, yr wyf yn deall, o berthynas i'r ariao, am fod y golled yn disgyn ar gyfundeb oedd wedi myned yn gyfrifol drosto.
DINB YC H.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DINB YC H. Damwain. — Dydd Mercher diweddaf, fel yr oedd Lizzie Vaugban Davies, geneth Mr. Jeremiah Davies, 124, Henllan Street, yn croesl oddi ar y llwybr troed i fyned i'r tý-, rhedodd carbyd perth- ynol i Mr. John Williams, Plaa Uchaf, Llannef- ydd, yn ei herbyn, gan ei thaflu i lawr; a derbyn- iodd y fath niweidiau i'w phen, a rhanau eraill o'i chorph, fel y gorfyddwyd ei chludo i'r Ysbytty, a lie y cadwyd hi i mewn. Gyjarfod Amrywiaethol y Bedyddioyr.—Cyn- naliwyd cyfarfod o'r cymdeithas hon nos Ian, o dan lywy idiaeth y Parch. Thomas Griffiths- a chasd anerchiad agoriadol ganddo. Dechreu- wyd y cyfarlod trwy ganu emyn, I Dyma babell y cyfarfod,' a arweddiwyd gan Mr. John Wil. liams (ieu.), Henllan Street. Aed trwy y rhaglen ganlynol: — Toa gynnulleidfaol 264. Pedwarawd, I Cawn fyn'd adret yfory,' gan Misses Laura Lloyd, Chapel Place; Amy Wynne, Beason's Hill; a'r Mri. Thomas Davies, a David Davies, Wesley Yard. Adroddiad, I Net a'i chi,' gan Miss Nellie Freeman. Deuawd, gan Misses Catherine Williams a Maggie Royles. Adroddiad, gan Mr. William D. Peirce. Tôa gan y plant, o dan arweiniad Mr. J. Roberts, Love Lane. Dad], C Y ddwy fam,' gan Misses Amy Wynne, Annie Catherine Roberts, Maggie Royles, a Maggie Pierce. C&n, « Y dryw bach,' gan Miss Nellie Freeman. Adroddiad, gan Miss Myfanwy Hughes. Can, gan Miss A. E. Williams. Cafwyd anerchiad campus gan Mr. John Roberts, Love Lane, ar I Dafydd y Gareg Wen.' Can, C Dafydd y Gareg Wen,' gan Miss A. E. Williams. Pedwarawd, gan Mri. John R. Royles,|T. Royles, Factory Place, Thomas Davies, David Davies, a Miss Maggie Royles. Catwyd anerchlad gan Mr. George Williams. Ar gynnygiad Mr. John Roberts paslwyd pleidlais o ddiolcbgarwch i'r llywydd. ac eraill. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu cydgSn gan y plant, lean anwyl gwrandaw fi,' o dan arweiniad Mr. J. Roberts. Daeth cynnulliad lliosog ynghyd, a threuliwyd nosoa ddlfyr iawn.-Ioan. Bedydd. Yn nghapel y Bedyddwyr, boren Sabbath diweddaf, gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd trwy drochiad ar chwaer ienangc o'r eglwys. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. Griffiths (gweinidog), a ch'ed pregeth bwrpasol i'r achlysnr ganddo oddi ar Luc vi. 29, 30. Yr oedd cynnulliad lliosog yn bresennol. Da genym nodi fod golwg llewyrchus ar yr eglwys hon ar hyn o bryd; ac yn ystod yr amser y mae Mr. Griffiths wedi bod yn y dref y mae amryw wedi ea derbyn yn aelodau. Cymdeithas Lenyddol L6n Swan.—Cynnaliwyd cyfarfod wythnoaol y gymdeithas hon nos Lun, dan lywyddiaeth y Parch. James Charles, pryd y caed dadl ddyddoroi ar y testyn, A ddylai proffeswyr Cristionogol fod yn llwyrymwrthod- wyr oddi wrth ddiodydd meddwol?' Cymmer wyd yr ochr gadarnhaol gan Miss Williams (Etdon Villa), a'r ochr nacaol gan Mr. I. W. Jones (Hign Street) Cymmerwyd rhan pellach yn yr ymdrafodaeth gan amryw o aelodau y gymdeithas; a phan bleidleisiwyd caed mwyafrif cryf o blaid yr ochr gadarnhaol.
FFAIR Y NADOLIG.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
FFAIR Y NADOLIG. ARWERTHFA Y MRI. CLOUGH. DANGOSWYD nifer fawr o anifeiliald tewlon yn yr Arwerthfa uchod heddyw (ddydd Mawrth). Dyfarnwyd y gwobrwyon fel y canlyn :— Gwartheg. Cwpan arian, gwerth pom gInt, am yr anifail tew goreu yn yr arddaDgosfa-l, E Rowlands, Galch Hill, Dinbych; 2, John Roberts, fferm Plas Heaton, Trefnanfc. Gwerthwyd y goren i Mr. Robert Ellis, cigydd, Dinbych, am 35p. Tri anifatl tew gorea, bustych neu heffrod, o unrhyw oed, eiddo yr un perchenog—John Roberts, fferm Plas Heaton. Dan anifail tew, bustych nen heffrod, heb ddangos mwy na dau ddant blaen-l, Edward Rowlands. Etto, dan ddwy flwydd oed-R Armor Jones, Cae Gwyn, Dinbych. Yr heffer dew oreu—R Armor Jones. Y fuwcb dew oreu—1, Thomas Lloyd, Cotton Hall, Dinbych 2, Mr. Hongbton, Broadleys, Dinbych. Y tarw tew goreu—1, Mr Davey, Maesmyn- an, Caerwys; 2, David Jones, Gralg, Dinbych. Gwobrau ctrbenig. Dyfarnwyd y gwobrwyon arbenig fel y canlyn:— Cwpan arian, rb6dd maer Dinbych, am y pedwar anifail tew goren, bustych neu heffrod, unrhyw oed, eiddo yr un perchenog-John Roberts, fferm Pias Heaton. Yr anifail tew goren, wedi ei besgi ar C SlIcock's Cake'- 1, |T Jones, Brondyffryn, Dinbych 2, R Armor Jones. Gwobr y Mri Jones a'i Fab, masnachwyr, Dinbycb, am tr anifail tew goren, perchenog yr hwn oedd wedi pwreasu dwy dynell ac uchod o'u cake-John Roberts. Gwobr y Mri. Hewthorn, cwpan arlaiJ, gwerth tair gini, am yr anifail tew goren wedi el tagu ar Oincola-E Rowlands, Moch. Dau fochyn tew—Mr Clough, Dregoch, Bodflari. Lloi. Y Ho tew goreu—Robert Roberts, Foxhall, Renllan. Defaid. Deg o fammogiald Cymreig — 1, Robert Owen, Glanywern, LIandyraog 2, T. Lloyd Griffiths, Egryn, Dinbych. Deg o fyllb Cymreig—1, Cadwaladr Hughes, Glasmor, Nantglyn 2, Isaac Jones, Cader, Nantglyn. Pump o ddefatd tew[on, myllb neu mammog. laid, o unrhyw frid arall-R Armor Jones. Pump o ddefaid cewion, wedi ea pesgi ar SUcock's Cake '—R Armor Jones. Y belrniaid oeddynt: — Gwarthe?, Mri. Henry Jones, Llanelwy; a John Jones, Wydd- grug. Defaid a moch, Mri Robert Roberts, Penyrhengoed, Rbuthyn, a Caradoc Roberts, Hendre, Wyddgrug.
ARDDANGOSIAD AO ARWERTHIANT…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
ARDDANGOSIAD AO ARWERTHIANT Y MRI. BYFORD A SHEFFIELD. DYDD Mawrth cynnaliwyd arddangosiad ac ar- werthiant blynyddol y Mri. Byford a Sheffield yn y Smithfieid a gellir dyweyd ei bod, mewn pob ystyr, llawn cystal, os nad gwell, na'r ar- ddangosiadau blaenorol. A ganlyn sydd restr o'r dyfarniadau Yr anifail tew goreu yn yr arwerthiant, cwpan arian, gweith 3p. 3s.—1, Thomas Jones, Bron- dyffryn, Diubycb. Y pedwar o anifeiliaid tewion (eidionau neu heffrod), o dan ddwy flwydd oed, eiddo yr un perchenog, ac heb ennill gwobr o'r blaen. Gwobr, 2p. 2s.—laf, P. E. Story, Coppy, Din- bych. Am y ddau anifail goreu dan ddwy flwydd oed, Gwobr, Ip. ls.-R. Pugh, Caeau Gwynion, Dinbych. Am y ddau anifail goreu o unrhyw oed. Gwobrs 1 p. Is—laf, Thomas Jones, Brondyffryn, Dinbych. Am y ddau anifail o dan ddwy flwydd oed. Gwobr, If. ls.laf, R. Pugh, Caeau Gwynion, Dinbycb. Am y fuwch dew oreu. Gwobr, Ip. Is.-laf, E. Rowlands, Galch Hill. Am y tarw tew goreu. Gwobr, 1 p. Is. (rhodd- edig gan Mr. Cooke).—laf, T. Roberts, Lleweni. Am y ddau eidion goreu, dwy flwydd oed, wedi eu pesgi ar c Gwalia. Cake;' laf, P. E. Story, Coppy. Am yr anifail tew goreu yn yr Arddangosfa wedi ei besgi ar Silcock Cakelaf, Thomas Jonea, Brondyffryn. Am yr anifail taw goreu wedi ei besgi ar Bibby's Food laf, E. Rowlands, Galch Hill. Am yr anitail tew goreu, dan ddwy flwydd oed, wedi ei borthi ar C Bibby's Food;' laf, E, Row- lands, Galch Hill. Am yr heffer dew oreu, gwobr rhoddedig gan Mr. Cooke; laf, E. Rowlands. Defii I. Am y deg o fyllt Cymreig tewion; bY ac 2il, T. Williams, Llewesog. Am y deg o Fammogiaid Cymreig tewion goreu; laf ac 2il, R. Hughes, Trawsfynydd. Am y deg o ddefaid tewion o unrhyw rywogaeth; laf ac 2il, P. E. Story, Coppy, Dinbych. Y beirniaid oeddynt:—Gwartheg, y Mrl. R. Ellis, Pen y bryn a Mr. Heskebh Roberts, Tref- aant. Defaid, y Mri. John Jonea, Wyddgrug a Robert Jones, Castell, Llanarmon. Gwerthwyd yr anifail goreu i Mr. Oldfield, Wyddgrug, am 40p.
CAERNARFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERNARFON. Y Diweddar Alr. Evan Jones, Brynhelen.— Prydnawn y Sal diweddaf bu farw y g#r anwyl ac adnabyddus uchod, un o fasnachwyr Caernar- fon, a diacon gwerthfawr gyda'r Methodistiaid yn eglwys Beulah, Cawsai gystudd maith, ond Ilydan yw y bwlch ar ei oj. Yr oedd yn un o sylfaenwyr yr achos yn Beulah, a bu yn weith- iwr difefl yn agwinilaa yr Iesu, Cydymdeimlir a'i weddw, a hi yn ferch i'r diweddar Mr. John Jones, Graig Wen, Clawddnewydd.
YR YMOSODIAD AR GEIDWAD YR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR YMOSODIAD AR GEIDWAD YR AFONYDD. GWNAED cais yn llys yr ynadon yn Nghaernar- fon, dydd Sadwrn, gan Mr. J. T. Roberts, ar ran yr heddgeldwaid, am ohiriad pellach ar achos Henry Parry, Cwmyglo, yr hwn oedd wedi cael ei gymmeryd i'r ddalfa ar y cyhudd- iad o archolll ceidwad afonydd, o'r enw John Wynn, bythefnos I'r dlwrnou hwnw. Dadgan odd ei obaith y byddai yn alluog, dydd Sadwrn nesat, i fyned yn mlaen gyda'r achos, ac i ofyn am i'r carcharor gael el draddodi i sefyll el brawf, er na byddal Wynn yn bresennol. Dadganodd Dr. Mills Roberts fod Wynn mewn sefyllfa beryglus, ac na fyddat yn alluog i fod yn bresennol am amryw wythnosau. Gwrthwynebodd Mr. Richard Roberts i achos y carcharor gaol ei ohirio, ac iddo yntau gael ei gadw mewn dalfa, yn gymmaint ag y byddal hyny yn attatfaar ei ffordd i ddarparu ei am* ddiffyniad. Cynnygiwyd pedwar o feichiafon am lOOp. bob un, a'r carcharor am swm cyffelyb, a dad* ganodd yr fynadon eu bod yn foddlawn i'r feichiafaeth hono. Wedi hyny gohiriwyd yr achos.
Y TWYLL DIWEDDAR YNGLYN A…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y TWYLL DIWEDDAR YNGLYN A CHYMDEITHAS ADEILADU GLAN, DINORWIC. Yr Arolygydd Griffiths a ddywedodd I Pritchard, cyn-ysgrifenydd Cymdeithas Adeiladu Glandinorwic, ysgrifenu ato ef yn yr Hydref diweddaf I ofyn iddo reddl I fyny i'w wraig, neu ei gyfrelthiwr, y papyrau yr oedd efe wedi eymmeryd meddiant o honynt yn et d £ ef (yr yagrifenydd); ond yr oedd efe wedi parhau i ddal gafael yn yr ysgrifau hyny. Yr oedd efe,er hyny,wedi darllen llythyr aralloddi wrth Pritchard i'r un perwyl, ac yn dangos, ar ol i ddeunaw mis fyned heibio, ei tod yn meddu hawl i'r papyrau. Dywedodd yr arolygydd nad oedd o un pwys ganddo ef pwy gawsai y papyrau. Mr. Baylis, o swyddfa Mr. Thornton Jones, ar ran y Gymdeithas Adeiladu, a ddywedodd fod ganddo ef wrthwynebiad cryf i'r papyrau gael eu trosglwyddo drosodd i'r cyn-ysgrifen. ydd, Pan ddygwyd y gweithrediadau yn mlaen yn erbyn Pritchard nid oedd dim ond ychydig o'r cyhuddiadau wedi cael eu tynu allan; ac ar ol i Pritchard gael ei anfon i garchar, daebh- pwyd o hyd i achoslon eraill o dwyll, ac mewn perthyna-it i ba rai y gallai y byddai yn angen, rheidiol cymmeryd gweithredladaa pellach yn erbyn Pritchard. Mr. P. Williams.—* A oes yno rywbeth yn papyrau hyn a alIal fod yn gynnorthwy i'r gymdeithas refnu el hamgylchiadau?' Mr. Baylis a ddywedodd y dylai y graft deithas gael eyfleusdra I'w harolygu cyn iddynt gael eu trosglwyddo drosodd. Yr oedd Pritch" ard wedi dinygtrio holl lyfrau y gymdeithas, ond gallai fod yn papyrau dywededig rywbotfct i broti trosedd pellach o'i eiddo. Mr. J. T. Roberts, yr bwn a yrnddangonl at ran yr yagrifenydd, a gyfeiriodd, pa mor werthfawr bynag y gallai y papyrau fod i'r gymdeithas, nad oeddynt hwy wedi Inyned i'r drafferth i'w harchwilio, er iddynt gael deunaw mis o amser i wneyd hyny. Nid oedd yna nn gwrthwyneblad i'r gymdeithas arolygu yr ysgrifau, y rhan fwyaf o ba rai oedd yn eiddo preifat i Pritchard. Penderfynodd yr ynadon y byddat iddyrtf wneyd archeb dydd Sadwrn nesaf i droev glwyddo papyrau i Pritchard, os na ddangoeif rywbeth gwahanol; ac yn y eyfamser, rhod asant gyfarwyddyd fod y gymdelthas yn cael cyflensdra i arolygn y papyrau. Yr oeddynt yn hwyrfrydig i gefnogigweithredbdau pellacb yn erbyn Pribchard, yr hwn oedd yn awr ya myned o dan gospejigaeth.
YMOSOD AR GEIDWAD YR AFONYDlJf
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMOSOD AR GEIDWAD YR AFONYDlJf Bu yr ynadon sirol yn Nghaernarfon, dyd$, Sadwrn, yn gwneyd ymchwiliad pellach t'& cyhuddiad o ymosod, mewn modd anghyfrelthi lawn, ar geidwad yr afonydd, o'r enw Johl Wynn,_ yr hwn oedd-yn ngwasanaeth Bwrda Ceidwaid Seiont a Gwyrfai, Y person i gyhuddid oedd Henry Parry, chwarelwr fet £ | angc, o Cwmyglo, Parhaodd. yr ymchwiliad am ral orlau, pa.n VJE hoi wyd tuag ugain o dystion. Nis gallai IVynn-tystiolaeth yr hwn a gymmerwyd f diwrnod ar ol yr ymosodiad—fod yn bresennoL Erlynid gan Mr. J. T. Roberts, ar ran yt heddgeidwaid; ac amddiffynid gan Mr. Richard Roberts. Yn ystod gwrandawiad yr achos eglarodit Mr. R. Roberts ei syndod am nad oedd ye erlyniad wedi galw tystion oedd wedi cael etto gwysio i roddi eu presennoldeb. Mr. J. T. Roberts a eglurodd fod y period an y cyfeiriwyd atynt wedi cael eu gwyrioi ond gan eu bod hwy yn gwrthod rhoddi myneg- iad o'u tystiolaeth nid oedd am eu galw. Cyhuddwyd y cyhuddedig, mewn modd ffarnol, ac newn attebiad plediodd ei ddieuog- rwydd.. Penderfynodd yr ynadon ohirto yr achos h"i dydd Sadwrn nesaf. Ar ol i'r llys godi ail gyfarfyddodd drachefiu ar gais Mr. Richard Roberts, yr hwn a awgrym- odd, os oedd y faingc yn cael ei boddloni fod yna achos wedi cael ei wneyd; allan, y byddai iddo gyttunod draddodi y cyhuddedig t'r f rawd.- lys, lie y cawsai gyfleusdra i egluro yinddygiadf yr erlynydd. ° • Y cadeirydd.—cNid oes a wnelom nt Ct erlyniad. Y ffaith ydyw nad ydym yn cael ein boddloni.' Wedi hyny gohiriwyd yr achos, a chafodd tc eyhuddedig ei ryddhau ar feichiafaeth.
RHUTHYN.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
RHUTHYN. ARWERTHIANT Y MRI. LEATHES. CYNNALIODD y Mri. Leathes eu harwarthiant blynyddol o anifeiliaid tewion dydd Mawrth, y 5ed cyfiaol, ac yr oedd yn un tra llwyddlanDUI. Yr oedd ystoc helaeth wedi cael eu dwyn at eu gllydd, ac yr oedd y prynwyr yn lliosog. Yr oedd amryw wobrwyon wedi cael eu eynnyir. ac ennillwyd hwy fel y canlyn Cwpan arian, gworth deg glnl, am yr anifail goreu-H H Pugh, Bryn Coch. Bastach tew-W Jones, Maesllani Heffer dew—R H Pugh, Bu wch-J Kellet, Plas Newydd. Dau anifail- J Kellett. Tri anifail-J Bonner, Cae'rfallen. Tarw tew-J Kellet. Llo tew-W Leathes, Wern Fawr. Gwobrwyon arbenig, rhoddedig can y WrI. Bileock a i Feibion. Anifail tew-R H Pugh. Bustiach neu heffer-R H Pagb. Etto, o dan ddwyflwydd-J Bonner. Dau anifailltew, wedi eu pesgi o fewn Uadeb Rhuthyn (gwobr yn clel ei rhoddi gan Mr. Tegid Owen)—R H Pugh. Etto, defaid-T Williams, Llewesog. Ugain o ddefaid tewlon-T Williams. Deg, etto-T Williams. Deg, etto, Cymrcig-Mri. Gration, Foryd. Deg oen tew-J Jones, Kilford. Dan fochyn tew—Thcmas Williams, Bridge Inn, Rho th yn. Daujborcyn—W LloVd, Gyffylliog.
,1;;-,).. BANGOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
,1;).. BANGOR. CYMDEITHAS Y DEILLION. DYDD Mawrth, yn Neuadd y Penrhyn, Bangor, cynnaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeitha* Gogledd Cymru er dysgu gwaith i'r deillion yo eu tai. Llywyddwyd gan esgob Bangor. 0 amgylch y neuadd gwelid engreiff tiau o waith y deillion, ac yr oedd amryw o honynt yn gwneuthur matiau, &c., yn y neuadd. Darllen- wyd adroddiad blynyddol gan Mr. E. A. Young, yr hwn a ddangosai fod siroedd Caer- narfon, Mon, a Meirion, o fewn cylch gweith- rediad y gymdeithas. Yn 1882 nifer y deillion oedd ar lyfrau y gymdeithas ydoedd 103, yn awr yr oeddynt yn 292. Yr oedd tri o athr- awon, gwaith y rhai oedd myned o amgylch i addysgu y deillion yn eu tai yn eu gwasan- aeth. Yr oedd ychydig arian yn weddiU. Mabwysiadwyd yr adroddiad, a diolchwyd j'r swyddogion ac i'r pwyllgor am ea gwasanaeth, ac ail-etholwyd yr oil. Caed anerchiad gan faer Bangor, deon Bangor, Mr. Henry Lewis, Canon Fairchild, a'r esgob. Ar oly cyfarfod gwerthwyd y nwyddau a wnaed gan ydeillion.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae cerbydau modur wedi dechreu rhedeg trwy ddinas LIundain. Rhedant rhwng Puteny a Mile-end, deng milidir am chwe cheinlog. Y mae gwarcheidwaid Lambeth wedi pender- fynu gwario 12,000p. I brynu fferm Ashe Warren, ger Oakley, sir Hamp, fel fferm dref. edigaethol. Yn ystod dadl yn Honiton, Dyfneint, Jdydd Mawth, ar gynnydd crwydriald, awgrymodd un eu bod hwy yn cael siawns i weithio ar fferni,1 neu. gael eu saethu. Anfonwyd Charles Beaconsfield i garchar 0 Marlborough Street, Hundain, dydd Mawrth, am gardota. William Disraeli oedd enw y carcharor nesaf a anfonwyd i garchar am gardota. Ar ol dwy noson o niwl, ynddiweddar, cafwyd agos i 6,000 o adar wedi marw o dan lantern Goleudy Penrhyn Grisney. Attynwyd hwy yno gan y goleuni disglaer, a chawsant eu Hadd wrth ehedeg yn erbyn y goleudy. Y dydd o'r blaen fu farw Mrs. Louisa Rock- hiil, yn Oalton, ger Lowestoft, yr hon oedd dros 101 mlwydd oed. Hyd o fewn rhyw dri mis i'w marwolaeth yr oedd Mrs. Rockhill mewn llawn feddiant o'i chynneddfau, ac yn alluog t ym- ddiddan yn rhwydd &g ymwelwyr.
TROSGLWYDDO Y SELIAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ac y maent wedi cymmeryd y selian o law en rhagflseooriaid, yr hyn sydd yn arwydd o'n hawdardod, Cawsant en rhoddi i tyny i'w Fawrhydi gan y rhai oedd wedi myned allan o awydd mewn) cyfarfod o'r Cyfrlngynghor a gynnaliwyd yn MhaJas Buckingham prydnawn dydd Linn. Yr oedd yr oil o'r gweinidogion oedd yn myned allan o swydd yn bresennol, gyda'r eithriad o Arglwydd Salisbury* Gweinyddid ar ei Fawrhydi gan Arglwydd Kenyoii, Mr, Ailvyn Fellowes, yr Ucbgadben Ponsonby, a't CadbeD Fortescue. Nid oedd nob ond yr aelodau hyny o'r welnyddlaeth oedd yn dal swyddi yn bresennol. Yr oedd Mr. Arnold Forster a Mr. Almeric Fitzroy (clerc y Cynghor), ya mysg y rhai oedd yn bresennol. Cynnaliwyd cyfarfod pellach o'r Cyfrln- gynghor yn y prydnawn, yn Mhalas Bucking- ham, er galluogi yr aelodau oedd wedi dyfod i mewn i'w swyddl i dderbyn y seliau. Ymgynnullodd tyrfa iliosog, ond yehydig lawn a ellid ei weled, gan fod y palas brenhln- ol wedi cael ei amgau mewn niwl. Un o'r gwelntdogion cyntaf I gyrhaedd yno ydoedd Mr. Lloyd George, yr hwn a gerddodd i'r palas. Dilynwyd ef yn nnion gan Mr. John Burns. Rhoddwyd cymmeradwyaeoh galonog i'r ddsu aelod. Yn mysg y personan eraill gyrbaeddodd yno cyn pen yehydig fanydau yr oedd Mr. Augustine Birrell. Gwelodd y Prifweinidog, gyda'r hwn yr oedd Oadbsn Sinclair, Arglwydd Knollys, cyn myned at y Brenin. Yr oedd yr oil o'r gweinidogion yn bresennol, « chsfrdd y rhsl cedd heb fod eisoes yn aelod' au o'r Cyfiingynghor eu tyngu yn aelodau; ac ar ol hyny cusanasant ddwylaw ar en pennod* iad. Mewn cyfarfod dlweddarach gohiriwyd y senedd hyd lonawr 15ted. Pennodwyd Mr. George Whiteley, A.S., yn B if Chwip y blaid Ryddfrydig, fel olynydd i Mr. Herbert Gladstone.