Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
14 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR ODDJ WRTH MR. EVAN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR ODDJ WRTH MR. EVAN ROBERTS. Derbyniodd y Parch. E. W. Pearce, ys- grifenydd cyfarfod misol Gorllewin Morgan- wg, y llythyr canlynol oddi wrth Mr. Evan Roberts:— f Great Glen, sir Leicester, Anwyl Frawd yn Nghrist, Y mae yn ddrwg genyf na ddarfu i mi atteb eich llythyr yn gynt, ond cafodd ei osod o'r neilldu. Byddai yn dda iawn genyf pe gall- wn fod gyda chwi, i gyfarfod y bobl ieu- ainge; ond gan fy mod yn awr i ffwrdd o Gymru, nis gallaf ddyfod. Yr oeddwn yn cael fod y cyfarfodydd yn Llandrindod yn dyweyd yn fawr ar fy nerth, ac yr wyf etto yn gofyn chwaneg o orphwys. Boed i'r Arglwydd eich bendithio yn helaeth, a dad- guddio i'r dynion ieuaingc air y Groes fel gallu Duw. Yr eiddoch, yn ngwasanaeth y Meistr, Evan Roberts.'
LIVERPOOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LIVERPOOL. Y Ddirprwyaeth ar yr Eglwys yn Nghymru. Nos Fawrth cynnaliwyd cyfarfod blynydd- ol Cynghor Eglwysi Rhyddion Liverpool a'r gymmydogaeth, yn nghapel Presbyteriaid Cymreig Anfield Road, Liverpool. Cyflwyn- odd Mr. William Evans, y llywydd, ei olyn- ydd -y Parch. 0. L. Roberts—i'r cyfarfod, yr hwn a gyfeiriodd at y cwestiwn o Ddad- sefydliad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, fel pwngc yr oedd y Cymry wedi gwneyd eu meddyliau i fyny yn ei gylch er's llawer o amser. Nid oedd pennodiad y Ddirprwyaeth i wneyd ymchwiliad i sefyllfa yr Eglwys yn Nghymru yn unol a'r hyn oedd gan Ymneillduaeth y wlad hawl i'w ddisgwyl oddi wrth Lywodraeth Ryddfrydig a chyda phob dyledus barch i'r cynnrychiol- wyr Cymreig yn y Wein'yddiaeth, ac i'r Llyw- odraeth, dadleuai ef y dylasai llais Cymru yn nychweliad un corph o aelodau Rhyddfrydig gael ei gydnabod fel y dystiolaeth oreu o deimlad y wlad. Yr oeddynt yn teimlo, fel Ymneillduwyr, fod ganddynt gwyn gyfiawn yn erbyn y personau oedd yn gwneyd i fyny y Ddirprwyaeth. Yr oedd y cadeirydd, ac aelodau eraill o'r Ddirprwyaeth, yn ar- ddangos gryn lawer o anwybodaeth ynghylch Ymneillduaeth yn gvffredinol (clywch, clywch). Yn mhellach, gydag un neu ddwy o eithriadau, nis gallent hwy fel Ymneilldu- wyr Cymreig ystyried personau ar y Ddir- prwyaeth oedd heb fod yn aelodau o Eglwys loegr fet cynnrychiolwyr gwirioneddol Ym- neiUdu^eth. Yr oedd gan yr Eglwys yn Nghymru ar y Ddirprwyaeth ei chynnrych- iolydd uniongyrchol; ac yn sicr, os oedd yn iawn i'r Archddiacon Evans gael ei bennodi yn gynnrychiolydd yr Eglwys yn Nghym- ru, dviasai iLyw weinidog Ymneillluol blaenllaw gael ei bennodi ar ran Ymneilldu- wyr yn Nghymru.
Y CYMDEITHASFAOEDD CYNTAF…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y CYMDEITHASFAOEDD CYNTAF WYF YN COFIO. FONEDDIGION, Fel yr awgrymais yn fy llith ddiweddaf, y mae adgofiion am yr hen Sasiynau y cefais yr hyfrydwch o fod ynddynt pan yn ieuangc yn dyfod yn felus iawn i'm cof y dyddiau hyn. Yn nghanol y Sasiwn y flwyddyn '59 yr oeddym ddiweddaf. Camargraph oedd y '57, fel yr oedd yn y llith ddiweddaf. Tua diwedd mis Ebrill, '59; sef, blwyddyn di- wygiad Dafydd Morgan, y cynnaliwyd y Gym- deithasfa hon, yn hen dref y tri Sant. Fel yr awgrymais, yr oedd yn dywyll arnaf fi a'm cyfaill ieuangc yn cael myned i fyny ar ddydd mawr yr wyl. A hyny am ddau res- wm. Yn gyntaf, am fod pawb yn myned, a ninnau ein dau yn nosbarth y gwas bach i warchod gartref. Ond beth bynag, wrth daer erfyn, cefais addewid ammodol i gael myned am ran o ddydd mawr yr wyl. Da iawn oedd genyf gael rhan; ymgymmerais a'r daith wrthyf fy hun. Yr oedd yn foreu braf, tua'r wythnos olaf yn mis Ebrill. Yr haul wedi dyfod allan o'i ystafell, fel cawr i redeg gyrfa,' yr adar yn ymbyngcio yn y goedwig-a minnau yn disgwyl clywed llais y ddurtur y boreu hwn—gan fod y gwenol- iaid wedi dyfod yn llu, ond ni chefais. Yr oedd arwyddion dydd gwyl i'w gweled ar hyd y meusydd trwy yr holl fro. Nid oedd neb yn aredig, braenaru, nac yn hau. Ac yr oedd yr hen dref enwog yn gwisgo nodau un o wyliau Seion heddyw; ar ol bod yn y dref glodfawr (gan annuwolion), am ei chwareuon a'i champau-megys rhedegfeydd a'r bando, a'r bel-y bel law oedd yr amser hwnw, ac nid y bel droed fel sydd yn ein dyddiau ni. Ond heddyw y mae yr hen dref batriarchaidd wedi newid ei gwedd, y mae yn amlwg wedi gwisgo gwisgoedd Seion hedd- yw. Y mae yma fwy na thri sant heddyw. Y mae yr ystrydoedd culion yn llawn o bobl. Wedi cyrhaedd y maes lie yr oedd y pregethu i fod cefais olygfa na welais ei chyffelyb erioed o'r blaen, gweled a chlywed pregethu oddi ar y llwyfan, neu y 'stage.' Yr oedd y dyrfa yn fawr, ac yn canu pan ddaethum i'r cae. Gwelwn hen frawd ar ffrynt y stage,' yn arwain y dyrfa mewn sain can a moliant. A phwy oedd yn sefyll wrth ei ochr yn troi tu dalenau y Beibl i ddarllen ei destyn ond yr enwog Mr. Charles (nid oedd yn Ddr. y pryd hwnw), Trefecca. Cymmerodd ei destyn yn llyfr y Salmau cxxxix 17, Am hyny mor werthfawr yw dy feddyliau genyf, 0 Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt.' Yr oedd y dyrfa yn fawr. a minnau yn ieuangc, ychydig o'i bregeth sydd genyf, ond y mae yn gofus genyf ei fod yn ymddangos yn ddyn hardd ger bron y bobl, a boneddigaidd ei ymddangosiad. Gall- wn feddwl, er mai ieuangc oeddwn i farnu, ei fod y pryd hwnw in the prime of life.' A phwy gododd ar ei ol ef ond Mr. Phil- lips, Bangor, gwr boneddigaidd iawn ei ym- ddangosiad ger bron y bobl, etto, a llais clir clochaidd. Medrem ei glywed yn dywevd pob gair yn blaen yn nghyrau pellaf y dyrfa. Yr oedd wedi ei ddonio yn arbenigol i fod yn bregethwr yn yr awyr agored. Yr oeddwn wedi clywed y ddau weinidog enwog o'r blaen pan yn ieuangc iawn. Yr oeddwn yn cofio yn dda am y ddau-a diau rhagor. Cymmer- odd Mr. Phillips ei destyn yn yr Epistol at yr Hebreaid, y xiii. 8, lesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd.' Ychydig sydd genyf o bregeth y gwr enwog. Nid oedd bod ar y maes, yn neillduol i ni rhai ieuaingc, ddim mor fanteisiol i graffu ag mewn capel. Ond, y mae yn gofus genyf ei fod tua diwedd ei bregeth yn bloeddio fod ein Harglwydd yr un fel lachawdwr oddi wrth bechod y diwrnod hwnw yn y Sasiwn ag oedd wrth achub Manasseh waedlyd, a Mair Magdalen; yn barod i achub y pechad- ur penaf ar y maes yn y Sasiwn! Yr oedd ei lais yn glochaidd, ac mewn awdurdod tua diwedd yr odfa. I aros i'r odfa ddau ddechreu nid oedd dim ond gwneyd y goreu o honi. Nid oedd gobaith am gwpanaid o de a bara brith heddyw. Yr oedd y dyrfa lawer yn fwy etto am ddau o'r gloch, a'r hin yn hynod o haf- aidd, a chofio ei bod yn gynnar ar y flwydd- yn. Nid wyf yn cofio pwy a ddechreuodd yr odfa; ond wedi y weddi, pwy gododd i roddi pennill i ganu ond Mr. Hughes, Machyn- lleth. Yr oeddwn yn ei adnabod ef o'r blaen yn dda, wedi ei wrandaw ef droion ar ei deithiau, ac ychydig wedi y tro hwn y dig- wyddodd i mi ei wrandaw. Ond yr oedd efe y tro hwn gyda y tro goreu a gafodd efe yn ei oes, yn ol tystiolaeth pawb ag oedd wedi ei wrandaw ef fwyaf o weithiau. Brawddeg yn llyfr y Salmau oedd ei destyn—' Yr Argl- wydd a gyflawna a mi.' Ychydig o grynodeb o'r bregeth sydd genyf ar y cof. Ond y mae, er hyny, yn gofus genyf ei fod yn dwyn eng- hreifftiau hapus i bron ffyddlondeb yr Argl- wydd tuag at ei bobl mewn tywydd garw. Wrth gymmhwyso ambell hanesyn ar ei bregeth yr oedd y dylanwad yn angerddol ar y bobl. Yr oedd efe, a'r llais main a'r dull hynod hwnw oedd ganddo, yn llywodr- aethu y dyrfa fawr fel y mynai. A phwy a gododd ar ei ol i roddi pennill ond Mr. Jones, Llanfair Caereinion. Ac y mae yn hynod-nis gallaf roddi cyfrif am dano—yr wyf yn ddidrafferth yn cofio y pen- nill a roddodd Mr. Jones allan i'w ganu cyn darllen ei destyn yn awr, ac mi a'i cof- iaf tra byddwyf yn ddigon tebyg. Y mae wedi newid yn fawr y dyddiau hyn yn y dull iaf tra byddwyf yn ddigon tebyg. Y mae wedi newid yn fawr y dyddiau hyn yn y dull o roddi pennillion allan i'r peth oedd yn y dyddiau hyny. Nid oedd fawr o son am lyfr hymnau na thonau chwaith, ac yn neillduol, nid oedd neb yn dewis y pennillion—na neb yn beiddio hyny ond y pregethwr ei hun- Pa un ai newid er gwell ai er gwaeth yw hyn, y mae yn anhawdd penderfynu. Y mae yn bossibl mai y tro cyntaf i mi glywed y pennill oedd ar gae y cymmanfa yn hen dref y tri Sant, a dull dylanwadol y gweinidog enwog o sir Drefaldwyn yn ei roi ef alkm yn ei ystampio ar fy nghof:— O lesu mawr y meddyg gwell Gobaith yr holl ynysoedd pell; Dysg fi i seinio maes dy glod, Dysg fi i seinio maes dy glod, Mai digyfnewid wyt erioed.' Brawddeg oedd ei destyn yntau fel ei frawd o'i flaen allan o ddammeg y winllan, a'r gweithwyr anffyddlawn i'w meistr, 'A hwy a barchant fy Mab i.' Mewn trefn i fod yn ffyddlawn i'r addewid ammodol a gefais yn y boreu fel gwas bach i warchod gartref, nid oedd genyf amser yn mhellach i fod yn y Sasiwn a theithio dros saith milldir i fod yn brydlawn ar y fferm i ofalu am y cread- uriaid cyn nos. Ni chefais ond y testyn ac ychydig o'r rhagymadrodd. Cafodd odfa rymus yn ol tystiolaeth llu o'r hen frodyr gafodd y mwynhad i'w wrandaw i ddiwedd yr odfa. Ond nid yn hollol mor north ol a'r prydnawn cyntaf. Nid wyf yn cofio i mi ei weled na'i glywed byth wedi hyny. Bu son am fiynyddoedd yn yr eglwysi am y Sasiwn hon, yn neillduol yn mhlith plant Diwygiad '59. Yr oedd cyfeiriadau mynych yn eu gweddiau, a choffhad am y pregethau yn y seiadau am flynyddoedd. Pregethau y ddau weinidog o sir Drefaldwyn y bu mwyaf o son a choffa am danynt. Y mae son am rai pethau gan y rhai sydd wedi myned mewn gwth o oedran erbyn heddyw a glywsant yn y Sasiwn hon wedi dyfod yn bethau prof- iad melus iddynt yn eu henaint. Ar daith fy mhererindod yn ddiweddar, cyfarfyddais a hen chwaer oedd yn digwydd bod yno, yn weddol ieuangc y pryd hwnw, ac wrth adrodd ei thywydd garw yn y deugain mlynedd hyn —wedi claddu ei gwr, a llawer o'i phlant- 'Yr wyf yn meddwl llawer,' meddai yr hen chwaer, y dyddiau hyn am bregeth Hughes, Machynlleth, yn Sasiwn y Llan—yr wyf yn disgwyl llawer o'r pethau ddywedodd ef i ddyfod i finnau,' meddai yr hen chwaer-' Yr Arglwydd a gyflawna a mi.' Y mae geiriau y Pregethwr yn cael eu gwirio yn fynych Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, ac ar 01 llawer o ddyddiau ti a'i cei.' Nid wyf am flino darllenwyr y FANER a meithder. Felly y terfyna yr ail lith. Ydwyf, &c., PERERIN.
ABERHOSAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERHOSAN. Marwolaeth.-Dydd Gwener, y 9fed cyfis- ol, bu farw Miss Lily Minervia Jones, merch iouangaf Mrs. Jones, Ty gwyn, Aberhosan, ger Machynlleth. Ty ag y mae angau wedi bod yn ymwelydd mynych ag ef yw y Ty gwyn. Yr oedd y tad, a brawd a chwaer, wedi eu cymmeryd ymaith o'r blaen, a dyma chwaer etto wedi diangc o ofidiau'r byd, pan ar fin cyrhaedd un ar hugain oed. Y dydd Mawrth dilynol gwelwyd cludo yr hyn oedd farwol o honi hithau i gladdfa'r teulu yn y fynwent wrth gapel yr Annibynwyr ger Ilaw. Daeth torf fawr ynghyd, a gwasanaethwyd gan y rhai canlynol ar yr achlysur prudd- aidd:—y Parchn. W. Thomas, gweimdog y lie; Josiah Jones, Machynlleth; Idris Jones, Machynlleth; Wnion Evans, Machynlleth; H. W. Parry, Aberllefeni; Williams (B.), Talywern; a Mr. D. Smith, Machynlleth. Y Parch. W. Thomas, ei gweinidog, a'i had- waenai oreu, a ddywedodd fod angau wedi bod yn ymwelydd ami yn y teulu hwn yi\ ddiweddar; ac, hefyd, yn ymwelydd ami yn yr eglwys lion. Yr oedd lleisiau rhywrai yn cael eu tawelu o hyd. Er troi i un cyfeir- iad, ac i'r cyfeiriad arall, lie yr oeddynt yn arfer eistedd yn yr addoldy hwnw, yr oeddynt yn cael eu Ileoedd yn wag. Yr oedd rheng- oedd byddin Crist wedi ei bylchu yn fawr yn ddiweddar yn eu plith; cymmeriadau gwerthfawr wedi eu colli yn mysg yr hen a'r ieuaingc. Fel y gwyddai pawb o honynt oedd yn gwybod cyssylltiadau y teulu, o ba un yr oedd y chwaer anwyl oeddynt yn ei chladdu y diwrnod hwnw, yr oedd rhywbeth fel hanner y teulu wedi newid byd-wedi newid ochr—ond yr oeddynt yn gobeithio eu bod wedi newid er gwell—fod marw wedi bod yn elw iddynt. Yr oeddynt, hefyd, wedi newid y corph presennol. Yr oedd yn dda ganddynt am hwn. Yr oedd y goreu oedd- ynt wedi weled. Yn hwn yr oeddynt wedi cartrefu ac arwain bywyd, ac etifeddu prof- iadau a dylanwadau oedd wedi sancteiddio eu bywyd; ond yr oedd hanner y teulu wedi newid y corph brau presennol am gorph gwell-wedi newid y corph anianol am gorph ysbrydol. Yr oeddynt wedi newid ty o gartrefu yn y corph i gartrefu gyda'r Ar- glwydd wedi symmud o'r Ty gwyn i gar- trefu yn y wlad wen. Newid am y pethau goreu oedd hyn i gyd. Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn oedd pethau yr ochr draw i gyd. Yr oedd y mwynhad hwn yn dechreu ar y ddaear. Nid oedd pethau vn newid o ran eu natur. Hwy oedd i fyned i fyd ac awyr- gylch y pethau nefol hyn. Yr oedd y chwaer ymadawedig wedi dangos arwyddion amlwg ei bod yn cael ei chymmhwyso i fyned i'r byd hwn. Yr oedd wedi byw yn unol a'i henw- LiIi.' Yr oedd ei holl fyw- yd fel y lili. Dywedid fod y lili yn tyfu i mwy yn y nos na'r dydd. Yr oedd yn ystod y dydd yn cymmeryd i mewn o'r ddaear ddefnyddiau tyfiant, ac yn mwynhau pelydr- au yr haul; ac yna yn troi gwaith y dydd yn dyfiant yn ystod y nos-yn eu troi yn gor- sen, yn lliosogrwydd yn y dail, ac yn bryd- ferthwch yn y blodeuyn, ac yn berarogl yn ei holl gyssylltiadau. Yr oedd eu chwaer ieuangc wedi gweithio tra y bu yn ddydd arni. Tynodd faeth yn ystod dydd byr ei bywyd oedd yn troi yn dyfiant yn nos cys- tudd ac angau. Yr oedd llawer o rinwedd- au gwerth eu dal i fyny yn esiampl i eraill yn ei chymmeriad. Yr oedd yn bur gyfar- wydd yn yr Ysgrythyrau, ac yn bur hyddysg yn emynau a phennillion Seion. Dyma y pethau oedd ganddi yn ei horiau olaf. Yr oedd wedi sugno maeth allan o honynt. Yr oedd yn ffyddlawn yn y cyfarfodydd a sef- ydliadau yr eglwys tra y bu ei nerth yn can- iatau, a thynodd faeth o'r pethau hyn fu yn gynnaliaeth ac yn ffynnonell o gysur iddi yn ei chystudd. Yr oedd wedi tyfu yn flodeu- yn tlws-yn lili' mewn mwy nag un ystyr, a bydd ei pherarogl yn hyfryd yn y gym- mydogaeth. Yr. oedd ef yn ei hadnabod er pan yr oedd yn ieuangc iawn, ac yr oedd wedi gadael argraph ffafriol iawn ar ei fedd- wl. Yr oedd yn un lednais iawn, ac yr oedd ei Iledneisrwydd yn heintus; nis gallent beidio bod yn llednais yn ei chwmni. Yr oedd yn un gall iawn. Dyma brofiad pawb oedd yn ei hadnabod. Nid oedd pob un gar- edig yn un gall iawn; ond yr oedd hon yn un o'r rhai callaf ellid gyfarfod. Yr oedd yn meddu syniadau pur gywir ac aruchel, ac ystyried ei hoed. Yr oedd ganddi syn- iadau da ac aruchel o bethau crefydd, ac wedi teimlo cryn lawer o ddylanwadau ys- brydol. Ei gweddi olaf ydoedd, Arglwydd, cymmer fi. Yr ydwyf am gael dyfod atat Ti i'r Nef i fyw.' Yn swn y profiad yna, a than ei naws yr ymadawodd a'r rhan o'r teulu sydd yr ochr yma, at y rhan o'r teulu sydd yr ochr draw. Aeth at ei Thad Nefol sydd yn y Nef, ac at ei thad naturiol sydd wedi cyrhaedd yno o'i blaen. Aeth at ei brawd hynaf, lesu Grist, ac at ei brawd a'i chwaer fechan oedd wedi ei blaenori. 'Llaw yr lesu sy'n gwahanu Rhwng rhai anwyl ar y llawr; Llaw yr lesu ddaw a'r teulu At eu gilydd gyda'r wawr' —Gohebydd.
LLANBRYNMAIR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANBRYNMAIR. Er Coffadwriaeth.—Dydd Sabbath, y 4ydd cyfisol, dadorchuddiwyd ffenestr liwiedig gostus yn eglwys y plwyf, er cof am Wil- liam ac Elinor Howell, o'r plwyf hwn. Ael- odau gyda y Methodistiaid Canfinaidd oedd y ddau, ond y mae yn debyg mai cyssylltiad yr wyrion-y rhai sydd wedi rhoddi y ffen- estr—a'r Eglwys Sefydledig sydd yn cyfrif mai yn yr eglwys y rhoddwyd y ffenestr ar- dderchog hon. Deallwn y rhoddir maen er cof am danynt yn nghapel y Bont, lie yr addolent. Bu gan William ac Elinor Howell ddeuddeg o blant, ond y ddau mwyaf adna- byddus yn y parthau hyn oedd D. Howell, cyfreithiwr, Machynlleth, ac Abraham How- ell, cyfreithiwr, Trallwm. Mab iddynt hwy, hefyd, oedd William Howell, a bu farw pan yn 22ain oed, ysgrifenydd Ilaw fer medrus, yr hwn a ysgrifenodd lawer o bregethau rhai o gewri Methodistiaid ei oes mewn llaw fer, ac a ysgrifenwyd mewn llawer blwyddyn ar ol hyny gan ei gefnder, yr anfarwol 'S.R. ac a gyhoeddwyd dan y teitl, 'Ail Gofadail y Methodistiaid.' Yr oedd Wil- liam Howell, y tad, yn ddisgynydd a un o'r tri brawd a ddychwelwyd dan weinidogaeth dsmllyd Howell Harris, ar ei ymwehad cyntaf a Gogledd Cymru, yn 1739; ac yr oedd ei wraig, Elinor, yn ferch i Evan Ro- berts, ac yn chwaer i'r Hybarch John Ro- berts, gweinidog eglwys yr Hen Gapel, a thad yr enwogion S.R.' a J.R.' Pa le bynag ei gosodir, da yw gweled fod dis- gynyddion rhai o dadau a mamau gwerth- fawr yr hen ardal yn y gorphenol yn an- rhydeddu eu coffadwriaeth drwy gof-adeil- iau a harddu temlau Seion. Pa bryd, } tybed, y codir cof-golofn yn Llanbrynmair i S.R. y gwleidyddwr, y diwygiwr, a'r ysgrifenwr, y dadleuwr a'r cynlluniwr di- ail? Nid gwaith i'w ddisgwyl gan ddisgyn- yddion na chan enwad yw hwn, ond gan genedl ddyledus. Da iawn ydyw cofio di- wygwyr diweddar, ond ni ddylid, ar un cyfrif, fyned megys dros feddau dynion fel S.R. Thomas Gee, a Michael Jones, i barchu coffadwriaeth diwygwyr ag y mae yr enwogion uchod wedi bod yn ymladd drwy anhawsderau fyrdd i wneyd llwybrau eu di- lynwyr yn fwy gwastad ac esmwyth. Dis- gwyliwn weled cofgolofn yn Llanbrynmair i'r cyntaf fu yn dadleu dros i'r rheilffordd fyned drwy y lie, a chael anfon Ilythyr drwy y llythyrdy am geiniog.—Goheb.
CONWY.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CONWY. FFAIR YMENYN. Dydd lau cynnaliwyd y ffair ymenyn flyn- yddol yn y lie uchod, pan y dyfarnwyd nifer o wobrwyon oedd yn cael eu rhoddi gan y Gorphoraeth. Yn y Neuadd Drefol, ar ol y dyfarniadau ar yr ymenyn, traddododd y Proffeswr W. Hopkins-Jones, Col eg Prif- ysgol Bangor, anerchiadau ar Laeth,' a dangosodd mewn potel hanner peint y rhan- au oedd yn cael eu cadw at ymenynj a'r rhanau at gaws. Rhoddodd Mrs. Roberts, o Laethdy Lleweni Hall Dinbych, yr hon oedd yn gweithredu fel beirniad yn y gystadleuaeth am ymenyn, enghraifft o'r modd i wneyd caws, ar derfyn darlith Proffeswr Hopkin Jones. Dyfarnwyd y gwobrwyon fel y canlyn Ymenyn llestri, agored i bawb—laf, J. H. Jones, Pentrefoelas; 2il, Miss Lloyd, Llanddewi; 3ydd, Mrs. E. Williams, Llan- rwst. Ymenyn llestri, agored i undeb Conwy a phlwyfi Eglwys Bach a LIngernyw-laf, Mr. Owen Owens, Maenan; 2il, Mr. D. G. Jones, Rhiwdafna, Llanrwst; 3ydd, Mrs. Wynne, I Maenan. Ymenyn fires, agored i bawb—laf, Miss Lloyd, Llanddewi; 2il, Mrs. Davies, Roewen; 3ydd, Mr. J. Jones, Eglwys Bach. Ymenyn ffres, agored i Undeb Conwy a Shlwyfi Eglwys Bach a Llangernyw—laf, trs. Elizabeth Roberts, Conwy; 2il, Mrs. L. Williams, Henryd; 3ydd, Mr. Owen Owens. Ymenyn ffres, agored i rai oedd heb ennill gwobr yn flaenorol-laf, Miss M. C. Jones, Rhiwdafna, Llanrwst; 2il, Mrs. Elizabeth Jones, Conwy; 3ydd, Miss Mary Williams, Eglwys Bach. Dyfarnwyd y wobr am yr ymenyn goreu a gynnygid yn yr arddangosfa i Mrs. Eliza- beth Roberts, Conwy. Ar derfyn yr arddangosiad o wneyd ymenyn, ar gyiinygiad Mr. A. J. Oldman, yn cael ei gefnogi gan Mr. John Williams— dau o aelodau y Cynghor—pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mrs. Roberts a'r Proffeswr Hopkina Jones.
j BWRDO CANOLOC CYMRU. j
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BWRDO CANOLOC CYMRU. Cynnaliwyd cyfarfod hanner blynyddol y bwrdd yn yr Amwythig, dydd Gwener. Llywyddid gan Proffeswr Anwyl. Yr oedd i yn bresennol, hefyd:—Arglwydd Stanley o Alderley, y Prifathraw Reichel, Mrs. Hum- phreys Owen (sir Drefaldwyn), y Mri. W. G. Dodd, Llangollen; D. S. Davies, Dinbych; D. P. Williams, Llanberris; J. Rhys Evans, Porth Madog; F. P. Dodd, Blaenau Ffestin- iog; Proffeswr Rees, Aberhonddu; Mr. a Mrs. C'oltman Rogers, sir Faesyfed; Mil. W. J. Thomas, Hay; Miss Jones, Gwrecsam, &c..
Adroddiadau Preifat. [
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Adroddiadau Preifat. Cymmerodd gryn ddadl le ar argymmhell- iad y pwyllgor gweithiol, mewn perthynas i gyhoeddi adroddiadau yr arholiaa. Yr argymmhelliad gynnygiwyd gan y cad- j eirydd ydoedd, nad oedd yr adroddiad wedi ei dype '-ysgrifenu i £ .ael ei gyhoeddi, a bod yr adroddiad argraphedig i gael ei gyhoeddi ar ffurf llawnach. Tybiai amryw o'r aelodau y gwnai yr aw- grymiad i ffwrdd a chadw yr adroddiadau yn gyfrinachol, a dinystrio rhyddid yr arhol- wyr, y rhai na wnaent yr un adroddiad, hwyrach, os oedd yn bossibl i'r adroddiadau fyned i'r newyddiaduron. Cariwyd penderfyniad y cadeirydd trwy 21 o bleidleisiau yn erbyn 18.
Adroddiad y Prif Arolygydd.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Adroddiad y Prif Arolygydd. Yn yr adroddiad cyffredinol ar arolygiad ac archwiliad ysgolion y sir, dywedai y prif arolygydd (Mr. Owen Owen), fod yna gyn- j nydd o 1,164 yn yr ysgolheigion; sef, o 10,413, i 11,577--cynnydd o 11 y cant. Er y flwyddyn 1897, pan y cyhoeddwyd yr ad- roddiad cyntaf, yr oedd cynnydd o 5,150 yn yr ysgolheigion; sef, o 6,427 i 11,577, yr hyn oedd yn gyfartal i 80 y cant. Mewn canlyn- iad i'r cynnydd yn ystod y tair blynedd di- weddaf, yr oedd yr ysgolion yn gorfod cyfar- fod ag anhawsderau yn y trefniadau, yr hyn oedd yn digwydd mewn canlyniad i ddylifiad sydyn ysgolheigion newydd. Yr oedd yna arwyddion, nad oedd y cynnydd yn yr ys- taff parhaus yn cadw i fyny a'r nifer yn nifer yr ysgolheigion. Yr oedd y cwestiwn o gyf- leusderau chwanegol wedi dyfod yn un o gryn bwysigrwydd mewn nifer o ysgolion. Yr oedd yr arosiad yn yr ysgolion, ar gyfar- taledd, yn gwella yn raddol; ond os am well- iant sylweddol, yr oedd yn rhaid i'r cyfar- taledd o ysgolheigion dderbynid o dan 12 mlwydd oed wella. Yn ystod y flwyddyn yr oedd 2,730 o ysgolheigion wedi derbyn addysg yn yr iaith Gymraeg—cynnydd er 1904 o 902 yn nifer yr ysgolheigion, a 11 yn nifer yr ysgolheigion. Yn ystod yr un am- ser yr oedd yna gynnydd o 51 y cant yn nifer yr ysgolheigion gyflwynwyd i gael eu harholi yn y pwngc. Awgrymodd Mr. Owen, mai un ffordd effeithiol i wella sefyllfa yr iaith Gymraeg yn y rhaglen o addysg, fyddai ei defnyddio fel cyfrwng addysg yn yr Ys- grythyr.
Hawiiau Cymry.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hawiiau Cymry. Mr. J. H. Davies, cofrestrydd Coleg Prif- ysgol Aberystwyth, a gynnygiodd fod y llyw- odraethwyr yn cael eu hargymmhell i weled fod y plant yn cael eu haddysgu yn yr Ys- grythyrau yn Gymraeg. Y cadeirydd a ddywedodd y byddai i'r cyf- newidiad ddyfod yn mlaen yn well, pan y byddent yn ymwneyd a'r attodleni yn Mai. Y Parch. Towyn Jones a wrthdystiodd yn wresog yn erbyn absennoldeb y Gymraeg o'n hysgolion eilraddol. Yr ysbryd cenedl- aethol oedd wedi creu yr ysgolion eilraddol; ac etto, yr oedd tuedd ynddynt i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oeddynt yn benderfynol i'r Gymraeg gael ei dysgu yn eu hysgolion eilraddol (clywch, clywch). Mrs. Humphreys Owen a dybiai fod yr hyn a wneid gan yr Ysgolion Sul gyda golwg ar ddysgu yr Ysgrythyr yn Gymraeg yn ddigon, ac y byddai yn resyn i'r plant golli y budd o ddysgu yr Hen Destament a'r Newydd yn yr iaith Saesneg yn eu hysgolion canolraddol. Y cadeirydd a ddywedodd fod y bwrdd, ar hyd yr holl amser, wedi bod yn ffafr dysgu Cymraeg yn eu hysgolion; a'u bod wedi gosod pwysigrwydd ar hyny y naill dro ar 01 y llall.
Ysgolheigion Cymreig a'r Cwasanaeth…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ysgolheigion Cymreig a'r Cwasanaeth Cwladol. Y cadeirydd, wrth sylwi ar adroddiad yr is-bwyllgor, o berthynas i'r angen am wneyd Bwrdd Canolog Cymru yn ganolbwynt gwy- bodaeth ar gyfer bywydau Cymry, mai ychydig o swyddi oedd wedi agor iddynt yn yr amser aeth heibio, a'u bod wedi gweled ieuengctyd cenedloedd eraill yn cael swyddi o bwys yn y gwasanaeth cartrefol gartref ac oddi cartref (clywch, clywch). Yr oedd yn rhaid i holl aelodau y bwrdd fod yn awyddus am weled y Cymry yn chwareu eu rhan bri- odol yn llywodraethiad y wlad hon, a'r gwledydd cyssylltiedig a hi; a dyna pa ham yr oedd y bwrdd yn gosod y fath bwysig- rwydd ar y gwasanaeth gwladol, ac i deimlo yn awyddus i wneyd y bwrdd yn gyfrwng o addysg wirioneddol (cym.). Gosododd y Proffeswr Anwyl bwys, hefyd, ar gyfaddasu yr ysgolion i gyfatteb i anghenion y rhan- barthau gwledig ac i'r amcan hwnw eu bod yn bwriadu gwahodd Mr. Brooke Hunt i'r gynnadledd, yn gymmaint a'u bod yn gwy- bod am y dyddordeb a gymmerai ef yn y mater. Mabwysiadwyd yr adroddiad. Aeth y bwrdd yn mlaen i ystyried y cyn- nygiad i ffurfio Cynghor Cenedlaethol i Gymru, fel yr oedd yn cael ei gynnyg gan Fesur Addysg 1906, yn ei berthynas a'r Bwrdd Canolog. Awgrymodd yr Henadur S. M. Jones eu bod yn gofyn i Dy yr Arglwyddi basio y rhan hwnw o'r mesur (chwerthin). Penderfynwyd, modd bynag, ohirio y cwestiwn. Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf yn Ffynnonau Llandrindod.
PONT ROBERT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PONT ROBERT. Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth Mr. David Griffiths, yn 73ain mlwydd oed, yr hyn a gymmerodd le yn nhy ei fab, yn Ngwrecsam, dydd Sul, ac a gladdwyd yn mynwent eglwys Pont Robert, dydd Mer- cher. Aed a'r corph i gapel y Wesleyaid cyn myned i'r fynwent, pryd y gwnaed coff- had cynnes am yr ymadawedig gan y Parchn. W. R. Roberts, Llanfair; E. R. Morris, Meifod; O. R. Owen (M.C.), Pont Robert; Mr. Evan Griffith, Garth Fach; a Mr. I I Edward Evans, Coedcywria bach. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod blaenllaw gyda'r Wesleyaid, a theimlir colled fawr am dano yn yr eglwys. Yr oedd wedi ei drwytho ag ysbryd y diwygiad.—Gohebydd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mewn perthynas i drenau cyflym saif Awst- ralia, Italy, ac Yspaen, ar wae od y rhestr. A chymmeryd Ewrop yn gyffredinol, cyn ¡ nydda y boblogaeth yn flynyddol ya 0141 ar gyfe- i bob 10,000 o'r trigolion. r
_.. TYNGED Y MESOR ADDYSG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TYNGED Y MESOR ADDYSG. MR. BIRRELL A MESUR YR ARGLWYDDI. MR. Augustine Birrell, A.s., Gweinidog Addysg, oedd y penaf o'r gwaboddedigion i giniaw blynyddol Cymdeithas yr Anchor, yn Neuadd Colston, Bristol, nos Fawrth. Llywyddid gan Mr. W. A. Titley, llywydd y gyrodeithas. Mr. Birrell, ar ei waith yn codi i siarad, a gafodd dderbyniad bynod o frwdfrydig, a dy- wedodd ei fod yn bwriadu cymmeryd yr oil o'r amser oedd ganddo j ystyried y Mesur Addysg (clywcb, clywcb). Pan yr oedd efe yn dyweyd y Mesur Addysg dymunai iddynt ddeall yn glir ei fod ef yn cyfbirio at Fesur Addysg y Llywodr- aetb (clywch, clywch). Y mesur fel yr oedd wedi myned o D y Cyffredin-mesur oedd yn agored i welliantan, yn ddiau; o blegid yr oedd pibpeth dynoi yn agored i welliantau ond; etto, mesur oedd wedi ei dynu allan yn ofalus ar Iinellau a osodwyd i lawr yn unol ag ammodau cyhoeddus roddwyd i'r bobl yn yr etboliad diweddaf—dyna yr unig fesur yr oedd efe yn teimlo dyddordeb vnddo. Ond mewn pertbyn- PB i'r mesur oedd ar fwrdd Ty yr Arglwyddi dywedai ei fod yn banu o deulu urddasol (chwerthin) Yr oadd wedi cael ei eoi yn Nhy yr Arglwyddi, plentyn priodas gymmysgedig ydoedd (chwerthin a chyin.) rbwDg yr Eglwys a'r Llywodraeth (chwerthin chwanegol a cbym.), Yr oedd efe yn rbwym o ddyweyd, Ecor bell ag yr oedd wedi bjd yn aHucg I'w astudio, ei fod wedi etifeddu gwendid ei lietd o bob ochr, ac heb feddu nerth y naiil ca'r llall (cym ) I Nid oedd gan y Llywodraeth Ryddfrydig/ meddai Mr. Birrell, ddim gwa-anaeth i fesur o'r xath (ym. ucbel). Tybilar fud y rrifweinidog yn Mawrth diweddaf, gyda'r mwyafrif mawr cedd ganddo wrth ei gefn, yn gofyn caniat&d i ddwyn yn mlaon fel ffrwyth cyntif jr etboliad Fesur Aidysg ceid yn cynnyg, yo gYLtaf oil, gorfodi yr awdordodau lleol i gymmeryd yr oil o'r ys- eolion gw:rfoddol drosodd, i alw yr awdurdodau Heol byny i ganiatau yn yr oil o ysgolion y wlad a gymmerwyd drosodd felly i addysg enwadol y el gael ei gyfranu am, o leiaf, banner awr y dydd b)b dy3d o'r wythnos; ac wedi hyny gosod y staff .addysgol at wasanaeth yr enwadau ar gyfer y .cyfryw addysgiaeth, ac i ddirwyn y cwbl i fyny, ac fel gwobr am y fath wasanaeth mawr- eddog, gllw ar y wlad i datu rhent am wasan- aeth yr adeiladau hyny, pa dderbyniad gawsai y cyfryw fesur ? (elywcb, clywch). 0 safbwynt Ty y Cyffredin, Rhyddfrydig ai Toraidd, yr oedd y mesur hwn o eiddo Ty yr Arglwyddi yn AMMHOSSIBLRWYDD HOLLOL (cym.). Yr oedi rnesur Ty y Cyffiedin yn un a .enwadol, oddi eithr ycbydig eithriadau a gawsent eu hystyried ya ofalus. Nid oedd mesur T yr Arglwyddi yn gwueyd dim ond cadw i fyuy enwadaeth (chwerthin mawr). Yr oedd yn ei greu, ei amddiflyn, a'i waddoli & swm mawr o arian cyhoeddus oedd i gael eu cymmeryd o hyu allan, ac am bytb, o bocedau y trethdalwyr (cywilydd). Yr oedd meeur Tt y Cyffredin yn ymddiried i awdmdodau lleol, ond yr oedd tiddo Tj yr Arglwyddi yn tynn eu cyfrifold1.s i ddim, yn mron. Yr oeddynt yn galw y mesur hwnw yn Fesur Addyag. Hwyr- ach ei fod yn Fesur Addysg. ODd,' chwanegai Mr. Birrell, nid ein mesur ni ydyw. Nid oes ynddo ddim yn debyg i'u mesur ni. Nid yn unig rsii oedd y mesur bwn yr un oedd genym ei eisieu, ond yr un cad oedd genym ei eisieu (cym). Nid cedd gan yr awdurdodau Iltol ei eisieu, nid oedd gan Ymneillduaeth ei eisieu, Jac nid oedd gin yr fcthtawon ei eisieu (cym.). Byddai i ba" b ddyweyd fod Cyfraith 1902 yn llawer gwell uag unrbyw gynrygiad o'r fath (cym.).' Yoa aeth y boneddwr gwir anrbyd- eddus yn mlaen i ymwneyd &'r manylion oedd yr aiglwyddi wedi ddwyu yu miaeo. Ar wahfin i'r rgwyddorion oedd yn gynnwyfedig yn y cyfnewiHiadau oedd wedi cael eu gwneyd yr oedd yr arglwyddi wedi pentyru ar benaeth ei swyddfa ef, ac ar ei swyddogion yn y swyddfa hono, ddyledswyddau NAS GALLAI UN DYN MEIDROL EU CYFLAWNI. Yr otddynt yn gosod ar y Swyddfa Addyeg waitb gwirioneddol 329 o awdurdodsu lleol, gyda gwybcdattb leol. Os deuai y mesur yn gyfraith ni fyddai yea un Llywydd Bwrdd Addysg bytb mwy (chwerthin). Ni fyddai i un dyn yn ei synwyr yn meddu parch i'w fywyd, neu ei urddag, |ydsynio i ddal swydd, ac i gym- meryd arno y dvledewyddau llioscg gynnyg d. Yr oedd y Llywodraeth weii gwrthod ymwneyd &'r addysg o dan y mesur o safle fydol yn unig, ac yr oedd yu dda ganddo hyny; ond yr oedd efe yn meddwl y byddai yti beth allan o'i le, ar annogaeth Arglwydd Halifax a'r ycbydig oedd yn meddwl yr un fath ag ef, i amddifadu mwy- afrif mawr pobl y whd hon, y rhai oedd yn Brotestauiaid trwyadl, o'r addysg Feiblaidd syml hwnw oedd eu p'aat wedi arfer ei dderbyn yn Ysgolion y Bwrdd yn y wlad hon (clywcb, clywcb). Y canlyniad ydoedd, foi yna lifeir- iant o gamgynnrychioliad. Yr oedd yr hyn a gynnygid yn cael el ddisgriEo fel Birreliaetb,' fel pe buasai yn grefydd newydd, tra yr oedd wedi cael ei cbario ya mlaen yn yr ysgolion am dros ddeng mlynedd ar hisgain. Yr oedd yn rhaid i'r Llywodraeth ymladd brwydr crefydd yn yr ysgolion, ac yr oedd wedi bod yn ft wydr gsled. Yr oedd efe yn gobeithio y byddai iddynt ennill (cym). 1 Os gwêl yr fArglwydd yn dda bydd i ni enni! cbwacegai Mr. Eirrell. Ond os Da wnawn nid wyf yn meddwl y bydd i'r blaid Ryddfrydig byth ymladd y frwydr hono el to' (cym.). Nid oedd gauddo eisieu defnyddio gormodiaetb, ond yr oedd yn dyweyd fod mesur Ty yr Arglwyddi yn un nad oedd a wnelo Rbyddfrydwyr ag ef. Nid oedd yn meddu ar farciau ac arwyddion mesur Rhydd- frydig. Nid oedd yn fesur cenedlaethol, ac nid oeld a wnelont hwy âg ef. Hwyracb, pan gyrhaeddid yr adroddiad, y gwel yr arglwyddi eu ffordd i ddyfod i ryw benderfyniad arall. Os gallant, pob peth yn dda. Ond os na allant (ilais Trowch hwy allan.'). Yr oedd un peth. yn baiffaich glir iddo ef; a byny ydoedd, os na wneir rbyw GYFNEWIDIAD YN EU CYFANSODDIAD ni byddai gweinyddiaeth Ryddfrydig ddim ond twyll a ffug (cym. uchel). Pa ddyben ennill bnddugoliaetbau etholiadol mawrion, a chael mwyafrifoedd mawrion, os gwelwch nas gellwch sryfLwni eich addewidion, pan y gwelwch fod y Ty arall yn Jyfetha eich gwaith (clywch, clywcb). Dadgatiodd ei obaitn y hyddai i D, yr Arglwyddi svlweddoli, pan ddeueot at yr adroddiad, eu bod wedi myned yn rhy bell-y bydd iddynt sylweddoH eu bod yn:deddfu mewn moid nas galtai y bobl ganiat bod m I mesur hwy yn unol a'r ymrwymhdiu oeddynt wedi wneyd, a pha rai oeddyot yn bwriadu • gadw (cym.).