Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

I BERTH, GER TREGARON.

IAROLYGWYR. !

DINBYCH.

YMNEILLDUAD MR. DOWNING.

ARWERTHIANT AR EIDDO.

--. STRE1-C H RFAHTH.

[No title]

MYPYRDOD WRTH FBDDWL AM Y…

PENMACHNP.|

Advertising

I jCYNGHOR DuSBAHT GWXBDIG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

jCYNGHOR DuSBAHT GWXBDIG LLA^ElWi (DJISBVCrt) DYDD Gwener cynnaliwyd cyfarfod o'r cynghor hwn, o dan lywyddiaeth Mr W. Jones. Cau Troedlwybrau yn Abergele. GalwoddMr. J. D Jones sylw at gau troed- Kvybr yn ? las Ucha, Abergele, mater oedd wedi achosi anghydwelediad poenus rhwng y Cynghor a Mr. Dugald Scott Dywedodd Mr. Jones ei fod yn deal! fod y cynghor wedi fcilu am dynu i Jawr i-wystraeth oedd wedi ei osod ar y llwybrau, a hod boneddwr o'r gymmydogaeth wedi eu gosod i fyny yn union. Dymunai gael gwybod a oedd y tyna i lawr a'r gosod i fyay yn parhau i gael ei gario yn mlaen. A trebpdd y clerc fed cyfarwyddiadau wedi cael eu rhoddi yn y cyfarfod diweddaf i sym- mud pob rhwystraeth ac iddo fyned gydn, Mr. Joseph Lloyd, cyfreithiwr, i'r He yn fuan ar ol hyny, a threfnu i b,)b rhwystraeth gael ei symmud. Gwelsant lawer o honyhtyn cael eu cario ymaith. Symnn dwyd pob rhwystraeth; ond mor bell ag yr oedd efe yn deall, yr oedd- ynt wedi cael eu hail osod. Wedi rhyw gyrnmaint o ddadleu dywedodd y clerc ei fod yn meddwl, yn absennoldeb Mr. Williams, yr aroiygwr, y byddai yn well gohir- io y m'tter hyd y cyfarfod nesaf, a chyttunwyd ar hyny. Cais o Lannefydd. Gwnxed cais gan Gynghor Plwyf Llannefydd am bint dros yr afon Asa, yn agos i fferm y Coed; a phennodwyd pwyllgor i ymwe ed ir lluierch, ac i gyQwyno ei adroddiad. Derbyniwyd cais arall oddi wrth yr un awd- urdod yn ffafr i'r Cynghor Dosbarth adgy weirio rhan o ffordd oedd yn arwain oddi with y Llythyrdy at y fynedfa. a'r eglwys. Wedi rhyw gyrnmaint o ddadleu penderfyn- wyd i'r arolygwr dynu planiau, &c o'r ddwy bont, a bod Mr. John Morris i fyned yno gydag ef, gyda'r amcm o ddewis y llanerchau y bwr- ledid codi y pontydd hyn arnynt. Penderfyn wyd adgyweirio y ffordd. Yr Aber yn Llanfair. Cyflwynodd Mr. John Roberts ei adrodd- iad o'r gwaith oedd wedi cael ei wneyd dros yr aber yn Llanfair. Penderfynwyd fod yr arolygydd yn cael allan y swm wariwyd ar y gwaith, fel y gellid gwneyd cais at y Cynghor SiroI-am ran o'r gost. Gwnaeth yr arolygydd (Mr. John Wil- liams) gais am dal o 20p. a lp. Is. am ddar- paru planiau, &c., yn Llanfair. Penderfynwyd gohirio y mater hyd y cyf- arfod nesaf. Cynenwad o Ddwfr I Llanddulas. Dywedodd y clerc ei fod wedi methu trefnu cyfarfod a Chynghor Dinesig Rhyl, gyda golwg ar y cyflenwad o ddwfr i Llan- adiilas. Yi oedd Cynghor y Rhyl yn barod i g'yfarfod yv wythnos olaf yn Ebrill, gyda golwg ar y mater. Penderfynwyd gofyn i Gynghor Rhyl eu cyfarfod hwy yn gynt na'r wythnos olaf yn Ebrill. Llanddulas yn awyddus am Ymreolaeth. Darllenwyd llythyr oddi wrth Gynghor | Plwyf Llanddulas, yn gofyn i'r Cynghor Dosbarth drosglwyddo y gwaith o edrych ar ol glanhau yr heolydd iddynt hwy, fel yr oeddynt wedi addaw. Gan nad oedd y mater wedi ei osod i lawr ar y rhaglen, bu raid ei ohirio. Cals arall o Llannefydd. Yr oedd Cynghor Plwyf Llannefydd yn awyddus am gael troed-lwybr dros yr afon Aled, y nymyl y Glyn, ar lwybr oedd yn arwain i Llanfair. Dywedodd y clerc fod y cynghor, hyd yma, wedi gwrthod adgyweirio troed-lwybr- a-.i oedd yn arwain trwy gaeau. Penderfynwyd dangos i'r Cynghor Plwyf fod ganddynt hwy awdurdod i godi pont ar gost y plwyf. Afiechydon a Chau yr Ysgolion Elfenol. Darllenwyd llythyrau oddi wrth Mr. Roger Pryce, swyddog presennoldeb yr ys- golion, ac oddi wrth Fwrdd y Llywodraeth Leol, gyda golwg ar yr afiechyd a ddywedid oedd wedi tori allan yn mysg y plant yn Nhrefnant; a rhoddai Bwrdd y Llywodraeth Leol ar ddeall fod gan y rheolwyr, mewn amgylchiadau o'r fath, hawl i gau ysgolion cyhoeddus eu hunain, yn unol ag erthygl 45 o god y Bwrdd Addysg. Penderfynwyd anfon copi o lythyr Bwrdd y Llywodraeth Leol i Mr. R. Humphreys Roberts, clerc llywiawdwyr ysgolion Rhu- tnyn.

Y SEFYLLFA YN Y CONGO

Advertising

[No title]

Advertising